Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Llinos Coron Urdd 05
Beirniaid yn coroni arbrofi


Ar ôl iddi ennill yr ail, trydedd, pedwaredd, pumed a'r chweched gwobr yn ei heisteddfod ysgol yr aeth enillydd Coron yr Urdd eleni i gyfansoddi un o'i hymgeision ar gyfer y gystadleuaeth.

LlinosDywedodd Llinos Dafydd iddi fod mor siomedig na chafodd gyntaf fel y cyfansoddodd ddarn dychanol am lwgrwobrwyo beirniad!

Yng nghystadleuaeth yr Urdd gofynnwyd am dri darn o ryddiaith ac medda Emyr Davies, wrth draddodi'r feirniadaeth:
"Gwawdio'r byd llenydda a chystadlu mae'r ail ddarn mewn ffordd ddeifiol."

Disgrifiwyd Llinos ganddo ef a'i gyd feirniad, Gwyneth Glyn, fel "awdur mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth" gyda thri darn cwbl wahanol i'w gilydd.

Cipio'r goron Ac yr oedd y ddau yn darogan dyfodol llewyrchus i'r sgwenwraig ugain oed a aeth yn syth o'r ysgol at Golwg yn newyddiadurwraig dan hyfforddiant.

"Diddorol oedd edrych ar gyfansoddiadau ugain mlynedd yn ôl ym 1985 a gweld mai Bethan Evans, neu Bethan Gwanas, oedd yr enillydd bryd hynny. Gobeithio y caiff awdur buddugol 2005 gyfle i fynd ymlaen i'n difyrru a'n herio yn yr un modd," meddai Emyr Davies.

Wynebu'r camerauDywedodd Llinos ei hun mai awdur yn chwilio am ei llais yw hi ar hyn o bryd ac yn hoff iawn o arbrofi gyda gwahanol ffurfiau.

"Rwy'n lico arbrofi - mae bob stori rydw i wedi wneud, mae nhw mor arbrofol a gwahanol i'w gilydd. Allai ddim dweud fod un arddull gen i - rwy'n trio ffindo fy llais," meddai.



Yn wir, gyda'i darn cyntaf ar gyfer y gystadleuaeth hon lluniodd ymson putain gan arbrofi gyda defnyddio'r gynghanedd o fewn rhyddiaith.Llinos

Dywedodd iddi ddewis putain yn wrthrych er mwyn er mwyn cael ymson gwahanol i'r arferol trwy orfod dychmygu beth fyddai meddyliau merch o'r fath.

"Dychymyg yw llenydda yn y bôn ac os nad oes gennych chi ddychymyg does dim gobaith 'da chi," meddai.

Deunaw ymgeisiodd am y Goron ac yn ôl Emyr Davies "y pynciau dwysaf" sydd yn tanio dychymyg hyd yn oed llenorion ifainc Cymru.

Llinos"Marwolaeth, salwch, cam-drin, gorffwylledd ac yn y blaen," meddai.

"Er hynny, roedd rhai awduron, y goreuon ar y cyfan, wedi dangos eu bod yn gallu ysgrifennu'n ddigri ac yn ddychanol," ychwanegodd.




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý