主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Delyth Roberts Tipyn o newid
Delyth Roberts yn teithio gogledd China yn yr haf ac yn dychwelyd i'r coleg

Dydd Llun, Tachwedd 26, 2001

Mae Delyth Roberts o Sir Fôn yn treulio dwy flynedd yn athrawes Saesneg mewn coleg yn China. Dyma ei chyfraniad diweddaraf i 主播大秀 Cymru'r Byd

Awst 17, 2001- helpu'r gwirfoddolwyr
Methu deffro ar ôl noson hwyr dros ben - 'chydig iawn
o oriau o gwsg ond rhaid oedd mynd â'r gwirfoddolwyr
newydd i'r swyddfa VSO er mwyn iddynt gael cyfarwyddo
â'r lle a chyfarfod y staff. Pawb yn rhydd wedyn - heblaw am roi help llaw drwy ddangos lle mae'n bosib prynu pethau, sut i wneud galwad ffôn,ayyb.

Trefnu i gyfarfod y gwirfoddolwyr ym mar y
gwesty gyda'r nos ar ôl eu noson yn Llysgenhadaeth Prydain. Pawb yn dychwelyd un wrth un yn edrych fel pe baen nhw wedi syrffedu'n llwyr. Mae'r noson yn tueddu i fod yn un ddiflas, ac mae rhyw deimlad o arwahanrwydd rhwng y Prydeinwyr a'r Tsineaid. Anghofia i fyth fy
mhrofiad pan dorrwyd ar draws fy sgwrs gydag un o
staff Tsineaidd y VSO gan un o lysgenhadon Prydain heb unrhyw ymddiheuriad.

Mynd i stryd fechan llawn tai bwyta - rhannu'n grwpiau
o 6-8 gan fod y tai bwyta i gyd mor fach. Mynd efo
criw o lysieuwyr a cheisio penderfynu beth i'w fwyta i roi gwir brofiad i'r rhai newydd. Cael llond bol o fwyd blasus a digon o gwrw. Sgwrs ddiddorol yn ateb cwestiynau - rhyfedd bod y rhain yn ein hystyried yn rhyw fath o ffynhonnell wybodaeth am y wlad, diddorol clywed eu barn am fywyd yn China.

Penderfynu yfed yn y tai bwyta am dipyn cyn mynd allan i glwb Havana unwaith eto. Mae'n lle eithaf poblogaidd!


Awst 18, 2001- ymweld â Sgwâr Tiananmen
Treulio'r diwrnod yn tywys y gwirfoddolwyr newydd o gwmpas. Deffro'n fore a mynd â nhw mewn grwpiau i'r Palas Haf (lle roedd yr Ymerawdwr yn treulio, ia, yr haf!) ac i Sgwâr Tiananmen a'r Ddinas Waharddedig (lle roedd yr Ymerawdr yn byw gweddill y flwyddyn!). Mynd i'r lleoedd hyn ar drafnidiaeth gyhoeddus fel bod y rhai newydd yn cael blas ar fywyd go iawn China - cael bod yn sardîn mewn tun ar y bws a chael gwthio trwy bawb ar y trên tanddaearol!

Mynd i Sgwâr Tiananmen, ond heb ddigon o amser i weld
corff Mao (sydd yn cael ei gadw yma pan na fydd yn Rwsia yn cael ei embalmio!). Dim ond yn y boreau cyn
11o'r gloch y mae'n bosib cael gweld y dyn ei hun, felly dim amdani ond crwydro'r sgwâr.

Roedd hi'n olygfa od - criw mor fawr o dramorwyr yn cael eu tywys ar draws y sgwâr - dim ond ymbarél oeddwn ei angen fel bod pawb yn medru fy nilyn! Cafodd genethod gwallt melyn y criw newydd eu blas cyntaf ar fod yn 'enwog' ar y sgwâr - nifer o bobl am gael tynnu eu lluniau â hwy. Profiad a hanner i'r ymwelwyr Tsineaidd!

Sgwâr Tiananmen ddim mor wych â hynny. Yn llythrennol sgwâr mawr concrid yng nghanol dinas Beijing ydyw - efo
amgueddfa ar un ochr a Neuadd Gyngres y Bobl (y llywodraeth!) ar y llall. Mae'n debyg mai'r hyn sy'n ei wneud yn brofiad i ni ydi cofio'r hyn a ddigwyddodd yma yn 1989.

Ar ôl cerdded ar draws y sgwâr a thynnu lluniau dyma fynd i'r Ddinas Waharddedig.Yma cafodd y ffilm Yr Ymerawdwr Olaf ei ffilmio.

Treuliais tua hanner awr efo gwraig Darryl yn ceisio
darganfod os oedd yn bosib cael gostyngiad ar y pris
mynediad oherwydd bod dros ugain ohonom. Wrth gwrs
roedd yn amhosibl hyd yn oed cael y wybodaeth!

Dim amdani ond talu'n unigol i fynd i mewn. Aros yn ymyl y swyddfa docynnau nes i bawb gael tocyn rhag ofn bod
problemau - gwasanaeth gwael sydd i'w gael hyd yn oed
mewn llefydd fel hyn.

Penderfynu cyfarfod y tu allan i'r Ddinas Waharddedig am
bedwar i roi pawb mewn tacsi yn ôl i'r gwesty. Er bod y
ddinas yn ofnadwy o brydferth a'r olygfa'n anhygoel, ar ôl tua hanner awr mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dechrau diflasu yno. Ar ôl gweld pum adeilad coch efo to aur, nid yw'r chweched yn fawr o beth, na'r seithfed, na'r wythfed chwaith!

Cerddais o gwmpas efo dau neu dri o wirfoddolwyr newydd a Darryl yn ateb cwestiynau ar China a sgwrsio'n gyffredinol am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y newyddion ym Mhrydain. Mae'n debyg bod byw yma fel byw mewn faciwm enfawr heb unrhyw wybodaeth am y byd tu allan. Braf oedd cael rhywfaint o newyddion wir!

Mynd allan o'r ddinas tua thri o'r gloch a disgwyl am y
gwirfoddolwyr newydd. Eistedd ar y pafin yng nghanol y
glaw a chael nifer o ymwelwyr Tsineaidd yn gofyn am gael tynnu lluniau ohonom. Rhai oedd yn rhy swil i ofyn yn gwneud i'w plant sefyll ganllath o'n blaenau ac yna yn tynnu llun. Rhyfedd meddwl bod gweld tramowyr yn gymaint o beth i'r rhain ag ydi gweld y Ddinas Waharddedig ei hun.

Rhoi'r gwirfoddolwyr newydd mewn tacsis yn ôl i'r gwesty cyn mynd yn ôl yno fy hun. Penderfynu cyfarfod pawb ym mar y gwesty gyda'r nos am fwyd.

Ychydig iawn o wirfoddolwyr ddaeth yno ac roedd llai fyth
eisiau mynd am fwyd felly mynd am fwyd efo Kate (mae
sawl un o'r enw Kate yn gweithio yma yn China!) a Caroline (Caroline wedi dod i fyny i Beijing i drefnu'r gynhadledd - mae cynhadledd flynyddol yn cael ei threfnu ar gyfer mis Tachwedd) a chyfarfod y lleill yn hwyrach yn y stryd gyda'r bariau.

Mynd i dy bwyta bychan a sgwrsio efo'r perchennog. Dweud wrtho mai Tsineaid oeddem o ardal Xinjiang (mae nifer enfawr o frodorion yr ardal yn Orllewinol eu golwg oherwydd bod yr ardal mor agos i Ddwyrain Ewrop a'r Dwyrain Canol) 'doedd y dyn ddim yn rhy siwr a oeddem yn dweud y gwir ai peidio! Hwyl!

Dechrau bwrw glaw yn drwm - socian drwyddom
yn ceisio dal tacsi. Y lôn fel afon gan nad oes system
ddraen dda iawn yn y ddinas, ychydig iawn fydd hi'n bwrw yn Beijing. Yn ôl yn 97-98 mae'n debyg mai dim ond gwerth tua 10 ddiwrnod o law a fu.

Treulio gweddill y noson yng Nghlwb Havana a thafarn Wyddelig Beijing.


Awst 28 - Medi 3 2001 - yn ôl i'r coleg
Cyrraedd yn ôl i'r coleg ar ôl treulio'r haf yn y gogledd a darganfod bod tyllau mawr yn y lôn. Pam? Dwn i ddim! Gweld gwahaniaeth mawr yn agwedd y bobl ar ôl cyrraedd yn ôl i'r Canolbarth - pan es i ar y trên yn llwythog i gyd yn Beijing dim ond syllu wnaeth pobl, ond yn Chnagsha ac wedyn yn Yiyang cefais gynnig help ar sawl achlysur wrth i mi geisio mynd ar y bws neu ddod yn ôl i'r coleg.

Cefais dacsi yn ôl i'r coleg o'r dref am 20 kuai - 10 llai na'r pris gofyn arferol. Fedr unrhyw un sydd wedi bod mewn tacsi yn China ddweud wrthych bod cael tacsi rhad yn eithriadol o anodd yma. Y dueddiad yw i wneud taith hanner awr pan fo taith 10 munud yn bosibl!

So far so good medda fi wrthyf fy hyn, dim ond i gyrraedd yn ôl i'r fflat a darganfod bod y trydan wedi bod i ffwrdd am oes pys. Roedd oglau trybeilig yn y fflat a rhyw fath o arbrawf cemegol yn y rhewgell ac ambell i cockroach marw ar lawr yr ystafell molchi. Cyn hyd yn oed meddwl
am ddadbacio rhaid oedd mynd i'r swyddfa i ofyn i rywun roi'r trydan yn ôl, a glanhau'r holl le.

Dwr brown yn rhedeg o'r gawod a'r tapiau i gyd. O am gael bod yn ôl yn Beijing! Mynd i'r ystafell wely - popeth yn damp am ryw reswm. Tyfiant ar y gobennydd a'r cwilt - ac oglau hen ar y dillad yn y cwpwrdd felly golchi fues i am ddyddiau!

Dim syniad pa bryd fydd Kate yn ei hôl - cymryd yn ganiataol ei bod bellach yn ôl yn China, mae'n debyg yn y De gyda'i chariad. Cael galwad ffôn ddiwedd yr wythnos yn dweud ei bod ar ei ffordd adref i Yiyang. Yiyang - adref?!

Cyfarfod dyn o India hefyd. Wedi dod o hyd i swydd yn
ninas Yiyang mewn ysgol iaith dramor dros y rhyngrwyd.
Ddim yn siwr iawn pam ddewisodd o Yiyang chwaith! Diddorol cael tramorwr arall yn yr ardal - rwan mae 'na bump ohonom yn y ddinas.

Dod i wybod ar ôl ychydig o ddyddiau bod Ms Xia a Mr. Cao, dau bennaeth yr adran Saesneg, wedi gadael a chael swyddi yn ninas Changsha! Neb wedi meddwl gadael i Kate na finnau wybod wrth gwrs! Gwleidyddiaeth fewnol y coleg yn ôl pob sôn - hynny yw bod y coleg yn ystyried ei hun yn rhyw fath o beiriant gwneud arian yn hytrach na choleg.

Mae'n ymddangos bod hyn yn wir - dim ond wrth edrych o gwmpas y coleg ar yr adeiladau a chymharu hyn â safon yr addysg - e.e cyn-bennaeth yr adran Saesneg sydd prin yn medru siarad Saesneg ond yn dal i ddysgu oherwydd bod ganddo rym o fewn y coleg.

A gwaeth na hynny hyd yn oed mae Wang Jun wedi gadael Yiyang hefyd am Beijing ar gyfer addysg bellach! Felly mae'r tri aelod o'r adran Saesneg oedd yn ymwneud â ni fwyaf wedi gadael y coleg. Ddim yn siwr yn union beth fydd rhaid ei wneud o'i herwydd rwan!

Methu'n glir â deall lle mae'r amserlen dysgu eleni - ar ôl gofyn a gofyn i Mr Xu sydd wedi cymryd lle Mr. Cao fel pennaeth dros dro cael copi o'r amserlen 8 o'r gloch y nos Sadwrn cyn i'r tymor ddechrau! Dim byd fel bywyd byr-rybudd China!


Medi 4 - Medi 18 2001 - amserlen annheg
Wedi cael fy amserlen ac yn dysgu Saesneg llafar i'r
gyntaf, ac i ddau ddosbarth busnes Saesneg, yn ogystal â methodoleg i'r drydedd ac am ryw reswm dwi'n dysgu busnes i'r drydedd flwyddyn hefyd! Nid addysg yw pwnc y rhain.

Ceisio cael gwybod pam yn union 'roeddwn yn dysgu hyn iddynt, does dim synnwyr yn y peth gan nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y pwnc. Cymryd bron i wythnos a hanner i gael gwybod. Wel - a bod yn onest dal ddim yn gwybod ond cael ar ddeall pan yn chwarae badminton nad oedd rhaid i mi ddysgu'r wers i'r drydedd busnes rhagor!

Ail broblem yr amserlen oedd dosbarth busnes yr ail flwyddyn. Roeddwn nhw wedi eu cymysgu yn llwyr, rhai oedd â Saesneg eithaf safonol yn yr un dosbarth â myfyrwyr nad oedden nhw'n gallu siarad gair o'r iaith!

Fe es i'r swyddfa i geisio egluro hyn gan bod Kate hefyd yn cael yr un broblem. Ceisio egluro i Mr. Xu ei bod yn amhosib dysgu'r dosbarth fel hyn. Gwrandodd arna i'n astud a chytuno.

Mynd yn ôl adref a chyn pen diwedd y dydd cael galwad ffôn gan Jenny (sydd wedi cymryd lle Wang Jun fel cysylltiad rhwng Kate a finnau a'r coleg) yn dweud nad oed Mr Xu wedi deall beth oeddwn wedi dweud wrtho! Rhaid oedd egluro wrthi eto.

Wedyn cefais alwad ffôn gan Mr. Xu yn dweud nad oedd yn syniad da gwahanu'r dosbarth, ac nad oedd ots os byddai hanner ohonyn nhw' n methu ddiwedd y flwyddyn gan eu bod i gyd wrth eu boddau yn gwrando ar "Your wonderful, beautiful English" Mae wir angen gras ac amynedd!

Penedrefynodd Kate a finnau rannu'r dosbarth beth bynnag. Rwyf rwan yn dysgu'r rhai sydd methu siarad
Saesneg ac mae Kate yn dysgu'r gweddill!

Cael 100 kuai gan yr adran ar ddiwrnod yr athrawon - pob aelod o'r staff yn cael hyn. Gwybod bod rhai athrawon yn China yn cael diwrnod o wyliau. Dwi'n siwr y byddai athrawon Prydain wrth eu boddau yn cael y fath driniaeth ar ddiwrnod arbennig fel hyn.

Y myfyrwyr yn methu deall pam nad oeddem yn dathlu'r wyl ym Mhrydain. Mam a Dad yn genfigennus, yn enwedig ar ôl deall ein bod hefyd wedi derbyn 250 kuai ychwanegol gan y coleg yn ogystal â'r 100 kuai gan yr adran - o a bocs enfawr o afalau yr un! Does dim posib y bydd y ddwy ohonom yn medru mynd trwy ddau focs o afalau cyn iddyn nhw fynd yn ddrwg! Ond dyna ni - dim synnwyr cyffredin unwaith eto! Dim syrpreis bellach!

Cael ambell i anrheg gan fyfyrwyr hefyd a chardiau yn dweud pa mor wych a phrydferth ydw i. Ew fydd gen i ben mawr ar ôl dod yn ôl i Gymru!


Medi 19 - Medi 25 2001
- ymwelwyr pwysig

Angen newid rhuban yr argraffydd - dau fyfyriwr o'r adran cemeg yn dod i wneud hyn, a'r un diwrnod daeth un o athrawon yr adran cemeg i drwsio tap oedd yn rhedeg yn gyson ac i newid peipen ddwr yn fflat Kate.

Ni fedraf weld hyn yn digwydd yn unman ym Mhrydain a
bod yn onest - oni bai bod yr athro Cemeg ei hun yn berchen ar y ty! Diddorol - profiad arall o China!

Dathliadau enfawr yn y coleg hefyd i groesawu rhyw bobl o Beijing sydd am benderfynu os caiff y coleg ddod yn brifysgol. Mae'n debyg ei bod hi'n 90% sicr y bydd y coleg yn newid o fod yn goleg hyfforddi athrawon i brifysgol Yiyang ymhen blwyddyn.

Mae hyn yn golygu rhagor o arian i'r coleg a'r cyfle i gynnig cyrsiau gradd mewn pynciau eraill a chyrsiau pedair blynedd yn hytrach na thair blynedd a diploma.

Dydw i ddim yn deall y system yn iawn fy hun. Fodd bynnag digon hawdd gweld faint o arian sydd wedi ei wario drwy ail osod y lonydd, creu maes parcio bach wrth y giât flaen, y myfyrwyr wedi eu cadw o'u gwersi er mwyn rhoi croeso, 4 balwn enfawr wedi eu codi i'r awyr a baneri enfawr cochion yn croesawu'r ymwelwyr i'r coleg (yn ôl pob sôn mae llogi'r rhain yn costio tua 2000 kuai y diwrnod sy'n cyfateb bron i gyflog mis Kate a finnau).

Cafodd y coleg dipyn o sioc fodd bynnag pan fynnodd yr ymwelwyr na fydden nhw'n ymweld â'r coleg i wneud eu penderfyniad pe na byddai'r holl fyfyrwyr yn mynd yn ôl at eu gwaith.

Es i allan i dalu fy mil ffôn - wel sôn am sioc. Roedd pobol gyffredin yr ardal hyd yn oed wedi casglu o gwmpas y giatiau, a'r dynion wrth y giât yn sefyll tu allan yn smart i gyd (fel arfer mae tri ohonyn nhw'n eistedd mewn ystafell yn yfed te neu'n sgwrsio!) roeddwn o dan yr argraff bod Arlywydd China ei hun am ymweld â'r coleg!

Mynd am bryd bwyd i ddathlu penodiad Mr. Wu fel pennaeth newydd yr adran Saesneg (Ei enw llawn yw Mr.
Wu Zhi Gao felly fe'i gelwid gan Kate a finnau yn Mr. Bu Zhi Dao (Mr. Dwi'm Yn Gwybod. Rhaid bod yn ofalus
pan yn siarad amdano neu gydag o rhag ofn!).

Mae'n byw yn y fflat uwch fy mhen, ac mae ei wraig ac yntau yn medru siarad Saesneg reit dda - diolch i'r drefn!

Fodd bynnag mae Mr. Xu wedi ei benodi yn is - bennaeth yr adran. Mae'n debyg oherwydd mai ef yw ysgrifennydd
plaid gomiwnyddol yr adran. Mae'n rhaid i bob gweithle gael ysgrifennydd parti - dyn hollbwysig. Pwysicach mewn rhai ardaloedd nac eraill ond mae'n gyfrifol am hyfforddiant gwleidyddol y staff. Weithiau mae ganddo fwy o bwer na'r pennaeth ei hun.

O wel! Un allan o ddau bennaeth yr adran Saesneg sydd wir yn gallu siarad yr iaith yma, dydi hynny ddim yn rhy ddrwg! Edrych ymlaen i ymweliad fy ffrind Eilir fydd yn cyrraedd dydd Sul!




asia

China
Cymraes yn dipyn o ryfeddod yn China

Prydferthwch Chineaidd

Tipyn o newid

Profi hiliaeth yn Beijing

Eliffant, paun ac obsesiwn Tseiniaidd

Chwarae banjo a siopa ym marchnad yr enwogion

Gweld bywyd go iawn Beijing

Gweld bywyd go iawn Beijing

Dysgu sgwennu efo Duw

Awchu am Fac arall

AIDS a Big Mac

Dim dwr, dim trydan

Rhannu aelwyd efo teulu ar fy mhenblwydd

Acupuncture i drechu'r mwg

Ar y teledu - yn hysbysebu wyau drwg!

Nwdls i frecwast - a swpar efo Duran Duran!

Dwy flynedd yn China

Helyntion biwrocrataidd




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy