Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Mawrth 2009

Mam Fach

Vaughan Roderick | 17:24, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Sylwadau (8)

Mae John Stevenson yn gyfaill annwyl i mi ac wedi bod ers chwarter canrif. Mae e ymhlith y bobol fwyaf deallus dwi'n nabod. Diolch byth mae fe ac nid fi sy'n gorfod ceisio esbonio troeon trwstan gwleidyddiaeth Ynys Môn i'r genedl!

Mae sgandalau Cyngor Môn wedi bod yn rhan gyson o fywyd gwleidyddol Cymru ers degawdau bellach ac i'r rheiny sydd ddim yn byw ar yr ynys maen nhw bron yn annealladwy!

Yn gyntaf mae'n rhaid ceisio dilyn y caleidosgop o bleidiau a grwpiau ar y cyngor grwpiau gydag enwau fel "Môn i fyny yma" a "Mam Ymlaen" neu rywbeth felly ynghyd ac aelodau annibynnol swyddogol, aelodau annibynnol annibynnol ayb. Ydy hynny'n rhan o'r broblem efallai? Hynny yw pan mae cynghorwyr Môn yn cael eu hethol does dim modd i'r etholwyr wybod pa grwpiau fydd yn cael eu ffurfio ar ôl yr etholiad na phwy fydd yn llywodraethu. Y cyfan y gall yr etholwr wneud felly yw cynnig pleidlais o hyder neu ddiffyg hyder yn yr aelod lleol fel unigolyn yn hytrach na dylanwadu ar gyfeiriad a pholisïau'r cyngor yn ei gyfanrwydd.

Yn y tymor hir gallai'r sefyllfa debyg pery problemau yn etholiadau cynulliad. Mae hi'n ofnadwy o anodd i unrhyw un blaid ennill mwyafrif yn y cynulliad gyda thrigain aelod etholedig. Os ydy'r nifer yn cynyddu i wythdeg fe fydd hi'n gwbwl amhosib hyd yn oed i Lafur. Am resymau digon anrhydeddus a dealladwy dyw'r pleidiau ddim yn fodlon trafod clymbleidiau posib yn ystod ymgyrch etholiad -ond ydy hynny'n deg a'r etholwyr?

Cymerwch esiampl. Meddyliwch am gefnogwr Llafur yn y cymoedd lle nad oes gobaith cath i Lafur ennill sedd restr. Gallai'r cefnogwr hwnnw fel ffan O "Gymru'n Un" ystyried rhoi ei ail bleidlais i Blaid Cymru. Ond a fyddai'n gall i wneud hynny heb wybod os oedd Plaid Cymru'n yn llygadu'r enfys neu Llafur yn dymuno closio at y Democratiaid Rhyddfrydol?

Does gen i ddim ateb i'r broblem. Dwi ond yn gobeithio nad yw firws Llangefni yn ein haentio!

Ffŵl Ebrill

Vaughan Roderick | 15:30, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Mae Leanne Wood wedi rhannu'r gwahoddiad canlynol;

YFORY: 6pm nos Fercher 1af Ebrill, Ystafell Gynhadledd **, Ty Hywel

Mae Leanne Wood AC yn eich gwahodd yn gynnes i gyfarfod i drafod:
Sefydlu Grwp Trawsbleidiol ar America Ladin a chynnal derbyniad i nodi:

A. hanner can mlwyddiant chwyldro Ciwba, a
B. deng mlwyddiant ethol Hugo Chavez yn Arlywydd Venezuela

Mae'n sicr mai ysbryd Ebrill 1af wnaeth ddarbwyllo Leanne i hela'r gwahoddiad at, ymhlith eraill, aelodau Ceidwawdol y Cynulliad!

Mae'n ymddangos na fydd 'na lawer o Ddemocratiaid Rhyddfrydol yna chwaith. Tynnodd un o aelodau'r blaid fy sylw at adroddiadau a'r ynghylch Venezuela.

Owainbevan (5)

Vaughan Roderick | 13:46, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009

Sylwadau (5)

Mae Rhodri'n grac da fi.

"Least said, soonest mended" Dyna oedd geiriau'r Prif Weinidog ar ddechrau ei gynhadledd newyddion heddiw gan fynnu nad oedd yn dymuno trafod materion plaid (megis gwefan Aneurin Glyndŵr) yn ystod cynhadledd "lywodraethol" gyda'i ddirprwy (clown yn ôl AG) yn eistedd wrth ei ochor.

Fedrwch chi feio fi am drio?

"Oedd y Prif Weinidog wedi gofyn i AG ymddiheuro i Ieuan, tybed?" Cwestiwn digon teg yn fy marn i.

Os do fe. Roedd Rhodri'n gandryll. Doedd a wnelo a fe ddim byd a'r wefan. Roeddwn i'n ddrygionus trwy awgrymu bod e wedi cymeradwyo'r safle neu'n gwybod am ei gynnwys o flaen llaw. Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod wedi awgrymu hynny ond roedd Rhodri am fod yn gwbwl eglur. Doedd e ddim wedi cymeradwyo'r wefan meddai a doedd Paul Murphy ddim wedi gwneud chwaith.

Os felly sut mae esbonio'r Post yma ar tybed?

Lots of encouraging feedback since we went live last night. Here are two special endorsements we'd like to share with you:

"This brand new political website is definitely one to watch!"
- Rt Hon Rhodri Morgan AM, First Minister for Wales

"I welcome this important new initiative. We must not surrender the internet to our opponents."
-Rt Hon Paul Murphy MP, Secretary of State for Wales and Minister for Digital Inclusion

Fe wnes i ofyn hynny hefyd ond ces i ddim ateb.

I ychwanegu at ddiwrnod swrrealaidd y tu fas i'r Senedd y bore 'ma roedd grŵp o wrthdystwyr o'r Rhondda yn protestio yn erbyn cau pwll nofio Treherbert. Roedd y criw wedi sgwennu cân brotest arbennig ar y dôn... Delilah! A phwy oedd yn ffilmio'r brotest? David Taylor!

Fe wnes i awgrymu wrth David efallai ein bod wedi cael hen ddigon o Delilahs yn ystod y dyddiau diwethaf. Cefais ateb digon swrth.

"Do" meddai.

Owainbevan (4)

Vaughan Roderick | 21:46, Dydd Llun, 30 Mawrth 2009

Sylwadau (4)

Mae fideo Delilah wedi ei dileu o "YouTube". Dyma esboniad ""

We have removed our Why, Why, Why? video from YouTube after we were informed that some Nats and Tories had complained. It's a real shame that these sensitive souls are so easily offended, and find criticism so hard to take!

Dim byd i wneud a chlirio'r hawliau i'r gerddoriaeth na'r lluniau na thorri cyfreithiau etholiadol! Dim byd i wneud chwaeth a'r embaras llwyr i'r Blaid Lafur ar drothwy cynhadledd newyddion ar y cyd rhwng Rhodri Morgan a'i ddirprwy. Mae'r fideo o hyd ar gael ar safle'r Ö÷²¥´óÐã!

Hilariws

Vaughan Roderick | 20:45, Dydd Llun, 30 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Roeddwn i ffwrdd o'r gwaith heddiw ond gyda'r holl helynt ynghylch darlledu roeddwn yn meddwl y byddai gwerth mewn postio eiliadau cyntaf teledu "rhanbarthol" ym Mrhydain. Y flwyddyn? 1949. Yr achlysur? Agor trosglwyddydd Sutton Coldfield. Y fenyw gyda'r cadno ar ei chefn? Y Dowager Duchess of Reading! Diolch i AB.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Sadwrn, 28 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae'r ffilmiau yn ôl! I ddathlu "Delilahgate" dyma ddetholiad o ddarllediadau gwleidyddol, mae rhai yn dda ac eraill yn ddiawledig!

Beth am gychwyn gyda ychydig o Fry a Laurie?

Roedd darllediadau Plaid Cymru yn 2007 yn drawiadol. Y fersiwn Gymraeg sydd yn fan hyn er efallai bod rhain wedi gweithio'n well yn Saesneg.

Pregeth gan Blaid Lafur yr Alban.

Dyw hi ddim yn rhyfedd efallai mai'r SNP enillodd yr etholiad!

Kinnock ddy mwfi...

...ac ymdrech llai llwyddianus John Major!

Owainbevan (3)

Vaughan Roderick | 14:46, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Sylwadau (5)

Roeddwn i'n meddwl y base'n sbort i weld sut ymateb sy 'na ar draws y we i ymdrechion Llafur Cymru. Ydy pobol yn cytuno a Peter Hain bod hon yn "foment Obama i Llafur Cymru"?

Dyw'r sylwadau ar ddim yn awgrymu hynny.

Lovely production. What a pity the St Winifred's school choir was unavailable to do the vocals; they appear to have made the film.

Well i'm certainly not going to spend time complaining about it...Its terrible! I'd love to see there wasting more time with this sort of drivel!

I can't believe it's so bad. This is the sort of thing a bunch of drunk sixth formers might have produced before the 97 election.

Beth felly am selogion

I have never seen anything so embarrassing in my life. Apart from the PRS issue - I assume that the SoS for Wales never actually saw this before giving his endorsement.
If he did, then I despair. My cat can sing better than that. Oh and the cut out images!!!

I've just seen the first excruciating 30 seconds of the video. I hope it gets better but I can't bear to find out! Inane lyrics, dire flat singing, ear-popping harmonies. Aaaarrrrggggghhhhhhh!

O diar.

Ac un sylw gan gyfaill sy'n feistr ar gyfreithiau etholiadol;

Pwynt call iawn ar y blog Vaughan. Mae elfen arall o gyfraith etholiadol yn berthnasol hefyd. Sef mae angen i rywun sy'n hyrwyddo plaid wleidyddol mewn cyfnod etholiadol dderbyn awdurdod o flaen llaw gan y Blaid i ymgyrchu ar ei rhan, ac mae'n rhaid i'r gwariant hynny gael ei ddangos fel rhan o gostau ymgyrch etholiad. Mae hyn yn berthnasol am ein bod yng nghyfnod gwariant etholiadol ymgyrch Ewropeaidd ac mae'r canllawiau gan y Comisiwn Etholiad yn glir iawn (ac yn dynn iawn!).


Owainbevan (2)

Vaughan Roderick | 12:42, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Sylwadau (2)

Mae safle "Aneuringlyndwr" wedi cofrestri yn enw David Taylor. Mae David wrth gwrs yn gweithio i Leighton Andrews sy'n ddirprwy i Ieuan Wyn Jones. Ydy galw bos dy fos yn glown yn gall, dywedwch?

Yn fwy perthnasol ydy hyrwyddwyr y safle yn gyfarwydd â deddfwriaeth etholiadol? Yn fwyaf arbennig ydyn nhw'n ymwybodol o'r rheolau ynghylch cyhoeddi enw asiant ar unrhyw ddeunydd etholiadol a'r cyfyngiadau ar wariant ac ymgyrchu gan unrhyw un nad ydynt yn gweithredu gyda sêl bendith asiant neu ymgeisydd?

Jyst gofyn.

Geiriau Cryfion

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Beth sy 'da ni fan hyn? W, diddorol. Llythyr gan Dafydd Elis Thomas i Paul Murphy ynghylch LCOs -yn fwyaf arbennig gorchmynion wedi eu llunio gan aelodau unigol megis Jonathan Morgan ac Ann Jones.

"My main concern is the length of time taken...may undermine the opportunity for Members to introduce legislation, even with the support of Welsh Ministers, and that this may soon render the ballot process ineffectual, thus curtailing one of the functions of a legislature- that of allowing Members as well as Government Ministers or Committees to take through legislation."

Blydi hel! Gadewch i ni gofio beth ddywedodd Dafydd ar ôl i ail fesur Llywodraeth Cymru gyrraedd y llyfr statud. Roedd Peter Hain meddai wedi "setlo'r cwestiwn cyfnsoddiadol am genhedlaeth". Do wir- ac mae Aneuringlyndwr yn "Obama moment for Welsh Labour"!

Gyda llaw, fe fydd y "Westminster Hour" ar Radio 4 Ddydd Sul yn canolbwyntio ar ffrae rhwng y cynulliad a San Steffan ynglŷn â'r broses ddeddfwriaethol.

Owainbevan

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Sylwadau (7)

Ydw, dwi'n gallu cadw fy ngheg ynghau weithiau! Fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor anodd mae wedi bod i beidio blogio ynghylch fideo firaol y Blaid Lafur dros y dyddiau diwethaf. Roeddwn yn ofni y byddai rhywun yn cael traed oer bawn i'n crybwyll y peth cyn i safle fynd yn fyw. Fe fyddwn wedi bod mor siomedig pe na bai'r genedl wedi cael y cyfle i weld y campwaith rhyfeddol yma!

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod 'na bobol fawr yn y Blaid Lafur yn meddwl bod y fideo yn un doniol ac effeithiol. Wel mae pobol yn chwerthin- ond am y rhesymau anghywir! Ffrwyth dychymyg Eluned Morgan a Peter Hain yw'r fideo. Yn ôl Llafur mae'n cynrychioli "Obama moment for Welsh Labour". Gadewch i ni ryfeddu am eiliad. Mae Llafur Cymru yn credu bod ei fideo nhw yn cyfateb i rain.

Gyda llaw ydych chi wedi sylwi ar y "DT" yng nghyfeiriad y wefan. Ie, David Taylor, eto!

Rhydd i bawb...

Vaughan Roderick | 10:43, Dydd Iau, 26 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol draddodiad anrhydeddus o frwydro dros ryddid mynegiant. Da yw gweld felly bod Lembit yn glynu at y traddodiad hwnnw yn ei ymgyrch diweddaraf. Mae aelod Maldwyn yn gandryll bod swyddogion Tŷ'r Cyffredin wedi ei gwneud hi'n amhosib i aelodau seneddol ymweld â gwefan y "Daily Sport".

"Over the top censorship at its worst" yw disgrifiad aelod Maldwyn o'r penderfyniad yn ôl yr .

Mae Lembit yn sgwennu colofn i'r Sport wrth gwrs ac mae'n sicr mai dyna yw'r unig reswm y byddai unrhyw aelod seneddol yn dymuno ymweld â'r safle... jyst fel y bobol yna oedd ond yn prynu "Playboy" er mwyn darllen Nabokov a PG Wodehouse!

Gwell i mi beidio cynnwys dolen i'r safle. Os ydych chi'n dymuno darllen "Hookers selling sex for ciggies" neu "All Frenchmen offered sweat gland op" Google yw eich ffrind. Os ydych chin betrusgar neu os ydy eich cyflogwr mor Biwritanaidd â Thŷ'r Cyffredin dyma flas o fyfyrdodau aelod Maldwyn.

"Drinking is about attitudes so I suggest an advertising campaign starring Daily Sport babes. It could feature my friend Lucinda warning: "If you're out chugging, I'm not hugging." That might sober up the male population"

"MY bubbly buddy Nicole Shamier (we're just good friends, by the way) spends evenings in watching Ö÷²¥´óÐã's Panorama while I'm busy researching stories for the Daily Sport out with my chums Gemma and Ashlea Massey... But just think . . . if my delightful friend Gemma cocked up her pension contributions, then should she privatise herself? And if her lovely sister Ashlea was in debt, should she be nationalised? NEVER! In my book, these lovely ladies will always belong in the bosom of the Sport."


Esgyn yw nod ysgol

Vaughan Roderick | 16:28, Dydd Mercher, 25 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Dwi'n ymwybodol y gallai postio gormod ynghylch ffrae ysgolion Caerdydd fod yn ddiflas i'r rheiny sy ddim yn byw yn y brifddinas. Peidiwch a becso. Dydw i ddim yn bwriadu rhygnu ymlaen am unrhyw ysgol unigol, pwynt mwy cyffredinol sy gen i.

Mae'r Cyngor yng Nghaerdydd yn ceisio delio â dwy ffactor sef y nifer o lefydd gwag yn yr ysgolion Saesneg a'r ffrwydriaid yn y galw am addysg Gymraeg. Os ydy'r cynlluniau yn cael ei gwireddu fe fydd na oddeutu ugain o ysgolion cynradd a thair ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas ymhen ychydig flynyddoedd. Y broblem yw na fydd hynny, hyd yn oed, yn ddigon i gwrdd â'r galw ac y bydd nifer o'r ysgolion hynny yn y llefydd anghywir.

Yr hyn sy'n gwneud pethau'n anodd i'r Cyngor yw nad yw hi'n gyfreithlon i ddefnyddio'r angen i ddiwallu'r galw am addysg Gymraeg fel rheswm dros gau ysgol Saesneg. Yn hytrach mae'n rhaid sicrhau/esgus bod ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg a chrebachu'r ddarpariaeth Saesneg yn ddwy broses gyfan gwbwl ar wahân i'w gilydd.

Mae 'na anfanteision amlwg yn deillio o'r rheol honno. Un o rheiny yw bod ysgolion Cymraeg yn cael eu lleoli ar hap a damwain yn hytrach nac ar sail strategol. Mae lleoliadau'r Ysgolion Cymraeg yn dibynnu bron yn llwyr ar ba ysgolion Saesneg y mae'r cyngor wedi llwyddo eu cau yn hytrach nac yn y llefydd mwyaf addas a chymwys ar eu cyfer.

Am y rheswm hwnnw mae'r ddwy ysgol gynradd sy'n gwasanaethu talp helaeth o dde orllewin y ddinas, er enghraifft, o fewn ychydig strydoedd i'w gilydd ac am yr un rheswm mae'r ddwy Ysgol Uwchradd o fewn pum munud i'w gilydd.

Ymhen ychydig fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg, cynllun a allai arwain at gynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth. A fydd y strategaeth honno yn caniatáu i gynghorau lunio strategaethau ysgolion cynhwysfawr neu a fydd disgwyl i'r awdurdodau barhau a'r system ryfedd sy'n bodoli ar hyn o bryd?

Yn y cyfamser fe fyddwn yn datgelu manylion y cynllun ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ar CF99 heno. Cofiwch wylio.

Gadarene

Vaughan Roderick | 15:21, Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Beth yw barn Dai Jones, Llanilar am ddifa moch daear? Cewch wybod trwy wylio CF99 nos yfory. Yn y cyfamser dyma ambell i damaid i aros pryd!

Gyda llaw, fe fydd y gyfres "Rialtwch" yn dychwelyd Ddydd Sadwrn.

Chim Chim Cher-oo

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Mary Poppins yw'r sioe fawr yng Nghanolfan y Mileniwm ar hyn o bryd ac fel y byddai rhywun yn disgwyl mae'n denu cynulleidfaoedd sylweddol gan gynnwys ambell i aelod cynulliad.

Tybed beth fyddai'n rhaid i Rhodri Morgan wneud i'w denu i'r siambr, tybed? Canu "Supercalifragilisticexpialidocious!" efallai? Dawnsio fel Dick Van Dyke?

Yn sicr mae angen gwneud rhywbeth. Roedd union hanner aelodau'r cynulliad yn absennol o sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw.

Nid y gwrthbleidiau oedd ar fai. Roedd wyth Ceidwadwr a phum Democrat Rhyddfrydol yn y siambr. Gan gynnwys y Llywydd roedd wyth o aelodau Plaid Cymru'n bresennol.
Faint o aelodau Llafur oedd yno i gefnogi eu harweinydd? Deg- a chwech o rheiny ar y meinciau blaen. Dim ond pedwar aelod meinciau cefn oedd yn credu bod hi'n werth gwrando ar Rhodri. Efallai fy mod wedi colli mas ar barti neu rywbeth.

Ifor Hael

Vaughan Roderick | 12:02, Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009

Sylwadau (4)

Nid fy lle i yw rhoi cyngor i'r llywodraeth nac i bleidiau gwleidyddol ynghylch eu cysylltiadau cyhoeddus. Ond pe bawn i'n rhoi cyngor i blaid lywodraethol oedd yn cael ei beirniadu am fethu a chadw ei gair ynghylch papur dyddiol Cymraeg mae'n bosib y byswn yn awgrymu ei bod wedi colli cyfle euraidd i dawelu meddyliau ei chefnogwyr mwyaf pybyr heddiw.

Cafwyd cyfres o fan gyhoeddiadau gan y llywodraeth heddiw. Doedd dim byd o bwys tragwyddol ond roedd 'na ambell i beth diddorol.

Efallai eich bod chi'n cofio'r £100,000 yna a roddwyd i Eisteddfod y Bala ychydig wythnosau yn ôl oherwydd "problemau arbennig wrth godi arian mewn ardaloedd gwledig". O goffrau'r adran dreftadaeth y daeth yr arian yna. Heddiw cafwyd cyhoeddiad gan yr adran economaidd yn gwarantu hyd at £300,000 i Eisteddfod Blaenau Gwent. Mae'n ymddangos nad yw hi'n hawdd codi arian mewn ardal drefol chwaith!

Cafwyd cyhoeddiadau gan yr adran addysg hefyd heddiw ynghylch cynlluniau gwariant cyfalaf yn eu plith mae cynllun gwerth tair miliwn o bunnau i ymestyn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl ac un arall gwerth £3.6m i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon ym Mlaenau Gwent.

At ei gilydd felly cyhoeddwyd cynlluniau gwerth £7 miliwn i hybu'r Gymraeg yng Ngwent. Siawns bod hynny'n haeddu datganiad i'r wasg. Oscar? Jocelyn?

Rhowch imi fy hyfryd got...

Vaughan Roderick | 10:47, Dydd Iau, 19 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Mae pobol yn marw ac anifeiliaid yn trigo. Beth yw'r ferf gywir ar gyfer LCO dywedwch?

Mae'n ymddangos bod rhybudd Elystan Morgan bod yr LCO Tai yn debyg o gael ei wrthod yn NhÅ·'r Arglwyddi wedi rhoi'r hoelen olaf yn arch y cais neu o leiaf yr hoelen olaf yn arch y "feto". Mae'n debyg bod dadl seneddol yn ei gylch oedd i'w chynnal Ddydd Llun wedi ei "gohirio".

Am ryw reswm mae un o ganeuon Andrew Lloyd Webber yn dod i'r cof. "Ac awn yn ôl hyd y dechreuad..."

Jac Codi Baw

Vaughan Roderick | 20:25, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009

Sylwadau (6)

Go brin fod llawer yn galaru erbyn hyn ynghylch diflaniad siroedd 1973. Fe fydd 'na fawr o alar ar ôl eu pencadlysoedd ychwaith.

Oce, dyw Cwmbrân byth yn mynd i fod yn Farcelona neu Gaerfaddon ond fe fydd hi'n fwy deniadol unwaith mae Neuadd Sir Gwent wedi dymchwel. Chwarae teg i Gynghorau Torfaen a Sir Fynwy am alw'r bwldosers i mewn!

Oes unrhyw siawns y bydd cynghorwyr Sir Fflint yn dilyn eu hesiampl? Wedi'r cyfan, pe bai Neuadd Sir Yr Wyddgrug yn mynd fe fyddai gobaith i adeilad arall ennill cystadleuaeth y plorod pensaernïol!

Er mwyn y nefoedd...

Vaughan Roderick | 19:26, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Prin fod angen prawf pellach o ba mor drwsgl a hurt yw cyfundrefn ddeddfu Cymru fel mae'n bodoli ar hyn o bryd. Serch hynny wrth i'r LCO tai ddiflannu i ryw bydew yn NhÅ·'r Arglwyddi gadewch i ni ystyried y broses scriwtineiddio y mae'r LCO Iaith yn dioddef ar hyn o bryd.

Pwyllgor Deddfwriaeth (5) y cynulliad sy'n ystyried yr LCO yn y Bae. Ar y degfed o Fawrth fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan David Rosser a Leighton Jenkins o CBI Cymru. Yr wythnos hon cafodd y mudiadau iaith eu cyfle gyda Menna Machreth a Sioned Haf yn cynrychioli Cymdeithas yr Iaith ac Alun Owens yn siarad ar ran yr Urdd.

Ddydd Llun nesaf fe fydd y Pwyllgor Dethol wrthi yn San Steffan. Pwy yw'r tystion? Ymhlith eraill David Rosser, Leighton Jenkins, Menna Machreth, Sioned Haf ac Alun Owens.

Gwallgofrwydd.

Ar y Bocs

Vaughan Roderick | 14:40, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Am resymau amlwg dydw i ddim wedi 'sgwennu llawer ynghylch trafferthion ITV Cymru ac ymateb S4C a'r Ö÷²¥´óÐã i'r trafferthion hynny.

Cefndir y cyfan wrth gwrs yw dadl ITV plc nad yw rhaglenni "rhanbarthol" yn gynaliadwy yn y tymor hir oherwydd y chwyldro digidol a'r amgylchiadau economaidd. Mae'n ymddangos bod Ofcom, y Llywodraeth Brydeinig, y Cynulliad a'r darlledwyr eraill i gyd wedi derbyn y ddadl honno gan chwilio am ffyrdd i roi cymorth i ITV gynnal y gwasanaethau lleol.

Pam felly y mae a UTV, y cwmnïau annibynnol sy'n darparu gwasanaethau Sianel Tri'r Alban a Gogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi eu bod yn cynyddu eu horiau lleol yn sylweddol?

Mae'r esboniad yn ddigon syml. Mae'r ddau gwmni wedi sylwi bod TV3, yr orsaf yn Weriniaeth Iwerddon sy'n ail-ddarlledu cyfran helaeth o raglenni ITV, yn talu llawer yn llai amdanyn nhw.

Trwy ddangos llai o raglenni rhwydwaith mae STV a UTV yn ceisio ennill yr hawl i dalu pris y farchnad am raglenni y maen nhw'n dymuno eu cael yn hytrach na chyfrannu at y coffrau canolog yn unol â fformiwla hanesyddol.

Os ydy'r ddau gwmni yn llwyddo mae 'na beryg difrifol y bydd Cymru'n colli mas. Yn y fath amgylchiadau fe fyddai'n rhaid i Ofcom ail-ystyried y cwestiwn o drwydded Sianel Tri annibynnol i Gymru ac fe fyddai'r trafodaethau presennol braidd yn amherthnasol.

Nadolig bob yn ail ddydd Iau...

Vaughan Roderick | 16:41, Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2009

Sylwadau (3)

"Ar fryniau bro Afallon
Mae pawb yn byw yn hen
Does neb yn colli ei dymer
Ac mae gwg 'run fath a gwên
..."

Mae'n anodd anghytuno a bwriad y Mesur Dysgu a Sgiliau sy'n cael ei drafod gan y cynulliad heddiw. Go brin y byddai'n unrhyw un yn dadlau yn erbyn cynnig dewis mwy o eang o bynciau i ddisgyblion a myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed trwy ofyn i ysgolion a cholegau addysg bellach gydlynu eu darpariaeth.

Yn Afallon Dafydd Iwan mae'n siŵr y byddai'r fath beth yn digwydd yn ddidrafferth. Yn ein Cymru fach ni fe allai hi fod yn anodd iawn wireddu'r freuddwyd.

Dyw'r syniad ddim mor newydd â hynny. Pan oeddwn i yn y chweched fe wnes i'n rhan fwyaf o'n lefelau A yn yr ysgol ac un (gwleidyddiaeth fel mae'n digwydd) yn y Coleg Technegol drws nesaf. Y broblem yw wrth gwrs nad yw'r rhan fwyaf o'n hysgolion a'n colegau'r drws nesaf i'w gilydd.

A fydd y ffaith bod cwrs wedi ei gynnwys mewn "cwricwlwm lleol" yn golygu bod y cwrs hwnnw ar gael i bawb mewn gwirionedd?

Pwy sydd i deithio o safle i safle- yr athro neu'r disgybl? Os y disgybl a fydd trafnidiaeth ar gael i'w cludo- ac os oes 'na pwy fydd yn talu? Os mai'r athro sy'n teithio o ysgol i ysgol oni fydd angen cyflogi nifer sylweddol o athrawon ychwanegol? O ble y daw eu cyflogau nhw?

A fydd disgwyl i ddisgyblion mewn gwisg ysgol gymysgu a myfyrwyr coleg sy'n dilyn cod disgyblaeth llawer mwy llac? Mewn sefyllfa lle mae plant ysgol yn mynychu cwrs mewn coleg a fydd myfyrwyr aeddfed y coleg hwnnw yn wynebu prawf CRB? Dywedwch fod Ysgol A yn cynnig cwrs TGAU Ffrangeg ac Ysgol B yn cynnig Sbaeneg. Onid yw hi'n anorfod y bydd y mwyafrif llethol o ddisgyblion yn dewis yr iaith sydd ar gael yn eu hysgol nhw? Os ydy disgybl wedi ei wahardd gan ysgol a fydd yr hawl ganddo i ddychwelyd yno i ddilyn cwrs?

Nid fi sy'n codi'r cwestiynau yma, gyda llaw, maen nhw bron i gyd wedi cael eu codi wrth i bwyllgorau'r cynulliad ystyried y mesur. Hyd yma mae'r atebion sydd wedi eu cynnig gan y llywodraeth i rai ohonyn nhw yn aneglur.

I fod yn deg nid mater i fesur yw'r cwestiynnau yma i gyd ond mater i reoliadau a phenderfyniadau lleol. Serch hynny dwi'n crafu fy mhen ynghylch sut yn union y mae'r system yma'n mynd i weithio.

Dydi problemau fel rhain ddim yn amhosib eu datrys ond dydyn nhw ddim yn hawdd eu datrys chwaith yn enwedig mewn cyfnod lle mae cyllidebau'r colegau a dosbarthiadau 6 yn cael eu cwtogi.

Mae'n siŵr eich bod chi'n cofio'r ffrae ynghylch ariannu'r cyfnod sylfaen mae'n anodd credu na fydd 'na ffrae debyg ynghylch y cynlluniau yma.

O Luned tyrd yn ôl...

Vaughan Roderick | 11:15, Dydd Gwener, 13 Mawrth 2009

Sylwadau (3)

Mae gen i'r parch mwyaf at Eluned Morgan ac unwaith dwi'n ddigon parod i gredu ei bod yn dweud y gwir wrth ddweud mai "treulio rhagor o amser gyda'r teulu" yw'r rheswm am ei phenderfyniad i roi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd. Wedi'r cyfan, a hithau ar frig y rhestr Lafur doedd dim peryg iddi golli ei sedd a does dwywaith chwaith ei bod yn mwynhau'r gwaith ac yn effeithiol wrth ei gyflawni. Rwy'n ddigon parod i dderbyn hefyd nad yw hi wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â'i dyfodol gwleidyddol er fy mod yn amau y bydd y "withdrawal syptoms" yn waeth na mae hi'n disgwyl.

Y posibilrwydd sy'n cael ei grybwyll amlaf ynghylch dyfodol Eluned yw y gallai hi olynu Rhodri Morgan fel cynrychiolydd Gorllewin Caerdydd yn y cynulliad. Wedi'r cyfan mae hi wedi byw yn yr etholaeth gydol ei hoes ac roedd ei thad yn rheithor yn Nhrelái ac yn cynrychioli'r ardal ar y Cyngor am flynyddoedd.

Beth bynnag yw barn Eluned am y syniad mae 'na reswm da iawn i feddwl y bydd 'na bwysau mawr arni i sefyll. Y rheswm hwnnw yw bod Gorllewin Caerdydd yn sedd llawer llai diogel nac mae rhai yn credu. O gofio statws a phoblogrwydd Rhodri Morgan, doedd maint ei fwyafrif yn 2007 ddim yn ddigon i argyhoeddi rhywun bod gafael Llafur ar y sedd yn gadarn.

Llafur; 10,390 (38.6%)
Ceidwadwyr; 6,692 (24.9%)
Plaid Cymru; 5,719 (21.3%)
Dem. Rhydd. 4,088 (15.2%)
Mwyafrif; 3,698 (13.8%)

Ers hynny mae dau beth wedi digwydd. Yn gyntaf cafwyd etholiadau lleol oedd yn dystiolaeth bellach o wendid Llafur yn yr etholaeth. Dyma gyfanswm cynghorwyr y pleidiau yn yr etholaeth.

Plaid Cymru; 7
Llafur; 6
Dem. Rhydd. 4
Ceidwadwyr; 2

Yr ail ddatblygiad yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu canolbwyntio eu hadnoddau ar Dde Caerdydd a Phenarth yn hytrach na'r etholaeth orllewinol o hyn ymlaen.

Canlyniad hynny, yn fy marn i, yw y gallai'r ras fod yn un agos iawn rhwng tri cheffyl y tro nesaf. Mae hynny'n creu sefyllfa ryfedd iawn.

Gorllewin Caerdydd yw'r unig etholaeth y tu allan i gadarnleoedd traddodiadol yr iaith lle y gallai pleidleisiau'r Cymry Cymraeg fod yn gwbwl allweddol. Pa ymgeisydd Llafur allai apelio at y pleidleiswyr hynny? Nid Ramesh Patel bid siŵr.

Efengyl Luc

Vaughan Roderick | 11:35, Dydd Iau, 12 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Efallai nad yw Luke Ellis yn enw cyfarwydd iawn i chi ond fe yw swyddog cyfryngau a mêt mawr Carwyn Jones. Mae'n ddigion posib mai Luke fyddai'n rhedeg ymgyrch Carwyn i olynu Rhodri Morgan. Pe bai Carwyn yn Brif Weinidog fe fyddai Luke yn ddyn o bwys. Mae e hefyd yn . A fydd e'n difaru sgwennu'r geiriau yma, tybed?

"A generation of people around and about my age (Thatcher's Children) are just not good choice makers. I see this with people my age and many of my peers from school unable to hold down jobs, relationships, or sometimes unable to hold a conversation for very long.

The 'Me Me Me' generation which the Tories gave birth to have given birth to their own little 'me me me' babies, who have grown into some of the poorest personal decision makers you could imagine, who sometimes seem to find it easier to decide to engage in drugs and crime "Just for sumfin to do like". There is no self respect in these people, no ambition for themselves, no hope to contribute anything to the area, nation or world the live in".

O.N. Rhag ofn i unrhyw un gam-ddeall, amau bod Luke wedi pechu ei fêts ysgol ydw i nid bod e wedi pechu'n wleidyddol!

Cri yn yr anialwch

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae hen ddigon o deitlau gan Ieuan Wyn Jones yn barod. Ond os nad yw Arweinydd Plaid Cymru, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog dros yr Economi yn ddigon iddo hwyrach y dylai ystyried ychwanegu " Rheolwr Tew" at y rhestr!

Nid awgrymu bod Ieuan yn magu bod ydw i yn fan hyn ond nodi'r ffaith ryfedd bod Ieuan wedi gorfod treulio'r rhan fwyaf o'i sesiwn gwestiynau heddiw yn trafod gwasanaethau trên Cymru. Nid ffenomena newydd yw hynny chwaith. Ers sefydlu'r cynulliad mae diddordeb obsesiynol rhai o'r aelodau mewn rheilffyrdd wedi bod yn amlwg. Pe bawn i wedi derbyn swllt am bob tro yr oedd cyffordd Cogan a gorsaf Carno wedi cael eu crybwyll yn y siambr byswn yn gallu fforddio trip ar yr "Orient Express" erbyn hyn!

Mae'n ddigon hawdd bod yn gellweirus yn fan hyn ond y gwir amdani yw bod gwasanaethau rheilffyrdd Cymru wedi gwella'n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf. Mae 'na fwy o deithwyr ar fwy o drenau yn mynd i fwy o lefydd nac oedd 'na cyn sefydlu'r cynulliad, prawf, os oedd angen, bod aelodau gweithgar a dygn yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pob dydd eu hetholwyr.

Cafwyd enghraifft arall o hynny'r wythnos hon gyda'r newyddion bod un o ysbytai mwyaf hynafol Cymru, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, i ail-agor degawd ar ôl ei gau. Dydw i ddim yn meddwl bod hi'n ormodedd i ddweud na fyddai hynny wedi digwydd onibai am ymgyrch diflinno gan Jenny Randerson ac ambell i wleidydd arall.

Mae adeiladau craidd y CRI yn dyddio yn ôl i'r 1830au ac maen nhw'n rhai hynod grand. Fe fydd gwylwyr Doctor Who yn fwy cyfarwydd â nhw o dan yr enw "Albion Hospital" un o leoliadau rheolaidd y gyfres deledu.

Ond nid pwysigrwydd hanesyddol yr adeiladau oedd cymhelliad Jenny Randerson wrth frwydro yn erbyn y penderfyniad i gau'r lle ac ar ôl i hynny ddigwydd dros ei ail-agor.

Lleoliad y CRI oedd yn darbwyllo Aelod Canol Caerdydd bod 'na ddyfodol i'r hen le. Bwriad yr Awdurdod Iechyd oedd codi cyfleusterau newydd sbon i ddarparu gwasanaethau i drigolion de a dwyrain Caerdydd gan wneud hynny, mwy na thebyg, ar safle ar gyrion y ddinas. Yr un fath o feddylfryd oedd yn gyfrifol am leoliadau hurt rhai o'n hysbytai mewn mannau sydd bron yn amhosib eu cyrraedd trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r CRI ar y llaw arall o fewn tafliad carreg i orsaf rheilffordd gydag o leiaf dwsin o fysys yn mynd heibio'r lle bob awr.

Mae'n amlwg bod dadl Jenny wedi argyhoeddi'r Gweinidog Iechyd ac mae'n debyg y bydd y gwaith o addasu'r adeiladau yn dechrau flwyddyn nesaf.

Y tro nesaf i gyffordd Cogan a gorsaf Carno gael crybwyll fe fyddai'n fwy amyneddgar!

Llafur Caled

Vaughan Roderick | 15:22, Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Dyw gwleidyddion ddim gan amlaf yn hoff o osod targedi etholiadol. Gall llwyddiant cymharol ymddangos yn fethiant o fethu cyrraedd targed uchelgeisiol. Roedd hi'n syndod felly i glywed Nick Bourne heddiw yn brolio y gallai nifer yr aelodau seneddol Ceidwadol o Gymru gyrraedd ffigyrau dwbl yn yr etholiad nesaf.

Tair sedd sydd gan y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. O ble y gallai'r saith arall ddod? Mae Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro lle mae'r Aelodau Cynulliad yn Geidwadwyr ynghyd a Bro Morgannwg yn dargedau amlwg. Y tu hwnt i'r rheiny fe fyddair Ceidwadwyr yn gorfod dibynnu ar glwstwr o etholaethau cyfagos sef Aberconwy, De a Dyffryn Clwyd, Delyn a Maldwyn. Fe fyddai enill rheiny yn ddigon i gyrraedd ffigyrau dwbl, jyst. Mae'n anodd rhagweld y gallai'r Ceidwadwyr wneud llawer yn well na hynny. Mae Nick Bourne ei hun yn cyfaddef bod torri record 1983 o 14 sedd yn "annhebyg".

Ond mae fe gafodd record arall ei gosod yn 1983 gyda dim ond ugain o aelodau seneddol Llafur o Gymru- y nifer isaf ers yr ail rhyfel byd. Roedd ugain o hyd yn fwyafrif o'r 38 sedd oedd yn gan Gymru ar y pryd- trothwy seicolegol allweddol. Ydy hi'n bosib y gallai Llafur ennill llai nac ugain sedd tro nesaf a cholli ei mwyafrif am y tro cyntaf ers 1935?

Ydy, glei. Gadewch i ni gymryd bod y Torïaid (neu yn achos rhai ohonyn nhw, gwrthblaid arall) yn ennill yr un ar ddeg sedd uchod. Ychwanegwch Ynys Môn, Arfon, Dwyfor Meirionydd, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin, Llanelli, Canol Caerdydd, Brycheiniog a Maesyfed a Blaenau Gwent. Mae hynny'n ugain. Sylwch nad yw'r rhestr yn cynnwys rhai seddi y gwnaeth y Ceidwadwyr eu hennill yn 1983 (Pen-y-bont, Gorllewin Caerdydd a Gorllewin Casnewydd), seddi y mae Plaid Cymru wedi eu hennill mewn etholiad cynulliad (Rhondda ac Islwyn) na phrif darged y Democratiaid Rhyddfrydol (Gorllewin Abertawe).

Mae Llafur yn wynebu brwydr na welwyd mo'i thebyg ers y dauddegau ac yn gwneud hynny gyda threfniadaeth sy'n gwegian a choffrau gwag. Mae 'na flwyddyn gyffrous o'n blaenau!

WPS!

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Ydyn nhw'n gallu gwneud hynny- ydy e'n gyfreithlon?" Dyna oedd fy ymateb pan glywais gyntaf am y cytundeb rhwng Llywodraeth y Cynulliad a'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch yr LCO Tai.

Mae'n siŵr eich bod yn cofio bod y gorchymyn hwnnw yn cynnwys rhoi feto i'r Ysgrifennydd Gwladol dros unrhyw gynllun i wahardd yr "hawl i brynu" yn gyfan gwbwl. Achosodd dipyn o storom wleidyddol ar y pryd ond fe wnaethon ni gyd, newyddiadurwyr a gwleidyddion, gymryd yn ganiataol y byddai'r Llywodraeth a Swyddfa Cymru wedi cael gair bach a'u cyfreithwyr.

Gesiwch beth. Yng nghrombil San Steffan mae 'na griw bach o Arglwyddi wedi ac Aelodau Seneddol wedi bod yn crafu eu pennau. Doeddwn i ddim yn gwybod am fodolaeth yr "House of Lords & House of Commons Joint Committee on
Statutory Instruments" sydd wedi bod yn cael cipolwg ar yr LCO. Fe fydd pawb yn gwybod amdano nawr oherwydd bod y pwyllgor wedi dweud "" wrth Swyddfa Cymru a llywodraeth y Bae. Barn y Pwyllgor yw bod yr LCO fel mae'n sefyll yn anghyfreithlon. Does dim hawl gan San Steffan i glymu dwylo'r cynulliad yn y fath fodd!

Embaras.

DIWEDDARIAD; Mae'n debyg nad yw dyfarniad y cydbwyllgor yn rhwystro'r senedd rhag cymeradwyo'r LCO ar ei ffurf bresennol. Yn hytrach mae'n rhybudd y byddai'r senedd ffôl iawn i wneud hynny. Barn y cydbwyllgor yw y byddai her gyfreithiol i'r LCO yn debyg o lwyddo.

Tra môr...

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Mawrth, 10 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae'r llywodraeth newydd gyhoeddi y bydd yr Eisteddfod yn derbyn cymhorthdal ychwanegol o £100,000 eleni oherwydd " y trafferthion sydd yn wynebu'r Eisteddfod wrth godi arian mewn ardal wledig fel Sir Feirionydd".

Digon teg. Mae hi gymaint anoddach codi arian ym Meirionydd nac yn rhywle fel Blaenau Gwent, er enghraifft! Dwi'n betio nawr y bydd 'na gais am gyllid tebyg fwydyn nesaf oherwydd "y trafferthion sydd yn wynebu'r Eisteddfod wrth godi arian mewn ardal ddifreintiedig".

Wedi'r cyfan yn ôl adroddiad Grant Thornton mae angen £180,000 ychwanegol ar yr Eisteddfod yn flynyddol.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 6 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Roedd Dai Lloyd yn hynod feirniadol o Adam Price ar "Dau o'r Bae" heddiw. Os wnaethoch chi golli'r rhaglen gallwch wrando eto ar iPlayer neu drwy'r podlediad.

Y bonws ar y podlediad yr wythnos hon yw sgwrs a Bethan Rhys Roberts yn son am ei phrofiadau fel newyddiadurwraig wleidyddol yn enwedig ei chyfnodau'n gweithio i Le Figaro a gwasanaethau allanol y Ö÷²¥´óÐã.

Popio'r ploryn

Vaughan Roderick | 10:17, Dydd Gwener, 6 Mawrth 2009

Sylwadau (3)

Dydw i ddim yn gwybod beth fyddai cost codi pencadlys newydd sbon i lywodraeth y cynulliad. Dim llawer mwy na'r £42 miliwn y mae'r llywodraeth yn bwriadu eu gwario ac adfer ac ail-ddodrefni'n "CP2", y pendcadlys presenol ym Mharc Cathays, mae'n siwr.

Yn fy marn fach i, fe fyddai pencadlys newydd gwerth pob ceiniog pe bai'n golygu diflaniad CP2 y ploryn penseirniol ar wyneb ein priffddinas!

Does gen i ddim o'r geiriau i gyfleu fy nghasineb tuag at CP2, adeilad hyll a haerllug sy'n anharddu ardal sy'n un o drysorau penseirniol Cymru. Yr haerllugrwydd nid yr hylltra sy'n fy ngwylltio fwyaf. Fel un o adeiladau'r Raj gynt prin yw'r ffenestri sy'n edrych allan ar y bobol sy'n cael eu llywodraethu. Edrych i mewn ar ei gilydd mae'r gweision sifil.

Mae'r holl bensaernïaeth yn cyfleu delwedd o sefydliad sy'n gaeedig, yn gyfrinachol ac yn ddigroeso. Disgrifiwyd yr adeilad unwaith fel "enghraifft berffaith o bensaernïaeth drefedigaethol". Os am brawf o hynny cymharwch y ffos pymtheg troedfedd o ddyfnder sy'n amgylchyni CP2 a'r ffosydd o gwmpas cestyll y Normainaid.

Cyn i neb ddweud , dwi'n gwybod mai peryglon terfysgaeth oedd yr esgus am godi'r fath gaer. Os felly pam nad oes 'na adeiladau tebyg yn Westminster? Oes 'na fwy o beryg o derfysgaeth yng Nghymru nac yn Llundain? Ydy Parc Cathays yn llai pwysig yn bensaernïol na Whitehall?

Ond pechod mwyaf CP2 yw ei lleoliad. Dydyn nhw ddim ar gael ar y we ond mae cynlluniau gwreiddiol Parc Cathays yn werth eu gweld. Mae rhai o'r adeiladau i'w gweld heddiw, Neuadd y Ddinas, yr Amgueddfa a'r Brifysgol, er enghraifft. Ond yn coroni'r cyfan roedd adeilad na chafodd ei godi. Clamp o adeilad, dwywaith yn uwch na Neuadd y Ddinas yn ymestyn lled y parc wedi ei gynllunio yn yr un arddull "neo-baroque". Hwn oedd Senedd Cymru i fod yn cynnwys y "Welsh House of Commons" a'r "Welsh House of Lords".

Ffantasi bensaernïol yn hytrach na realiti gwleidyddol oedd y Senedd wrth gwrs ond fe osodwyd carreg ar y safle yn nodi ei fod wedi ei "ddiogelu am byth" ar gyfer Senedd Cymru. Yn y pumdegau lluniodd y diweddar Athro Dewi Prys Thomas gynlluniau newydd am senedd ar y safle yn arddull bensaernïol y " Festival of Britain"

Ar y safle hwn y codwyd CP2. Byncer i ysgrifenyddion gwladol o Wokingham a'r Wirral lle'r oedd Senedd Cymru i fod. Fe ofynnais rhai blynyddoedd yn ôl beth ddigwyddodd i'r garreg. Doedd neb yn gwybod. Wedi ei thaflu i ryw sgip, mae'n siŵr. Yn sgip hanes y mae CP2 yn haeddu bod hefyd!
.

Iechyd Da!

Vaughan Roderick | 15:04, Dydd Iau, 5 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Gan fod heddiw'n ddiwrnod rhyngwladol y llyfr dwi wedi bod yn crafu pen yn ceisio meddwl am bost sy'n ymylu ar fod yn berthnasol!

Dyw "Lady Gwen" ddim yn llyfr fel y cyfryw ond mae yn waith diddorol o ffuglen wyddonol- un o'r enghreifftiau cynnar o'r genre hwnnw. Cyhoeddwyd y stori fel cyfres yn y cylchgrawn "Cymru Fydd" yn anterth Oes Fictoria. Fel pob gwaith arall sy'n proffwydo'r dyfodol mae'n rhyfeddol o gywir am ambell i beth ac yn chwerthinllyd o anghywir am bethau eraill.

Propaganda dros ymreolaeth i Gymru yw'r stori. Prif Weinidog Cymru yw "Lady Gwen"- dipyn o broffwydoliaeth o gofio bod y stori wedi sgwennu chwarter canrif cyn i fenywod gael y bleidlais. Mae'n bosib hefyd bod yr awdur wedi cael breuddwyd rhyfedd yn cyfuno Dafydd Elis Thomas ac Elfyn Llwyd ac mai dyna oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i "Viscount Llanuwchllyn", arweinydd yr wrthblaid!

Roedd yr awdur yn gwbwl anghywir wrth broffwydo mai gweithred gyntaf senedd y Gymru rydd fyddai gwahardd diodydd meddwol. Bysai neb yn y cynulliad yn cefnogi hynny ond mae'r gwaharddiad ar ysmygu wedi cael effaith digon tebyg ar rai o'n tafarndai. Heddiw cyhoeddodd y Democratiaid Rhyddfrydol ystadegau'n awgrymu bod 5% o dafarndai Cymru wedi cau yn ystod y deunaw mis diwethaf.

Mae'r Tywysog Siarl wedi lansio ynmgyrch "Make the Pub the Hub" i sicrhau dyfodol tafarndai gwledig trwy eu troi'n ganolfannau sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau. Does dim byd o le ar hynny ond nid y tafarndai mewn pentrefi yw'r rhan fwyaf o'r rheiny sy wedi diflannu ond tafarndai lleol mewn ardaloedd trefol yn enwedig y rheiny sy'n rhy fach neu heb y cyfleusterau i gynnig gwasanaeth bwyd. Nid y gwaharddiad ar ysmygu sy'n llwyr neu hyd yn oed yn bennaf gyfrifol am eu tranc ond dyw e ddim wedi helpu.

Nid dadlau yn erbyn y gwaharddiad ydw i yn fan hyn ond datgan ambell i ffaith. Roedd aelodau'r cynulliad yn gwybod y byddai tafarndai yn cau yn sgil y gwaharddiad. Roedd hynny'n bris yr oedd yr aelodau yn fodlon ei dalu. Fe bleidleisiodd pob un o'r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid y gwaharddiad. Rhagrith yw brefu nawr ynghylch canlyniad anorfod eu penderfyniad

Cau'r Siop

Vaughan Roderick | 13:02, Dydd Iau, 5 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Mae blogiau'n mynd a dod ond rwy'n amau bod wedi gosod record! Trueni!

Mae diflaniad sianel wleidyddol ITV local yn dipyn o glec. Dydw i ddim yn sicr beth fydd effaith diwedd ITV Local ar y gan fod hwnnw yn fenter ar y cyd gyda S4C. Heb os mae'n un o'r safleoedd Cymraeg gorau ar y we. Fe fyddai'n golled difrifol.

DIWEDDARIAD;Meddai llefarydd ar ran S4C, "Mae gan S4C gytundeb gydag ITV i ddarparu gwasanaeth ITV Local Cymru. Rydym yn gweithio gydag ITV yn sgil y cyhoeddiad yn ymwneud ag ITV Local."

Dydw i fawr callach!

Dysgu Gwers

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Iau, 5 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn gwybod am eich ardal chi ond yma yng Nghaerdydd mae platiau "D" bron mor gyffredin â phlatiau "L" ar gefn ceir. Maen nhw mor gyffredin erbyn hyn mai'n anaml iawn y mae dyn yn sylwi arnyn nhw. Mae'n rhyfedd i feddwl pa mor hir a chwerw oedd y frwydr yn eu cylch.

Am flynyddoedd roedd platiau "D" yn cael eu gwerthu mewn garejis a siopau llyfrau ond roedd eu defnyddio yn dechnegol anghyfreithlon. O bryd i gilydd fe fyddai crwt chweched dosbarth o Fotwnnog neu Ystalyfera yn cael ei arestio gan blismon ifanc brwdfrydig am arddangos plat "D" ac roedd Y Swyddfa Gymreig a'r adran drafnidiaeth yn fyddar i bob ple am newid yn y rheolau.

Roedd esgusodion y Swyddfa Gymreig yn bathetig. Maen nhw'n werth eu hail-adrodd er mwyn cofio pa mor dila oedd gweledigaeth gweision sifil Parc Cathays a pha mor ddilornus oedd eu hagwedd tuag at y Gymraeg.

Am unwaith doedd hi ddim yn bosib defnyddio'r ddadl gyntaf ar y rhestr esgusodion y Swyddfa Gymreig - y gost. Y modurwr wedi'r cyfan oedd yn talu am y platiau.

Doedd hynny ddim yn broblem i adran esgusodion y Swyddfa Gymreig - yr adran fwyaf effeithlon yn y swyddfa o bell ffordd. Wedi'r cyfan roedd rhif dau ar y rhestr esgusodion yn gymwys. Fe fyddai platiau "D", wrth reswm yn "anniogel". Oedd y selotiaid ieithyddol yn fodlon gweld plant yn cael eu lladd er mwyn y Gymraeg?

Pan fethodd y ddadl honna argyhoeddi defnyddiwyd rhif tri ar y rhestr- y broblem drawsffiniol- y peryg y gallai rhywun torri'r gyfraith yn ddiarwybod trwy yrru dros y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd.

Nid dim ond arddel yr un hen esgusodion wnaeth y Swyddfa Gymreig. Roedd gallu ymenyddol gweithwyr yr Adran Esgusodion yn ddiharebol a thrwy "feddwl y tu fas i'r bocs" cynhyrchwyd esgusodion cwbwl newydd a gwreiddiol. Awgrymmwyd, er engrhraiift, nad y llythyren "L" oedd ar y platiau "L" ond symbol haniaethol. Dim ond ffŵl fyddai'n meddwl mai llythyren gyntaf y gair "learner" oedd y symbol hwnnw.

Dwi'n meddwl mai William Hague wnaeth benderfynu bod digon yn ddigon a gesiwch beth, dyw'r adrannau damweiniau a chelloedd heddlu Henffordd ddim yn orlawn oherwydd cyfreithloni platiau "D"!

Mae hynny'n dod a ni yn ôl at siop tsips Cas-gwent. Roeddwn i'n meddwl bod yr Adran Esgusodion wedi hen gau ond mae'n ymddangos ei bod wedi mudo o Barc Cathays i Tŷ Gwydr. Mae Swyddfa Cymru yn mynnu nad oes 'na unrhyw ddadl yn erbyn yr egwyddor o drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ddeddfu ynghylch yr iaith i Fae Caerdydd. Poeni am y "gost i fusnes" mae'r Ysgrifennydd Gwladol. Fe wnâi broffwydo y bydd cwestiynau ynghylch diogelwch a 'r broblem draws-ffiniol hefyd yn codi eu pennau yn ystod trafodaethau'r pwyllgor dethol. "Mae'r egwyddor yn iawn ond...."

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi agor y drws i'r dadleuon hyn trwy gytuno i osod trothwy yn yr LCO ynghylch maint y busnesau y gall y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch. Trwy gytuno i un amod rhoddwyd rhwydd hynt i aelodau seneddol osod amodau eraill. Fe fydd yr Adran esgusodion yn gweithio oriau ychwanegol!

Roedd Rhodri ac Ieuan yn mynnu nad oedd ei ildiad ar yr LCO tai fforddiadwy yn gosod cynsail. Nonsens Roedd cynsail wedi ei gosod a'r gynsail honno sy'n mynd i alluogi i'r pwyllgor dethol frathu eu tinau dros yr LCO iaith.

Anghofiwch am syniad y gallai talpiau sylweddol o bŵer gael eu trosglwyddo trwy orchmynion. Y farn yn San Steffan yw bod LCOs yn ddeddfau ac fe fydd Aelodau Seneddol yn eu trin gyda'r un manylder ac unrhyw ddeddf arall. "Setlo'r cwestiwn cyfansoddiadol am genhedlaeth"? Mae deddf Llywodraeth Cymru'n cwympo'n ddarnau'n barod.

Torri glo man yn fannach

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Oherwydd CF99 dydw i ddim yn cychwyn gwaith tan ddau ar Ddydd Mercher ac mae'n dipyn o ddefod gen i stopio am ginio yn y Black & White Cafe ar y ffordd i mewn. Caffi gweithwyr hen deip yw'r Black & White, yn cynnig ciniawau rhost, brecwastau trwy'r dydd, a chant a mil o bethau wedi eu ffrio gyda sglodion. Yr unig beth anghyffredin am y lle yw'r ffaith mae Radio 4 yn hytrach na gorsaf bop sy'n chware yn y cefndir.

Oherwydd hynny clywais drafodaeth hynod ddifyr heddiw ynghylch ymdriniaeth y cyfryngau o Streic y Glowyr. Hen gyfaill i mi, Nicholas Jones, gohebydd diwydiannol y Ö÷²¥´óÐã adeg y streic, oedd un o'r cyfranwyr ac roedd e'n gadarn o'r farn nad oedd y glowyr wedi cael chwarae teg gan newyddiadurwyr.

Dadl Nic oedd bod methiant y cyfryngau wedi ei seilio ar gyfres o ffactorau. Yn gyntaf doedd neb yn gallu credu y gallai Arthur Scargill fod yn gywir wrth honni y byddai'r llywodraeth yn llwyr ddifa'r diwydiant glo. Yn ail roedd canolbwyntio ar y niferoedd bychan o lowyr oedd yn dychwelyd i'r gwaith yn hytrach na'r niferoedd mwy oedd ar y llinellau piced yn dilyn naratif y cyflogwyr. Y ffactor bwysig arall meddai oedd bod newyddiadurwyr yn gweithio y tu ôl i linellau'r heddlu ac yn gweld pethau o'u safbwynt nhw.

Ar y cyfan rwy'n tueddu cytuno a Nic ond roedd profiadau newyddiadurwyr yn Ne Cymru ychydig yn wahanol. Gan fod y Maes Glo'n gyfrifol am dros hanner colledion y Bwrdd Glo doedd dim dwywaith yn ein meddyliau ni bod pob un o'r pyllau dan fygythiad. Ar ben hynny roedd penderfyniad cyfarwyddwr y maes Glo, Phillip Weekes i beidio cymell gweithwyr i dorri'r streic yn golygu bod y berthynas rhwng newyddiadurwyr a'r streicwyr yn gymharol wareiddiedig. Cafodd car Hefin Wyn ei racso- ond dynion caled fu glowyr Celynnen erioed!

Os unrhyw beth, tueddi ochri gyda'r glowyr a'r rheolwyr lleol wnaeth y cyfryngau Cymreig. Roedd hynny'n gymharol naturiol. Mae pob gwasanaeth newyddion i ryw raddau yn adlewyrchu safbwyntiau a rhagfarnau ei gynulleidfa.

Yr hyn sy'n rhyfedd i mi yw'r ffordd yr ydym yn ymdrin â'r diwydiant a'u sgil effeithiau heddiw gan ymddwyn fel pa bai torri glo rhan o hen hanes. Mae hynny'n bell o fod yn wir. Rydym yn son byth a hefyd am yr Wylfa, er enghraifft, gan anghofio bod y diwydiant glo yng Nghymru o hyd yn cyflogi llawer mwy o bobol na'r diwydiant niwclear.

Yng Nghwm Nedd mae cannoedd o weithwyr yn torri glo mewn gweithfeydd gafoodd eu cau gan Lo Prydain ac sydd wedi eu hail agor gan gwmnïau mawrion a Chymry mentrus. Draw yn Nyffryn Aman ar ôl blynyddoedd o segurdod ail-agorwyd y rheilffordd i wasanaethu'r gweithfeydd glo brig llewyrchus. Mae gorsaf drydan Uskmouth wedi ail-agor hefyd ac o lo y mae'r rhan fwyaf o drydan y de'n cael ei gynhyrchu. Lan ym Mhontypridd mae swyddogion yr NUM yn gweithio'n ddiwyd i wasanaethu degau o filoedd o gyn-lowyr a'u gweddwon.

Faint o sylw mae'r pethau 'ma'n cael? Dim llawer. Yn lle hynny rydym yn ail-bobi'r un hen luniau o'r streic pan ddaw rhyw ben-blwydd arbennig. Yr un hen beth, dro ar ôl tro.

Efallai bod Nic yn gywir bod y glowyr wedi cael cam gan y cyfryngau chwarter canrif yn ôl. Efallai eu bod o hyn yn cael cam heddiw.

Bron yn enwog

Vaughan Roderick | 14:32, Dydd Mercher, 4 Mawrth 2009

Sylwadau (1)

Diawch. Mae'r blog bach 'ma wedi cyrraedd ! Fe fydd yn rhaid i mi ffarmio'r ddalen!

Mr Murphy; When the order was published some weeks ago, some people thought that I was somewhat lukewarm on the issue of the Welsh language LCO. Indeed, this was referred to in Mr. Vaughan Roderick's blog, which is of course written in Welsh, but it has been translated for me because we have a very good Welsh language scheme in the Wales Office. In it he says:

"Paul Murphy's press release on the Welsh language LCO was rather lukewarm. He said more consultation was needed and that the order could change. To use his words, 'it is not set in stone.'"

Apparently, some Labour Assembly Members were amazed by the release, but it is not the Secretary of State that is to blame:

"Don Touhig is the problem. One said, 'Don is Paul's best friend, and they spend a lot of their spare time in each other's company, and with their families, and they go on holiday together like brothers."

So what I have to say on the Welsh language order is all the fault of my right hon. Friend the Member for Islwyn (Mr. Touhig).

Rwy'n ymfalchïo yn y ffaith bod gen i gyfieithydd swyddogol bellach!

Llyfr Mawr y Plant

Vaughan Roderick | 19:13, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (3)

Dydw i ddim yn gwybod o le ddaeth e ond mae llyfr plant wedi glanio ar fy nesg. Mae'n ddigon atyniadol a lliwgar wedi ei anelu at blant o gwmpas yr wyth oed byswn i'n tybio.

Mae'r llyfr yn adrodd hanes crwt o'r enw Mathias a'i wyliau yn Affrica. Yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei gyhoeddi.

Yr unig gŵyn sy gen i yw'r teitl. Onid oedd hi'n bosib dod o hyd i rywbeth mwy bachog na "Mathias and Amadou- Awakening to Development Co-operation"?

Eira Gwyn yn Salmon

Vaughan Roderick | 14:59, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (0)

Fe ofynnwyd i Arweinydd y TÅ· am ddatganiad ynghylch ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i'r tywydd garw diweddar heddiw. Dyma fe yn ei gyfanrwydd.

"It snowed. People got stuck. It melted."

Mae'n amlwg nad yw Carwyn yn cael ei dalu mesul gair!

Hen bethau anghofiedig...

Vaughan Roderick | 14:10, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Sylwadau (2)

I ddyfynnu Meic Stevens "Nid myfi yw'r un i ofyn pam..." ond mae problemau technegol wedi llesteirio system flogio'r Ö÷²¥´óÐã dros y dyddiau diwethaf gan ei gwneud hi'n amhosib i chi, neu fi, bostio. Ymddiheuriadau dwys.

Mae'n chwarter canrif ers sefydlu asiantaeth "Cadw" ac mae llyfryn i nodi'r achlysur newydd ei gyhoeddi. Dyw e ddim yn syndod efallai bod y ddau lun cyntaf yn y cyhoeddiad yn digwydd bod o lefydd yn etholaeth y Gweinidog Treftadaeth! Dim syndod chwaeth mai llun o Gastell Caernarfon yw'r cyntaf ond gallai'r ffaith mai Castell Dolbadarn yw'r ail fod yn arwyddocaol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig ers ffurfio'r glymblaid bresennol, cafwyd chwyldro tawel yn y ffordd y mae Cadw ac asiantaethau erauill yn cyflwyno ein hanes. Y gwyn yn erbyn Cadw ers talwm oedd bod yr asiantaeth yn dyrchafu henebion Rhufeinig, Normanaidd a Seisnig ac yn anwybyddu safleoedd Cymreig pwysig. Dyrchafu'r concwerwr ar draul y rhai cafodd eu gorchfygu oedd hynny yn ôl rhai. I eraill roedd synnwyr cyffredin yn awgrymu bod clamp o gastell yn haeddu mwy o sylw na thomen mewn cae.

Does dim dwywaith mai arddel y safbwynt cyntaf y mae Alun Ffred Jones. Yn ddiweddar cyhoeddodd gynllun gwerth dwy filiwn o bunnau i wneud safleoedd 'Cymreig' megis Sycharth a Chastell Deganwy yn fwy dealladwy. Heddiw fe aeth un cam ymhellach trwy fynnu bod angen i'r arddangosfeydd yn y safleoedd Normanaidd esbonio'u cyd-destun. Nid cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod Caernarfon cyferbyn â Rhosyr, Biwmares yn wynebu Abergwyngregyn a Chonwy ar draws y dŵr i Ddeganwy meddai ac fe ddylai Cadw sicrhâi bod ymwelwyr a'r Cestyll yn deall hynny.

Yn yr un modd, meddai, dylai ymwelwyr â Blaenafon ddeall nad "bywyd llawen gyda chôr meibion yn canu yn y cefndir" oedd bywyd y gweithiwr haearn a'r glöwr. I ddefnyddio gair y gweinidog eu hun roedd hi'n bwysig i bobol wybod pa mor "uffernol" oedd bywyd pob dydd yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Mae gen i lawer o gydymdeimlad a'r hyn mae'r gweinidog yn ceisio ei gyflawni. Sicrhau dysgl wastad hanesyddol yw'r bwriad, dwi'n meddwl, yn hytrach na defnyddio hanes Cymru fel propaganda gwleidyddol. Serch hynny mae angen cadw llygaid barcud ar wleidyddion wrth iddyn nhw ymyrryd yn y maes yma.

Un o fy hoff lyfrau yw nofel o 1937 o'r enw "Swastika Night" gan Katharine Burderkin. Thema'r nofel yw'r ffordd y mae'n bosib rheoli cymdeithas trwy reoli ei dealltwriaeth o'i hanes. Dwi'n rhyfeddu na wnaeth yr awdur ddwyn achos yn erbyn George Orwell am ddwyn y syniadau a'r stori ar gyfer 1984!

Dydw i ddim yn meddwl am eiliad bod Alun Ffred yn ceisio ymddwyn fel "Brawd Mawr" Orwell neu'n bwriadu sefydlu cwlt yr "Awyren Sanctaidd" fel Natsïaid Birderkin ond mae'n bwysig nad yw gwleidyddion yn defnyddio adnoddau cyhoeddus i ledaenu fersiwn bleidiol o'n hanes. Mae hynny'n wir am y "Museum of Britishness" y mae Gordon Brown yn ei chwennych ac fe fyddai'n wir hefyd pe bai arddangosfeydd cyhoeddus yn awgrymu mai "Aros Mae" yw'r gair olaf ar hanes Cymru!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.