Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Nerys Williams gyda'r eliffantod Gwireddu Breuddwyd
Mehefin 2004
Enw: Nerys Williams
Oed: 27
Merch yn enedigol o Gaerfyrddin yw Nerys Williams, mynychodd Ysgol y Dderwen ac yna Ysgol Bro Myrddin. Ers yn ifanc mae Nerys wedi ymddiddori mewn bywyd gwyllt a chadwraeth a byd natur yn gyffredinol.

Astudiodd gwrs gradd BSc. Sŵoleg ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd am bedair blynedd ac yn ystod ei thrydydd blwyddyn bu Nerys yn gweithio yn sŵ Paignton, Dyfnaint, fel ymchwilydd gwyddonol. Bu ynghlwm â dau brosiect yn ystod y cyfnod hynny;
  • Ymchwil i astudiaethau ymddygiad anifeiliaid mewn caethiwed - grŵp gwrywaith o 'Western Lowland Gorillas'
  • Cyfoethogi ansawdd bywyd cathod mawr - Llewod Asiaidd a Theigrod Sŵmatraidd.

    Wedi cwblhau ei gradd yn y Brifysgol cafodd Nerys yr awydd i astudio cwrs MA Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a dyna ddechrau ar ei gyrfa ym myd y cyfryngau. Cyd-gyflwynodd Nerys gyfres bywyd gwyllt a natur o'r enw Gwyllt gyda Iolo Williams ynghyd â chyflwyno un rhaglen yng nghyfres Gwyllt ar Grwydr, allan yn Ne Affrica gyda chreaduriaid y môr.

    "Dwi o hyd wedi cael yr awydd am fynd i Dde Affrica er mwyn cael y profiad o weld a dysgu am y bywyd gwyllt anhygoel sy'n byw yno," esboniodd Nerys. Gyda'r awydd ar fenter teithiodd Nerys bob cam i Dde Affrica gan ymgymryd â gwaith gwirfoddol ym myd cadwraeth bywyd gwyllt a natur o fis Ionawr hyd ddechrau mis Ebrill 2003.

    Ar gyfer y rhaglen deledu Gwyllt ar Grwyd, bu camerâu yn dilyn Nerys wrth iddi dreulio chwech wythnos ym Mae Plettenberg yn cynorthwyo staff yng Nghanolfan Astudiaethau Dolffiniaid.

    "Roedd y profiad yn un arbennig iawn i mi, fe ddysgais gymaint ond mwy na hynny fe wnes i fwynhau pob munud ohono' dywedodd Nerys. 'Gwelais anifeiliaid roeddwn ond yn breuddwydio am eu gweld ynghynt.' Ynghyd â ffilmio ar gyfer y rhaglen Gwyllt ar Grwydr, treuliodd Nerys chwech wythnos arall yn Ne Affrica yn cynorthwyo gyda'r Prosiect Cadwriaethol Garonga, Hoedspruit. Yno, daeth wyneb yn wyneb gyda llewod, eliffantod, crocodeilod a jiraffod a dysgodd llawer am adar, pryfed, coed a phlanhigion y gwylltir.

    Ar hyn o bryd mae Nerys yn gweithio i gwmni Telesgop, ac mi fydd yn cynorthwyo Sŵ Bryste yn y babell Wyddoniaeth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Yn ogystal â hynny mi fydd Nerys yn dechrau Cwrs Ymarfer Dysgu yng Ngholeg y Drindod yn mis Medi. Dymunwn bob lwc i Nerys yn y dyfodol.

    Bethan Rogers


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý