Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Y Llydawyr yn gwrando ar Jon Meirion Jones Cymdeithas Efeillio Llandysul a'r Fro
Mehefin 2010
Hanes ymweliad grŵp o bobl o Blogoneg, Llydaw i ardal Llandysul.

Daeth 48 o bobl Plogoneg, sef y pentref sydd wedi gefeillio a Llandysul a'r fro, i Landysul am dridiau ym mis Mai, ac aros gyda theuluoedd, fel arfer, yn y pentref a'r fro, sydd yn cynnwys tua 14 o ardaloedd.

Mae'r gefeillio wedi bod yn llwyddiannus iawn ers ugain mlynedd.

Roedd rhaglen lawn a diddorol iddynt, gan ddechrau gyda'r ymweliad i wersyll y carcharorion Eidalwyr yn Henllan.

Bu Jon Meirion Jones o Langrannog, yn dweud wrthynt yr hanes am y gwersyll a'r capel. Gwelwyd y ffilm "La Casa Di Dio" gan Owain L1yr, yn neuadd y Ddraig Goch Drefach Felindre, ar ô1 ymweld a'r Amgueddfa Wlan yn y pentref.

Ar ddiwrnod arall, aeth tua 50 ar daith mewn cwch am awr o Gei Newydd, ac wedyn ymweld a Ysgol Gynradd Gymunedol Bro Sion Cwilt.

Cafwyd adloniant gan blant yr ysgol, a bu Elin Jones A.C. a gweinidog amaethyddol dros Gymru, yn son am ei gwaith ac am hanes pysgota yng Ngheredigion, cyn iddynt gael cinio blasus iawn yn yr ysgol.

Yn y prynhawn, ymlaen i Wersyll yr Urdd Llangrannog, a gweld y deial haul, rhodd o Blogoneg 2008, sydd ar y wal yng nghanolfan treftadaeth ger y gwersyll.

I ddiweddu'r diwrnod cafwyd bwffe a thwmpath dawns yn Neuadd Tysul, yng nghwmni grip "Randwm", - a rhai Eidalwyr a Phwyliaid o'r ardal.

Roedd pawb yn cymdeithasu, cael hwyl ac hel atgofion, a braf gweld teuluoedd newydd yn dod draw gyda'r hen ffrindiau, erbyn hyn.

Ar ôl cinio Dydd Sul, roedd rhaid ffarwelio ynghanol y dagrau, a chanu ein hanthem genedlaethol, sydd yr un don ag anthem y Llydawyr, cyn iddynt deithio i Plymouth.

Diolch yn gynnes iawn i'r lletywyr, am roi croeso a llety unwaith eto i'r Llydawyr.

Fe fydd yr ymweliad nesaf i Lydaw yn 2011.

Am ragor o fanylion, cysylltwch a'r ysgrifennydd Nest James neu a'r drysoryddes Eileen Curry neu a'r Llywydd Wenna Bevan-Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý