Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Iâ Dyddiadur Doctor yr Iâ
Mawrth 2006
Chwilio am rhywbeth gwahanol i'w wneud oedd Dr Lowri Bowen pan welodd hi hysbyseb ar gyfer swyddog ymchwil gwyddonol yn yr Antartig.
Llwyddodd i gael y swydd ac mae hi bellach yn gweithio fel yr unig feddyg yn gofalu am 21 o bobl ar Orsaf Ymchwil Rothera ar Ynys Adelaide.

Mae Lowri bellach gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o gyfleusterau meddygol ac yn wynebu amodau sydd gyda'r anoddaf ar y blaned am gyfnod o 18 mis. Mae CWLWM yn ffodus o dderbyn darnau o ddyddiadur Lowri:

Ar drothwy'r Nadolig dyma fi yn aros am funud i gael meddwl yn ôl dros y mis diwethaf. Mae e wedi diflannu yn gyflym. Er bod yng nghanol yr eira a'r oerfel, dyw'r Nadolig ddim yn teimlo'n naturiol rhywsut. Wedi rhoi'r trimmings lan. Yn ddoniol iawn - rhai ffoil yn hongian o'r to yw'r rhan fwyaf, ac achos yr holl static os yw pen rhywun yn cyffwrdd ynddynt ma' nhw'n cael sioc. Mae e bach fel y 'dodgems'!

Wedi hen setlo lawr yn y syrjeri erbyn hyn. Wedi treulio sbel yn perffeithio gwneud pelydr-x ar Skua (aderyn mawr) marw ffeindes i. Mae e'n edrych fel pterodactyl! Odd Jo (y doc arall) yn meddwl bo' fi wedi fflipio! Un o'r digwyddiadau mwyaf y mis yma oedd dyfodiad cwch y JCR. Roedd hi'n sownd yn yr iâ am ddau ddiwrnod ac yn agos i droi'n ôl. Trueni - am fod y cwrw wedi rhedeg mas fan hyn a dim ond Strongbow ar ôl! Roedd sôn am hedfan y bobl i fewn o Ganolfan Marsh. Er mwyn gwneud hyn roedd angen hedfan allan dros yr iâ i weld os oedd modd cael teithwyr y JCR i fewn rhyw ffordd arall. Ges i fynd ar yr awyren - profiad anhygoel.

Hedfan 200 milltir yr awr, 40 o droedfeddi uwchben y dŵr yn unig. Gweld yr iâ, morloi - a cwch y JCR oedd ei hun 60 troedfedd o faint. Llwyddodd y JCR i lanio a'r holl nwyddau bwyd, diod, adeiladu ac yn y blaen. Tri diwrnod caled wedyn o garto bocsys di-ri yn pwyso unrhywbeth o 3kg i 95kg. Yn gorfod gwneud cadwyn ddynol er mwyn pasio'r bwyd lan o'r cei ac i fewn i'r rhewgell. Tipyn o hwyl - ond dwi llawn cleisiau. Bydda i fel Arnie Schwarzenegger wedi dod nôl!

Ar ôl y gwaith caled caethom gêm o bêl-droed yn erbyn dynion y cwch. Heb eu curo o'r blaen - a colli oedd hi eto 4-1. Ond llwyddes i gymryd dau ohonyn nhw allan. Yn awr rwy'n cael fy enwi 'Killer Bowen' ar y cae! Ha! A sai wedi dechrau ar y bêl-rwyd eto!

Sôn am gleisiau. Dwi wedi derbyn sgiis ac eira-fwrdd hefyd. Wedi cael un tro ar yr eira-fwrdd. Cael hwyl arni. Wedi gallu dod lawr yn weddol.

Yr anifeiliaid yn dod yn nes i'r lan bob dydd. Y morloi, [crabbies a weddels] o fewn troedfeddi. Y pengwiniaid [Adelie] fel clowns bach o fewn dau hyd braich wrthai. Dy'n ni ddim i fod i fynd yn rhy agos, ond mae nhw yn mynnu dod i weld pwy yw'r 'pengwins' mawr oren sydd yn dod atynt! Wedi penderfynu bo fi moyn dod nol fel pengwin! Weles i un yn cwympo ddoe a llwyddo i gael ei ben yn sownd yn yr eira am 2-3 munud - ma' nhw mor dwp!

Yn edrych ymlaen i fynd lawr i Fossil Bluff yn y flwyddyn newydd. Mae e i'r De o fan hyn. Dyna lle mae'r awyrennau yn ail-lenwi â phetrol ar y ffordd i'r maes. Methu aros. Mae yna Aga yn y caban bach er mwyn coginio - cawn weld am y coginio! Er, dwi wedi llwyddo i wneud 'cheesecake' go dda. Sôn am fwyd - cafon ni 'flight' mewn o Punta Arenas tri diwrnod yn ôl. Heblaw'r ost cafwyd lot fawr o fwydydd ffres - bananas, afalau, orennau, avocado, tato, tomatos a letys. Bron anghofio sut oedd llysiau a ffrwythau ffres yn blasu. Erbyn hyn ma' beth sy'n weddill yn edrych bach fel ffrwythau Co-op Rhuthun!

Gwell mynd i wneud peth gwaith. Dyw'r gwyliau ddim yn dechrau tan 13.00 ar noswyl Nadolig. Yn bwriadu gweld fideo Cymru yn erbyn Awstralia heno hefyd.

Hwre! Lowri


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý