Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Garthen
Twm Morys Twm Morys yn cyflwyno Llydaw
Mawrth 2006
Cymdeithas Gefeillio Llandysul a'r Fro yn cynnal cinio traddodiadol Gŵyl Santes Dwynwen yng nghwmni'r bardd Twm Morys.

Mae'n arferiad erbyn hyn i aelodau Cymdeithas Gefeillio Llandysul a'r Fro ddod ynghyd i ddathlu Gŵyl Santes Dwynwen. Eleni, ar nos Sadwrn yr wythfed ar hugain o Ionawr, cynhaliwyd y cinio traddodiadol gyda Twm Morys yn ŵr gwadd.

Anrhydedd oedd bod yng nghwmni y Prifardd poblogaidd hwn sydd hefyd yn ganwr enwog gyda'r band Bob Delyn a'r Ebillion. Gan ei fod wedi byw yn Llydaw am tua deng mlynedd roedd ganddo wybodaeth eang a dwfwn o'r wlad honno ac, wrth gwrs, mae'n feistr ar y Lydaweg ac yn ei siarad gydag arddeliad â llais mawr!

Drwy ei arddull storïol unigryw adroddodd hanesion am Lydaw, ei phobol, ei hanes a'i thraddodiadau. Daeth Llydaw yn fyw i bawb ac, er fod bron pawb a oedd yno ar y noson wedi ymweld â Llydaw fwy nag unwaith, cafwyd golwg newydd ar y wlad a'r gymdeithas.

Roedd Twm yn awyddus i sicrhau ein bod ni fel Cymry yn ynganu enwau Llydaw yn ôl y dull Llydewig yn hytrach na'r un Ffrengig, a chawsom ein drilio yn y grefft!

Cymharodd y gwahanol ddylanwadau a fu ar Lydaw a Chymru, a'r modd y llwyddom ni i gadw'r iaith ond, efallai golli traddodiadau eraill sydd wedi eu cadw yn Llydaw.

Roedd hi'n ddiddorol ystyried, er enghraifft, pam fod Llydawyr yn rhoi pwyslais ar brynu bwyd lleol, yn enwedig bwyd môr, ond fod y Cymry yn llugoer yn hyn o beth. Roedd y noson yn wir ddiddorol gyda chwerthin lleol iachus yn un o brif ddanteithion y fwydlen.

Erthygl gan Moelwen Gwyndaf


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý