Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Morfudd yn Nepal Cerdded yng Nghwm Langtang, Nepal
Mai 2004
Daw Morfudd Bevan-Jones yn wreiddiol o Brengwyn ond mae hi bellach yn gweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Mae hi newydd ddychwelyd o daith gerdded unigryw yn Nepal. Dyma'i hanes.

Profiad hollol anhygoel oedd hi i gerdded am ddeg diwrnod yng gaf Nghwm Langtang, Nepal. Mae'n gwm cul sy'n gorwedd i'r de o Tibet rhwng prif fynyddoedd yr Himalayas i'r gogledd a thirwedd is o fynyddoedd gydag eira i'r de. Roedd gen i dair wythnos i ffwrdd o'r ddesg a dim syniad o'r hyn fyddai o'm blaen.

Gwyliau cerdded ydoedd, ond yn ogystal â hyn, roedd yn gyfle i mi godi arian at wersyll ffoaduriaid Tibetaidd ym mhrifddinas Nepal, Kathmandu. Mae hwn yn gyfle da i mi fedru diolch i bawb a'm noddodd ar gyfer y daith, a rhannu ychydig o 'mhrofiadau.

Wedi 11 awr o deithio ar yr awyren, fe wnaethom gyrraedd maes awyr Kathmandu, lle gwnaethom dreulio dau ddiwrnod yn ymweld â'i phrif demlau. Mae Nepal yn un o'r gwledydd prin lle mae dwy grefydd, Hindŵaeth a Bwdïaeth yn cyd-fyw heb wrthdaro, a'r gymysgfa hon yn creu awyrgylch lliwgar ac aroglau bythgofiadwy.

Er hyn mae yna broblemau gwleidyddol yn dal i fodoli yn Nepal oherwydd ansefydlogrwydd y Brenin a'r galw am lywodraeth ddemocrataidd gan bobol y wlad, gyda llawer o wrthdaro yn bodoli rhwng plaid y comiwnyddion sef y Maoists a'r pleidiau gwleidyddol eraill. Roedd yna brotestiadau yn Kathmandu pan ro'n i yno, ond rhai heddychion, diolch byth.

Ar drydydd diwrnod ein taith, roedd gennym siwrne 5 awr o'n blaenau mewn bws ofnadwy o hen a'r un mwyaf ansefydlog i mi erioed ei weld. Fe'n cludodd i fyny'r cwm tuag at bentref Dunche ac oddi yno fe wnaethom gychwyn ar ein taith gerdded gyda'r porthorion. Roedd y siwrne yn un ofnus gan mai cyfyng oedd yr heolydd ar hyd ochrau'r mynyddoedd. Rhaid oedd i mi drio fy ngorau i beidio edrych lawr y dibyn - do'n i ddim am weld y pellter y byddwn yn cwympo petai'r gwaetha'n digwydd!

Roedd y profiad o gerdded y mynyddoedd yng nghanol Cwm Lantang yn bleserus ac anodd bob yn ail. Hon yw un o'r teithiau prydferthaf yn Nepal. Roedd y daith gerdded yn mynd â ni i fyny 5,000 metr at bentref Langtang lle ro'n i'n ffodus i weld rhewlifau yn yr oerfel. Gwelsom natur ar ei orau; Yaks a'u cotiau hir a mwncïod a geifr mynyddoedd i'w gweld ymhobman.

Roedd y pentrefwyr yn gyfeilIgar iawn ac yn awyddus iawn i gael ein lluniau wedi'u tynnu, gan wirioni ar ein camerâu digidol gan y gallant weld llun o'u hunain ar sgrin fach y camera. Yr hyn a'm tarodd fwyaf oedd gwisgoedd lliwgar a diddorol y pentrefwyr - y merched a'u gwalltiau hir tywyll bron yn cyrraedd y llawr, wedi'u haddurno â blodau. Roeddem yn aros mewn gwahanol wersylloedd ar hyd y ffordd ac yn treulio'r nosweithiau yng ngolau cannwyll yn chwarae cardiau ac yfed poteli rhad o San Miguel o amgylch y stôf. Yna, deffro am chwech y bore i barhau â'r cerdded unwaith eto.

Cefais gyfle ar ddiwrnod olaf y daith i ymweld â'r gwersyll yr wyf yn ei noddi yng Nghathmandu. Enw' r gwersyll yw Old Agehouse sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Menywod Tibet ar gyfer pobol mewn oed sydd wedi gorfod ffoi o Tibet. Nid yw'r sefyllfa yn Tibet wedi gwella llawer ers 1949 pan goresgynnwyd y wlad gan Tsieina. Heddiw mae Tsieina yn dal i gael ei ddominyddu â grym miloedd o filwyr. Mae hyn yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol a hawliau mwyaf sylfaenol pobol Tibetaidd am annibyniaeth. O ganlyniad, mae nifer wedi colli eu bywydau ac mae iaith a diwylliant y wlad yn colli tir yn gyflym.

Profiad annifyr oedd ymweld â'r gwersyll a gweld pobol mewn oed yn rhannu ystafelloedd bychain gyda'u holl eiddo yn y byd o amgylch eu gwelyau. Bydd yr arian rwyf yn codi yn mynd tuag at fwyd iddynt, a'r gwersyll yn gyffredinol. Os hoffech gyfrannu at yr achos, byddwn yn hynod ddiolchgar. mbj@llgc.org.uk


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý