Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Nodiadau Natur - Yr Haf
Mehefin 2006
Jonathan Neale o Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn sôn am yr haf, cyfnod prysur a ffrwythlon yn ein cefn gwlad agored a'n harfordiroedd.

Fel y proffwydodd Swyddfa'r Tywydd, profodd y gaeaf a'r gwanwyn yn oerach a sychach nag arfer, ac fe ddaeth heulwen cynnar mis Mai fel bendith fawr i'r ysbryd. Daeth blodau'r coedlannau, megis clychau'r gog a blodau'r gwynt, yn sydyn i fywiogi'r golygfeydd coediog, cyn i ddail gwyrdd golau'r dderwen ddwyn yr haul ar ddiwedd y mis. Ond mae'r haf hefyd yn gyfnod prysur a ffrwythlon yn ein cefn gwlad agored a'n harfordiroedd.

Mae'r wennol ar ei hanterth yr adeg yma, yn plymio i mewn ac allan o ddrysau beudai di-rif ledled y wlad, ac fe welir adar to hefyd yn trydar wrth ymdrochi ar ymylon llychlyd buarthau ein ffermydd. Tu draw i gaeau'r fferm ar ein rhostiroedd a'n mawnogydd gallwch glywed sŵn prysurdeb y pryfetach, corhedydd y waun, ac - os ydych yn lwcus, gan nad yw mor niferus ag y bu - gallwch glywed cân afieithus y gylfinir. Cymharol ychydig o adar rhostiroedd sydd ar ein ffermydd erbyn hyn: mae'r gornchwiglen fwy neu lai yn gyfyngedig i'n morfeydd, ond mae ei ehediad acrobatig a gwich ei galwad deunod yn dal i atgoffa rhywun am ein porfeydd traddodiadol.

Toreth o dyfiant gwymon a chwrel

O fis Mai ymlaen bydd ein pysgotwyr yn dechrau dal mwy a mwy o bysgod, gan gynnwys mecryll a phenwaig, wrth i'r poblogaethau heigio i ddyfroedd bas ar ôl gaeafu ar waelodion y dyfroedd dwfn. Bydd y môr ar ei gynhesaf yn ystod Gorffennaf ac Awst, gyda thymheredd arwynebol o 19° C mewn rhai mannau ym Mae Ceredigion. Gyda'r cynhesrwydd yma daw toreth o dyfiant gwymon a chwrel ar sarnau tanforol y Bae ac ar arfordiroedd caregog Penfro a Llŷn, ynghyd a heidiau o sglefrod môr wedi'u cludo ar ein traethau gyda'r cerrynt deheuol o'r Iwerydd.

Ar ein glannau fe fydd modd gweld sbonc y glennydd yn bwydo ar wymon yn y tywod, ac yn eu tro bydd y rhain yn fwyd i'r pibydd torchog, sef aderyn bach del sy'n dodwy ei wyau cuddliw ymysg y tywod a cherrig mân y traeth. Ac yng nghysgod y twyni fe welir perlysiau, megis teim a'r friwydd felen - a daenwyd gynt ar lonau tafarndai canoloesol i wella'r arogi - yn cartrefu ar y tywod moel. Ymhellach i'r tir, fe fydd y pantiau gwlyb ysblennydd yn frith o liw porffor tegeirianau'r gors.

Hirddydd Haf

Wrth i mi sgwennu (a hithau'n ddiwedd mis Mai), mae hi'n glawio'n ddi-baid. Pan fo'r tywydd fel ag y mae heddiw, hawdd lawn yw cwyno am yr hinsawdd wlyb, and buan iawn y daw ein cefn gwlad a'n harfordiroedd i'r golwg ar ddiwrnodau braf i'n diddanu ac i swyno. Roedd ein cyndadau Celtaidd yn llawenhau yn ystod hirddydd haf (Alban Hefin) wrth losgi coelcerth, gan gredu bod hyn yn cryfhau grym yr haul. Rwyf innau hefyd o'r farn weithiau y dylem fynd allan i lawenhau a chlodfori mwy nag a wnawn ar fyd natur yr haf - er nad yw hi hwyrach yn dderbyniol cynnau tanau erbyn hyn!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý