Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Hanna gyda Deiniol Rees Clonc da Deiniol Rees
Chwefror 2007
Y mis yma cwrddodd Hanna â Deiniol Rees o New Inn, canwr ac actor enwog sydd yn awr yn byw yng Nghaerdydd ond yn dod nôl at ei rieni i New Inn.
Dyma'r sgwrs ges gydag ef.

A ydych yn cofio dechrau canu, pwy oedran oeddech chi?
Roeddwn yn 4 - 5 oed ac oeddwn yn chwilio am unrhyw esgus i ganu os oedd cynulleidfa . Cofio canu ar y grat tân , ac yng nghyngerddau Ysgol New Inn. Byddwn wastad yn gwneud dawnsio gwerin yn yr ysgol gyda Nia Bignell sydd yn ffrind mawr i mi o hyd. Cofiaf hefyd am fy chwaer Cerian ac am fy nau frawd Eilian Wyn a Sion yn canu gyda'n gilydd mewn cyngherddau. Un gân oeddwn yn canu oedd 'Y Tri Mochyn Bach'. A fi fyddai yn canu "wee, wee, wee" ar y diwedd, a byddai y dorf yn pisio chwerthin. Cofio hefyd gwneud noson lawen gyda Tom Lewis Aneddle yn arwain y noson.

A oedd llawer o ganu yn tÅ·^ chi?
Trwy'r amser, record o mam yn canu da'r "Perlau", recordo ar dâp, ac roedd dad yn canu "godro y fuwch"; roeddem yn ymarfer llawer i Eisteddfodau. Un o'r caneuon cynta i mi ganu oedd " Mi welais Jac y Do."

Pwy ganeuon oeddech yn hoffi?
Y record gyntaf gefais oedd Kylie Minogue a Jason Donovan ac roeddwn yn hoffi y record yma. Hefyd roeddwn yn hoff iawn o ganu gwreiddol "catchy".

A oeddech yn mynd i lawer o eisteddfodau, ac a fuoch yn llwyddiannus?
Roedd hyn yn dibennu ar yr athrawes ganu. Nid oeddwn yn llwyddiannus pan oedd Mam yn fy nysgu, gan ei bod wedi ffeili fy nysgu gan nad oeddwn yn gwrando. Felly es wedyn at Mrs Morgan cyn Meinir Lloyd a Bet Jones a chefais lawer o lwyddiant ar yr alaw werin a cherdd dant. Nid oeddwn yn "boy soprano", felly aeth unawdau allan drwy'r ffenest. Fy mrawd oedd â'r llais gorau yn y tŷ^. Enillais unawd sioe gerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003, yr uchafbwynt.

Beth oedd eich oedran pan wnaethoch ddechrau actio?
Pan oeddwn yn fach roeddwn yn hoffi gweld panto Dafydd Hywel, Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn ac wedi dod adre yn gwneud llwyfan o amgylch y llenni, Roedd dylanwad yr ysgol hefyd pan wnes Nia Ben Aur ac ymgom yn Ysgol Dyffryn Teifi.

Ydych chi wedi bod ar rhaglenni teledu?
Rwyf wedi bod ar Noson Lawen a "Tân ar Y Comin", a des yn 3ydd ar rhaglen dalent Ray Gravell Tip Top pan enillodd Tara Bethan, ac rydym wedi bod yn ffrindiau mawr ers hynny.

Sut aethoch chi fewn i fyd actio?
Es i Goleg Llanelli i wneud gradd mewn Performing Arts lle ces llawer o help a gwneud y ddwy sioe gerdd Oliver a Oklahoma. Wedyn es i Goleg y Drindod i astudio Theatr, Cerdd a Cyfryngau gan nad oeddwn yn medru penderfynu pa bwnc i ddilyn. Roedd cefnogaeth Marian Thomas pennaeth yr adran yn golygu lot i mi, ac oni bai amdani hi ni fuaswn wedi mynd mlaen i'r Coleg Cerdd a Canu Brenhinol yn Llundain am flwyddyn. Ond cyn hynny wnes TGAU Cerdd a Drama a wnaeth Meinir Jones fy athrawes cerdd rhoi llawer o hwb mlaen i mi, a ches y cyfle hefyd i fod ar Pobol Y Cwm fel Dafydd pan oeddwn yn Ysgol Dyffryn Teifi.

Beth ydach yn ei wneud nawr?
Rwyf yn paratoi cryno ddisg fydd allan erbyn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin ac fydd cân Nos Wener ar hon - y gan ganais ar y rhaglen TIP TOP. Rwyf yn beirniadu ambell dro ac edrych mlaen i feirniadu am y tro cynta' yn Eisteddfod yr Urdd ar yr Unawd Sioe Gerdd. Rwyf ar daith hefyd gyda panto Peter Pan.

Beth am y dyfodol?
Gorffen y gryno ddisg - hen bryd rhoi y llais ar dâp yn brofesiynol. Mae y galon yn tynnu tuag at West End Llundain a sioe gerdd, a chael fy nghymryd o ddifri. Ond hoffwn hefyd fod yn stylist a thrin gwallt. Gobeithiaf fynd i Lanelli am ddau ddiwrnod i ddysgu trin gwallt yn y dyfodol. Ond hoffwn fod hefyd yn Trolley Dolly - air host ar awyren a gweld y byd.

Pwy yw eich arwr?
Elton John am ei ganeuon a bum yn un o'r lleisiau cefndir iddo yn y Royal Opera House a chanu Circle Of Life ar y piano. Mae yn ganwr sydd a chymaint o emosiwn a meddwl.

Diolch i Deiniol am y sgwrs a wnes joio mas draw.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý