主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Dysgu sgwennu efo Duw
Nadroedd a slywod ar ein pen-blwyddi

Dydd Sadwrn, Mehefin 30, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd.

Mai 21 2001 - neidr ymhlith y bwyd
Lin Zhiping (ein pennaeth o Beijing) yn dod i Yiyang.

Pen-blwydd Kate hefyd.

Kate a finnau'n penderfynu gwneud fideo o'r coleg trwy'r bore. Wrth gwrs roedd pawb yn syllu ddeg gwaith mwy arnom ni nac fel arfer!

Rhieni'r plant wrth eu boddau ac yn golchi wynebau'r plant a ballu er mwyn iddyn nhw fod yn dwt ar y fideo!


Siarad hefo Lin Zhiping yn y prynhawn - trafod unrhyw
broblemau - sgen i ddim un a dweud y gwir!

Ms Xia yn dod acw yn llawer rhy fuan - cyn i ni orffen trafod i'n tywys tua seremoni cloi'r mabolgampau. Wrth gwrs ni orffennodd y mabolgampau am dros awr wedyn.

Pryd gyda'r nos hefo pennaethiaid y coleg gan ei bod hi'n
ben-blwydd ar Kate a bod Lin Zhiping yma.
Pob math o fwydydd gan gynnwys neidr!
Slywod ar fy mhen-blwydd i a neidr ar ben-blwydd Kate - be nesa?

Mai 22 - llond lle o fwyd

Dydd Llun - gan fod y mabolgampau wedi bod dros y
penwythnos cafodd y myfyrwyr ddiwrnod o wyliau - dim
gwersi i Kate na finnau felly - gwych!

Cyfarfod rhwng Lin Zhiping a pennaethiaid y coleg i drafod unrhyw broblem oedd gan Kate a finnau, ac i sicrhau bod y coleg yn deall beth ydi VSO - nad cwmni gyrru athrawon Saesneg yn unig ydyn nhw.

Cael cinio wedyn. Llond lle o fwyd unwaith eto er mwyn
rhoi argraff dda ar Lin Zhiping.
Pennaeth y coleg yn gwylltio Kate trwy ddweud ei bod yn "high and wide".

Mae'n anodd dod i'r arfer hefo pa mor 'onest' ydy pobl
yma. Dydyn nhw'n malio dim am deimladau pobl, nac yn
ystyried pa mor amharchus ydy dweud y math yna o beth.

Paratoi arholiadau'r drydedd ar ôl cinio - sôn am
waith.

Penderfynu nad ydw i'n gwneud llawer o ymarfer corff
yma felly ffwrdd a fi at y trac i redeg - wel mi fydd
hi'n haf cyn bo hir........

Mai 23 - anwybodaeth am AIDS

Dysgu gwers ar HIV ac AIDS i'r ail. Mae'n wir yn
rhyfeddod cyn lleied mae'r myfyrwyr yn ei wybod am y
broblem.

Rhoddais yr holl ffeithiau iddyn nhw a bygwth prawf wythnos nesaf fel eu bod nhw'n dysgu'r ffeithiau.

Mae pobl yma dan yr argraff o hyd mai problem orllewinol neu Affricanaidd ydyw ac ychydig iawn fydd yn siarad am broblemau fel hyn yma.

Gyda'r nos yn y llyfrgell, paratoi darlith o fath ar
waith VSO ar gyfer y cyfarfod athrawon fory. Profiad a hanner - dysgu Saeseng, rhoi darlithoedd...... fyddai
rel boi ar ôl gadael China!

Mai 24 - colli pwysau

Dysgu yn y bore a paratoi rhagor o stwff ar gyfer arholiadau'r drydedd. Rhoi darlith ar VSO i'r athrawon yn y prynhawn.

Eithriadol o boeth yn y dosbarth - dwi'n siwr fod y mwyafrif o'r athrawon bron a marw eisiau cysgu!

Athro o goleg arall yn rhoi darlith wedyn ar "Cambridge Young Learners' English Test" lle roedd yn annog yr athrawon ifanc i sefyll yr arholiad er mwyn medru cael gwell swyddi.

Mynd i redeg ar y trac eto heno a chyfarfod un o'r
myfyrwyr sy'n benderfynol o golli pwysau er ei bod yn
eithriadol denau yn barod.

Mae nifer o'r merched yma'n poeni'n ormodol am eu pwysau a bron a marw eisiau croen gwyn!

Dwi wedi ceisio dweud wrthyn nhw bod pethau
pwysicach yn bod ond maen nhw dal yn benderfynol.
Mae'r merched yn cario ymbarel pan fo'r haul yn tywynnu gan nad ydyn nhw eisiau croen tywyll.

Dydyn nhw ddim yn deall pam nad ydw i a Kate yn cario ymbarel hefyd!

Mai 25 - problemau dillad

Dysgu ben bore yna mynd i Yiyang efo dwy fyfyrwraig - Bella a Shirley.

Kate eisiau prynu dillad a finnau eisiau prynu pâr o esgidiau.

Kate yn ei chael hi'n anodd iawn i brynu dillad yma gan ei bod mor dal. Ni fedrwn gael trowsusau na sgertiau gan fod merched y wlad mor fychan.

Mae siap eu cyrff yn hollol wahanol i ni ac fe fydd raid i ni gael dillad wedi eu gwnued yn arbennig dwi'n meddwl!
Dod o hyd i siop sy'n gwerthu nifer o VCD's Saesneg - rhai eitha diweddar.


Mai 28 - chwerthin fel plant

Rhoi gwers HIV eto heddiw. Mae'n rhyfeddod cyn lleied maent nhw'n ei ddeall.

Nid ydynt yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw'r broble nes i mi roi'r ffigurau iddynt. Pan yn trafod rhyw a ballu hefo myfyrwyr 19-20 oed maent yn ymateb fel plant 14 - yn chwerthin yn nerfus a ballu.

Dechrau arholi'r drydedd heddiw ac roedd yna lond lle o waith, 32 o fyfyrwyr - wedi blino'n lân ar ôl gwrando arnyn nhw.


Mai 30 - ar brawf
Rhoi prawf i un o'r dosbarthiadau ar y wybodaeth HIV/AIDS. Rhai wedi dysgu'r ffeithiau eraill heb ddysgu. O wel!

Cael galwad ffôn am hanner awr wedi pump - gwahoddiad i swper hefo athrawon yr adran Saeseng am chwech.

Profiad Chinese eto!

Digon o hwyl a digonedd o fwyd !!!!

Mai 31 - chwarae gêm

Dysgu yn ystod y dydd a mynd am dro i'r stryd y tu allan
i'r coleg gyda'r nos.

Mynd i'r ty bwta arferol ac roedd y ddwy eneth fach yno eisau chwarae hefo Kate a finnau felly rhedeg o gwmpas fuo ni am oriau, rhwng ceisio chwarae gêm o pook ar fwrdd y tu allan i'r ty bwyta.

Gweinyddes o'r ty bwya yn ymuno a ni - ond doedd ganddi hi ddim syniad am y rheolau. Cymerai hynny o droeon oedd hi'n ffansio - gyda phob un yn methu'r pocedi hefyd!

Mehefin 1 - cerfio

Kate eisau cael cerfio enwau ar chops (stampiau traddodiadol Tsineaidd..... roedd y stamp yn rhywbeth eitha pwysig yn y groffennol hefyd!) i anfon i ffrindiau nôl ym Mhrydain.

Un o fyfyrwyr Kate oedd prin yn medru siarad Saesneg yn ein tywys i'r siop at Meistr Yang sy'n cerfio'r rhain dros
nos!

Mewn siop feddygaeth Tsineaidd yr oedd ei 'swyddfa'
(desg bren wrth y drws!). Mae'r siop yn gwerthu pob math o bowdrach od yr olwg sydd i fod i wella rhywun o bob clefyd dan yr haul ..... ia wel!

Mynd am dro o gwmpas y ddinas a dod o hyd i siop
'massage' - aeth Kate yno a mwynhau pob munud. Y staff
yn ei thrin fel brenhines!

Glawio ar ôl cyrraedd y coleg - finnau heb ymbarel.
Daeth myfyriwr nad oedd yn medru Saesneg ata fi a mynnu fy nhywys o dan ei ymbarel yn ôl i fy fflat.

Mehefin 2- Yiyang ar fideo
Mynd i Yiyang i nôl ffilmiau ddaru ni ei roi i fewn ddoe.

Mynd â camera fideo hefo ni er mwyn cael ffilmio
rhyfeddodau'r ddinas - y gwerthwyr llysiau, bambw.....

Cael mwy o sylw nac arfer oherwydd hyn wrth gwrs!
Cyfarfod nifer o fy myfyrwyr mwyaf hyderus ar y bws -
wrth eu boddau yn cael tynnu eu lluniau ar gamera
Prydeing.

Mae Yiyang yn edrych llawer gwaeth trwy gamera fideo!
Dwn i'm be wnaiff pawb nôl yng Nghymru ei feddwl !

Mehefin 3 - gwersi Duw
Paratoi gwersi a fideos er mwyn medru eu gyrru gartref
yn o fuan.

"God" (na nid joc - mae Duw yn byw yn Yiyang!) un o fyfyrwyr Kate yn galw i roi gwers caligraffi i ni.

Sôn am warthus! Druan ohono - mae'n siwr o roi fyny cyn bo hir - mae mor anodd paentio sgwennu Tsineaidd ac mae'n llawer anoddach na sgwennu!

Roedd God wrth ei fodd yn cael dod i ymarfer ei Saesneg ac yn cael siarad am ei bentref sydd tua chwe awr o Yiyang, lle prydferth dros ben meddai.

Mae wedi tyfu i fyny yn y caeau yn gwarchod gwartheg a
nofio mewn afon....a'i freuddwyd ydy bod yn enwog ac ennill y wobr nobel!

Pwy a wyr? Efallai mewn deng mlynedd.....

Mehefin 4 - Mao yn haul

Dysgu un o'r dosbarthiadau am fetaffor, cymhariaethau
a iaith lafar gyffredin. Gofynnais am enghreifftiau a'r gyntaf glywes i oedd "Y Cadeirydd Mao ydy'r haul" - propaganda?!

Mae'r pennaeth wedi marw ers dros 30 mlynedd!!!!

Ond o leaif mae'r dosbarth yn deall beth yw metaffor! Mynd am ginio - gweld Ice Cream (!?!) eisau prynu ffrwythau i ni gan ei fod wedi cael tâl o 100 kuai gan y cwmni teledu am wneud bore o waith.

Yn ôl pob sôn mae'r sianel am i Akte a finnau fynd i Yiyang i ysgol Wushu penwythnos yma i ffilmio
rhywbeth neu'i gilydd! Ew does dim fel bod yn hollol enwog!


Mehefin 5 - dosbarth mawr

Fe fyddaf yn dysgu 'sgiliau dysgu' (!?) i'r drydedd - dosbarthiadau o 80 myfyriwr! a llafar i'r gyntaf. Nid yw'r coleg yn sylweddoli bod faint o anfantais sydd wrth roi cymaint o fyfyrwyr yn yr un dosbarth. Dydyn nhw ddim yn cael digon o sylw.
Mae'n amhosib helpu pob un ohonynt nhw. Mae'n ddigon anodd pan fo dosbarthiadau o 40!
China!

Mehefin 6 - i Beijing

Gweld Ms Xia a dweud wrthi fy mod am adael yn fuan i fynd i Beijing. Mae gen i swydd yno dros yr haf - mis yn dysgu Saesneg i blant 5-12 oed.





asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy