Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Norah Isaac Teyrnged Norah Isaac
Hyfref 2003
Teyrnged i Norah Isaac gan ei Gweinidog Y Parchedig Desmond Davies, a ddarllenwyd gan Mererid Hopwood ar ddydd ei hangladd yn Eglwys Llangynwyd ger Maesteg.

Cofiaf holi Norah un tro pam y dewisodd 'Llwybrau' yn enw ar ei chartref, enw anarferol, a dweud y lleiaf, ar dy. Atebodd fod ganddi ddau reswm. Yn gyntaf, am ei bod yn awyddus i'r enw ddechrau â llythyren nad yw'n digwydd yn yr iaith Saesneg, fel na byddai gan neb (gan gynnwys y postmon) unrhyw amheuaeth mai Cymry Cymraeg oedd yn trigo yno. A'r ail reswm oedd y ffaith ei bod yn gweld ei bywyd yn nhermau pererindod yn ymestyn allan ar hyd nifer o lwybrau gwahanol.

Dyma a welir yng ngardd flaen y ty: nifer o lwybrau, a rheiny'n mynd i sawl cyfeiriad. Os mai bwriad Norah oedd cynllunio'r ardd i fod yn ddarlun o'i bywyd, yna, yn sicr, fe lwyddodd yn ei hamcan, oherwydd fe droediodd ar hyd nifer o lwybrau tra phwysig yng Nghymru, a gadael ôl ei throed yn drwm ar bob un ohonynt - llwybr addysg a diwylliant; llwybr ysgol a choleg; llwybr Urdd Gobaith Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol; llwybr y ddrama a'r cyfryngau; llwybr crefydd a chapel.

Yr hyn sy'n arwyddocaol am y Llwybrau yn yr ardd yw eu bod i gyd yn dechrau o un man canolog, man lle y saif carreg fawr, nid annhebyg i un o feini'r orsedd.

Os mai niferus ac amrywiol oedd diddordebau a gweithgareddau Norah, y tu ôl i'r cyfan yr oedd un bersonoliaeth fawr, fyrlymus, ddeinamig.

Heddiw yr ydym yn ymgynnull ynghyd i fawrhau'r bersonoliaeth honno, ac i ddiolch i Dduw amdani.Fe'n gorfodir mewn gwasanaeth fel hwn i brynu'r amser. Wrth grynhoi ein sylwadau, nodwn dair nodwedd oedd yn amlwg ym mhersonoliaeth ac ym mywyd Norah:

1. Ei DAWN
Meddai ar ddawn gwbl eithriadol i gyfathrebu, i drosglwyddo gwybodaeth, ac i rannu gweledigaeth ac argyhoeddiad. Ble bynnag y gwelid hi - ar lwyfan; mewn ystafell ddarlithio; o flaen camera; ar ei haelwyd ei hunan - roedd yn gyfathrebwraig ddihafal, yn un a ddaliai sylw ei chynulleidfa ar unwaith, ac a lwyddai i gynnal y diddordeb hwnnw hyd y diwedd. Fe gyfoethogwyd y ddawn hon (ac fe gofiwn mai rhodd yw ystyr wreiddiol y gair dawn), gan dair elfen gwbl anhepgor:

(i) Gallu.
Gallu i ddadansoddi, i feirniadu ac i werthfawrogi. A gallu rhyfeddol i gofio. A gyfarfuom erioed â rhywun â chof mor eithriadol o finiog a chynhwysfawr â Norah? Gwyddoniadur o gof! Cofio ffeithiau, enwau, sefyllfaoedd, digwyddiadau, hanesion. Roedd teithio gyda hi yn y car yn troi ar unwaith yn wers hanes, a honno'n llawn cyfeiriadau bywgraffiadol, diddorol at enwogion y fro.

(ii) Gwybodaeth.
Roedd ganddi wybodaeth gyffredinol eang, ynghyd â gwybodaeth neilltuol am briod feysydd ei hastudiaeth. A gwybodaeth arbennig am eu harwyr, gwroniaid megis William Williams, Pantycelyn; Gruffydd Jones, Llanddowror; Twm o'r Nant; Ifan ab Owen Edwards; T Gwynn Jones; Saunders Lewis; Gwynfor Evans, heb anghofio, wrth gwrs, am y seren a ddeuai ar frig ei rhestr, yn amlach na pheidio, sef Iolo Morgannwg.

(iii) Angerdd.
Os bu farw Mari Tudur a 'Calais' wedi ei gerfio at ei chalon, yn sicr bu farw Norah a'r gair 'Cymru' wedi ei naddu mewn llythrennau breision at ei mynwes. Llosgai gariad at Gymru - ei hiaith, ei diwylliant a'i thraddodiadau gorau - fel tân eirias o'i mewn. Cymru oedd ei chenhadaeth. Ac ni all neb fod yn genhadwr heb i'r achos mawr a gynrychiola fod yn bopeth iddo.

Y nodweddion hyn a'i gwnaeth yn athrawes ac yn ddarlithwraig mor effeithiol. Y mae gennyf yn fy llaw gopi o 'Rhaglen Ysgol Gymraeg Aberystwyth' a sefydlwyd ym mis Medi 1939, a Norah wrth y llyw. Fel hyn y cyfeirir ati yn y llyfryn:
"Y mae Miss Isaac yn athrawes drwyddedig wedi ei hyfforddi yng Ngholeg y Barri. Yno derbyniodd dystysgrif y Bwrdd Addysg - gyda chlod. Ni fyddem yn disgwyl iddi ennill dim llai na'r clod uchaf, nac i'r sefydliad a'i hyfforddodd roi iddi ond yr hyn a haeddai."

Ac wele sylwadau pennaeth Coleg y Barri ar y pryd, sef y Brifathrawes Ellen Evans, ar yr hyn y bu'n dyst iddo yn Aberystwyth:
"Dyma o'r diwedd freuddwyd yn ffaith - plant Cymru yn cael addysg mewn awyrgylch drwyadl Gymreig yng ngofal athrawes o ddawn eithriadol. Bum yn gweld yr ysgol droeon, a phob tro llonwyd fy ysbryd wrth weld llwyddiant digymysg y gwaith.

2.Ei DYLANWAD
Yn anochel yr oedd dawn gyn ddisgleiried yn sicr o effeithio'n drwm ac yn barhaol ar eraill. Fe lwyddodd Norah mewn modd unigryw i ysbrydoli'r plant a ymddiriedwyd i'w gofal, ac i ysgogi'r cenedlaethau o fyfyrwyr a fu'n ddisgyblion iddi yng Ngholeg y Barri a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Magodd do ar ôl to o fyfyrwyr i fod, yn eu tro, yn athrawon medrus, a hwythau'n diolch am y cyfle a gawsant i fod wrth draed meistr.

Wrth gwrs, fel y gellid disgwyl, fe allai'r profiad hwnnw, weithiau, fod yn un poenus - ac ar adegau yn un dirdynnol! Pa sawl myfyriwr - fel eraill ohonom a fu â rhan yn rhai o basiantau Norah - a fu drwy'r felin o dan ei goruchwyliaeth, ond sy'n diolch heddiw am y ddisgyblaeth lem a'r gair o gerydd! Ni allai Norah gyfaddawdu ynghylch safon a gwerth. Ym mhob dim yr ymgymerai Norah ag ef, mynnai roi o'i gorau, a disgwyliai i eraill ymroi yr un modd.

Cafodd Norah berswâd arnaf (nid oedd gwrthod i fod!) i chwarae rhan yr Esgob William Morgan yn 'Y Gair a Gaed', sef y cyflwyniad a luniwyd ganddi i ddathlu Pedwar Canmlwyddiant y Beibl Cymraeg ym 1988. Roedd hynny'n brofiad i'w gofio, a minnau'n ymhwedd arni yn yr ymarferion olaf i drugarhau wrth William Morgan ac i adael iddo farw yn ei amser, gan ei bod yn ychwanegu'n ddiddiwedd at ei araith olaf i'w gyd-Gymru. (Cai Norah anhawster mawr i ollwng gafael ar eu harwyr wrth eu portreadu ar lwyfan!)

Y Pasg canlynol dyma fynd ar bererindod i Israel, a chael cwmni dau weinidog arall ar y daith, sef y Parchg. Cynwil Williams a'r Parch. Howell Evans - a fu'n chwarae rhan William Morgan pan lwyfanwyd y pasiant yn Llanddarog. Dyma gyrraedd Beth-shan, y lle strategol bwysig hwnnw rhwng Jesreel a dyffryn yr Iorddonen, y lle mae'r amffitheatr Rhufeinig yn dal i sefyll. Dyma Norah yn rhoi gorchymyn i Howell a minnau i gyflwyno perorasiwn William Morgan ar y llwyfan yn y fan a'r lle. Er gwneud popeth yn ein gallu i'w pherswadio o ffolineb y fenter (oherwydd byddai'r ddau ohonom yn dibynnu ar ein cof, ac yn sicr o faglu dros y geiriau), nid oedd dim yn tycio. Bu'n rhaid ufuddhau. Sylw Norah ar ddiwedd y perfformiad oedd: Dyna ni, pa weinidogion eraill yng Nghymru all ddweud iddynt lefaru geiriau enwog yr Esgob William Morgan ar lwyfan yr amffitheatr yn Beth-shan?' Gwir a ddywedodd.

Gwelwyd addysg - o ran dulliau, sgiliau, a moddion cyflwyno gwybodaeth - yn newid yn chwyldroadol yn ystod y degawdau diwethaf hyn. Meddai un athrawes wrthyf yn ddiweddar: "Roedd Norah yn ein trwytho yn y dulliau newydd hyn hanner can mlynedd yn ôl yn y Barri." Dyna fesur ei medrusrwydd, a'i dylanwad.

3. Ei DEWRDER
Yr hyn sy'n rhyfeddol (yn wyrthiol, yn wir) yw iddi gyflawni gorchestion o'r fath o dan anfanteision mor enbyd - anfanteision a fyddai wedi llorio rhai o'r cryfaf yn ein plith, a pheri iddynt wangalonni ac ildio'r dydd. Ond nid Norah. Er iddi, oddi ar ddyddiau plentyndod, ddioddef poen a llesgedd corff, ymwrolodd yn rhyfeddol, a magu ewyllys gref, a dycnwch a dyfalbarhad na allai neb â'i hadnabu ond ei hedmygu amdanynt. Cofiaf Lyn (Y Parchg. Lyn Rees) yn cyfeirio ati un tro yn nhermau bwndel o boen. A dyna ydoedd -yn gorfforol.

Drwy'r cwbl gwrthodai ymollwng, hyd nes i'r salwch olaf ei goddiweddyd. Yn anochel, rywsut, wrth inni goffau Norah, daw cwpled agoriadol cerdd deyrnged Gerallt Lloyd Owen i Saunders Lewis i'r meddwl:

Nid eiddil pob eiddilwch,tra dyn, nid llychyn pob llwch.

Ac yna, yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn daeth nifer o golledion chwerw (rhai ohonynt yn gwbl, gwbl annisgwyl megis bollt o'r glas) i roi prawf pellach ar ei nerth.

Beth a'i cynhaliodd? Yn ddi-os yr oedd Norah'n gymeriad cadarn, cryf, yn meddu ar benderfyniad di-ildio. Ond dyw hynny ynddo'i hunan ddim yn esboniad digonol.

Fel ei gweinidog gallaf dystio i'w ffydd ddiysgog, a chyhoeddi mai'r ffydd honno oedd ei chraig a'i hangor. Hefyd yn fy llaw y funud hon y mae copi o Credaf (Llyfr o Dystiolaeth Gristnogol) a gyhoeddwyd gan Wasg Gee ym Medi 1943 (sylwer ar y dyddiad), o dan olygyddiaeth y Parchg. J.E. Meredith, Aberystwyth. Ymhlith y cyfranwyr y mae Norah, a'i datganiad hithau'n adlewyrchu ei argyhoeddiad Cristnogol dwfn, ynghyd â'i heddychiaeth gref. Dyfynnaf air neu ddau o gyffes Norah:

"...dyma fi'n mentro rhoi gair ar bapur am imi gredu o cheir ynof rinwedd' mai i'r Ffydd Gristionogol y byddaf yn ddyledus amdani ... dilyn Crist a'i gyfarwyddyd yw uchelgais mwyaf bywyd. Credaf hyn yng ngwanwyn 1943 gyda mwy o argyhoeddiad nag erioed." Ei ffydd a'i gwnaeth yr hyn ydoedd. Ei ffydd a fu'n gynhysgaeth iddi yn y dydd blin.Bu dylanwadau bore oes - dylanwad mam a thad a theulu ar aelwyd grefyddol; dylanwad yr aelwyd ysbrydol yn Noddfa, Caerau (a gweinidogaeth y Parchg. Peregrine Davies) - yn rhai arhosol. Gwelais innau'r dylanwadau hyn yn dod i'r amlwg yn ei ffyddlondeb a'i chefnogaeth i eglwys y Tabernacl, Caerfyrddin, a'i gwerthfawrogiad o weinidogaeth y Gair; ac yn ei dewrder rhyfeddol yn wyneb cystudd a phoen. Fel Paul, gynt, fe allai Norah dystio: Canys pan wyf wan, yna'r wyf gryf' (2 Co r. 12:10).

Buom yn sôn ar y dechrau am 'lwybrau' pererindod Norah. Erbyn hyn fe gerddodd ar hyd un llwybr arall, a chroesi draw i'r byd sydd uwchlaw cymylau amser, byd heb fod ynddo na gwae na dioddefaint. Cafodd Ioan y Difinydd gip ar y byd hwnnw, an sicrhau yn ei weledigaeth ysblennydd ei fod yn fyd heb marwolaeth, na galar, na llefain, na phoen. A Phantycelyn yr un modd:

Byw heb fachlud haul un amser,
Byw heb gwmwl, byw heb boen,
Byw ar gariad anorchfygol
Pur y croeshoeliedig Oen.

Yr ym yn cofio Norah â diolch a gwerthfawrogiad yn ein calon. Cofiaf iddi ddweud un tro: Nid ffeithiau sy'n cyfoethogi bywyd, ond profiadau a theimladau. Fe gyfoethogodd hithau brofiad pob un ohonom, a mawr yw ein dyled iddi. Buasai bywyd pob un ohonom gymaint yn dlotach pe baem heb ei hadnabod.

Teyrnged Y Parchedig Desmond Davies i Norah Isaac


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý