主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Gweld bywyd go iawn Beijing
Tipyn gwahanol i fywyd canol y ddinas

Dydd Llun, Gorffennaf 30, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd.

Mehefin 22, 2001 - gwersi coginio
Coginio hefo'r plant. Rhain wrth eu boddau yn cael
gwneud golwg fel bob plentyn arall yn y byd!

Darganfod nad ydy'r ferch 5 oed yn gwybod y wyddor. Gofynais iddi enwi rhai o'r llythrenau, edrychodd ar bob man ond ar y papur gan enwi pob llythyren 'roedd yn gyfarwydd ag o!

Gwylio Pearl Harbor gyda'r nos - mae'n bosibl cael
dvd's am 8 kuai yma a safon gwych ar rheiny. Dipyn
rhatach na £15 ym Mhrydain!

Mehefin 23 - taith i weld y temlau
Codi'n fore i fynd ar daith i demlau tu allan i Beijing. Trip wedi ei drefnu gan y cwmni mae Alex yn gweithio drostyn nhw.

Cychwyn hanner awr yn hwyr - dim gormod o sioc yma chwaith!

Cyrraedd y deml gyntaf sydd wedi ei lleoli yng nghanol y wlad tu allan i Beijing am 10 y bore.

Yr ardal mor dlawd â Yiyang - dipyn yn wahanol i fywyd canol dinas Beijing.

Teml digon tebyg i bob teml arall yn China ydoedd, ond roedden ni'n cael y teimlad o fod ar set y ffilm Crouching Tiger Hidden Dragon yma.

Digon od nid oedd pob mynach i'w weld. Mae'r mynaich yn cael dal i fyw yn y temlau ar yr amod eu bod nhw'n
cael eu hagor i'r cyhoedd.

Mynodd trefnydd y daith ein bod ni'n treulio teir awr yn y deml. Profiad o drip Tsineaidd go iawn.

Roedd y tri ohonom o Brydain wedi gweld yr holl beth o fewn awr! Rhoddodd hyn ddigon o amser i ni gael cinio hir, a chael gwylio'r byd yn mynd heibio !!!

Roedd nifer o ferched yn ceisio dringo i fyny at y deml (mae'r mwyafrif o demlau China yn tueddu i fod ar ochr mynydd) mewn esgidiau sodlau uchel, a'u dillad gorau. Da ni dal heb ddeall pam yn union!

Roedd yr ail deml yn ddigon tebyg i'r cyntaf. Yma roedd incense sticks enfawr yn cael eu llosgi ac arogl y peth ymhob man. Mae'n rhan o'u crefydd.

Nid arogl pren a phapur fel sydd mewn capeli yng Nghymru sydd yn y temlau hyn ond mwg ac arogl pob gweddi sy'n cael ei roi i Buddha.

Mynd allan gyda'r nos i far Nashville's - bar miwsig gwlad Americanaidd ei naws.

Penderfynu cael pryd yma. Dyma geisio cael pryd heb gig. Archebais omlet blaen. Yna ymhen hir a hwyr fe ges i omlet â ham ynddo.

Yn ôl y gweinyddion nid cig ydi ham. Fe fum i'n dadlau â nhw am amser cyn iddyn nhw gytuno i newid yr omlet. Dydi cig moch ddim yn cael ei ystyried fel cig yma o gwbl. Syniad digon od!

Heno roedd perfformiad gan y tri tenor yn y Ddinas Waharddedig. Roedd y perfformiad yn cael ei ddangos ar bob teledu ymhob bar yn stryd y bariau yn Beijing.

Yn ôl pob sôn roedd y llywodraeth am ddangos i drefnwyr y gemau Olympaidd eu bod yn medru cynnal pefformiad rhyngwladol yn Beijing.

Mehefin 24 - aros mewn hostel
Mynd i hostel ieuenctid i aros am wythnos. Costo 60 kuai y noson. Hostel glân, modern a digon tebyg i bob hostel arall yn y byd!

Mehefin 25 - gweld bywyd go iawn Beijing
Plant yn crio yn y gwaith bore 'ma am ddim rheswm. Mae'n anodd datrys y problemau gan eu bod yn ffraeo yn yr iaith Goreaidd ac yn methu siarad Saesneg.

Darganfod bod y bachgen Tsineaidd wedi bod yn copïo gwaith eraill ers wythnos. Nid yw hyd yn oed yn gwybod y wyddor!

Paratoi gwaith gwahanol er ei gyfer yntau a Fei Fei.

Treulio'r prynhawn yn cerdded o gwmpas Jianguomenwai, ardal fwyaf 'modern' neu efallai Gorllewinol ddyliwn i
ddweud, Beijing.

Mae Baskin and Robbins, Starbucks a Haagen Dazs yma!

Cerdded yn ôl i'r hostel heibio i stadiwm y gweithwyr lle roedd degau o bobl canol oed yn gwenud rhyw fath o taiji. Anodd meddwl am hyn yn digwydd y tu allan i'r Stadiwm yng Nghaerdydd!

Cael gwahoddiad i fynd i weld perfformiad stryd gan Almaenwr oedd yn yr hostel sef Christian.

Nifer o bobl o dan un o bontydd traffig Beijing yn ymarfer dawns draddodiadol gan ddefnyddio ffan.

Mae unrhw un yn cael ymuno - yr unig beth sydd ei angen yw ffan.

Roedd gweld hyn yn wych. Bywyd go iawn Beijing - nid yr wyneb y mae'r llwywodraeth yn ei ddangos i wledydd tramor.

Yr hyn oedd wir yn wych fodd bynnag oedd gweld pobol Syndrom Down's yn ymuno yn y dawnsio. Mae tueddiad yma i gloi unrhyw un â nam o unrhyw fath arno o olwg y byd.

Efallai bod pethau yn dechrau newid.

Mehefin 26 - rhiant yn cwyno
Treulio oraiu maith yn yr ysgol gan bod un o'r rhieni'n meddwl bod y gwaith yn rhy hawdd i'w merch.

Bu rhaid i mi ysgrifennu llythyr yn egluro union beth dwi'n ei ddysgu a pham nad ydy'r gwaith yn rhy hawdd i'w merch!

Eithriadol o boeth a thrymaidd heddiw. Mynd i gaffi rhyngrwyd a thalu 15 kuai yr awr, tipyn drytach na'r 2-4 kuai y bum i'n ei dalu yn Xi'an.

Cael pryd nos yn y stryd lle mae'r bariau efo Alex, Marcus a ffrind i Alex sef Saphira sydd yn astudio yma.

Fe ddaeth hen ddyn i mewn i'r bwyty i geisio gwerthu anifeiliad wedi eu gwneud o wellt i ni.

Mae nifer o blant yn gwerthu blodau ar y stryd lle mae'r bariau hefyd. Maen nhw'n gwthio blodau i wyneb unrhyw un sy'n cerdded heibio. Anodd iawn gwrthod.

Mehefin 27 - pryd o fwyd yn y glaw
Diwrnod digon cyffredin yn y gwaith. Gyda'r nos mynd am bryd efo Christian i fwyty bach canllath o'r hostel.

Cael pryd cyfan am 25 kuai gan gynnwys poteli o gwrw.

Yng nghanol Beijing mae un platiad yn costio cymaint â hyn fel arfer.

Mynd am dro ar ôl bwyta. Fe aethon ni i siop Tsineaidd lle roedd pawb yn syllu arnom ni.

Gwylio holl drigolion yr ardal yn crwydro o gwmpas, yn mynd am dro hefo plant ac yn y blaen.

Mae'r strydoedd yn fywiog iawn yma gyda'r nos.Mynd lawr i'r stryd lle mae'r bariau yng nghanol y glaw.

Roedd yna gymaint o law nes bod yna lyn wedi ffurfio yng
nghanol y ffordd. Fe fu'n rhaid i ni fynd i fwyty yn hytrach na bar i gael diod!

Ceisio ffonio mam a dad i ddymuno penblwydd hapus iddyn nhw ond methu'n lân â dod o hyd i ffôn oedd yn gweithio!




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy