Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Traddodiadau'r Nadolig Ysgol Penboyr ar waith
Rhagfyr 2003
Mor braf oedd galw i mewn yn Ysgol Penboyr a chael hanes prysurdeb y tymor gyda'r pennaeth o'r staff.

Sail y dysgu oedd Addysg Bersonol a Chymdeithasol; gwneud y plant i fod yn ymwybodol o lwybrau diddorol, o dan ymbarél Operation Christmas Child.

Plant dosbarth 4 oedd yn arwain y prosiect. Bu iddynt ddanfon llythyr i bob plentyn yn yr ysgol yn gofyn am flychau, papur lapio ac anrhegion addas i fechgyn a merched, i greu anrheg Nadolig i blant llai ffodus. Roedd yr ymateb yn rhagorol, a'r canlyniad oedd 86 blwch yn llawn o bethau da.

Bu i gasgliad y Cwrdd Diolchgarwch yn yr Hydref i fynd tuag at y prosiect yma, gan gofio bod rhaid rhoi dwy bunt o arian ym mhob blwch. Wedi llawer o drefnu a pharatoi daeth y dydd i fynd a'r blychau i Garej Derwydd, Cynwyl Elfed. Cyn mynd, bu gwasanaeth arbennig yn yr ysgol, pryd y gwahoddwyd rhieni i mewn. Nawr mae'r blychau ar eu taith gyda cyfarchion Nadolig plant Ysgol Penboyr yn wresog ynddynt.

Yn ei dro eleni eto, daeth DYDD PLANT MEWN ANGEN. Diwrnod Pefriog a Sglefriog oedd hi yn yr ysgol, a'r disgleirdeb yma yn dod i mewn a £135. Da iawn nhw. Yn wir, mae plant Ysgol Penboyr wedi casglu dros fil o bunnoedd y tymor yma at achosion da.

Bu i'r Pwyllgor Athrawon a Rhieni drefnu noson gymdeithasol ym mis Tachwedd pryd y daeth The Body Shop Caerfyrddin a Siop Rhian Felindre i'w diddori. Roedd yn noson bleserus a difyr iawn. Delyth enillodd y Make Over. Ond er mor ddel iddi edrych, pwyllgor oedd yn galw arni, ac nid cinio i ddau. Nawr, mae'r staff a'r plant yn edrych ymlaen at weithgareddau'r Nadolig. Maent yn brysur yn ymarfer at berfformio'r Panto, Jac a'r Gneuen Ffa, dechrau Rhagfyr. Wedyn, daw'r cinio a'r parti arferol.

Bydd yna drip i Abertawe i fwynhauThe Snowman yn Theatr y Grand.Wedi'r holl waith caled yma, yn bennaeth, staff a phlant, boed iddynt i gyd gael Nadolig llawen, a phob hwyl yn y flwyddyn newydd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý