Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Hywel Meilyr Griffiths Cadair Hywel
Gorffennaf / Awst 2004
Enillydd cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yw Hywel Meilyr Griffiths o Langynog. Cyn iddo fynd ar ei wyliau i Bortiwgal cymerodd amser i ysgrifennu ei argraffiadau i ni...

Byth oddi ar imi ddechrau barddoni a chynganeddu tua phedair blynedd yn ôl, un o fy mhrif uchelgeisiau oedd ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, fel pob person ifanc arall sydd yn ceisio barddoni dybiwn i!

Ysgrifennais y gerdd dros dri neu bedwar mis, (llawer iawn ohoni yn y bythefnos cyn y dyddiad cau!), ond bu^m yn meddwl amdani ers dechrau 'nôl yn y drydedd flwyddyn yn Aberystwyth.

Wrth i brotestiadau UMCA dros Goleg Ffederal Cymraeg i Gymru ddangos bod myfyrwyr a phobol ifanc y wlad yn dechrau sefyll i fyny dros eu hawliau unwaith eto, cefais fy ysbrydoli i ysgrifennu sut brofiad yw hi i fyw mewn tref fel Aberystwyth, sydd â chymaint o hanes o ymgyrchu dros yr iaith, yn ystod cyfnod mor gyffrous ag eleni. Yn y gerdd, ceisiais gyfleu'r teimlad o berthyn i gymdeithas o bobol sydd yn teimlo'r un mor angerddol â ni am Gymru a'r iaith Gymraeg, a sut y mae hynny yn medru bod yn angor cryf iawn i fywyd.

Roedd diwrnod y cadeirio, heb os nac oni bai, yn un o ddiwrnodau gorau fy mywyd.Er fy mod i'n teimlo'n sâl fel ci fore dydd Iau wrth deithio gyda fy nghariad o Lanberis at Bont Menai, ac yn edrych am rywle cyfleus i aros i gael chwydu bob pum munud, buan iawn y diflannodd y nerfusrwydd wrth gyrraedd y maes.

Roedd yn rhaid ffilmio pwt bychan i'r teledu yn y bore, wedyn roedd tua teir awr gyda fi i laesu dwylo o amgylch y maes a thrio osgoi unrhyw rai roeddwn i'n eu hadnabod, rhag ofn iddyn nhw amau rhywbeth! Feiddiwn i ddim mynd i Gaffi Mistar Urdd i gael tamed i fwyta chwaith, rhag ofn i'r nerfusrwydd daro eto!

Deirawr yn ddiweddarach, ar ôl bod yn eistedd ym mhabell Cymdeithas yr Iaith am sbel, ac ar ôl cwrdd â'r teulu' ro'n i'n eistedd yn y Pafiliwn yn cnoi fy ewinedd. Buan iawn y sylweddoles y byddai'n rhaid i fi godi cyn bo hir! Tawelodd fy meddwl dipyn yn ystod y feirniadaeth, a draddodwyd gan Cen Williams. Mae cael canmoliaeth fel yna gan brifardd yn gwneud cymaint i hyder rhywun sy'n trio dechrau ysgrifennu. Roedd clywed bod fy ffrind, a'm hathro barddol, Eurig Salisbury wedi dod yn gydradd ail, yn wych hefyd mater o amser yw hi cyn iddo fe ennill cadair yr Eisteddfod.

Ar ôl trio atal fy hun rhag codi cyn diwedd y ffanffer, ac ar ôl y profiad hollol unigryw ac anhygoel o sefyll i fyny o flaen llond pafiliwn o bobol, ro'n i'n eistedd yn y gadair. Mae'r hyn a ddigwyddodd ar ôl hynny yn dipyn o gymysgedd; dawns 'flodau' fodern iawn, cyfarchiad gwych ar ffurf englyn, addasiad ffilm ardderchog, ceisio cofio geiriau Ymdeithgan yr Urdd, a chael fy mrysio o gyfweliad i gyfweliad tra'n trio gweld fy nheulu a 'nghariad a'm ffrindiau rhwng pob un.

A nawr mae'r gadair dal, hynod o hardd a chelfydd yn y gegin gartre a phawb o'r teulu wedi cymryd eu tro i eistedd ynddi. Un peth sy'n sicr, fydda i byth yn meddwl am Ynys Môn yr un fath eto!

dan ofal Prosiect Papurau Bro


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý