主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion
Delyth Roberts yn mwynhau'r bywyd yn China.

Dydd Mawrth, Medi 18, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd

Gorffennaf 9 2001 - parc yr ymerawdwr
Cyfarfod Chris a mynd am dro i barc Tiantan (Teml
Nefoedd) lle roedd yr Ymerawdwr yn cynnig offrwm i
Dduwiau'r nefoedd.

Sgwrsio â merch fach 11 mlwydd oed oedd â gwell Saesneg na rhai o fy myfyrwyr sy'n dangos y gwahaniaeth yn safon addysg y brifddinas a'r wlad!

Mynd heibio i barc ymarfer corff. Roedd nifer o drigolion lleol yma oherwydd bod digon o le yno a chyfle i gael sgwrs.

Dod ar draws tri dyn yn ymarfer chwarae offerynnau a chanu traddodiadol Tsineaidd.

Siarad hefo nhw am amser a chael tro ar offeryn oedd yn debyg i fanjo bychan.

Twristiaid Almaeneg wrth eu bodd yn gweld dau dramorwr yn sgwrsio hefo'r hen ddynion!

Cyfarfod rhai o ffrindiau Tsineaidd Chris. Mynd am
ginio gyda nhw a chael cynnig swydd gwirio cyfieithiadau
Saesneg i'r cwmni.

Bwyta ar ochr y stryd unwaith eto. Byrddau bychan ar ochr y lôn a dim arall.

Gorffennaf 10-13 - cyfarfod gwr o Giwba
Wythnos digon cyffredin. Dydd Gwener cael gwybod bod
yr ysgol yn hapus hefo mi a chael cynnig yr un swydd
ar gyfer yr haf nesaf, dim ond i mi anfon e bost.

Athro sy'n gadael China yn prynu bwyd i mi. Cael potel o
olew 29 kuai am 2 (16c yn lle 2.60 ballu).

Cael pryd gyda'r nos mewn bwyty Indiaidd. Sôn am
neis. Drud ond gwerth pob ceiniog a hollol wahanol i
fwyd Tsineaidd!

Mynd i glwb nos Havana - clwb Ciwbaidd. Mynd at
y bar a dechrau sgwrsio â boi o'r enw Gustavo - aelod o
fand sy'n gweithio yno.

Wedi cael contract blwyddyn yn Beijing. Yn wreiddiol o Havana, Ciwba! Methu siarad rhyw lawer o Saesneg a dim Tsineaidd o gwbl, felly dyma ymarfer y Sbaeneg a ddysgais mewn dosbarthiadau nos ym Mangor yn ôl yn 95!

Cyfarfod gweddill y band a dod yn dipyn o ffrindiau efo'r chwaraewr trwmped!

Gorffennaf 14 - siopa
Mynd i grwydro efo Alex a phrynu rhagor o dvd's! Bydd rhaid i mi brynu chwaraewr!!!

Cael sgwrs efo'r gwerthwyr - pob un yn mynnu mai eu dvd's nhw oedd y gorau a'r rhataf!

Mynd i farchnad Hongqiao (Pont goch - mae nifer o lefydd wedi e henwi ar ôl hen adeiladau neu gatiau oedd yn sefyll yn y ddinas yn nghyfnod yr Ymerawdwr). Mae'n bosib prynu popeth yma. Mae nifer o enwogion y byd wedi bod yma yn prynu perlau fel Margaret Thatcher, Tony Blair a Bill Clinton ac mae lluniau ohonynt ar y wal!

Mynd i Snalitun ac eistedd y tu allan efo diod, teimlo fel
fy mod yn Ewrop! Disgwyl i'r gwerthwyr cd's ddod o
gwmpas pan nad ydy'r heddlu'n gwylio.

Cyfarfod a rai o ffrindiau Alex yn Havana's eto. Siarad efo'r band unwaith eto. I fyny tan 7 y bore yn siarad efo'r chwaraewr trwmped - Abdel.

Ffarwelio a mynd yn ôl i'r fflat i gysgu pan oedd pawb arall yn codi i fynd i'r gwaith!




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy