Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Ioan Wyn Evans Portread o Ioan Wyn Evans
Gorffennaf - Awst 2005
Portread y mis hwn ydy'r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans sy'n byw yng Nghaerfyrddin.
Beth yw eich cefndir?
Fel Heulyn Roderick, am henwebodd i, rwy' hefyd yn un o fois Llanbed, ac wrth gwrs yn Gardi. Er y byddai rhai yn dadlau 'mod i ddim yn Gardi pur oherwydd 'mod i wedi cael fy ngeni yn hen Ysbyty Heol y Prior yma yng Nghaerfyrddin. Ond yng Ngheredigion y ces i fy addysg i gyd.

Yn gynta' yn Ysgol Gynradd Ffynnonbedr, Llanbed, cyn mynd 'mlaen i Ysgol Gyfun y dre. Wedyn astudio Hanes yn Aberystwyth - yn ddigon agos i anfon y golch nôl adre ! Penderfynu aros yn Aberystwyth ar ôl gadael coleg a chael gwaith ar hap a damwain, fwy neu lai, fel gohebydd dan hyfforddiant gyda'r Cambrian News. Prin y buodd gohebydd mwy diglem yn adrodd hanes Sioe Amaethyddol Aberystwyth erioed!

Ymhen blwyddyn wedyn cael lle ar gwrs newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, a mynd 'mlaen i dreulio dwy flynedd a hanner fel ymchwilydd i'r dyn ei hun - Sulwyn Thomas - ar ei Stondin Ddyddiol ar Radio Cymru. Roedd hynny'n brofiad gwych, ac yn gyfnod hapus iawn. Ar ôl blwyddyn gyda rhaglen faterion cyfoes Ö÷²¥´óÐã Cymru, Taro Naw, fe dreuliais i ryw ddwy flynedd yn gweithio fel gohebydd newyddion gyda'r Ö÷²¥´óÐã yn swyddfa Heol y Prior yng Nghaerfyrddin.

Er saith mlynedd bellach rwy' wedi bod yn ohebydd gyda rhaglen faterion cyfoes ITV Cymru, Y Byd Ar Bedwar.

Ble ry'ch chi'n byw.
Ry'n ni newydd symud i fyw yn Lôn Hir, Caerfyrddin. Cyn hynny ro'n i'n byw lawr yn Allt Ioan, yn Nhre Ioan - cyd-ddigwyddiad llwyr a dim cysylltiad o gwbl gyda fy enw i, rwy'n prysuro i ddweud! Rwy'n briod â Gwenllian, sy'n athrawes, ond mae wedi treulio'r chwe blynedd diwetha' yn 'fam llawn amser' i'n tri phlentyn - Llywelyn sy'n chwech oed, Gruffudd sy' bron yn bump, a Cynan sy'n ddeunaw mis. Mae'r ddau hyna' yn Ysgol y Dderwen.

Canolbwyntio ar drio rhoi un troed o flaen y hail a gwylio Sali Mali a'r Teletubbies yw prif dasgau Cynan ar hyn o bryd, ac mae mynd i'r ysgol yn rhywbeth sy' ymhell o'i feddwl e'! Yn ei hamser sbâr - er bod dim llawer o hwnnw i'w gael gyda thri phlentyn bach - mae Gwenllian yn gwneud cardiau, ac yn eu gwerthu nhw yn siop T Hwnt yng Nghaerfyrddin. (Hysbyseb bach am ddim fan'na, a'r gwaed Cardi yn dod i'r amlwg.)

Yn eich gwaith pa-stori neu straeon sy' wedi cael yr argraff fwya' arnoch chi?
Ar raglen fel Y Byd Ar Bedwar mae rhywun yn cael cyfle i ohebu ar amrywiaeth mawr o straeon. Ddechrau'r flwyddyn fues i allan yn Sri Lanka i weld effaith y tsunami ar bobol y wlad. Roedd y golygfeydd yn anodd iawn, os nad amhosib, i'w disgrifio - golygfeydd oedd tu hwnt i lygad y camera hyd yn oed. Roedd y dinistr yn parhau am ddegau o filltiroedd ar hyd yr arfordir, gyda phentrefi ar ôl pentrefi ar ôl pentrefi wedi'u chwalu yn rhacs. Roedd rhywbeth afreal ac oeraidd iawn am yr holl beth.

Un o'r profiadau mwya' trist ges i oedd cwrdd â bachgen bach naw oed oedd wedi colli'i fam, a'i ddwy chwaer fach yn y tsunami. Roedd ei gartre hefyd wedi cael ei chwalu, ac roedd e' a'i dad wedi eu gadael yn llythrennol heb ddim, ac yn gorfod ail-adeiladu eu tŷ a'u bywydau. Roedd y cyfan yn rhoi rhyw fân ofidiau bob dydd mewn perspectif.

Beth yw eich diddordebau?
Ers yn blentyn rwy' wastad wedi ymddiddori mewn chwaraeon. Flynyddoedd 'nôl - yn yr adeg pan oedd y coesau'n gallu symud dipyn cyflymach na heddi - ro'n i'n arfer chwarae rygbi, ac ychydig bach o bêl-droed. Er y byddai unrhyw un na'th fy ngweld i ar gae pêl-droed yn dweud mai hoofer' o'n i, a bod dim math o gelfyddyd na sgil o gwbwl yn perthyn i'm chwarae i.

Rwy'n cael cyfnodau hefyd pan rwy'n trio rhoi un droed o flaen yr hail a rhedeg - er mae'r cyfnodau yna wedi mynd yn llawer prinnach ers dyfodiad y tri Evans bach! Ond rwy' wedi rhedeg hanner marathon y Great North Run dair gwaith yn ystod y blynyddoedd diwetha' i godi arian at wahanol elusennau. Er hynny rwy'n credu bod yn well i fi gyfadde fod marathon llawn ymhell y tu hwnt i fi!

Fel arfer mae cerdded o gwmpas Gelli Aur neu lan i Gastell Dryslwyn gyda'r teulu, a rhedeg ar ôl y plant yn eitha' digon o dasg y dyddiau ma.

Pwy y'ch chi'n ei enwebu ar gyfer y rhifyn nesaf?
Meinir Jones Parry.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý