Glyn Griffiths
Blogiwr Ar y Marc
Nifer y negeseuon 316
Negeseuon
-
Blog Ar y Marc - Pat Moran
Faint ohonoch a welodd ffeinal y rygbi bnawn Sul rhwng timau o dan ugain oed Cymru a Lloegr? Cyn ichi feddwl fy mod wedi dod yn rhyw feirniad ar bethau’r byd rygbi, meddyliwch eto.
-
Cyhoeddi Gemau’r Tymor Nesa
Ydych chi wedi rhuthro allan i brynu tocyn tymor i weld Caerdydd neu Abertawe'r tymor nesaf? Rhaid peidio ag anghofio dychweliad Casnewydd i wlad yr addewid chwaith, nac ymdrechion Wrecsam unwaith eto i ymuno a’r daith, mae’r tîm o Went wedi llwyddo i'w wneud.
-
Gwrthod Dyrchafiad
Ymddengys bod rhaid aros i ddarganfod pa dimau a fydd yn codi ac eraill ddisgyn o fewn trefn cynghreiriau Cymru.
-
Cofio Ronald Tudor Davies
Yr wythnos diwethaf bu farw Ronald Tudor Davies. Roedd Ron Davies yn un o’r blaenwyr gorau a chwaraeodd dros Gymru. Ynghyd a’i gyfoedion Wyn Davies a John Toshack, doedd yna neb gwell i arwain y linell flaen, a phan oedd y tri gyda’i gilydd yn y crysau coch, doedd dim rhwystro arnynt.
-
Llongyfarchiadau i’r Bala
Yn dilyn ffeinal y gemau ail gyfle'r Sadwrn diwethaf bydd y tîm o Fro Penllyn yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.
-
Yr Albanwyr ar y blaen!
Yr Albanwyr ar y blaen ! Os gennych awydd i fod yn rheolwr tîm peldroed? Os felly, hwyrach y byddai yn dda petaech yn gallu siarad ag acen Albanaidd.
-
Diwedd Tymor yng Nghymru
Ydych chi wedi ceisio teithio i Wembley efo trên ar ddydd Sul? Anghofiwch y peth. Fe fyddai gan alltudion y Cymry ar wasgar well siawns o gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn amser, nag oedd hi imi ac eraill geisio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i ganolfan barhaol eisteddfod beldroed Lloegr!
-
Dau dim o Gymru yn Wembley
Wel! Dyna bnawn Sul oedd hi, a dyna bnawn Sul y bydd hi! Wrecsam a Chasnewydd yn llwyddo i gyrraedd Wembley i wynebu ei gilydd yn ffeinal y gemau ail gyfle, er mwyn sicrhau dyrchafiad i Adran Dau'r tymor nesaf, a dau dîm o Gymru yn wynebu ei gilydd yn Wembley.
-
Sioe gerdd yw'r byd pel-droed!
Mi es i weld sioe gerdd fy wyres yr wythnos yma. Cyfle i ddianc o fyd peldroed medda' nhw! Anghywir. O fewn pum munud, cafwyd can agoriadol y sioe - ‘I am Cannibal ! - ie, rhywbeth i gnoi cil oedd hwn i fod, ond allwn i ddim meddwl am rywbeth mwy danteithiol i dynnu fy sylw!
-
Mae’r Gaer yn gryf !
Wythnos dda os ydych tîm peldroed chi’n dechrau efo’r enw Caer - wel i Gaerdydd a Chaernarfon yn bendant.
-
Hel atgofion mewn Amgueddfa Beldroed ym Manceinion
Yr wythnos diwethaf fe aeth Glyn Griffiths draw i’r Amgueddfa Genedlaethol Beldroed ym Manceinion.
-
Y Seintiau Newydd - Pencampwyr Uwchgynghrair Cymru 2012/13
Llongyfarchiadau i’r Seintiau Newydd - pencampwyr Uwchgynghrair Cymru unwaith eto, a dod yn gyfartal a champ y Barri o ennill y goron saith gwaith.
-
Llongyfarchiadau i Wrecsam
Llongyfarchiadau i Wrecsam ar eu buddugoliaeth yn Wembley – trechu Grimsby i gipio Tlws FA Lloegr.
-
Wrecsam yn Wembley
Dwi wedi bod yn Wembley nifer o weithiau yn y blynyddoedd diweddar. Rownd gyn-derfynol Cwpan Lloegr rhwng Everton a Lerpwl y llynedd, ac yr un achlysur dwy flynedd ynghynt - Everton a Manchester United...
-
Cytundeb newydd Giggs
Dros ugain mlynedd yn ôl pan oeddwn yn hyfforddi tîm ysgolion Cymru o dan 18 oed., cefais wybod am chwaraewr addawol a oedd yn chwarae i dîm ieuenctid Manchester United. Robbie Savage, a oedd yn aelod o'r tîm ysgolion yma, ac a oedd hefyd gyda Manchester United yr adeg honno ddywedodd y stori. Y bachgen addawol oedd Ryan Giggs - "Does neb wedi clywed amdano ar hyn o bryd ac Alex Ferguson yn cadw'n ddistaw" oedd y neges gan Robbie. Wel erbyn heddiw, mae'r dyn ifanc yma wedi gwireddu proffwyd Robbie Savage ac yr wythnos yma, bydd Ryan Giggs yn cyrraedd carreg filltir go arbennig, pan fydd yn chwarae ei filfed gem beldroed proffesiynol. Gwnaethpwyd hyn yn bennaf wrth chwarae dros Manchester United, ond hefyd mae chwarae 64 o weithiau i dîm cenedlaethol Cymru a 4 i dîm GB yn y gemau Olympaidd y llynedd yn cael eu cyfrif. Gem broffesiynol cyntaf y Cymro oedd ar Fawrth 2, 1991 i United yn erbyn Everton ac ers hynny mae wedi chwarae 612 yn yr Uwchgynghrair gan gynnwys (100 fel eilydd), 40 yn yr hen Adran Gyntaf, 73 o gemau yng nghwpan Lloegr, 149 yng nghystadlaethau Ewropeaidd, a 18 o gemau eraill megis Tarian Gymunedol y F.A. Mae wedi sgorio 163 o goliau iddyn nhw hefyd. Pan sgoriodd i United yn erbyn Everton ar Chwefror 10fed, llwyddodd i sicrhau ei fod wedi sgorio ym mhob un o'r tymhorau ers sefydlu'r Uwchgynghrair - 21 tymor, yn ogystal â'r ddau dymor blaenorol yn yr hen Adran Un. Sut mae hyn yn cymharu â gyrfa rhai eraill sydd wedi chwarae am gyfnod hir? Mae'r golwyr Peter Shilton, Pat Jennings, David Seaman, a Ray Clemence wedi chwarae dros fil o gemau. Chwaraeodd yr amddiffynnwr Eidaleg, Paolo Maldini, hefyd am gyfnod tebyg i A.C.Milan, ac mae Pele (sydd hefyd wedi sgorio dros 1000 o goliau), a gwr arall o Frasil - Roberto Carlos (gynt o Real Madrid) - hefyd wedi chware dros fil o gemau. Llwyddodd Teddy Sheringham i chwarae hyd at 42 oed, ond Alessandro Costacurta ydi'r chwaraewr hynaf a fu yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop pan oedd yn 40 mlynedd a 40 dydd oed. Chwaraeodd Sir Stanley Matthews am 33 o flynyddoedd cyn rhoi'r ffidil yn y to pan yn 50, a daeth gyrfa un arall o Frasil, Romario, i ben pan oedd yn 43. Yr wythnos ddiwethaf fe arwyddodd Giggs gytundeb newydd gyda Manchester United am flwyddyn arall , a bydd hyn yn sicrhau ei fod ar gael I chwarae iddynt ac yntau dros ei 40 oed. Bydd dim syndod os na fydd Ryan Giggs yn gosod meini llwyddiant newydd yn y dyfodol agos.