主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd
Delyth Roberts yn mwynhau'r bywyd yn China.

Dydd Llun, Hydref 1, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd

Gorffennaf 16 2001 - ymarfer yr iaith
Codi'n fore i symud ystafell am rhyw reswm. Beth bynnag ar ôl hynny penderfynu mynd am dro. Dydi rhai o draethau prydferthaf China - wel enwocaf beth bynnag, ddim yn bell.

Dal y bws lleol i'r traeth cyfagos - siwrne rhyw ddeg munud am 1 kuai (8c).

Mae coed palmwydd yn tyfu bob ochr i'r lôn, a chnau coco yn cael eu gwerthu fel caniau coke a mars bars. Dipyn o newid byd!

Eistedd i ddarllen yno a chyfarfod myfyriwr cefnforeg (oceanography) o Haikou (prifddinas yr ynys) oedd yn astudio coral reefs yr ardal.

Treuliais o leiaf deirawr yn sgwrsio ag o a'i gariad. Pobl glên dros ben.

Mynd i archfarchnad i brynu diod - mae hi'n wirion o boeth yma!

Staff wedi gwirioni efo tramorwr sy'n medru siarad yr iaith. Dod o hyd i salad cream yno am 10 kuai (coeliwch fi mae fel dod o hyd i aur!!!!! Goeliech chi ddim yr hyn 'dach chi'n hiraethu amdano!) a phob math o bethau wedi eu gwneud allan o gnau coco gwag!

Dychwelyd i'r gwesty gyda'r nos, mynd am bryd i dy bwyta Sichuan (mae mwyafrif o dai bwyta'r ardal yn
cael eu rhedeg gan frodorion talaith Sichuan sydd wedi
symud i lawr yma).

Unwaith eto roedd y staff wedi gwirioni fy mod yn medru'r iaith. Mae'n ymddangos mai ychydig iawn o dramorwyr sydd yn dod i'r ardal, a llai fyth sydd yn medru'r iaith.

Wedi i'r cogydd ddarganfod fy mod yn medru sgwrsio daeth i eistedd gyda mi!

Derbyn e-bost - mae Katie a Sally yn yr ardal.

Gorffennaf 17
- tynnu lluniau
Mynd i draeth 'End of the World' (trosiad sydd ar yr
arwyddion ffyrdd!). Dal bws yno - tua 45 munud o
dref Sanya.

Mae'r ardal o gwmpas heblaw am y coed palmwydd yn ddigon tebyg i Yiyang. Pobl yn gwerthu anifeiliaid a ffrwythau ar ochr y lôn.

Cyrraedd y traeth - lle twristaidd dros ben. Rhaid talu i fynd i mewn gan bod y lle'n boblogaidd dros ben.

Mae un o greigiau'r ardal yn enwog iawn ac yn denu llawer o dwristiaid.

Cerdded o gwmpas a synnu, wel dim a dweud y gwir, ychydig iawn o ddiddordeb sydd yma mewn prydferthwch
naturiol.

Gwelais eliffant (do - eliffant!) wedi ei hyfforddi i godi ar ei ddwy droed ôl gan godi twristiaid gyda'i drwnc (ond doedd ddim mor anhygoel â'r camel a welais ger Mur China nôl yn 1998!)

Roedd paen yma hefyd wedi ei glymu wrth sedd wen ac wedi ei amgylchu â blodau plastig.

Roedd nifer o stondinau yn gwerthu pethau ar y ffordd i lawr i'r traeth. Mae wir angen egluro wrth y llywodraeth nad ydy'r fath bethau yn angenrheidiol!

Maent am y gorau i adnewyddu popeth er mwyn gwneud iddynt edrych yn ddel ac yn newydd, ail beintio budha canrifoedd oed, ail adeiladu'r mur....

Eisteddais i lawr i gael diod mewn caffi wrth ymyl y graig enwog a gwylio'r holl dwristiaid Tsieineaidd yn tynnu eu lluniau o flaen y graig. Obsesiwn ffotograffiaeth y wlad - "Fi o flaen ...." ychydig iawn o luniau gwahanol sy'n cael eu tynnu.

Daeth tair dynes oedd yn gwerthu cregyn (ia, gwerthu cregyn ar lan y môr) ata i i sgwrsio. Roedd y rhain eto wedi gwirioni fy mod yn medru siarad yr iaith - er fe ddechreuodd un sgwrsio â mi yn y dafodiaith leol!

Roedden nhw'n gyfeillgar dros ben ond yn methu'n glir â deall pam fy mod yno fy hun.

Mae'r Tsieineaid yn tueddu i fynd ar dripiau yn cael eu tywys mewn grwpiau enfawr a phawb yn gwisgo cap yr un lliw a ballu.

Cynigiodd un ohonynt dynnu fy llun o flaen y graig, felly ffwrdd â ni.

Cefais y profiad Tsieineaidd "Fi o flaen y graig, fi wrth ochr y graig, fi ar ben y graig, fi wrth y graig eto".

Crwydro rhagor o gwmpas y traeth a dod o hyd i ardd gerfluniau enwog. Roedd yma gerfluniau enfawr o enwogion Tsieineaidd ar ddarn o dir wrth y traeth.

Dyma le distaw, digon pell oddi wrth y graig ac felly dyma benderfynu eistedd i lawr.

Yn sydyn daeth dau ychen heibio ac edrych yn syn arna i cyn dal ymlaen i fwyta'r glaswellt!

Paen, eliffant, ychen..... beth nesaf?

Mynd i'r un ty bwyta am bryd gyda'r nos. Y cogydd am i
mi fynd allan gydag o ar ôl iddo orffen gweithio, gwrthodais gan ddweud bod rhaid i mi fynd i gyfarfod fy ffrindiau!

Chwarae teg iddo hefyd cefais bryd heb gig ynddo gan ei fod wedi cofio fy mod yn lysieuwraig (mae pobl yn rhoi cig gyda tofu yma yn gyson).




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy