主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd
Dyddiadur Cymraes yn China

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd.



Ebrill 3, 2001 - brechdan wy a blas siwgr
Cael galwad ffôn gan Bella pnawn ma. Mae hi wedi cael
swydd ysgrifenyddes yn Shenzhen (y ddinas sydd ar
y ffin hefo Hong Kong).

Fydd hi ddim yn dod yn ôl i'r coleg er nad ydy'n graddio tan fis Mehefin!

Brechdan wy hefo bara melys i ginio - y peth agosaf at frechdan go iawn! Profiad diddorol! Dydi brechdan wy
hefo blas siwgr dim yn rhyw flasus iawn!

Apple yn galw hefo fy IP cards (cardiau ffôn eithriadol o rad gyda galwad ffôn genedlaethol ond tua 4c y munud)

Gorfod gohirio pryd gyda'r myfyrwyr gan fod yr Adran Saesneg wedi trefnu pryd i Kate a minnau i ddathlu fy mhen-blwydd fory.

主播大秀 Radio Cymru yn ffonio eisiau gwybod y farn 'rochr
yma am y ddamwain awyren rhwng yr Unol Daleithiau a
China.

Dyma fynd ati i chwilio am bapurau newydd a holi rhai or myfyrwyr!

English Corner - dysgu'r myfyrwyr i ganu The Grand Old
Duke of York
. Kate a finnau yn marchio o gwmpas dan ganu ac annog y myfyrwyr i wneud hynny hefyd.

Feddylies i erioed y byddwn yn gwneud hyn yn China!

Merch o adran Hanes wedi dod i English Corner a rhoi anrheg i Kate a fi. 'Roedd wedi sylweddoli yr wythnos flaenorol nad oedd gennym fflachlamp, felly 'roedd wedi prynu dwy i ni!

Y peth gorau am fod yma mae'n debyg.

Ychydig iawn sydd gan y myfyrwyr ond maent yn
barod iawn i rannu.

Ebrill 4 - pen-blwydd, teisennau a Sprite

Fy mhen-blwydd yn 23 - son am hen! Feddylies i erioed y byddwn yn dathlu fy mhen-blwydd yn 23 oed yn China.

Deffro ben bore diolch i'r system uwchleferydd felltith! Agor ambell i anrheg gan Mam a Dad. Cael galwad ffôn o Gymru hefyd jyst cyn mynd i'r gwaith - mam a dad yn ffonio cyn mynd i gysgu!

Amser cinio - Susie a Scarlet yn galw hefo llond lle o rosys cochion imi.

Daeth Kate acw hefo nifer o anrhegion dan gynnwys gwin coch sych!

Hwre! (anodd cael gafael arno yma - mae popeth yn llawn siwgr yma a'r gwin coch yn blasu fel sudd ffrwyth gwael!)

Dilynnodd Susie a Scarlet ni i neuadd ginio er i ni honni ein bod am fynd ein hunain! O wel!

Daeth Kate a theisen enfawr i mi ar ôl cinio wedi ei gorchuddio hefo hufen od Tsineaidd.
Ymlacio drwy'r prynhawn, cael galwad ffôn gan y 主播大秀 eto, cyn mynd am bryd efo Pennaethiaid yr Adran Saesneg.

Bwyta ac yfed digon i bara blwyddyn. Wedi i Dean Cao ddarganfod ein bod yn fodlon yfed y baijiu - dyna ddiwedd arni! Pob tro oedd un o'r ddwy ohonom yn gorffen un gwydrad roedd yn ail lenwi'r gwydr!

Bwyta nadroedd dwr! Diddorol - blasu fel creision poeth. Cael anrheg gan y Dean - pot nwdl, marshmallows a breichled. Anrheg gwahanol!

Derbyn teisen enfawr gan yr Adran Saesneg - debyg i un Kate. Bwya teisen fyddai, am y pythefnos nesaf!

Athro o adran arall yn galw hefo'i ferch, ond Kate a minnau wedi blino gormod i gael sgwrs.

Ms Xia yn galw hefo rhosod cochion i mi gan ei theulu - a dwy fyfyrwraig arall hefyd.

Derbyniais ddiod jeli a sprite ganddynt. Dwi'n meddwl fy mod yn yfed tipyn gormod o sprite felly.

Ebrill 5 - nofel Saesneg

Dwirnod digon cyffredin.Dysgu yna e-bostio.

Cael bara blasus i ginio - gwych am 4c! Diwrnod cynnes iawn; felly eistedd ar y balconi drwyr prynhawn yn darllen nofel Saesneg. Ew mae'n braf cael goriad i lyfrgell Saesneg y coleg wir!

Apple, Louisia a Scarlet yn glaw tus chwarter i chwech. Mynd i dy bwyta Denver. Roedd o yn hynod o groesawgar.

Aeth i brynu cerdyn pen-blwydd imi - chwarae teg iddo!

Steven, Robbie a Moffet yn dod hefyd.Tynnu lluniau hefo pawb dan gynnwys Denver! Roedd wrth ei fodd! Rhaid dychwelyd hefo copi o'r llun iddo.

Trefnu i fynd i gartref Apple dros y penwythnos. Dylai fod yn brofiad a hanner. Caf brofi bywyd go iawn pobl yr ardal.

Mynd am y lle karaoke ond roedd wedi cau oherwydd nad oedd trydan, felly dychwelyd i'r fflat. Canodd Kate ambell i gân cyn inni gyd ddechrau chwarae taboo.

Charlie, athro yn Ne Hunan yn ffonio i ddweud helo a gofyn inni fynd am dro lawr i Yangshuo dros y penwythnos. Braidd yn rhy bell felly fedra ni ddim mynd.

Ebrill 7 - bywyd teuluol

Codi yn fore a mynd i gyfarfod Apple (eglurodd i ffrind ddweud ei bod yn edrych fel afal felly newidiodd ei henw Seisnig!)

Mae ei chartref mewn pentref bach yr ochr arall i Yiyang.

Mynd i siopa i'r archfarchnad yn Yiyang i ddechrau. Mynd i fyny grisiau yno gan weld fod pob dim dan yr haul ar werth yno.

Mwy o staff na chwsmeriaid - un o broblemau mwyaf China! Roedd pob un ohonynt am y gorau i werthu'r siampw drutaf imi!

Mynd wedyn i'r pentref - poblogaeth o 300-400.

Cerdded i fyny lôn lychlyd eto i ganol caeau. Ieir a chwn yn rhedeg o gwmpas y lle a neb yn malio dim amdanynt. Pob un o'r plant yn rhoi'r gora i chwarae wrth fy ngweld yn cerdded heibio!

Ty Apple yn reit fawr.Y teulu i gyd yn byw yno - hi, ei brodyr, gwraig a phlentyn ei brawd hynaf yn ogystal a'i mam a'i thad.

Mae teuluoedd y wlad, yn groes i'r polisi un plentyn, yn cael dau neu dri phlentyn yn gyfreithlon. Yn ôl pob son mae hyn oherwydd fod plant yn medru helpu eu rhieni i drin y tir a ballu.

Roedd ei mam yn coginio pan gyrhaeddom. Cefais sgwrs fer gyda'i thad mewn Tsineag. Roedd wrth ei fodd fy mod yn medru rhywfaint o'r iaith.

Ty reit ddiddorol. Stafelloedd concrid heb ddim dodrefn bron. Drws y ty yn agored i'r byd ar ieir ar cwn yn rhedeg drwy'r ty a neb yn meddwl dim am hynny.

Roedd Apple yn gweld ein trefn ni o gadw ieir ar fferm yn od!

Dim gwres nac ystafell fyw o gwbl yn y ty. Cadeiraiu a bwrdd bwyta yn cael eu symud i ganol y llawr fel bo'r angen.
Cegin heb ddim ynddi ond potel nwy a bwrdd i ddal y llestri. Dim rhewgell nac oergell o gwbl. Tapiau dwr oer tu allan - dim ystafell molchi o gwbl tu mewn.

Roedd y tap tu allan yn yr ardd gefn.

Son am ardd brydferth - bambw a phalmwydd ymhobman!

Y rhieni yn berchen bws syn mynd i Shenzhen unwiath yr wythnos.

Cael cynnig gan ei brawd i fynd i shaoshan (lle ganed y Cadeirydd Mao) unrhyw bryd am ddim gan fod y bws yn mynd drwy'r dref!

Ei mam yn gwneud matiau bambw. Ei chyflog yn ddim ond 2 kuai y mat (16c ballu) er bod y matiau yn cael eu gwerthu am tua 30 yr un!

Bwyta cinio efoi rhieni. Profiad diddorol.

Gofynnodd ei thad a yw pawb ym Mhrydain yn gwrthod bwyta cig moch gan feddwl mai gwlad Fwslwmaidd yw hi.

Agoriad llygaid hefyd oedd gweld cyn lleied mae safle merched wedi newid yng nghefn gwlad China.

Galwodd tad Apple ar ei mam i ddod i glirio'r bwrdd ar ôl inni orffen bwyta er bod ei mam yn brysur ac ynta'n gwneud dim!

Ar ôl cinio, mynd i siopa unwiath eto yn Yiyang. Mynd i farchnad enfawr dan do. Nifer o bobl yma yn meddwl fy mod yn dod o dalaith Xinjiang!

Ew - ella bod fy iaith yn well nag o'n i'n ei feddwl!

Chwilio am brisiau tocyn tren i Beijing - bwriadu mynd i fyny am Inner Mongolia dros wyliau Mai.

Yn costio 350 kuai (tua £24 i deithio ar dren am 16 awr!)

Yn yr Orsaf daeth nifer o bobl atom i siarad a holi pwy o'n i, o ble dwi'n dod, pam dwi yma a ballu.

Roedd nifer o ddynion yno am i mi fynd ar eu beiciau modur yn ôl i dy Apple! Syniad reit ddiddorol a hynod beryglus!

Rhain eto'n gofyn os mai brodor o Xinjiang oeddwn i.
Dychwelyd i gartref Apple. Ei theulu yn bobl garedig dros ben. Prynodd ei thad lond lle o fefus imi.

Aeth ei brawd allan yng nghanol storm fellt a tharanau i brynu pinafal imi wedi i Apple d dweud fy mod yn hoff ohonynt.

Cysgu dros nos yno.







asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy