Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol

Dros yr Aber

Pesgi ar y tsips a’r pysgod y mae
ym mar y Gwyddelod;
yn uniaith, yn binc hynod,
gorau Brit yw Brit Abroad.

Carwyn Eckley 9

Talybont

Er trymed y pwysau mewn ambell waled,
rhyfeddol o fach yw maint y boced.

Anwen Pierce 9.5

.
Cynigion ychwanegol

Ar ôl rhyfela yn Ewrop erioed,
mae’n dda gweld dynion yn dod at eu coed.

Os wyt brin o arian, peidied
benthyg mwy i dalu dyled.
Felly hefyd paid ag yfed
mwy o win i dorri syched!

Hyd yn oed heb hyder, shgwl,
yma ar yr oci, twl.
Falle ’neith hi daro'r bwl.

Meddwl eto cyn gwastraffu:
bara ddoe wnaiff stwffin fory
(os oes gennyt dalp o fenyn,
saets a phersli a winwnsyn).

Hawdd gwneud elw os wyt gefnog;
anodd ennill llog ar geiniog.

Er bod gwyntoedd mis Mawrth o dro i dro'n filain
Eleni, ein blingo wna gwyntoedd y dwyrain.

Achubodd y blaned wrth bedlo bob bore;
Sdim sôn am holl lygredd y ceir sydd tu ôl e.

2 Cwpled caeth yn cynnwys yn cynnwys enw unrhyw lysieuyn

Dros yr Aber

Yn y ffeit rhwng pys a ffa,
moronen fu’n meuryna.

Marged Tudur 9

Talybont

Dyna wast o dan y nen
yw bwtsiwr â chabetjen.

Gwenallt Llwyd Ifan 8.5

Cynigion ychwanegol

"Un hyfryd," meddai Avril,
"o swmpus yw wylys Wil."

Mae’n brofiad hynod, dodwy
yn sydyn, blanhigyn wy!

’Da Nans, er ei bod yn hen,
mi rannaf fy moronen.

 nodau gwag lond ei gân,
poen erioed yw’r pen rwdan.

Sibrydwn oll, wrth golli,
“moron, wir, yw’n Meuryn ni.”
Her i chi: llefarwch o,
“ysbigoglys”, heb giglo.

Wir, os wyt yn dwblu’r sws,
nid wyt yn werin datws.

Afon o dail lifa'n don
ddaw â’r mawredd i’r moron.

Hidia Pat yr un daten
am letys a betys Ben.

Pam o pam rhaid bwyta pys?
Gwglaf, beth yw spigoglys?

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Yn rhywle sydd draw dros yr enfys’

Dros yr Aber

Yn rhywle sydd draw dros yr enfys
mae gwynfyd godidog o hapus.
Afallon ddiguro,
ond er mwyn mynd yno,
yn gyntaf rhaid dreifio drwy Gorris.

Rhys Iorwerth 8.5

Talybont

Mae bro lle mae’r tasgau’n bleserus
A neb o’r talyrnwyr yn nerfus,
Marciau llawn pob tro ddaw
Gan foi ffeind ar y naw
Yn rhywle sydd draw dros yr enfys.

Phil Thomas yn darllen gwaith Anwen 8.5

Cynigion ychwanegol

Fe drefnais i’m gwraig wyliau moethus
yn rhywle sydd draw dros yr enfys.
Mae’i llygaid hi’n ffrom,
a thybiaf mai siom
yw’r bedsit ar brom Bognor Regis.

Yn rhywle sydd draw dros yr enfys
ces brofiad ryw dwtsh yn anffodus
a minnau yn glanio
ar ôl parash诺tio
led cae o fy nhrôns a fy nhrowsus.
Yn rhywle sydd draw dros yr enfys,
diflannodd y bwa hudolus.
A bellach nid oeddwn,
heb hwnnw, fe farnwn,
yn rhywle sydd draw dros yr enfys

. Yn rhywle sydd draw dros yr enfys
caf fyned ar drenau heb fysus.
Caf Freddo llawn maint,
caf gyngerdd heb haint
“caf wr efo gwallt!” medd y missus.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Criw

Dros yr Aber

Donetsk. Â’r dydd yn llesgach,
dechreuon ni, fi a’r fach,
tua’r ffin, wedi blino,
gan groesi’r trefi’n ein tro
gyda’r trwch yn nüwch nos.
I'r hwyr, rhaid i ’ng诺r aros
dan seiliau dinas ulw;
mae o’n un â’u bomiau nhw.
Hithau a’i chais nosweithiol –
ond ni wn pryd awn ni’n ôl
i Wcráin. Mae hi’n crynu,
a dw i'n ddall o dan nen ddu.

Carwyn Eckley 10

Talybont

Miloedd o bennau melyn
a’r awyr las grea lun
o wanwyn o dan faner.
Wyneb lawnt o flodau blêr,
wedi’u dal dan fandaliaeth
awel fain y dwyrain. Daeth
drwyddynt ryw wynt yn llawn trais
i’w malu’n enw malais.
A’u teulu fel petalau’n
y pridd, mae’r storm yn parhau
i godi, a llenwi llun
â miloedd pennau melyn.

Gwenallt Llwyd Ifan - 10

5 Triban Beddargraff Trefnydd digwyddiadau

Dros yr Aber

Er trefnu’r partis gwylltaf
a'r sioeau godidocaf,
wrth droed y bedd mi fyddai'n neis
cael un syrpreis fawr olaf.

Iwan Rhys 8.5

Talybont

Fe wiriaist pob manylyn
Ar boster ac ar docyn
Ond un gwall bach a’th faglodd di
Wrth groesi yr Iorddonyn.

Phil Davies 8

Cynigion ychwanegol

Didolaist am flynyddoedd
y VIPs a'r cyhoedd.
Ond a yw d'enw di i lawr
yn llyfr mawr y nefoedd?

Mae ger ei fedd giw araf,
a ffens, a’r stiward suraf,
a rhaid wrth wristband pinc a glas
i roi’r gymwynas olaf.
Archebodd y prosecco
a hwylio’r bwffe croeso,
ond saethu wnaeth, o botel, gorc,
cyn taro fforc, a’i ladd-o.

Bu'n poeni am y tywydd,
A phwy i'w gael yn llywydd,
Bu'n poeni druan hyd ei fedd
Lle caiff e hedd dragywydd.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Canslo

Dros yr Aber

Mae decpunt yn mynd allan o ’nghyfri banc bob mis
a phob tro mae’n mynd allan, mae’r cownt ddeg punt yn is.
Does ’da fi ddim un syniad am beth mae'r tâl i fod.
Sdim rhif nac enw cyfrif, dim ond y sorting code.
A’r cod didoli yma, tri chwech, wyth tri, saith un,
Yw’r un un cod didoli â ’nghyfrif banc fy hun.
Nawr, sa i'n meindio hala, ond mae e’n dân ar groen
pan fyddaf i yn hala am rywbeth sa i’n moyn.
Rwy wedi bod ers misoedd yn trio canslo’r ffi.
Mae decpunt heb fynd allan yn ddecpunt mwy i mi.
Wrth ffonio'r llinell gymorth, ma’ nhw o hyd yn dweud
mai mynd i mewn i’r gangen yw'r unig beth i’w wneud.
Ond mae fy nghangen leol ’di cau, yn ôl y drefn,
ac arwydd yn y ffenest yn rhoi’r rhif ffôn drachefn.
Ces drwodd ddoe o'r diwedd at robot hirben iawn;
un â chonsýrn amdanaf – fe sgwrsiom drwy’r prynhawn.
Cynigodd ateb perffaith, rhesymol iawn ei bris:
Gwasanaeth Canslo Taliad, am ddeuddeg punt y mis.
Fe fydd yn werth bob ceiniog er mwyn cael sicrhau
nad wy’n gwastraffu arian, sef rhywbeth rwy’n ’gasáu.

Iwan Rhys 9.5

Talybont

Gwahoddiad ddaeth pa ddiwrnod i gartref Phil y bardd,
‘Ni ishe chi fodelu ein Speedos newydd hardd’.
Cynigiwyd mil o bunnoedd a thocyn i Hong Kong.
Derbyniais ef yn ebrwydd; beth allai fynd yn rong?

Gwnes baratoi yn ddyfal, a wacso’m corff i gyd,
Rhaid edrych ar fy ngorau cyn mynd i ben draw’r byd.
Botocsiais rownd fy llygaid, a’m heiliau gafodd blwc,
Ac eilliais i fy mhen yn llwyr nes edrych fel wy clwc.
Fe irais pob cyhyryn, ces bedicure cwic,
Astudiais wefan Hunks Today i ddysgu pob un tric.

Ond yna daeth dadrithiad, derbyniais neges frys,
Fe ganslwyd yr apwyntiad cyn i mi dynnu nghrys.
Gwahoddwyd Phil anghywir, rwyf nawr yn deall, cans
Mae Phil y Fet yn Hong Kong bell yn prancio yn ei bans.

Phil Davies 9.5

7. Llinell ar y Pryd

Dros yr Aber

Crio caru creu cweryl
Es i i’r Oscars nos Sul

Rhys Iorwerth

Talybont

Es i i’r Oscars nos Sul
Curais a chychwyn cweryl

Gwenallt Llwyd Ifan 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Malurion

Dros yr Aber

Mawrth 2022

Cyn i’r gwynt ddenig o lawes fy nghôt
a niwl y môr afael am ynys Iona,
cyn i lygad y binociwlars fynd yn drwm,
cyn i hoel esgidiau droi’n slwj ar y llwybr,
cyn i dy silwét ddiflannu uwch y grib,
cyn i mi anghofio enwau’r lochs
a’r dynion yn nodio’n araf wrth bostyn giât,
cyn i amser glymu cordiau’r gitâr,
cyn i’r diwrnodau edrych fel pob diwrnod arall,
dwi’n dadbacio pamffledi, tynnu ticedi o waelod poced,
dad-grebachu derbynneb, llyfnhau plygiadau’r map
ac wedi’u trwsio, eu gludo’n dyner yn fy llyfr.

Mae’r ffôn yn dirgrynu
a dwi’n sgubo pennawd a phlant a rwbel dan fy mawd.

Ar y ddesg maen nhw’n rhythu arna i.

Marged Tudur 10

Talybont


Mis Mawrth, 2022 ger y wal goffa COVID ar lannau’r Tafwys

Cwymp y calonnau
yn storom ddail i’r llawr.
Gwanwyn yw hi
ond mae’r cysgodion
pinc a choch
yn creu Hydref barhaus ar y wal
er i’r lliwiau bylu yn yr haul.

Piga colomen ei ffordd
rhwng y mygydau ar y palmant
a rhwydwaith cysgodion
canghennau’r coed.
Nid ydynt wedi blaguro ond mae ’na liw yno,
dau fal诺n yn gaeth yng nghrafangau’r brigau,
un glas ac un melyn.
Arhosant yno,
er i’r lleisiau ddiflannu i’r gwynt.

Gwthiais ymlaen.
Syllais drwy lygaid cul
ar y llwybr sydd o mlaen i.
Mae gen i rywle i fynd.

Phil Thomas 9.5

9 Englyn: Tecwyn Ifan

Dros yr Aber

Weithiau’r iaith a’i hiraethu; weithiau’r diwn
a thraw dwys y canu;
weithiau’n obaith i’n hybu:
heno Tecs oedd yn y t欧.

Rhys Iorwerth 9.5

Talybont

Y llais tyner sy'n ein herio – drwy fynd
i'r Dref Wen a'n huno
mewn cân, a'r coda'n cydio
i'r tiwn gael ailgodi'r to.

Anwen Pierce 9.5

Cynigion ychwanegol

Lleidr mwstashys llydan ydw i,
a’m dyhead aflan,
yn slei, i greu gwefus lân,
yw cneifio Tecwyn Ifan.

CYFANSWM MARCIAU

DROS YR ABER 74
TALYBONT 73.5