Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Aled Thomas. Llun gan S4C Aled a'i Adrenalin
Ebrill 2004
Gellid dadlau a ydi Aled Thomas o Gaerfyrddin, yn ei iawn bwyll a'i peidio! I'r rheiny sydd yn ei nabod fe fyddwch yn gwybod ei fod yn eithaf gwallgof, ac mae'n disgrifio ei hun fel clean off!

Yn wir, mae gofyn i chi fod yn eithaf gwallgof er mwyn cwblhau'r campau y bu Aled yn eu gwneud ar gyfer y rhaglen deledu Adrenalin sydd ar S4C bob nos Sadwrn am 7.30pm. Mae'r campau hyn yn cynnwys neidio oddi ar adeilad uchaf hemisffer y de gyda thamaid o weiren o amgylch ei ganol, naid parasiwt a nifer o neidiau bynji.

Yn sicr, nid yw cynnwys y rhaglen hon yn addas i'r gwan galon, ac mae Aled yn cyfaddef iddo gael ei galon yn ei wddf ar sawl achlysur. Ond wrth gwrs, mae Aled yn 'clean off' ac yn beth a elwir yn 'adrenalin junkie'.

Ar ben hyn oll, cafodd bron i dair wythnos yn Seland Newydd wrth ffilmio'r gyfres. "Ro'n ni'n aros yn Auckland y rhan fwyaf o'r amser, mewn gwesty ffantastig" meddai Aled, yn falch o'r cyfle i ddod â'r cyfan yn ôl yn fyw.

"Fe fydden ni'n cael $50 y diwrnod ac yn gwneud pethau na fydden i wedi dychmygu eu gwneud nôl gartre!" Fe ymddangosodd Aled ar y raglen Bang! Bang! Bangkok! nôl yn 2003, sef rhaglen pry' ar y wal yn dilyn hynt a helyntion criw o Gymry ifanc ar wyliau yng Ngwlad Thai. Roedd hi'n amlwg bryd hynny y byddai Aled yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth. "Does dim geiriau all ddisgrifio'r teimlad hwnnw wrth i chi fod ar fin cwympo oddi ar adeilad uchel neu neidio mas o awyren meddai Aled.

Mae 'na amheuon bob tro, a chyn gwneud unrhyw naid dwi'n difaru ac yn meddwl troi nôl. Ond beth yw'r pwynt mynd yr holl ffordd yno i wneud dim ond dychwelyd?" Mae Aled yn ein sicrhau bod popeth a wnaeth yn Auckland yn ddiogel - roedd 'na harnais i'w ddal yn sownd bob tro a phobol broffesiynol yn trefnu'r cyfan. Ond mae e hefyd yn dweud nad oes modd cyfleu'r hyn a deimlodd yno mewn ysgrifen, ond daw'r cyfan yn fyw iawn i ni yn y rhaglen deledu.

"Roedd camerâu wedi cael eu strapio amdana' i, un arall yn fy llaw a meicroffon arna i er mwyn clywed fy sgrechiadau!" meddai. Sgrechian wnaeth Aled yr holl ffordd lawr o dop adeilad uchaf hemisffer y de, i'w waelod, sef y Sky Tower yn Auckland, a bois ei glwb rygbi lleol yn edrych arno'n syn!

"Fi yw'r canolwr i dîm rygbi Athletig Caerfyrddin", meddai Aled, "ond mae'r bois yn rhoi mwy o barch i fi nawr!" Mae'n debyg mai ar y cae rygbi y bydd rhaid i Aled fwydo'i awydd am gynnwrf o hyn ymlaen, ynghyd ag yn y gwaith fel adeiladwr dur lle mae gofyn iddo gerdded ar hyd trawstiau uchel. Hynny yw tan y daw S4C i guro ar ei ddrws unwaith eto!

Gan : Heledd ap Gwynfor, Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý