Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Urdd 2005

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

»

Urdd 2005

O'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Cysylltiadau Eraill

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Ymuno â'r Scarlets
Mae'r Urdd wedi ymuno ag un o glybiau rygbi enwocaf Cymru - Scarlets Llanelli - i benodi swyddog datblygu chwaraeon.


Bydd y Swyddog yn cynnal gweithgareddau rygbi a chwaraeon eraill trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.

Ond fel y dywedodd Joanna Marshal o glwb y Scarlets mae gan y tîm gysylltiadau a gogledd Cymru hefyd gan chwarae rhai gemau yn Wrecsam.

Wrth gyhoeddi gwybodaeth am y cynllun dyweddodd Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr yr Urdd, ma'i nod yw codi safonau rygbi yn yr ardal a chynnig cyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc ddefnyddio eu Cymraeg.

Joanna Marshal ac Efa Gruffudd Jones "Mae'r Urdd a'r Scarlets wedi cydweithio yn y gorffennol. Ar gaeau'r Strade yn Llanelli y cynhelir Gŵyl Rygbi flynyddol yr Urdd," meddai Efa Gruffudd Jones.

Ac meddai Joanna Marshal: "Mae llawer o'n chwaraewyr ni wedi bod yn aelodau o'r Urdd ac mae nifer o'n chwaraewyr yn medru Cymraeg hefyd."

Mae'r Urdd eisoes wedi bod yn cymryd camau breision ar y meysydd rygbi gyda 140 o dimau yn cymryd rhan yng ngŵyl rygbi'r mudiad eleni a chyda mwy o gystadleuwyr nag erioed o Ogledd Cymru.

"Oherwydd llwyddiant yr Ŵyl Rygbi, cafodd yr Urdd wahoddiad eto i fynd â thîm i gystadleuaeth seithiau Dubai am yr ail flwyddyn, ac mae wrthi'n dewis sgwad genedlaethol i gynrychioli Cymru yno," meddai Efa Gruffudd Jones.

Mae'r Urdd hefyd wedi ennill gwobr ranbarthol gan Sportsmatch Cyngor Chwaraeon Cymru am y cynllun datblygu chwaraeon gorau yn y gymuned, mewn partneriaeth â'r Principality.

"Un arall o gynlluniau cyffrous yr Urdd dros yr haf fydd yr Wythnos Hyfforddi Chwaraeon yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Bydd hyfforddwyr a chwaraewyr y Scarlets a sêr eraill yno i gynorthwyo plant 9-12 oed i wella eu sgiliau mewn sawl camp.

"Bydd deugain o bobl ifanc 16-19 hefyd yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddod yn hyfforddwyr chwaraeon ac yn cynorthwyo gyda threfniadau'r wythnos," ychwanegodd Efa Gruffudd Jones.

Ac meddai Gary Lewis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Cenedlaethol Urdd Gobaith Cymru:
"Does dim yn well na gweld plant a phobl ifanc yn gwella eu hiechyd, eu sgiliau chwaraeon a'u Cymraeg ar yr un pryd a thrwy ein cynlluniau newydd, ry'n ni'n gobeithio y bydd modd i fwy a mwy o blant a phobl ifanc fanteisio ar y profiadau."




About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý