Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Mr Hopton gyda rhan fechan o'r casgliad Casgliad anhygoel
Mai 2002
Mae gan lawer ohonom ddiddordebau amrywiol neu gasgliadau gwahanol. Mae rhai yn casglu stampiau neu gardiau post, llwyau neu ddoliau. Ond mae gan Mr a Mrs Hopton, Parc y Ffynnon, Caerfyrddin gasgliad hynod iawn.
Mae Betty Hopton, gyda chymorth ei gwr John, yn casglu pob math o bethau sy'n ymwneud â'r cymeriad Noddy. Bu Cwlwm yn holi gwr Betty, Mr John Hopton am eu casgliad gwerthfawr.

O ble ddaeth y diddordeb mewn casglu pethau Noddy?

Pan oedd Betty'n blentyn cyhoeddwyd llyfr cyntaf Noddy ym 1949 ac o'r eiliad honno fe gadwodd bob tegan, llyfr neu gerdyn Noddy gan ei fod yn gymeriad hapus, llawn hwyl a sbri. Felly Noddy yn fwy nag unrhyw beth arall gan ei fod yn gymeriad dymunol, llon sy'n codi calon pawb.

Ers faint mae Betty wedi bod wrthi yn casglu?

Mae wedi bod yn casglu ers 1949, y flwyddyn gyntaf i lyfrau Noddy gael eu cyhoeddi, er roedd diddordeb mawr ganddi yn Enid Blyton cyn hynny. Mae wedi bod yn casglu ers dros hanner cant o flynyddoedd.

Faint o bethau sydd yn y casgliad?

Erbyn hyn mae gennym dros dair mil o bethau gwahanol ac rydyn ni'n dal dwy record byd: record byd Guinness am y casgliad Noddy mwya' yn y byd, a record byd Guinness am y casgliad hynaf o bethau Noddy.

Pa fath o bethau sydd yn y casgliad?

Mae pob math o bethau yn y casgliad o lyfrau i bosteri, clociau, cardiau, sticeri, teganau, gemau a phypedau. Mae gennym lawer o hen bethau o'r pumdegau a phethau mwy modern a newydd. Daw ein casgliad o bob cwr o'r byd ac mewn amryw o ieithoedd. Y bore 'ma fe gyrhaeddodd llyfr newydd o Tseina!

Oes unrhyw ddarnau sy'n werth arian?

Mae'r casgliad i gyd wrth gwrs yn werthfawr i ni, ond mae gennym gopi o lyfr cyntaf Enid Blyton Child Whispers a llyfr cyntaf Noddy Noddy goes to Toyland (1949) sy'n werth tipyn.

Beth yw eich hoff ddarn o'r casgliad?

Ffefryn Betty yw oriawr car Noddy Ile mae'r bonet yn agor i ddangos yr amser. Fy hoff beth i yw'r Noddy lleia' yn y byd sef addurn bach o Noddy mewn bocs sy'n cael ei alw'n Oui Oui gan mai o Ffrainc y daw. Mae gan bob gwlad enw gwahanol am Noddy.

Ble ydych chi'n prynu'r darnau yn eich casgliad?

Rydyn ni'n prynu mewn gwerthiannau cist car. Un tro aethon ni'n unswydd lawr i Gernyw i brynu oriawr Noddy. Does dim dal Ile down ni o hyd i rywbeth!

Mae Betty yn dipyn o awdurdod erbyn hyn ar Noddy ac Enid Blyton.

Ydy, mae wedi bod yn teithio o gwmpas yn darlithio ac yn siarad am Noddy ac Enid Blyton. Cyn i Noddy gael ei gyhoeddi yng ngwlad America gofynnwyd barn Betty am y deunydd a'r fideos cyn iddynt gael eu rhyddhau yno. Rydyn ni wedi ymweld â chartref Enid Blyton sawl gwaith ac wedi cwrdd â'i merch. Mae'r casgliad a'r diddordeb wedi rhoi Ilawer o foddhad i ni ar hyd y blynyddoedd. Bu Betty'n gynhyrchydd technegol i ddrama'r Ö÷²¥´óÐã Famous Five.




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý