Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Hydref 2008

O bedwar ban

Vaughan Roderick | 11:24, Dydd Mercher, 29 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Mae'n hanner tymor yn y cynulliad. Dyma ychydig o bethau i'ch difyrru. Yn gyntaf fe wnes i anghofio dweud Ddydd Gwener fod 'na bodediad newydd ar gael. Eleanor Burnham yw'r gwestai. Gwasgwch y botwm ar y dde.

O son am y Democratiaid Rhyddfrydol mae'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth Gymreig wedi sefydlu gwefannau. Mae'n well cadw draw o fersiwn Gymraeg gwefan sy'n cynnwys brawddegau fel yr un yma;

Credaf mai gwlad ryddfrydol yw Cymru yn y bôn, yn llawn pobl â chalon lân, ond yr ydym hefyd yn wladle mae gwleidyddiaeth yn ei gadael hi i lawr.

O diar. O leiaf mae safle Jenny wedi ei gynllunio'n effeithiol. Mae fersiwn Gymraeg safle yn gyfan gwbl ddryslyd. Mae gwasgu'r rhai o'r dolenni ar y safle Cymraeg yn eich arwain yn syth at y safle Saesneg. Fe fyddai disgybl pumed dosbarth wedi gwneud jobyn gwell.

Mae 'na ddadl ddifyr ar y chwith ynghylch cenedlaetholdeb a Phrydeindod. Darllenwch mwy ar , a .

Efallai oherwydd nad ydy Prydain yn caniatáu hysbysebion gwleidyddol ar y teledu mae 'na rywbeth hudolus bron ynghylch gwylio'r rhai'r Unol Daleithiau. Mae Politico wedi casglu .Mae blogwyr y chwith yn awgrymu mai yw hysbyseb fwyaf effeithiol y Democratiaid eleni. Fe geisiodd y Gweriniaethwyr yn ôl!


Pobol y Cwm

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Gwener, 24 Hydref 2008

Sylwadau (4)

Roedd 'na isetholiad cyngor bach diddorol ym Merthyr ddoe yn sgil ymddiswyddiad Democrat Rhyddfrydol yn ward y dre. Dyma'r canlyniad;

Dai Chick - Llafur - 580
Nigel Hulbert - Dem. Rhydd. - 461
Andrew Barry - Annibynol - 277
Idwal Davies - Annibynol - 125
Vivienne Davies - Annibynol - 110
Vivian David Pugh - Plaid Cymru - 72

Yn ôl ym Mis Mai enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol y pedair sedd yn y ward gyda'u hymgeisydd blaen yn ennill mil o bleidleisiau'n fwy nac ymgeisydd blaen y Blaid Lafur.

Beth sydd wedi mynd o le felly? Wel, mae'n ymddangos bod y bleidlais wrth-Lafur wedi ei hollti i ryw raddau ac roedd y nifer wnaeth bleidleisio wedi haneru ers Mis Mai. Serch hynny fe fydd y canlyniad yn siom i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae adeiladu rhyw fath o bresenoldeb yn y cymoedd wedi bod yn nod strategol i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Rhyddfrydwyr o'u blaenau ers degawdau. Eto, er lansio sawl ymgais, dyw'r blaid fawr gryfach heddiw nac oedd hi yn ôl yn nyddiau Jenny Gibbs, Mary Murphy ac Angus Donaldson. Mae gan y blaid bresenoldeb ym Mhontypridd ond gan fod y dref honno yn prysur droi'n rhan o swbwrbia Caerdydd go brin fod hynny'n cyfri.

Hyd y gwelai i does 'na ddim rheswm gwleidyddol nac economaidd amlwg pam na fedr y Democratiaid Rhyddfrydol lwyddo yn y cymoedd yn yr un modd ac maen nhw wedi llwyddo mewn ardaloedd cyn-lofaol yng ngogledd Lloegr. Mae adeiladu sylfaen gwleidyddol mewn ardaloedd fel Caerffili neu'r Rhondda lle mae Plaid Cymru eisoes yn gweithredu fel gwrthblaid leol i Lafur yn anodd ond mae 'na hen ddigon o lefydd yn y cymoedd lle nad yw hynny'n wir- ac mae Merthyr yn un ohonyn nhw.

Beth sydd wrth wraidd y broblem, felly? Yr ateb dim ond un esboniad posib sy 'na. Gan osod Ceredigion i'r neilltu (ac fe allai patrymau mudo esbonio'r eithriad hwnnw) mae'n ymddangos bod 'na rhyw fath o gysylltiad rhwng lefelau cefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod. Hynny yw, am ryw reswm, mae'r Blaid yn ei chael hi'n anodd llwyddo mewn ardaloedd lle mae'r diwylliant Cymraeg neu Eingl-Gymreig yn gryf.

Dyna ni yn ôl felly ar dir cyfarwydd y "three wales model" y ddamcaniaeth honno sy'n rhannu'r wlad yn dri rhanbarth gwleidyddol- y Gymru Gymraeg, Cymru Gymreig a Chymru Brydeinig. Dyw'r ddamcaniaeth honno ddim mor ffasiynol a buodd hi ond mae'n ymddangos bod 'na na sylwedd iddi yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol. Am ryw rheswm mae'r blaid yn ei chael hi'n anodd ar y naw i lwyddo y tu hwnt i ffiniau'r Gymru Brydeinig.

Mae hynny'n codi cwestiwn syml arall sef "pam?". Does gen i ddim syniad. Mae hon yn blaid sydd a'i gwreiddiau'n ddwfn yn hanes Cymru, hi wnaeth arloesi'r syniad o ddatganoli a does 'na ddim byd yn ei chylch hi sydd mewn unrhyw ffordd yn wrth Gymraeg nac yn wrth Gymreig. Dw i'n gobeithio nad ydw i'n swnio'n gwbwl hurt yn fan hyn ond ydy hi'n bosib bod y broblem yn rhywbeth mor syml ac acenion ei harweinwyr a'i hymgeiswyr?

Brwm Brwm

Vaughan Roderick | 15:12, Dydd Iau, 23 Hydref 2008

Sylwadau (3)

Heddiw mae'r dirprwy brif weinidog wedi bod ym Mlaenau Ffestiniog yn agor y gwelliannau diweddaraf i'r A470- rhyw ddwy filltir o ffordd wedi ei gwella ar gost o £16.5.

Oedwch am eiliad ac ystyriwch y ffigwr yna. £16.5 miliwn. Mae'n dipyn o swm. A beth mae'r holl arian yna wedi prynu? Traffordd chwe lôn? Twnnel? Arwyddion o aur pur? Na. Y cyfan gewch chi am £16.5 miliwn yw dwy filltir a hanner o ffordd sydd ychydig yn fwy llydan ac ychydig yn fwy syth nac oedd hi o'r blaen.

Nid grwgnach ydw i yn fan hyn. Mae'r gwelliannau i'r heol dros Fwlch Goginan ac ar lannau Nant Conwy yn gwbwl allweddol er mwyn dod a ffyniant a llewyrch cwbwl haeddiannol i Flaenau a'r ardaloedd cyfagos. Mae'n fonws eu bod hefyd yn torri ychydig funudau oddi ar y daith rhwng De a Gogledd.

Y pwynt sy gen i yw bod gwella ffyrdd yn fusnes cythreulig o ddrud. Roedd amgylchiadau arbennig yn golygu bod hynny'n arbennig o wir yn achos y gwelliannau rhwng Cancoed a Blaenau gyda delio a thomenni gwastraff y chwareli, yr archaeoleg ddiwydiannol ac anghenion cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri i gyd yn ychwanegu at y gost.

Mae angen cofio'r cyd-destun hwnnw wrth ystyried un o addewidion allweddol Cytundeb Cymru'n Un sef hwn;

Rydym wedi ymrwymo'n llawn i greu cysylltiadau trafnidiaeth gwell - yn ffyrdd ac yn rheilffyrdd - rhwng y De, y Gogledd a'r Gorllewin.

Mae rhan o'r addewid hwnnw yn gymharol hawdd ei gwireddu. Mae'n ddigon posib gwella'r gwasanaeth rheilffyrdd o fewn tymor y llywodraeth bresennol ac fe fydd rhai o'r gwelliannau hynny i'w gweld yn ystod y misoedd nesaf. Ond o gofio'r gost a'r cyfnodau maith y mae gwella ffyrdd yn cymryd fe fydd gwireddu unrhyw welliannau go iawn i'r heolydd cyn yr etholiad nesaf yn llawer anoddach.

Mae hynny'n arbennig o wir yn achos yr A470 gan ei bod hi, yn gwbwl llythrenol, yn un o lwybrau'r dychymyg. Dydw i ddim yn golygu hynny mewn unrhyw ffordd ramantus na barddonllyd. Y gwir amdani yw bod yr A470 ond yn bodoli mewn gwirionedd yn nychymyg ein gwleidyddion. Ers degawdau mae'n haelodau etholedig wedi breuddwydio am ffordd fodern a chyflym rhwng De a Gogledd- yr hyn maen nhw wedi cael gan eu gweision sifil yw llinell ar fap.

Yn ôl yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig wrth i wleidyddion daranu am bwysigrwydd cysylltu'r De a'r Gogledd roedd swyddogion yr adran ffyrdd yn benderfynol o amddiffyn cynlluniau oedd, yn eu tyb nhw, yn llawer pwysicach. Nid beirniadaeth yw hynny. Yn nhermau traffig, yr economi a diogelwch y swyddogion oedd yn gywir. Roedd gwasanaethu buddiannau hir dymor y mwyafrif o fodurwr yn bwysicach iddyn nhw na bodloni mympwyon gwleidyddol.

Sut felly oedd tawelu'r gweinidog? Wel trwy gymryd papur a phensil a thynnu llinell ar hyd cyfres o ffyrdd oedd yn bodoli eisoes o waelod Bute Street ar hyd yr A470 i Aberhonddu ac yna ar hyd yr A40, A4073, A44, A492, A498, A4108 a'r A496 nes cyrraedd Glanconwy. "Dyma chi, Mr Gweinidog- yr A470. Ffordd gwbwl newydd yn cysylltu'r De a Gogledd."

Roedd Wyn Roberts yn deall y broblem yn iawn. Doedd dim modd yn y byd argyhoeddi'r swyddogion o bwysigrwydd yr heol. Fe fyddai ceisio gwneud hynny ond yn arwain at ragor o esgusodion a thriciau. Ond roedd Wyn yn dipyn o hen lwynog. Yn ystod ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig fe gafwyd gwelliannau sylweddol i'r A470 ond fe'u cyflwynwyd nid fel rhan o ryw gynllun aruchel ond fel atebion penodol i broblemau traffig lleol. Dyna oedd ffyrdd osgoi Aberhonddu a Dolgellau, er enghraifft. O ran hynny, dyna yw'r gwelliant rhwng Cancoed a Blaenau hefyd.

Mae Wyn yn haeddu pob clod am ei ymdrechion ond canlyniad ei dacteg oedd bod y mwyafrif llethol o'r gwelliannau wedi eu cyflawni ar y rhannau prysuraf o'r heol- naill ai rhwng Caerdydd ac Aberhonddu neu rhwng Trawsfynydd a Glanconwy. Am y rhan fwyaf o'r daith trwy'r canolbarth mae "asgwrn cefn y genedl" yn fawr gwell nac oedd hi pan dynnwyd y llinell ar fap deugain mlynedd yn ôl.

Mae Ieuan Wyn Jones yn fwy uchelgeisiol. Am y tro cyntaf mae'r swyddogion wedi eu gorchymyn i lunio cynllun strategol manwl ar gyfer yr A470 a'r ffyrdd cysylltiedig gyda'r pwyslais ar dorri amseroedd teithio. Mae paratoi'r cynllun hwnnw wedi cymryd dros flwyddyn ond mae'n debyg o ymddangos cyn bo hir. Mae'n debyg mai dim ond ambell i broblem amgylcheddol yng Nganllwyd sydd ar ôl i'w datrys.

Dyw cyhoeddi strategaeth, ynddi hi ei hun, yn golygu dim, wrth gwrs. Ond fe fydd hi'n brawf, dw i'n meddwl, bod y gwleidyddion, o'r diwedd wedi trechu'r gweision sifil o'r ac y gallai'r A470 yn y dyfodol bod yn fwy na "rhyw linell bell nad yw'n bod".

Bletchley Park

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mawrth, 21 Hydref 2008

Sylwadau (2)

Oce, dyw'r ras i arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ddim cweit mor afaelgar ac etholiad arlywyddol America. Serch hynny mae'r blaid yn wynebu dewisiadau pwysig, dewisiadau efallai sy'n cael eu celu gan y ffordd gwrtais y mae'r blaid yn cynnal ei hetholiadau mewnol.

Yn ffodus mae gen i sbeis ym mhob man... a pheiriant enigma sy'n gallu torri hyd yn oed y cod mwyaf cymhleth! Mae un asiant cudd wedi peryglu ei fywyd er mwyn sicrhâi fy mod yn derbyn copi o erthygl gan Kirsty Williams fydd yn ymddangos yn y "Liberal Democrat News" ddydd Gwener. Ar yr olwg gyntaf mae'n ymddangos yn ddigon diniwed ond ar ôl cyfieithu'r cod mae'n amlwg bod pethau mawr yn cael eu dweud!

Politics isn't about backroom deals and the same old meetings with the same old people. That's not change. That's not how we're going to make Government, the Assembly and the party more relevant to ordinary people.

Cyfieithiad; Dw i wedi cael llond bol ar bobol yn fy meio i am ddryllio'r "enfys". Dêl wedi ei llunio gan yr arweinyddiaeth, heb unrhyw fath o ymgynghori a'r blaid neu hyd yn oed ei haelodau cynulliad, oedd yr "enfys". Roedd Mike German wedi addo bod gan aelodau'r blaid "glo driphlyg" dros unrhyw benderfyniad. Beth oedd yn bod ar ddefnyddio'r clo hwnnw- clo yr oedd Mike yn brolio amdano'n gyson?

I want to grasp the opportunity of a new generation of Lib Dem leaders across Britain.

Cyfieithiad; Byswn i byth bythoedd yn disgrifio Jenny fel "Mike German mewn sgert" ond...

I make no apologies for saying that the future for the party is winning constituency seats in the Assembly and at Westminster... we mustn't be timid and attempt to only win seats through narrow margins of complicated maths.

Cyfieithiad; Mae 'na ormod o bobol yn ein plaid sy'n chwilio am driciau anarocaidd i ennill seddi rhestr yn y cynulliad. Mae'r system etholiadol yn golygu bod nifer o seddi rhestr yn cael eu didoli ar hap a damwain. Canolbwyntiwch ar ennill seddi etholaethol ac fe ddaw'r seddi rhestr yn eu sgil.

A sut mae gwneud hynny?

We can do this by communicating with them in a language they understand and can relate to; by listening to their views and reflecting their concerns in the issues we as a party are focusing on. We can do this with politics, policies and personalities that are relevant to them. We can do this by offering real solutions to their concerns and problems.

Cyfieithiad; Mae aelodau'n plaid ni yn feistri ar dechnegau ymgyrchu lleol ond mae angen mwy na hynny. Mae angen neges eglur a pholisïau hawdd eu deall. Does dim byd yn bod ar ddefnyddio technegau etholiadol i gynyddu'r bleidlais ond dyw techneg ynddi hi ei hun ddim yn ddigon mae angen sylfaen a sylwedd hefyd.

Llond Bol

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Mawrth, 21 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Ymhen ychydig wythnosau fe fydd llwyth o bethau afiach yn diflannu o beirannau bwyd a diod yn ein hysbytai. Digon teg. Wedi'r cyfan os ydych chi'n dioddef clefyd difrifol neu mewn poen fe fyddai bag o greision neu far o siocled yn sicr o wneud i chi deimlo'n llawer gwaith. Llongyfarchiadau i'r Gweinidog iechyd.

Braf yw gweld hefyd nad yw dannedd y plant sy'n mynychu clybiau brecwast ein hysgolion mewn peryg o bydru. Mae'r gwaharddiad ar roi siwgr ar eich Weetabix yn synhwyrol ond dwi'n poeni'n arw bod y plantos yn cael rhoi llond llwyed o fêl ar eu huwd. Mae angen bod yn llymach yn fan hyn. Serch hynny pob clod i'r Gweinidog Addysg.

Ces i ginio da yn ffreutur y cynulliad heddiw. Golwyth, chips a grefi gyda phwdin reis a saws jam i ddilyn. Rhag ofn fy mod yn llwgu ganol pnawn prynais i greision, tin o bob a Kit Kat hefyd. Diolch byth nad yw rheolau'r Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Addysg yn effeithio arnom ni... nac arnyn nhw. Wrth gwrs, yn wahanol i gleifion a phlant ysgol mae deiliaid TÅ· Hywel yn ddigon cyfrifol i wybod sut mae bwyta'n iach.

Tra môr

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Gwener, 17 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Dw i wedi sgwennu o'r blaen am y rôl ryfedd y mae'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol o Gymru yn chwarae yng ngwleidyddiaeth waedlyd Somalia. Yn y bôn mae gwleidyddion Cymreig yn gweithredu fel rhyw fath o ddolen gyswllt answyddogol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth de-facto Somaliland y cyn-drefedigaeth Brydeinig wnaeth gyhoeddi ei hannibyniaeth o weddill Somalia yn 1991. Does 'na'r un wlad yn y byd yn cydnabod yr annibyniaeth honno'n swyddogol ond mae 'na gydnabyddiaeth bod yr awdurdodau yn Hargeisia wedi llwyddo i sicrhâi nad yw eu tiriogaeth yn dioddef yr un anarchiaeth waedlyd a gweddill y wlad. Dyna'r rheswm y mae'r Swyddfa Dramor wedi rhoi rhwydd hynt i'r Cynulliad ddatblygu cysylltiadau agos a gwleidyddion Somaliland.

Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad felly bod yr Ysgrifennydd Tramor David Milliband yn cwrdd â "chynrychiolwyr o'r gymuned Somali" yn ystod ei ymweliad a Chaerdydd heddiw. Mae'r rhain yn bobol sy'n agos iawn at awdurdodau Somaliland a heb os anghenion y dalaith honno fydd yn cael eu lleisio yn y cyfarfod.

Mae hanes y gymuned Somali yng Nghaerdydd yn ddiddorol. Mae'n un o'r cymunedau lleiafrifol hynaf yn y ddinas ond hi hefyd, o bell ffordd, yw'r mwyaf difreintiedig. Mae tlodi, wrth gwrs, yn gymharol ac mae rhoddion o Gaerdydd yn cynrychioli cyfran sylweddol o incwm Somaliland.

Trwy gyd-ddigwyddiad nid hwn yw'r tro cyntaf i un o gymunedau Mwslimaidd Caerdydd chwarae rhan bwysig mewn brwydr wleidyddol yn un o wledydd y Môr Coch. Yn 1948 fe ddechreuodd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi, arweinydd Mosg Peel Street, gyhoeddi Al-salam, y papur newydd Arabeg gyntaf ym Mhrydain. Roedd Sheikh Abdullah hefyd un o arweinwyr Mudiad Rhyddid Yemen, grŵp oedd yn brwydro dros sefydlu llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad honno. Ar ôl cael ei arestio, ac yna ei ryddhâi, gan yr awdurdodau Prydeinig yn Aden fe fu farw mewn amgylchiadau sy'n ddirgelwch hyd heddiw.

Fel mae'n digwydd Yemen yw'r peth agosaf sy 'na at wlad ddemocrataidd ar benrhyn Arabia er ei bod wedi cymryd degawdau lawer i gyrraedd y sefyllfa honno. A fydd breuddwydion Somaliaid Caerdydd yn cael eu gwireddu? Fe gawn weld.

Au Revoir

Vaughan Roderick | 14:44, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Dyma gyfrinach fach i chi. Mae Eluned Morgan yn byw rownd y gornel i fi. Mae ei phlant yn mynd i'r ysgol a rhai Betsan. Eto, doedd y naill na'r llall ohonom wedi cael achlust bod Eluned wedi penderfynu rhoi'r gorau i fod yn aelod o senedd Ewrop. Mae hi'n un am gadw ei chyfrinachau!

Yr hyn sy'n rhyfeddu rhywun, o gofio ei hoedran, yw sylweddoli bod Eluned wedi bod yn ASE ers 1994 ac mae'r profiad hwnnw wedi sicrhâi ei bod hi erbyn hyn yn cael eistedd ar rai o bwyllgorau pwysicaf a mwyaf diddorol y Senedd. Mae hi wedi dweud wrtha'i droeon cymaint y mae'n mwynhau'r gwaith hwnnw.

Pam felly, ar ôl dewis ceisio'r enwebiad yn gynharach eleni, mae Eluned wedi penderfynu rhoi'r twls ar y bar?

Am unwaith dw i'n fodlon credu mai rhesymau teuluol sy'n gyfrifol- ond dyw hynny ddim yn golygu bod ei gyrfa wleidyddol ar ben. Mae hi wedi byw gydol ei hoes yng Ngorllewin Caerdydd lle fydd angen ymgeisydd Llafur newydd yn 2011 yn sgil ymddeoliad Rhodri Morgan. Mae sedd cynulliad Pontypridd yn opsiwn arall. Fe gawn weld.

Un peth sy'n annhebyg o ddigwydd yw senario y gwnes i flogio amdani yn y Gwanwyn. Ar y pryd fe wnes i wyntyllu'r syniad y gallai Rhodri ymddeol o'r cynulliad ac achosi isetholiad er mwyn alluogi i Eluned gymryd ei le fel yr arweinydd Llafur ym Mae Caerdydd. Doeddwn i ddim y meddwl rhyw lawer o'r syniad ar y pryd ond roedd ambell i Lafurwr yn ei wyntyllu. Erbyn hyn mae Rhodri wedi tyngu y bydd e'n parhau fel aelod y cynulliad tan ddiwedd y tymor presennol. Ar ben hynny yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni dyw Gorllewin Caerdydd ddim yn sedd gyfan gwbwl diogel. Beth bynnag yw ei dyfodol fe fydd rhai i Eluned gymryd hoe fach!


No-brainer

Vaughan Roderick | 12:03, Dydd Mawrth, 14 Hydref 2008

Sylwadau (2)

Ydy'r Gweinidog Treftadaeth yn dechrau colli amynedd ynglÅ·n ag arafwch y broses o wireddu'r LCO iaith? Mae'n ymddangos felly. Y bore 'ma mynnodd Alun Fred Jones y byddai'r gorchymyn yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig ond roedd ei rwystredigaeth yn amlwg.

Mae'n amlwg bod y Gweinidog o'r farn bod 'na ormod o drafod ynglÅ·n a manylion y mesur a bod yr egwyddor sylfaenol yn cael ei anwybyddu. Dyma'i union eiriau;

Fedrwch chi ddadlau ar y cyrion ond y pwynt yw hyn. Yn fan hyn y dylai deddfwriaeth iaith gael ei llunio. Pwy ddylai ddeddfu ynglŷn â'r iaith- San Steffan lle dim ond criw bach sy'n deall y cyd-destun ymhlith cannoedd o aelodau neu fan hyn lle, beth bynnag yw'n barn ni, o leiaf mae'r cyd-destun yn cael ei ddeall? Mae'n no-brainer yn fy marn fach i!

Mae'n ymddangos bod y Gweinidog yn llai brwdfrydig ynglÅ·n ag un o gynlluniau eraill y llywodraeth- y bwriad i osod dyletswydd statudol ar gynghorau lleol i hyrwyddo diwylliant. Cyfaddefodd fod hynny'n achosi problemau mewn cyfnod pan mae arian yn brin.

Mae 'na ddau beryg yn ôl y gweinidog. Yn gyntaf yn ei eiriau ei hun "sut fedrwch ofyn i bobol wario arian sy ddim yn bod?". Yr ail broblem yw'r peryg y byddai cynghorau sydd ar hyn o bryd yn gwario'n sylweddol ar ddiwylliant yn defnyddio'r canllawiau i gwtogi'r ddarpariaeth i'r isafswm y mae'r mesur yn gorchymyn.

Mae hon yn broblem go iawn . Dyma i chi enghraifft ohoni. Yn draddodiadol roedd Cyngor Abertawe yn gwario'n helaeth ar amgueddfeydd ac orielau fel y Glyn Vivian, yr Amgueddfa Ddinesig a'r hen Amgueddfa Forwrol. Y rheswm am hynny oedd nad oedd y ddinas yn gartref i'r un sefydliad cenedlaethol. Doedd Cyngor Caerdydd, ar y llaw arall, ddim yn gwario'r un ddimai goch gan fod yr Amgueddfa Genedlaethol a Sain Ffagan yn cael ei hariannu o goffrau canolog.

Mae'r sefyllfa wedi newid ychydig erbyn hyn. Mae Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe yn rhan o'r Amgueddfa Genedlaethol ac mae Caerdydd yn datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Ddinesig. Fe fyddai Cynghorwyr Caerdydd hefyd yn dadlau eu bod yn gwario'n helaeth mewn meysydd diwylliannol eraill megis ar theatrau a neuaddau cyngerdd. Y broblem yw sut mae mesur a chymhwyso gwariant presennol y gwahanol gynghorau- acyn a gosod canllawiau ar gyfer y dyfodol?

Oes 'na beryg yw y byddai gosod canllawiau ar gyfer lefel y ddarpariaeth yn gwella'r sefyllfa mewn llefydd fel Caerdydd ond yn gwneud y gwrthwyneb mewn ardaloedd fe Abertawe? Dyna, mae'n ymddangos, yw ofn y Gweinidog.

Arian Byw

Vaughan Roderick | 10:56, Dydd Gwener, 10 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Mae'n anodd deall y ffigyrau 'ma weithiau...miliwn fan hyn, biliwn fan draw a thriliwn draw yn fan acw. Efallai bod hyn yn help.

Ar ôl gwladoli'r banciau mae dyled dinasyddion Gwlad yr Iâ yn £116,000 y pen. Dyw sefyllfa'r Unol Daleithiau ddim cynddrwg. Mae dyled y wlad honno yn $33,500 y pen. Mae'r ugain miliwn o bunnau y gallai Cyngor Castell Nedd Port Talbot golli yn ddeugain y cant o gyfanswm trethi cyngor yr ardal neu yn rhyw gant a hanner o bunnau'r pen.

Iâ wir

Vaughan Roderick | 13:11, Dydd Iau, 9 Hydref 2008

Sylwadau (3)

Dal i dyfu mae'r rhestr o gynghorau a allai golli arian oherwydd tranc banciau Gwlad yr Iâ. Pwy fysai'n meddwl y byddai'r Cardis o bawb yn canfod eu hun yn y fath sefyllfa? Dyw e hi ddim yn beth call i geisio elwa'n wleidyddol o'r sefyllfa. Wrth ymateb i'r newyddion y gallai cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf golli tair miliwn o bunnau dyma oedd gan Chris Franks o Blaid Cymru i ddweud;

When I was a councillor I met with local authority treasurers, my first question was always 'are you sure the money is invested in a safe haven rather than in accounts that paid the top interest rates'. I would hope members of local authorities in Wales would have asked similar questions.

Digon teg. Fe wnaeth Chris ei sylwadau cyn i ni wybod bod Cyngor Caerffili wedi buddsoddi pymtheg miliwn o bunnau yng Ngwlad yr Iâ llai na thri mis yn ôl. Tybed oedd Lindsay Whittle wedi dilyn cyngor ei gyd-bleidiwr?

Barack Ab Ama

Vaughan Roderick | 21:05, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Does dim byd newydd mewn gwleidyddiaeth ond roedd darllediadau gwleidyddol Plaid Cymru yn ystod etholiadau'r cynulliad yn ffres ac yn drawiadol. Dw i'n siŵr eich bod chi'n cofio nhw- ffilmiau byr yn defnyddio arddull pryf ar wal yn esgus dangos trafodaethau mewnol strategwyr y Blaid Lafur.

Maen nhw dal i'w gweld ar YouTube yn.

Nawr dyma i chii'ch arwain at hysbysebion diweddaraf Barak Obama- ffilmiau byr yn defnyddio arddull pryf ar wal yn esgus dangos trafodaethau mewnol strategwyr John Mccain.

Cyd-ddigwyddiad? Efallai neu efallai bod Steve Morgan wedi croesi Mor Iwerydd eto!

Llyfr Mawr y Plant

Vaughan Roderick | 18:22, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn meddwl bod "", papur bro Caerdydd, yn bapur sy'n cael sgŵps yn aml. Am wn i mae'r Dinesydd wedi bod ar y blaen ynghylch rhyw ffrwgwd addysg Gymraeg neu helyntion parcio Capel y Tabernacl o bryd i gilydd ond mae'n debyg bod yr achosion hynny'n ddigon prin.

Ond mae hyd yn oed y gwas bach yn haeddu ei geiniog weithiau a'r Dinesydd oedd y i dynnu sylw at gynlluniau Cyngor Caerdydd i werthu cyfrolau a dogfennau gwerthfawr o gasgliad llyfrgell y ddinas. Nododd y papur fod Cylch Llyfryddol Caerdydd (corff chwyldroadol a pheryglus os buodd un erioed) wedi mynegi pryder.

Prynwyd y llyfrau yn oes aur Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas pan oedd Caerdydd ac Aberystwyth yn cystadlu a'i gilydd i fod yn gartref i Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn y diwedd rhannwyd y wobr wrth gwrs. I Aber aeth y Llyfrgell a phwdodd bwrdeiswyr Caerdydd. Cadwodd y cyngor ei afael ar ei drysorau printiedig gan adael i egin lyfrgell Aberystwyth gychwyn ei chasgliad o'r cychwyn.

Mae'n ymddangos erbyn hyn y gallai nifer o'r cyfrolau diweddu yn y Llyfrgell Gen. wedi'r cyfan. Dycnwch y criw bach o ymgyrchwyr sydd i ddiolch am hynny. Cytunwyd heddiw y bydd pwyllgor o fawrion y byd llyfryddol yn penderfynu pa gyfrolau sy'n rhaid eu "hachub i'r genedl" a pha rai y gall Caerdydd eu gwerthu.

Mae gen i dipyn o gydymdeimlad a Nigel Howells, y Democrat Rhyddfrydol hawddgar a dymunol sy'n gyfrifol am lyfrgelloedd y Brifddinas. Wedi'r cyfan doedd y cyngor ddim yn bwriadu gwerthu cyfrolau oedd yn berthnasol i Gymru nac ychwaith cyfrolau yr oedd galw mawr amdanynt gan ddefnyddwyr y Llyfrgell Ganolog. Doedd na erioed unrhyw beryg y byddai Canu Aneirin nac unrhyw un o drysorau Cymreig eraill Cyngor Caerdydd yn diweddu ar silff lyfrau rhyw brifysgol yn Texas neu California!

Yn y cyfamser peidied neb a meddwl bod plwyfoldeb mewnblyg y frwydr wreiddiol rhwng Caerdydd ac Aber wedi diflannu o'n tir. Ddydd Llun fe gyflwynodd Leslie Griffiths AC Wrecsam ddatganiad barn wedi ei arwyddo gan hanner dwsin o aelodau cynulliad Llafur a Cheidwadol.

Dyma mae'r datganiad yn ei ddweud;

Mae'r Cynulliad hwn yn mynegi ei bryder difrifol a pharhaus ynghylch cynlluniau gan Gyngor Dinas Caerdydd i werthu mewn arwerthiant rai o destunau hanesyddol gorau Cymru, er mwyn lliniaru effeithiau anallu ariannol yr awdurdod; yn cydnabod y gwrthwynebiad ar hyd a lled y wlad i agwedd ansensitif a diddiwylliant y Cyngor at ofalu am arteffactau pwysig o hanes ein gwlad; ac yn galw ar y Cyngor i roi'r gorau ar unwaith i unrhyw gynlluniau i arwerthu'r llyfrau, nes bod menter Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu eu dyfodol wedi cael ei harchwilio'n llawn.

O fewn dim daeth gwelliant gan Jenny Randerson;

Dileu popeth ar ôl "Mae'r Cynulliad hwn" a rhoi yn ei le:

"Yn credu y dylai gwleidyddion Wrecsam roi'r gorau i geisio atal Cyngor Caerdydd rhag buddsoddi mewn cyfleusterau llyfrgell yn rhai o ardaloedd tlotaf y ddinas, ac yn credu bod ymdrechion o'r fath yn profi'r safbwynt cywilyddus mai dim ond rhai pobl ddylai allu mwynhau treftadaeth Cymru yn hytrach na thrwch y boblogaeth"

Neu mewn geiriau eraill "cadwa dy drwyn mas o'n busnes ni y gog yffarn!". Mae Jenny wrth gwrs yn cynrychioli Canol Caerdydd. Yr unig broblem yw bod Lorraine Barrett yn un o'r aelodau wnaeth arwyddo'r cynnig gwreiddiol- a lle mae ei hetholaeth hi, dywedwch?

Caffaeliad a chlais

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Mawrth, 7 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Diawch, mae'n brysur 'ma heddiw gyda rhiw hanner dwsin o straeon yn ffrwtian. Fe wnâi ngorau i gadw fyny. I ddechrau cawsom gyfle i gwrdd â'r comisiwn fydd yn ymchwilio i ariannu'r cynulliad a fformiwla Barnett. Yn ymuno a'r Cadeirydd Gerald Holtham (IPPR gynt) mae'r Athro Paul Bernd Spahn o'r Almaen, cyn-gynghorydd ariannol llywodraeth Bosnia a'r Athro David Miles, prif economegydd cwmni Morgan Stanley. Mae'r bois yma'n "high flyers" go iawn. Ar y llaw arall does 'na ddim llawer o waith yn y sector breifat ar hyn o bryd!

Roedd Rhodri ac Ieuan yn amlwg wrth eu boddau yn eistedd gyda'r tîm yn ystafell briffio'r wasg y bore 'ma. Roedd Nick Bourne yn edrych yn llawer llai cysurus yn yr un stafell hanner awr yn ddiweddarach. Mae'r clais wedi diflannu o'i dalcen ond mae cleisiau gwleidyddol y dyddiau diwethaf o hyd yn amlwg. Yr hyn oedd yn rhyfedd yng nghynhadledd wythnosol y Torïaid oedd mai dim ond un aelod cynulliad arall oedd yn bresennol sef Andrew RT Davies. Doedd 'na ddim rheswm penodol i unrhyw un arall fod yna ond dyw e ddim yn anarferol i aelodau eraill y Blaid droi i fyny i'r sesiwn briffio gan fod eu cyfarfod grŵp yn ei dilyn. Dw i'n ceisio peidio darllen gormod i mewn i'r peth ond mae'n rhyfedd nad oedd ei gyd Geidwadwyr yn rhuthro i ddangos eu cefnogaeth i'w harweinydd.

Atebion?

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Llun, 6 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Mae helyntion Nick Bourne wedi mudo o'r blogs i'r. Dyw'r stori ddim ar ben eto o bell ffordd. Fe fydd 'na ragor yfory- ond mae'n werth nodi ambell i beth wrth fynd heibio.

Yn gyntaf, er bod nifer y blogs gwleidyddol Cymreig wedi crebachu ers helyntion rhyfeddol ffurfio'r llywodraeth bresennol maen nhw'n parhau i fod yn hynod ddylanwadol. Fe ddechreuodd y stori, wrth gwrs, ar y blog yma. Fy nghydweithiwr, yr anghymharol Toby Mason, oedd wedi cael achlust o'r helynt. Y broblem oedd darganfod ffordd i'w datblygu.

Roedd cyhoeddi stori fach brofoclyd ar y gornel fach yma o'r we yn ffordd i daflu abwyd i'r dwr. Fe weithiodd. O fewn munudau roedd aelodau Ceidwadol blaenllaw ar y ffôn yn lleisio eu hanniddigrwydd. Dydw i ddim yn gwybod ydy blogwyr fel , a'r gweddill yn sylweddoli maint eu dylanwad. Fe wnaethon nhw, blogwyr cyffredin eraill a blogs hanner-swyddogol gwleidyddion a newyddiadurwyr gadw'r stori'n fyw wrth i Nick Bourne groesi ei fysedd a gobeithio y byddai'r stormydd yn gostegu.

Ddydd Gwener tynnodd Nick allan o drefniant i ymddangos ar y . Yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl. Ddydd Gwener hefyd fe wnes i bostio cyfres o gwestiynau yr oedd angen i Nick eu hateb. Dyma nhw eto gyda chrynodeb (nid annheg, gobeithio) o'i ymateb.

1.Ydy hi'n wir, fel mae rhai o fewn y blaid yn mynnu ei fod wedi cymeradwyo ("signed off") y ddogfen yn ymosod ar Rhodri Morgan cyn ei chyhoeddi? Os na wnaeth e pwy roddodd yr hawl i swyddogion y blaid ryddhau dogfennau yn enw'r arweinydd heb ymgynghori ac ef?

Nhw sy'n gywir- nid fi. Wps! Fe wnes i gymeradwyo'r ddogfen yn groes i'r argraff a roddais ar Radio Wales. Wps! Sori bawb.Sori, sori,sori

2.Os oedd e wedi cymeradwyo'r ddogfen oedd e wedi ei darllen cyn gwneud hynny?

Um...oeddwn. Ond mae'n ddogfen hir iawn. Fe wnes i ddarllen y peth ar garlam. Roedd gen i bethau eraill ar fy meddwl. Wps! Mea Cwlpa. Mae'n ddogfen hir wedi'r cyfan...

3.Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn gadarnhaol- sut mae'n cyfiawnhau rhoi'r bai am y cynnwys ar swyddogion y Blaid?

Does dim cyfiawnhad. Sori.


4.Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn negyddol. Ydy hi'n arferol i'r arweinydd beidio darllen dogfennau y mae'n eu cymeradwyo?

Nac ydy- a dw i ddim esgus ei bod hi o hyn ymlaen. Sori eto.

Hwn oedd y cyfweliad mwyaf anghysurus a gwleidydd Cymreig i mi weld ers i ni ffilmio Ron Davies yn ystafell gefn fy nhÅ· gyda sori wedi sgwennu ar gefn ei law i'w atgoffa i ddefnyddio'r gair hwnnw mor aml a phosib.

Cwestiwn newydd felly. Ydy Nick yn saff? Dim eto.

Ambell gwestiwn

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Gwener, 3 Hydref 2008

Sylwadau (2)

Mae Nick Bourne yn cerdded arfordir Penfro heddiw. Er nad yw e'n dychwelyd galwadau ffôn mae 'na bwysau arno i ddychwelyd i Gaerdydd o du ei gefnogwyr yn ogystal â'i wrthwynebwyr ar y meinciau Ceidwadol.

Mae'n debyg bod 'na bedwar cwestiwn y mae'n rhaid i Nick eu hateb. Gallai ei ddyfodol fel arweinydd dibynnu ar ei atebion. Dyma nhw;

1. Ydy hi'n wir, fel mae rhai o fewn y blaid yn mynnu ei fod wedi cymeradwyo ("signed of") y ddogfen yn ymosod ar Rhodri Morgan cyn ei chyhoeddi? Os na wnaeth e pwy roddodd yr hawl i swyddogion y blaid ryddhau dogfennau yn enw'r arweinydd heb ymgynghori ac ef?

2. Os oedd e wedi cymeradwyo'r ddogfen oedd e wedi ei darllen cyn gwneud hynny?

3. Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn gadarnhaol- sut mae'n cyfiawnhau rhoi'r bai am y cynnwys ar swyddogion y Blaid?

4. Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn negyddol. Ydy hi'n arferol i'r arweinydd beidio darllen dogfennau y mae'n eu cymeradwyo?

Mae hwn yn brifo

Vaughan Roderick | 22:18, Dydd Iau, 2 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Fe fydd geiriau yn brifo. Mae'r neges yn amlwg.

"As a rugby player, I never remember seeing my captain walking away when there was flak about... I just want to make it clear that I consider the dossier to be an outstanding piece of work, and congratulate those who, with so much effort and skill, prepared such a good comprehensive demolition of Rhodri Morgan's record."

W Capten!

Talu'r Pris

Vaughan Roderick | 19:06, Dydd Iau, 2 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Roedd 'na ambell i gwyn ar y blog wythnos ddiwethaf pam wnes i dynnu sylw at faint o sylw y mae Adam Price yn cael gan y Western Mail.

Dw i'n siŵr bod Adam yn cellweirio pam wnaeth e gwyno bod fy sylwadau wedi ei gadw allan o'r papur am dridiau! Roeddwn yn poeni rhyw faint nes i mi weld yn ôl yn ei briod le ar y dudalen flaen y bore ma!

Mi fentrai swllt mai Nick Bourne fydd yno yfory. Mae'r stori honno'n troi'n ddiddorol iawn. Yng ngeiriau un Ceidwadwr "dyw Nick ddim yn sylweddoli eto faint o helynt y mae ynddi." Fe gawn weld.

Troi'r awyr yn las

Vaughan Roderick | 14:33, Dydd Iau, 2 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Fe allai hon fod yn stori fawr- ac yn fan hyn mae hi gynta!

Mae rhai o Dorïaid y cynulliad wrth yddfau ei gilydd.

Ddydd Sul fe ryddhaodd y Blaid ddogfen yn croniclo ffaeleddau honedig Rhodri Morgan gan gynnwys sylwadau am ei ymarweddiad a'i ddillad.

Heddiw mae Nick Bourne wedi datgysylltu ei hun o'r ddogfen. Ar Radio Wales dywedodd ei fod wedi siarad â Rhodri Morgan i glirio'r awyr a bod y ddogfen yn "mynd yn rhy bell".
Mynnodd mai'r blaid oedd yn gyfrifol am y ddogfen nid fe ei hun.

Y broblem? Cyhoeddwyd y ddogfen yn enw Nick Bourne ac mae ffynonellau o fewn y blaid yn mynnu ei fod wedi ei darllen ac wedi ei chymeradwyo. Fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor grac y mae rhai o'r Ceidwadwyr ynghylch hyn.

Fan Hyn, Fan Draw

Vaughan Roderick | 12:37, Dydd Iau, 2 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Mae'n beth amser ers i mi gynnig casgliad o ddolenni i'ch diddori. Mae datblygiadau ar y we Gymraeg yn rhoi'r esgus i mi wneud.

Yn gyntaf datblygiadau cyffrous ar wefan Barn...neu Barn 2.0 i ddefnyddio'i henw newydd. Dyma esboniad Dyfrig;

Bydd ymwelwyr i Barn 2.0 - y wefan newydd - yn gallu darllen erthyglau a cholofnau llawn o'r rhifyn diweddaraf, yn ogystal â deunydd wedi ei gomisiynu yn benodol ar gyfer y we. Wedi darllen yr erthyglau, bydd gan ymwelwyr i'r wefan y cyfle i adael sylwadau, a thrafod cynnwys yr erthyglau. Ar ben hyn i gyd, bydd modd darllen holl benawdau newyddion Ö÷²¥´óÐã Cymru ar Barn 2.0. Bydd y cyfan yn fyw ar 7fed o Hydref ymlaen.

Dyna i chi Barn felly yn ogystal â'r yn ceisio achub y blaen ar wasanaeth newydd . Cefnogwyr "Y Byd" - chi sy'n haeddu'r diolch am hyn. Gobeithio bod hynny'n gysur!

Mae ambell i raglen deledu Cymraeg wedi dechrau ymddangos ar iPlayer y Ö÷²¥´óÐã ynghyd a rhaglenni Radio Cymru a Ö÷²¥´óÐã Alba. Gyda llaw mae rhyngwyneb yr iPlayer ar gael yn Gymraeg. Y cyfan sydd angen gwneud yw clicio ar y botwm "Cymraeg" ar waelod yr hafan ddalen. Peidiwch a becso- cynnig dewis ychwanegol yw bwriad y datblygiadau yma. Does dim byd yn diflannu o safle gwylio rhagorol .

A dyma gasgliad o flogs a safleoedd rhyngwladol dw i'n eu darllen yn ddyddiol (heb fod mewn unrhyw drefn arbennig) (UDA) (UDA) (UDA)
(rhyddid gwleidyddol ar y we) (Seland Newydd) a'r dewraf o'r cyfan .

Breuddwyd Gwrach

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Iau, 2 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Sut mae gwireddu breuddwyd? "Build it and they will come" oedd neges y ffilm "Field of Dreams". Mae'n ymddangos mai "Build it and WAG will pay" yw arwyddair rhai o gynllunwyr prosiectau loteri Cymru.

Dydw i ddim am ymhelaethu yn fan hyn am fanylion yr ymchwiliad diweddaraf i broblemau ariannol Canolfan y Mileniwm. Mae'r manylion i gyd ar y . Ond mae 'na batrwm yn fan hyn.

Mae 'na gyfres o brosiectau loteri ar draws Prydain sydd wedi mynd i drafferthion ariannol ar ôl agor ac wedi gorfod gofyn am arian ychwanegol neu, mewn llond dwrn o achosion, gau eu drysau.

Mewn unrhyw faes, wrth gwrs mae cyfran o fentrau newydd yn methu. Y cwestiwn yn fan hyn yw i ba raddau yr oedd hi'n bosib rhagweld y problemau? A oedd cynlluniau busnes gwreiddiol prosiectau fel Canolfan y Mileniwm a'r Gerddi Botaneg yn gynlluniau realistig neu'n gynlluniau oedd wedi eu llunio er mwyn sicrhâi'r grantiau cyfalaf i'w hagor? I fod yn ddi-flewyn ar dafod oedd hyrwyddwyr y mentrau hyn naill ai'n twyllo eu hun neu'n camarwain y cronfeydd loteri yn y gobaith y byddai'r "arian yn dod o rywle" i redeg y prosiectau?

Wrth reswm, mae pob prosiect yn wahanol ond mae ystyried un achos arbennig yn ddadlennol. Ydych chi'n cofio Canolfan y Celfyddydau Gweledol - prosiect oedd mor drychinebus nes iddi orfod cau'i drysau ar ôl ychydig dros flwyddyn? Derbyniodd y ganolfan naw miliwn o bunnau o arian cyhoeddus a loteri ar sail addewid gan y cyfarwyddwyr y byddai na chwarter miliwn o bobol bob blwyddyn yn fodlon talu £3.50 yr un i ymweld ag oriel gelf fodern yng Nghaerdydd. Yn ystod ei hoes fer denodd y ganolfan lai na hanner can mil o ymwelwyr.

Nawr, dw i'n digwydd credu bod angen oriel o'r fath yng Nghymru ond roedd hi'n amlwg i unrhyw un call na fedrai'r fenter ddibynnu ar daliadau mynediad. Ond wrth gwrs does dim angen bod yn gall os ydych chi'n credu y bydd "yr arian yn dod o rywle" ac mae 'na hen ddigon o "ymgynghorwyr" wnaiff gymeradwyo'ch cynllun busnes- am bris.

oedd gan Swyddfa Archwilydd Cymru i ddweud am y llanast yn 2001 (pdf).

The first lottery application assumed 250,000 visitors a year, which was significantly more than all but one cultural and artistic tourist attraction in Wales (St Fagans). This inflated visitor projection... led to an over ambitious revenue target at all stages... The first application for £2 million of lottery funding was not supported by robust or reliable information... many of the key decisions about the viability of the project were based on a feasibility report undertaken in 1992, nearly three years before the first lottery application.

Nid diffyg ymwelwyr yw problem Canolfan y Mileniwm. Mae hi wedi cyrraedd ei thargedi i gyd. Y nam yn y cynllun busnes y two hwn oedd na fyddai'r targedi hynny'n ddigon i gynhyrchu'r incwm oedd ei angen. Mae'r adroddiad cyfan yn. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ganolfan yw bod Canolfan y Mileniwm yn rhy bwysig, yn rhy eiconig, yn rhy fawr i Lywodraeth y Cynulliad ganiatáu iddi gau. Yn yr achos hwn roedd yn rhaid i'r arian ddod o rywle. Built it and WAG will pay.

Cyhoeddwyd canlyniad ymchwiliad Swyddfa Archwilydd Cymru i Ganolfan y Celfyddydau Gweledol ar Dachwedd 15fed, 2001. Ym Mis Ionawr 2002 rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad sêl ei bendith ar gynllun busnes Canolfan y Mileniwm.

Y Dyn Pwysig

Vaughan Roderick | 16:52, Dydd Mercher, 1 Hydref 2008

Sylwadau (0)

Cafodd Alun Cairns dipyn o sbort ddoe wrth ddyfynnu Dafydd Iwan yn ystod ymosodiad ar Blaid Cymru yn y ddadl ar y Mesur Trafnidiaeth gan Ddysgwyr (bysys ysgol i chi a fi). Dyma i chi flas.

"Dim ond tair wythnos yn ôl, clywsom Dafydd Iwan, llywydd Plaid Cymru, yn dweud: "Beth bynnag yw'r cyfaddawd y mae'n rhaid inni ei wneud wrth lywodraethu o ddydd i ddydd, rhaid i ni beidio byth ag anghofio nod gychwynnol ein plaid 83 mlynedd yn ôl-- hunanlywodraeth lwyr i Gymru lle mae i'r Gymraeg a'r Saesneg statws cyfartal'.Dyna a ddywedodd Dafydd Iwan, eich llywydd chi, a dyna beth mae Plaid Geidwadol Cymru yn ei gynnig, er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn gwbl gyfartal yn ein hysgolion a bod yr un hawliau yn cael eu rhoi i ddisgyblion sydd eisiau mynychu ysgolion Cymraeg ag i ddisgyblion sydd eisiau mynychu ysgolion Saesneg... mae'n gywir i ddweud mai Plaid Geidwadol Cymru sy'n sefyll i fyny dros yr iaith Gymraeg, nid Gweinidog Plaid Cymru. Yr wyf yn siomedig."

Dydw i ddim yn sicr bod Alun yn siomedig. Os oeddwn i yn ei le fe, byswn yn ymfalchïo fy mod wedi llwyddo i godi clais trwy droi geiriau llywydd Plaid Cymru yn erbyn ei harweinydd!

Ta beth am hynny un o ganeuon Dafydd Iwan ddaeth i'r cof heddiw wrth ddarllen rhestr o'r can Ceidwadwr pwysicaf yn y Daily Telegraph a sylwi bod Nick Bourne yn rhif 51 ar y rhestr.

Nawr mae'n bosib bod y rhestr yn dweud mwy am y Telegraph a'r blogiwr Iain Dale oedd yn gyfrifol amdani nac am Nick. Serch hynny go brin y bydd arweinydd yr wrthblaid yn y cynulliad yn falch i weld ei fod yn cael ei ystyried yn llai pwysig na Syr Andrew Green, cyfarwyddwr Migration Watch, ac Anthony Browne, cyfarwyddwr polisi Maer Lundain.

Efallai bod hi'n bryd i Nick ddechrau brolio dipyn i atgoffa 'r Torïaid y tu hwnt i Glawdd Offa o'i statws. Yng ngeiriau Dafydd Iwan " O, rwy'n bwysig, rwy'n bwysig bobol bach"!

Selemat Hari Raya

Vaughan Roderick | 14:44, Dydd Mercher, 1 Hydref 2008

Sylwadau (1)

Gan mai fi yw'r unig flogiwr Cymraeg sy'n debyg o wneud cai'i ddymuno Eid Ul Fitir dedwydd i chi.

Mae'n rhyfedd o beth bod Eid yng Nghaerdydd bellach yn llawer llai gweladwy nac oedd hi pan oeddwn i'n grwt. Tan rhywbryd yn niwedd y chwedegau roedd Mwslemiaid y ddinas arfer gorymdeithio o gwmpas y strydoedd ar yr hyn yr oedd y gweddill ohonom yn galw'n "nadolig y mwhamidaniaid". Daeth y traddodiad hwnnw i ben rhywbryd yn y saithdegau. Yr esboniad mae'n debyg yw bod dylanwad y traddodiad swffi wedi lleihau wrth i garafannau newydd o Fwslemiaid mudo i'r ddinas.

Ta beth, hwn yw'r tro cyntaf i mi treulio Eid yng Nghymru fach ers rhai blynyddoedd. Felly yn lle stwffio fy mol a thanio'r tân gwyllt mwyaf peryg y gwelodd dyn erioed fe fyddaf yn treulio'r ŵyl yng nghwmni Alun Cairns ac Adam Price ar CF99. Cofiwch wylio!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.