主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Acupuncture i drechu'r mwg
Dyddiadur Cymraes yn China.

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd.




Mawrth 24, 2001 - croeso brenhinol
Mynd i Yiyang efo Kate a dwy o'r myfyrwyr. Kate eisiau acupuncture i helpu rhoi'r gorau i ysmygu.

Dod o hyd i'r ysbyty yn y dref a chael ein trin fel aelodau o'r teulu brenhinol a'n tywys i ystafell arbennig, swyddfa pennaeth yr adran feddygaeth Tsineaidd, nid yr ystafell llawr goncrid a stolion bychan pren oedd pawb arall yn ei defnyddio!

Cyn pen hir a hwyr ac ar ôl cael cynnig pob math o driniaeth ddrud cafodd Kate y ddos gyntaf o acupuncture mewn ystafell oedd digon tebyg i ystafell gwesty.

Llawr concrid glân, dau wely a theledu!

Pen tua hanner awr daeth Is-Bennaeth yr ysbyty i'n gweld gan dywys dyn tynnu lluniau'r ysbyty a dynnodd lun ohono yn edrych yn bwysig gyda Kate ac yn ysgwyd llaw â mi.

Ar ôl cinio mynd i siopa o gwmpas y dref. Daeth merch ifanc ataf mewn siop a dweud "Oh. how beautiful you are."

Myfyrwraig 18 oed oedd hi a siaradai rywfaint o Saesneg - ond dim gwerth sôn amdano ac ni allai ateb cwestiynau digon syml!

Dod o hyd i siop gwerthu CD's a phrynu tri. A pham lai gan mai dim ond 10 kuai yr un oeddan nhw (70c!). Waeth imi hel CD's fan hyn ddim!!

Mynd i archfarchnad wedyn a phrynu bara Ffrengig ond roedd fel gwm cnoi, ond dyna ni, fel'na mae!

O leiaf mae'n bosib prynu bara sydd ddim yn felys yma!

Prynu basgedi bambw mawr ar gyfer y ty, felly rhaid oedd dal tacsi yn ôl i'r coleg a bargeinio efo'r gyrrwr.

Dim ond wrth inni ddechrau cerdded tuag at dacsi arall y cytunodd ar bris teg.
Dechreuodd gwyno efo'r myfyrwyr wedyn gan ddweud y dylen nhw ei gefnogi o ac nid y ni gan ei fod yn frodor o'r un wlad....!

Mawrth 25 - ffonio adref

Gwneud nesa peth i ddim. Tra bu Kate am ei acupuncture mi fum i yn ffotocopïo gwaith ar gyfer yr wythnos nesaf.

Gweld rhai o fy myfyrwyr oedd yn disgwyl canlyniad cyfweliad efo adran addysg talaith arall, felly ffwrdd a fi i ddisgwyl efo nhw.

Cael sawl cynnig i fynd o gwmpas Yiyang efo nhw. Ceisio ffonio adref yn hwyrach ymlaen i siarad efo mam a dad.

Ffonio mam a dad. Braf cael hanes Cymru fach a chael ymarfer yr iaith wir!

Mawrth 26 - trafod cornel Saesneg

Dydd Llun reit gyffredin. Dysgu yn y bore. Gwneud dipyn o waith yn y prynhawn. Kate yn mynd i gael acupuncture a thriniaeth drydan i'w phen-glin.

Cafodd sioc yng ngwir ystyr y gair. Gan nad oedd y driniaeth yn gweithio trowyd y trydan yn uwch.... yn llawer rhy uchel!

Druan ohoni!

Mabel a Cecilia (dwy o fyfyrwyr y drydedd) yn dod draw i goginio inni. Y ddwy wedi prynu ein hoff lysiau i baratoi'r pryd a choginio cymaint o chillies nes bo llygaid Kate a minnau'n diferu, a'r ddwy ohonom yn tagu yn y fflat.

'Dwn i'm sut oedd y ddwy ohonynt yn medru aros yn y gegin i goginio wir!

Mynd i'r llyfrgell. Rhoi cyfrifioldeb am y llyfrgell i dair o fyfyrwyr yr ail a hwythau wrth eu boddau.

Robbie a Moffet yn galw i drafod English Corner. Eisau i Kate a finnau ddysgu cân i'r myfyrwyr a chware gêm ddyfalu geiriau hefyd fory.

Mawrth 29 - cwisio

Diwrnod annisgwyl o brysur. Dysgu yn y bore a mynd i gyfarfod Wang Jun er mwyn cael tâl mis Mawrth o'r swyddfa.

Wrth gwrs, rhaid oedd mynd o un swyddfa i'r llall i gael llofnodion a stampiau di-ri cyn medru mynd at y swyddfa ariannol i dderbyn y tâl.

Ond ar ôl cyrraedd y swyddfa, efo pob stamp a llofnod bosibl, dyma ddarganfod nad oedd y person hollalluog arbennig efo'r goriad ar gael tan y prynhawn.
China!

Cyfarfod â nifer o fyfyrwyr i drafod methodoleg yn y prynhawn. Pob un eisiau gwybod sut i wneud gwers anniddorol yn ddiddorol.

Maent yn cael gwersi methodoleg ond yn casáu mynd iddyn nhw gan eu bod yn hynod o ddiflas!

Gofyn pob math o gwestiynau imi - sut i ddelio â phlant sy'n cambyhafio, sut i wneud gwersi gramadeg yn ddiddorol, sut i dynnu lluniau diddorol ar y bwrdd du...

Mynd i gyfarfod athrawon gyda'r nos. Braf cael gwahoddiad gan fod nifer o athrawon tramor mewn colegau eraill yn cael eu hanwybyddu.

Rhoi darlith ar gelfyddyd a bywyd Prydain i'r athrawon gan egluro'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ymysg pethau eraill.

Dysgais ambell i frawddeg Gymraeg iddyn nhw a cheisio egluro bywyd Cymru.

Gofynnodd un o'r athrawon imi egluro'r rhesymau crefyddol tu ôl i helynt Gogledd Iwerddon! O wel......!

Cynnal cwis gwybodaeth gyffredinol ar Brydain. Mae'n rhyfeddol cyn lleied a wybodaeth sydd gan yr athrawon am Brydain a bydd yn rhaid inni roi darlithoedd ymhob cyfarfod athrawon o hyn allan ar amryw o bynciau.

Gwell dechrau paratoi!

Cael gwahoddiad i dy un o'r athrawon bnawn Sadwrn. Gadael y coleg am wyth y bore!! Syniad diddorol!


Mawrth 30- hufen iâ drud

Dod o hyd i dy coffi tua chanllath tu allan i giât y coleg. Cerddoriaeth yno'n uchel dros ben a mwy o staff nag o gwsmeriaid.

Prynu hufen iâ - wedi meddalu! - am bris trybeilig. Drutach na'r pryd yn neuadd cinio rhif tri! Fyddai ddim yn dychwelyd!

Ymlacio a gwylio ffilm gyda'r nos. Braf medru gwylio ffilmiau Saesneg o dro i dro!

Mawrth 31 - crefftau lleol o bell

Diwrnod gwych hollol annisgwyl. Mynd i'r neuadd fwyta amser cinio a gweld Mabel a Steven, un o fyfyrwyr Kate.

Trefnu mynd i chwarae badminton efo Steven ac un o'r cogyddion na all siarad gair o Saesneg.

Mynd efo Mabel i siop dlysau y tu allan i'r coleg. Er y dywedwyd wrthym mai'r perchennog sy'n gwneud y tlysau ei hun, sylwais ar y geiriau 'made in Italy' ar un o'r breichledau! O wel!

Mynd wedyn i'r farchnad a dod o hyd i dy te Tsineaidd.

Wel, tebycach i karaoke bar a dweud y gwir. Un CD Saesneg oedd ganddyn nhw, felly ffwrdd a Kate i ganu'r caneuon.

Wrth gwrs, 'roedd yr anfarwol Titanic ar y CD!

Mae pobl yma wrth eu boddau efo'r ffilm!

Dynion, oedd i fyny grisiau, yn dod lawr i weld beth oedd y canu, yna eistedd o gwmpas a churo dwylo bob munud tra'r oedd Kate yn canu!


Mynd i chwarae badminton efo Robbie (y cogydd) a Steven cyn mynd yn ôl i'r farchnad i brynu llysiau.

Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben.

S'gen i'm syniad sut ond bob to 'da ni'n ceisio coginio mae blas drwg ar y naw ar y bwyd!

Ar ôl bwyta chwaraewyd Scrabble a
Taboo. Gemau gwych i ddarganfod beth yw safon iaith y ddau.
Ar ôl i'r ddau adael chwaraeodd Kate a minnau Scrabble cyn derbyn galwadau ffôn gan ffrindiau sy'n dysgu yma hefyd.

Ebrill 1 - Ffwl Ebrill

Un o'r myfyrwyr yn fy ffonio i ddymuno Ffwl Ebril Hapus imi!
Ffonio, am ei bod wedi mynd gartref dros y penwythnos ac nad oedd unrhyw un arall yno.

Hithau wedi bwriadu dweud wrthai ei bod yn disgwyl amdanai rywle yn y coleg er mwyn chwarae tric arnaf ond penderfynodd beidio am ei bod yn credu fod hyn yn rhy greulon!




Ystafell Delyth Ebrill 2 - Gwylltio yn y dosbarth

Diwrnod anghyffredin.Dysgu yn y bore. Gwylltio efo un dosbarth oedd yn cau ateb cwestiynau. Un o'r aelodau'n hapus yn darllen rhyw lyfr yn y wers llafar felly 'dwi wedi bygwth gyrru'r nesaf fydd yn gwneud hynny at bennaeth yr adran i egluro pam yn union!

Mae'n od ar y naw fod pob un ohonyn nhw eisiau gwella eu Saesneg ond yn cau ymarfer!

Wang Jun yn dod draw efo rhyw ddyn i drwsio cawod Kate. Mae hi wedi cael un drydan, newydd efo remote control, sy'n siarad!

Be nesaf?!

Dal heb weithio allan sut a pham mae angen remote control ar gawod!

Wedi darganfod dull o wneud rhyw fath o hufen iâ - rhewi llefrith a ffrwythau neu fisgedi siocled wedi eu cymysgu. Blasus dros ben.

Mynd i'r llyfrgell hefo Kate a daw Scarlet, Susie, Louisia ac Apple yno.
Cael sgwrs reit ddifyr. Yr unig broblem yw bod un neu ddwy ohonyn nhw yn tueddu i fy nilyn fel ci bach!




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy