Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Darlun cynnar o'r pentref O bentre o bentre
Chwefror 2003
Ymweliad â phentref Felinwen, ger Caerfyrddin - ddoe a heddiw.
Pentre bychan rhyw chwe milltir i lawr y ffordd i'r dwyrain o Gaerfyrddin yw'r Felinwen. Yr oedd y pentref ar brif ffordd yr A40 cyn i'r ffordd osgoi ddod â'i ynysu. Heddiw, wrth fynd heibio iddo ar y ffordd osgoi, y mae'r Felinwen yn edrych yn debyg i dwr o blant mewn cylch sy'n rhannu cyfrinach â'u cefnau yn y golwg. Fe welwch chi gefnau'r tai a'r fynwent y tu ôl i'r capel. Pan oedd yr A40 yn mynd trwy'r pentre rhaid oedd gwneud tro tebyg i ddolen cwpan i mewn i'r pentref cyn ymuno eilwaith â'r ffordd syth i'r ddau gyfeiriad.

Yr oedd yr ymwelwyr a ddeuai o Loegr i Gymru yn y l5fed ganrif yn rhyfeddu at ddull o fyw'r Cymry. Trigai'r Cymry yn grwpiau bychain mewn pentrefi neu mewn ffermdai gwasgaredig. I ryw raddau, y mae pentrefi dyffryn Tywi heddiw yn cadarnhau hyn, ac y mae Felinwen yn enghraifft dda o hynny.

Melin hynaf Cymru
Y mae'n bentref o ryw 14 o dai a ffermydd o gwmpas. Yn yr hen amser yr oedd yn uned hunangynhaliol. Wrth gwrs, i'r felin, sy'n dal i weithio heddiw yn cynhyrchu blawd, y deuai ffermwyr slawer dydd. Honnir mai dyma'r felin hynaf yng Nghymru, a'r un teulu, disgynyddion y teulu Harris sy'n dal wrthi hyd heddiw. Dwr o afon Annell sy'n troi'r rhod ers cenedlaethau; yr un afon ag oedd yn gweithio melin Llanddu ymhellach i fyny'r cwm pan oedd angen pannu'r brethyn a gynhyrchid gan deuluoedd yn eu cartrefi. Cyn bod trydan fe'i cynhyrchid gan bobl y felin flawd at eu defnydd eu hunain ac at ddefnydd y capel gerllaw.

Yr oedd crydd a chlocsiwr at wasanaeth y pentrefwyr ac efail y gof ar gyfer y ffermwyr yn bennaf. Yn niwedd y l9eg ganrif, David Morris a'r meibion Richard a Tom oedd y gofaint a gwasanaethent wyr bonheddig yr ardal yn ogystal â'r ffermwyr.

Tair tafarn i 14 ty!
Wedi dychwelyd o'r mart, cyfle i gymdeithasu yn y dafarn, ac y mae yna dri ohonyn nhw, y White Mill, y White Horse a'r White Lion. Mewn pentref o 14 o dai! Honnai un awdur, Dyffrynnog, yn y 19eg ganrif, bod rhyw hanner dwsin o ffermwyr yn y tafarndai o fore gwyn tan nos.

Macsu cwrw eu hunain a wnai'r tafarnwyr slawer dydd ac i'r dafarn yr ai'r gwragedd i nôl burum er mwyn gwneud bara. Y mae Dyffrynnog yn sôn fel y byddai'r tlodion yn mynd i brynu llond stên o'r hyn a elwid yn 'tabl bir' i'w yfed gyda'u bara a chaws. Ar ôl i'r tafarnwr olchi llestri'r macsu fe fyddai'n gwerthu llond stên o'r golchon am geiniog.


Felinwen yn y 1930au
Felinwen yn y 1930au
Cau'r ysgol
Caewyd yr ysgol yn 1974 wedi i ysgol newydd Nantgaredig gael ei hadeiladu, ond defnyddir yr adeilad o hyd ar gyfer plant o dan anfantais fel cangen o Ysgol y Myrddin yn y dre. Pan godwyd yr ysgol, cyfrannwyd tuag ati yn ariannol gan Eglwys Ebeneser, Abergwili a chynhelid oedfaon ac ysgol Sul yno am flynyddoedd yn enw Eglwys Ebeneser. Er bod cynifer o gapeli Methodistaidd yn y dyffryn, y mae capeli perthynnol i'r Bedyddwyr fel briwsion o gwmpas yr ardal, ac y mae Salem, Felingwm yn un o'r rhai hynny.

Flynyddoedd yn ôl, pan oedd Yr Athro Owen o Goleg y Presbyteriaid yn gwasanaethu yn Salem, aelod byddar o'r gynulleidfa oedd Jones, Alltygog, gerllaw. Trefnai'r Athro Owen y byddai Jones yn cael copi o'r bregeth ymlaen llaw fel y gallai ddilyn adeg y traddodi. Y mae Salem yn dal yn weithgar ond, fel pob lle arall o addoliad y mae'r aelodaeth wedi gostwng. Nid oes Eglwys yn y pentref gan i Eglwys Abergwili fwrw'i chysgod dros y trigolion, mae'n siwr.

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, dilynodd Daniel Davies, Ty croes, ei dad Siors fel gwehydd yn y pentref. Rhigymwr, neu fardd talcen slip, a gymerodd yr enw Anellyn, oedd Daniel. Enillai wobrau yn yr Eisteddfodau lleol am gyfansoddi cerddi ar destunau yn ymwneud ag adeiladau neu bobl leol. Gwerth ei waith heddiw yw iddo gofnodi enwau cymeriadau a digwyddiadau ei ddydd yn y llyfryn o'i waith 'Y Bellen Fraith', teitl hynod o addas.

Deil rhai o linellau'r bardd' ar gof yr ardal o hyd. Dyma'r gwpled a luniodd yn y fan a'r lle pan welodd ddyn meddw yn gwthio'i big i mewn i ddadl rhwng rhai o'r pentrefwyr.
Peidiwch chi gweud dim,
Bola chi'n rhy dynn.

Er cymaint oedd dylanwad yr A40 wrth iddi ymlwybro trwy'r pentref bychan, rhaid peidio ag anghofio'r rheilffordd a oedd â'i gorsaf ble mae garej High Noon yn awr. Bu'n gymorth ychwanegol i gysylltu'r pentref â'r byd mawr y tu allan o 1864 hyd 1963 pan gaewyd y rheilffordd ar draws y dyffryn.

Y mae trigolion y pentref wedi byw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg erioed, ond fel pobman arall, y mae tystiolaeth bod ty neu ddau wedi dod yn eiddo i deuluoedd ymhell y tu allan i'r ardal. Y gobaith yw y byddant yn ymdoddi yn gymdeithasol ac yn ieithyddol i fywyd Cymraeg Felinwen.

Mae cerdd arall o waith Anellyn, yn Cwlwm,yn disgrifio'r pentref yn ei ddull dihafal ei hun, tua'r flwyddyn 1866.

(Diolch i Brynmor Jones, brodor o Felinwen am ei gymorth parod).

Len Richards


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý