Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Ceffyl a chert Mae'r mynyddoedd yn fyw gyda sŵn carnau merlod
Mai 2010
Hanes pobl ardal Y Garthen sydd wedi ailddarganfod y grefft o yrru cerbyd

Gwrandewch yn ofalus!!! ac mi glywch sŵn yn pellter, sŵn carnau merlod ar hyd lonydd gwledig tawel yr ardal hon yn tynnu cerbydau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o bobl wedi ailddarganfod y grefft o yrru cerbyd.

Ymddengys bod y perchnogion ceffylau mwyaf brwfrydig lleol yn gynyddol yn gwerthfawrogi'r gwerth gyrru gan ei fod yn gwneud defnydd da o'u ceffylau yn ogystal ag ychwanegu gwerth at eu hanifeiliaid.

Gyda'r ardal hon eisioes yn enwog am fridio cobiau Cymreig a merlod, mae ganddi hefyd ei chyfoeth cudd o yrrwyr cerbydau brwdfrydig sy'n cystadlu i safonau uchel yn genedlaethol a rhyngwladol.

Mae'n un o'r ychydig weithgareddau lle y gall pobl o bob oed a gallu corfforol gystadlu ar sail gyfartal ac yn rhoi cyfoeth o dalent lleol.

Penderfynwyd yn niwedd 2009 i sefydlu clwb sy'n dwyn ynghyd yr holl selogion a ffurfio Clwb Cerbyd Dyfed.

Mae'r clwb yn tyfu'n gyflym gyda dros 35 o aelodau sydd yn dod o bob rhan o'r hen sir Dyfed a thu hwnt.

Mae'r aelodau yn dod o bob math o gefndiroedd, gan gynnwys o blant ysgol i bensiynwyr sy'n gyrru holl ymarweddiad o geffylau a merlod.

Nid oes gan rhai o'r aelodau geffylau ond gweithiant yn frwdfrydig i helpu i drefnu digwyddiadau, ac i gynorthwyo gyda Cymorth Cyntaf a stiwardio ochr y ffordd.

Mae'r clwb wedi ei sefydlu fel clwb cymdeithasol i hyrwyddo arfer gorau gyrru cerbydau'n ddiogel.

Mae'n cwrdd y Dydd Llun cyntaf o bob mis yn nhafarn Felinwen ger Nantgaredig. Daw person gwadd i'r clwb bob mis i areithio ar y gwahanol agweddau o yrru cerbyd, o wneud harness i filfeddygon a saer troliau.

Mae'r agwedd addysgiadol o'r clwb yn cynorthwyo aelodau i wella ei ymwybyddiaeth a safonnau diogelwch, ynghyd a lles anifeiliaid, ac ar yr un pryd yn cysylltu a'r aelodau drwy ei gwefan.

Bydd y clwb yn trefnu dyddiau ymarfer a raliau cerbydau. Un or diwrnodau yma newidiodd fywyd Denise Dempsey o Siop y Sgwar Pencader.

Bu iddi gadw a marchogaeth ceffylau ar hyd ei bywyd, and cafodd y cyfle i yrru merlen oedd yn eiddo i Gadeirydd y Clwb Lester Dagge. Dywedodd er iddi gadw ceffylau ar hyd ei bywyd, ni wyddai y medrau gael cymaint o sbri gyda merlen.

'Roedd y gelfyddyd o yrru cerbyd ceffyl wedi cydio yn Denise, nes iddi werthi ei cheffylau marchogaeth a phrynnu popeth sydd eu angen ynghyd a Merlen Fynyddig Gymreig, a cherbyd a harnes oedd wedi ei gwneud yn lleol gan wneuthurwr o Rhydargaeau.

Wedi cael rhai gwersi mae Denise yn awr yn yrwraig brofiadol, ac fe'i gwelir yn aml yn gyrru ar hyd lonydd tawel ar gyrion Pencader.

Mae ei brwdfrydedd gymaint nes iddi yn ddiweddar drefnu rali i yrrwyr cerbydau ym Mhencader gyda saith yn cymeryd rhan

Bu i'r cerbydau fwynhau deuddeg milltir o yrru o amgylch Pencader, gyda the prynhawn wedi ei baratoi gan ei ffrinidau yn Neuadd Pencader ar ddiwedd y daith. Cafodd Denise a'r gyrrwyr eraill dipyn o syndod o weld nifer y bobl ddaeth allan i'w gweld yn mynd ar hyd yr heolydd ac yn dymuno yn dda iddynt.

Dywed Denise: "Rwy'n argymell pawb i ymuno a'r ffordd yma o ymlacio a mwynhau, gan ei fod yn ddifyrwch cyfeillgar iawn."

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B

About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý