Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Hen atgofion Hen Atgofion
Mehefin 2004
Bu Ysgol Tregroes yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed y llynedd. Diddorol iawn oedd edrych ar yr hen ddyddiadur. Dyma'r un a ddaeth ag atgofion melys - 27ain o Fai 1933


"The school Choir was successful in otbaining the First Prize in the Juvenille section of the National Urdd Eisteddfod at Caerphilly. Mr Ben Evans, Bronant, Conducted. This is the first time for such an honour to come to Cardiganshire." Bum yn aelod o'r Côr hwnnw. Mab i fferm oedd Mr Ben Evans ac yn aelod ffyddlon o Gapel Horeb. Tebyg mai trwy'r Capel y cafodd ei ddiddordeb mewn canu. Enillodd ddwy fedal aur mewn arholiad ysgrythyrol, yn 1921 ef oedd y gorau yn Sir Aberteifi.

Ein cyfeilyddes oedd Mrs Anie Evans, Argoed. Bu'n rhoi gwersi piano a dysgu canu i lawer o blant yr ardal.

Fel arfer, pan byddem yn mynd i gystadlu, byddem yn teithio mewn lori lo ar ôl i Mr Edward Davies Siop Croeslan ei golchi. Byddem yn eistedd ar fwrynnau a rhyw dô o darpolin dros ei pen. Bu'r côr yn cystadlu ac ennill yn Llanrhystud a Goginan. Ond 'roedd gwell i ddod. Dyma ni yn mynd ar trên o orsaf Llandysul i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Caerffili.

Cafwyd hwyl fawr, ennill y wobr gyntaf, ac roeddem yn neidio mewn llawenydd a chofleidio ein gilydd pan ddaeth y feirniadaeth. Diwrnod bythgofiadwy ond nid oedd wedi gorffen. Pan ddaeth y trên yn ôl i orsaf Llandysul yn hwyr iawn y noson honno, meddwl gweld y pentref yn wâg a thawel, pawb yn eu gwely, ond roedd llu o bobol yn yr Orsaf a'r Band Pres hefyd. Dyna groeso calonnog. Gorymdeithio gyda'r band, gan ganu a gweiddi, nes cyrraedd sgwâr Bradford. Yna, ar y Iawnt wrth ben y sgwâr roedd Dafydd Lewis, Gomerian, Joshua Jones ac eraill, yn ein llongyfarch. Pawb yn hwylus iawn.

Mae na gôr enwog iawn yn Sir Geredigion heddiw a rhaid ein llongyfarch am fod yn Gôr Gorau Cymru. Maent ar y teledu yn aml, a'u lluniau yn y papurau lleol. Yn anffodus nid oes gennym yr un llun o'n Côr bach ni! Ond mae merch Mr Ben Evans, Morfydd, wedi cael gafael ar y Tystysgrif gwreiddiol.

Rhai o'r aelodau oedd gyda fi, sy'n parhau i fyw yn ardal y Garthen, yw Mattie Jones, Marl George, Nansi Williams a Jenny Jones. Hoffem glywed os oes rhagor yn cyd-oesu â mi yn yr ardal.

Carys Fowles, Llandysul


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý