Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol

Y Cwps

Pan esgyn âb i frig ei iorwg
Daw ei din yn fwyfwy amlwg,
Ac os colli wna ei afael
Hawdd y collo ei ddyrchafael.

Iwan Bryn James 8

Y Gwylliaid Cochion

Mae rhannu barn bwysiced
â gwrando ac ystyried,
ond dylem weithiau ddweud dim byd
er mwyn i'r Byd ein clywed.

Rhiain Bebb 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae odli ambell linell a galw’n hun yn fardd
fel honni mod i’n arddwr am mod i berchen gardd.

Mae’r rhai sydd yn sgwennu fel arfer
yn meddwl fod eraill am ddarllen eu cleber.

Mae'r clawdd o hyd yn gwegian
a bwlch mewn llawer plwy,
s'na safwn ynddo'n gadarn
Mi eith yn llawer mwy.

Y g诺r a goelia ei gelwydd ei hun
dry ei gefn ar wirionedd
cyn siarad trwy'i din.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw fath o offer chwaraeon

Y Cwps

At giw Bar Williams Parry
Yn Awst yr anelwn ni.

Iwan Bryn James 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Er clod am glirio’r clwydi
neidio'n uwch yw'r nod i ni.

Rhiain Bebb 8.5

Cynigion ychwanegol

I hiliaeth, waeth ble’r eloch,
Rhowch bob un y cerdyn coch.

Ddydd a ddaw bydd Barn ddi-os
VAR yn fy aros.
Ti yw'r un sy'n troi ennyd
o'r haf yn bleser o hyd.

Un annwyl oedd merch Enoc,
liciau hi fy shuttlecock.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Er gwaethaf yr holl gyhuddiadau’

Y Cwps

Er gwaetha’r holl gyhuddiadau
O ddenu y meuryn a’n ffafrau,
Yn agos a phell,
Sdim yn gweithio yn well,
Na Dafydd yn croesi ei goesau.

Rocet Arwel Jones 8.5

Y Gwylliaid Cochion

Er gwaethaf yr holl gyhuddiadau
arweiniodd at lu o ddedfrydau,
mae bywyd yn fêl
i John yn y jêl
ymhell bell o'i wraig a'i chroeseiriau.

Gwion Aeron 8

Cynigion ychwanegol

Limrig Boris
Er gwaethaf yr holl gyhuddiadau,
Y ddirwy a’r myrdd o sgandalau,
Daeth Guto i’m stryd,
A rhyfel mewn pryd
I guddio fy myd o gelwyddau.

Er gwaethaf yr holl gyhuddiadau
fod Ceri ‘n rhy hael gyda’i farciau:
fe roddodd i’m lwyth
o farciau dan wyth,
am fentro beirniadu ei Awdlau.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Triniaeth

Y Cwps

‘What’s my name?’ – ar ôl gwylio’r gyfres ddogfen ddiweddar am Muhammad Ali.

Rhy hardd dy safiad, rhy hy,
Ni chaen-nhw dy fychanu.
Benben â hen grechwen grym
Ar eu gweflau, rhy gyflym
Oedd dawns dy huodledd di
A gwenyn dy ddrygioni.
A rhy graff ar y rhaffau
Iddyn nhw dy ddawn i wau
Drwy gawodau’r ergydion
Yn y drin ddidostur hon.
Hawliaist, Muhammad Ali,
Ganddynt alw d’enw di.

Huw Meirion Edwards 10

Y Gwylliaid Cochion

Du i gyd dy ddillad gwaith,
mis geni saethaist ganwaith
i'r geni, gwylio'r gwanaf,
gwylio oen a'i weld yn glaf.
Gwanu'th big yn glinigol,
a'th nyrs o'i nyth 'n aros nôl
i wylio bob tro y trin.
Â'i dor yn rhuddo'r priddin;
â'th gledd ei ddiberfeddu,
lladd oen, trin â'th gyllell ddu
o raid - dy natur ydyw,
a'r un trin - ein natur yw.

Tegwyn Jones 9.5

5 Triban beddargraff cyfieithydd ar y pryd

Y Cwps

Pan alwodd Duw ar Leusa
i'r nefoedd, wedi'r yrfa,
darganfu ei bod mas o waith:
mond un iaith sydd yn fan'na.

Geraint Williams 9

Y Gwylliaid Cochion

Condemniwyd o i'r eitha'
oherwydd un fanana,
am fethu cofio'r gair mewn pryd
mae ar ei hyd yn fama.

Rhiain Bebb 8.5

Cynigion ychwanegol

I uffern aeth Meredydd
Er iddo fyw’n ddidramgwydd,
Doedd dim lle’n y nefoedd wen:
Dim angen run cyfieithydd.

Waeth iddo heb â chwynfan
mae'r di-wifr yma'n simsan,
â gwaith mor brin, mi geith ryddhad
o siarad â fo'i hunan.

Aeth hwn i’r bywyd nesa’
mewn fforwm tafodiaetha’
mi aeth mewn sgwrs rhwng cofi dre
a boi o dde Dolgella’

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Llacio

Y Cwps

‘Mae fy ngafael yn llacio,’ medd Boris mewn braw,
‘Ac ni wn i bellach pa beth a ddaw,

‘Fe’m cyhuddir o smalio, a chogio a gwaeth,
A dwedir fy mod i gelwyddau yn gaeth.

‘Pob un yn San Steffan sydd yn fy nilorni,
Am fwyta rhyw damed o gacen mewn parti,

‘A phawb o Keir Starmer i Archesgob Caergaint
Yn mynnu fy nhrin fel pe bawn i’n rhyw haint.

‘Pob gwleidydd yn Ewrop gaiff hwyl ar fy mhen,
Ac eithrio efallai, am Marine le Pen.

‘Rwyf fel rhyw ffoadur mewn cwch ar yr eigion,
Yn alltud o Lundain ac yn brin o gysuron.

‘Fe af draw i Kiyf, mae Selinski mewn picil,
Gan roi iddo nghyngor ac actio fel Churchill,

‘A’i rybuddio’n garedig rhag gyrru gormodedd
O’i bobol i Brydain i geisio ymgeledd.

‘Nid yw Kiyf yn saff, fe af draw i’r India,
Oes gobaith am loches yng ngwlad y Mahatma?

‘Wel nacoes. Rwanda, yw’r unig le’i ddengid,
Fe gaf yno guddio rhag pawb sy’n fy erlid.’

Dafydd Morgan Lewis 9

Y Gwylliaid Cochion

Ugain stôn a mwy oedd Twm,
i ddweud y gwir roedd yn lwmp go drwm.
Tim rygbi’r dref oedd 'n ei ddewis o
‘run pryd - i chwarae’r holl 'front row'.
Fe lowcia'i alwyn o stowt bob nos
‘fo sawl Blydi Meri a “Worcester sauce”;
‘rôl claddu swper ei annwyl Olwen,
un bastai enfawr, fel un Llangollen,
cyn diosg ei ddillad o'i 'Y fronts' i'w socs
a cholapsio i’w wely o goncrit blocs.

Ond awgrymodd rhywun iddo drio llymru
a chael tro ar y rhaglen 'na - Ffit Cymru.
Yn sydyn iawn mi drodd yn dene
fel bod modd ichi gyfri pob un o’i sene!
Bu rhaid iddo fynd i brynu brasus
rhag ofn i’r creadur golli ei drowsus.
O golli ei fraster mi gollodd ei hiwmor
a’r ôll oedd yn llenwi ei fywyd â “glamour”.
Och a gwae - am ddiwedd i’r cóg,
mi fflyshiodd ei hun lawr twll bach y bog!

Alun Jones 8.5

Cynigion ychwanegol

Fe f葪m yn hogyn bochdyn
A’m taclau yn eu lle,
Ond rhywsut nawr mae popeth
Yn llithro tua’r de.

7 Ateb llinell ar y pryd : ‘Rwy’n un o’r rheini na wêl’

Y Cwps

Rwy’n un o’r rheini na wêl
Anobaith o dan rwbel

Dafydd John Pritchard 0.5

Gwylliaid Cochion

Rwy’n un o’r rheini na wel
Eiriau Dyw ar awr dawel.

Alun Jones 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cyllideb

Y Cwps

ugain ceiniog oedd o
ddim digon i fi

aros a phlygu a'i
ollwng heb oedi i

waelodion rhyw boced
ond yng nghornel

eithaf fy llygad fe
welais y wên fwyaf un

yn rhwbio'r sglein
ar y darn arian

cyn ei osod yn y
boced ddirgel saffa’

oedd ganddi

Dafydd John Pritchard 9.5

Y Gwylliaid Cochion

Plannais ardd, magu hadau
mewn corneli heulog
trwy’r t欧. Eu gweld yn tyfu,
pob un yn wyrth.

Calendula i’r gwenyn,
cwlwm yr asgwrn i’r pridd,
pys per a phabi melyn.

Ai dyma sut mae’n gweithio?
Deilen am bob dim dwi’n llosgi?

Mae’r ardd yn llawn o adar bach,
maen nhw’n trydar yn y gwyddfid
wrth i jets y RAF rwygo glas y pnawn
yn garpie.

Elan Grug Muse 9.5

9 Englyn: Dinas

Y Cwps

(Mariupol, Pasg 2022)

…yno, am eiliad, mae heulwen yn gryf
uwch rhyw groes anniben,
ac mae braw yng nghystrawen
bore hardd rhyw ddarn o bren

Dafydd John Pritchard 9.5

Y Gwylliaid Cochion

Mariupol

O 'ngwthio hyd fy ngwaethaf, o orfod
codi arf, â laddaf?
Ond â dwrn haearn arnaf
gwn yn iawn o raid y gwnaf.

Gwion Aeron 10

CYFANSWM MARCIAU

Y CWPS 72.5
GWYLLIAID COCHION 71.5