Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Harriet Medal y Dysgwyr
Dysgu Cymraeg mewn pedair blynedd
Pan symudodd i Gymru yn 2001 doedd gan Harriet Petty ddim syniad fod yna'r fath beth a'r iaith Gymraeg.

Bedair blynedd yn ddiweddarach mae wedi dysgu'r Gymraeg ddigon da i ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyda chanmoliaeth uchel y beirniaid. Cael ei holi

Nid Harriet, 17 oed, yw'r unig ddysgwr yn y teulu. Mae ei chwaer 12 oed, Kate, wedi dysgu Cymraeg, mae Mam yn dysgu a'i thad, sy'n gweithio yng nghanolfan ganser Ysbyty Glan Clwyd wedi dechrau dysgu hefyd.

Yn byw yng Nghaerwys ger Treffynnon ac yn mynychu Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug dywedodd Harriet mai ei hunig ymwybyddiaeth o Gymreictod cyn symud yma oedd enwau timau rygbi fel Llanelli.

"Oherwydd bod Dad yn hoff iawn o rygbi ac yn ei ddilyn ar y teledu roeddem yn clywed enwau fel Llanelli," meddai.

Cyfarfod Cymry diddorol Dywedodd iddi benderfynu dysgu Cymraeg er mwyn gwneud ffrindiau ac oherwydd y byddai hynny yn rhoi gwell cyfle iddi gael swydd yng Nghymru.

Y pethau sy'n peri'r mwyaf o drafferth iddi gyda'r Gymraeg yw treigladau ac amser gorffennol y ferf. "Ond rwy'n hoffi dysgu am farddoniaeth a'r diwylliant," meddai.

Gan ddweud mai dim ond pedwar oedd wedi cystadlu am y fedal apeliodd Nia Parry, wrth draddodi'r feirniadaeth, am i athrawon iaith gymell dysgwyr i gystadlu.

Ychwanegodd ei bod hi a'r beirniad arall, Nerys Roberts, yn siomedig gyda safon y gwaith Wynebu'r camerauysgrifenedig yn y gystadleuaeth ond wedi cael pleser arbennig yn siarad â phob un o'r cystadleuwyr.

Wrth sôn am waith Harriet dywedodd fod ei harddull hi "yn rhwydd ac yn hyderus".

"Profiad cwbl wefreiddiol oedd sgwrsio ag Enfys [ei ffugenw] - nid oedd pall ar ei lleferydd," meddai.

Gan gyfeirio at y cystadleuwyr i gyd dywedodd fod gan Gymry Cymraeg bob rheswm dros fawrygu eu hymdrechion sy'n dangos parch at dreftadaeth a diwylliant ieithyddol Cymru.




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý