主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Elin Angharad Gweld gwlad y gwersi ysgol
Mae Elin Angharad newydd ddychwelyd oddi ar ei gwyliau yn China. Dyma beth o'r hanes.

Dwi'n cofio dysgu yn yr ysgol bod modd gweld Wal Fawr China, y wal fwya i gael ei chodi gan ddyn, o'r gofod.

Cofio hefyd astudio, yn yr ysgol uwchradd, hanes y Cadeirydd Mao yn cerdded ar draws China.

Wnes i erioed ddychmygu o glywed am hyn y byddwn i, rhyw ddiwrnod, yn troedio'r union wal yr oedd yr athro'n sôn amdani ac yn crwydro'r wlad gomiwnyddol yma yn y Dwyrain Pell.

Ond dyna'n union wnes i fis Hydref.

Tipyn o antur - i ferch nad oedd erioed wedi hedfan o'r blaen na gadael cyfandir Ewrop - fu ymweld â gwlad sydd mor bell, mor ddieithr ac mor wahanol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol!

Yno'n dysgu
Pam mynd i China felly?
Yn syml am fod fy nghyfnither, Llinos, yno yn dysgu yn nhalaith Hainan yn ne China a manteisio ar y cyfle i ymweld â hi ac a 'gwlad yr haul'.

Roedd y profiad hedfan yr holl ffordd o Gaerdydd i Beijing yn ddigon o antur ynddi'i hun - ond roedd cyrraedd prifddinas y drydedd wlad fwyaf yn y byd yn sicr yn ddim llai na sioc ddiwylliannol a ieithyddol. Ac yn brofiad bythgofiadwy.

Dwi'n hynod o falch fod gan Llinos dipyn go lew o'r iaith i allu mynd a ni o le i le ac i archebu bwyd; heb sôn am fargeinio am nwyddau - sydd yn eithriadol o rad beth bynnag!

Yr oedd y gwahaniaeth yng ngwerth pethau syml yn fawr gyda photel o ddŵr yn costio llai na 30 ceiniog.

Prysurdeb Beijing
Mae Beijing yn ddinas lygredig iawn. Yn anferthol o fawr a phrysur efo miloedd o bobl, beics a thacsis.

Ychydig iawn o Saesneg oedd i'w gweld na'i chlywed yno.

A bydd angen gwella'r system drafnidiaeth danddaearol yno cyn ymweliad y Gemau Olympaidd mewn 1,402 diwrnod 1 awr a 4 munud a 22 eiliad o'r adeg yr oeddwn i yno!
Hawdd canfod hyn gan fod cloc y tu allan i amgueddfa China yn Sgwâr Tianamen yn cyfri'r amser tan y diwrnod mawr!

I fyny'r Wal
Heb os, uchafbwynt yr ymweliad oedd cael cerdded rhan fechan iawn - er yn hir iawn i'm coesau blinedig i - un o ryfeddodau mwyaf China, y Wal Fawr.

Y Wal FawrAr ddiwrnod pen-blwydd Llinos aeth y ddwy ohonom i Simatai, taith o rhyw dair awr mewn bws mini i'r gogledd orllewin o ganol y brifddinas, ar gyfer cerdded y wal.

Dwi'n amau a fydd hi'n gweld nac yn profi rhyfeddod tebyg ar unrhyw ben-blwydd byth eto!

Dydy Simatai ddim wedi ei or farchnata ac mae yno olion o hyd o'r hen wal.

Ond er hynny, roedd cannoedd o bobl yno yn cerdded gyda ni.

Mae bod wrth droed, ac ar, y Wal yn brofiad nad oes geiriau i'w ddisgrifio ac mae'r rhyfeddod yn llawer mwy nac a all unrhyw lun ohoni ei gyfleu.

Ydi'n sicr mae'n 'Great' ym mhob ystyr o'r gair.

Mae'n fawr o ran uchder, yn fawr o ran hyd ac mae'n fawr o ran eangder yr olygfa sy'n wir ryfeddod.

Milltiroedd ar filltiroedd o wal ar ben cyfres o fynyddoedd dan awyr las, las.

Mae rhannau ohoni'n gul ac yn uchel ac er bod cannoedd o bobl yno gyda ni ar ddiwrnod poeth a braf ym mis Hydref roedd hi'n hawdd symud o un tŵr i'r llall.

Wn i ddim faint o filltiroedd gerddais i ond bu'r ddwy ohonom yn cerdded am bron i bedair awr solet gan ddringo o dŵr i dŵr oedd dros 2,000 o flynyddoedd oed. Rhyfedd meddwl i ddyn fod wrthi am ganrifoedd yn codi'r wal sy'n ymestyn dros 4,000 o filltiroedd.

Adeiladau hardd
Wedi dychwelyd i Beijing ei hun roedd gweld adeiladau rhyfeddol y Ddinas Anghofiedig a'r Deml Nefolaidd heb sôn am fawredd Sgwâr Tianamen yn ddim mwy nag adeiladau gweddol fawr a hardd yng nghanol dinas fawr.

Roedd gweld yr adeiladau ysblennydd yma ochr yn ochr â hen gytiau bychain lle'r oedd teuluoedd cyfain yn byw yn dipyn o syndod.

Ond roedd y tlawd a'r cyfoethog, yr hen a'r newydd, i'w gweld ochr yn ochr, yn amlach na pheidio, â strydoedd prysur y ddinas.

Er bod China'n datblygu'n gyflym iawn gydag adeiladau yn cael eu codi'n sydyn mae'n parhau i fod yn wlad yn y trydydd byd.

Roedd cael cais i sefyll o flaen camera er mwyn i rywun dynnu fy llun yn rhyfedd iawn i ddechrau ond ar ôl pythefnos roeddwn yn teimlo'n dipyn o seren mewn gwlad nad yw'n prin wybod am fodolaeth fy ngwlad i.

Mae'n rhyfedd dychwelyd a neb yn cymryd y sylw lleiaf ohonof ar strydoedd Caerdydd!

Bwyd ac iaith
Bu'n rhaid imi ddygymod â defnyddio chopsticks am y tro cyntaf i fwyta fy mwyd ac, yn wir - nid canmol rŵan ond roeddwn yn lled dda arni yn fy marn i. Nes i un gweinydd ddod a llwy imi!



Llinos ac ElinMae'n amlwg iddi weld fy mod i'n cael trafferthion bwyta a thorri'r cig!!!

Ond roeddwn yn benderfynol o ddal ati. Dim ond gwella allwn i!

Wedi symud i aros yn Hainan a dinas Haikou sy'n dra gwahanol i'r brifddinas o ran tywydd, tirwedd a phrysurdeb, fe ges i brofiad unigryw o wers Chinëaeg.

Gan mai ond unwaith yr wythnos mae Llinos yn cael gwersi ni allwn fod bresennol ond mewn un wers a honno'n ymdrin â rhan o'r wyddor a sut mae ynganu'r gwahaniaethau mewn seiniau tebyg.

Ac mae rhai pobl yn credu bod ch, dd, th , ll ac rh yn anodd i'w ynganu yn Gymraeg - wyddan nhw ddim amdani!

Roedd yn brofiad unigryw dysgu iaith arall a honno efo symbolau mor wahanol i'n abiec ni.

Er imi gael blas ar y wers dwi ddim yn meddwl mod i'n ieithydd!!

Roedd hi'n llawer iawn mwy hamddenol yn Hainan, talaith sy'n ynys yn ne môr China ac wedi ei hamgylchynu gan draethau gwyn, môr glas a choed palmwydd.

Nefoedd ar y ddaear oedd ymlacio ar draeth yn sipian llefrith coconyt a haul tanbaid yn gwenu ar y ddwy ohonom.

Galw yn Honkers
Yn dilyn hamdden Hainan treulais rai dyddiau ym mhrysurdeb Hong Kong a dod i ddeall yn iawn pam mai Honkers yw llysenw'r lle.

Dinas brysur, boblog - a lliwgar iawn o ran yr holl oleuadau.

Yno manteisiais ar y cyfle i weld y ddinas o gopa mynydd Victoria a gweld y Bwda mwyaf oddi allan yn Asia.

Ac, wrth gwrs, bu sawl cyfle i siopa yn siopau niferus y ddinas!

Diolch i ti Llinos am y cyfle i gael dod allan - pwy a ŵyr lle byddai'n mynd nesa wedi cael cymaint o flas ar deithio! Rhan arall o'r wlad fawr a chael profiadau gwahanol eto allan yng nghefn gwlad.





cysylltiadau
Lluniau ymweliad Elin

asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy