Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Beca

Joe Root calls on England to show fighting spirit from the start of the 5th Test 13.1.22
Er gwaeled pob rhagolwg – na phoener
Mae’r ffiniau yn amlwg;
Ar y bêl rhown dro bilwg
A mynnu gwyngalchu’r gwg.

Rachel James 8

Glannau Teifi

‘THRONE OUT’ ( The Sun 14/1/22)
O balas i gwt bychan
Daw’r dug, rôl colli’r cyfan,
O leiaf fe gaiff awyr iach
O gael t欧 bach tu allan.

Nia Llewelyn 8.5

Cynigion ychwanegol

“Revealed: Kremlin ploy to install a
puppet regime in Ukraine.”
Sunday Express 23ain Ionawr 2022
Mae Putin gallu gweld yn bell,
Bydd sianelau pob teledu
Ar ôl gorchfygu Yr Wcrain
Yn dangos Sweep a Sooty.

Djokovic and the unanswered questions
Pam mae Beca’n methu cywydda
Ac yn creu limrigau tila?
Sut mae’r dalent i farddoni
gyda’r enwog Glannau Teifi?
Cymru rydd!
Cael brecwast o briwns bob bore,
Dail senna ar ddiwedd y dydd;
Cod lifyr oel lond eu sane....
Bydd y rhelyw o’r Cymry yn rhydd!

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw siop

Beca

Os am anrheg neu degan,
Yr unig siop yw Siop Sian.

Lefi Dafydd yn darllen gwaith Eifion Daniels 9

Glannau Teifi

I’r Cop i wneud eich siopa
A dod ag ewyllys da.

Ffion Morgan yn darllen gwaith Mary Jones 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae’n heriol yma’n Harrods
Gyda’r jam, y spam a’r spyds.

I’n beunydd, waeth pwy bynnag,
Yn y Cnwc mae’r eco’n wag.

(Siop y Cnwc, Mynachlog-ddu, Penybont yn ôl ei enw swyddogol. Caewyd ar ddechrau’r 1980au. Siop gwerthu popeth ers cyn dechrau’r ugeinfed ganrif. Siop deuluol ac un o fannau cyfarfod pwysicaf y plwyf yn ei ddydd)
Y bwyd ffres gawn gan Tesco
Sy’n brin o wir flas ein bro.

I Crwst ar ffrwst af am ffroes,
Melyster yw’r melysdoes.

Gwythïen yn llên ein lli
Wyt hafan, Awen Teifi

Un nos, er y gwadwn i,
Ildiais i brisiau Aldi.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi wn, ond mae’n anodd iawn profi’

Beca

Mi wn, ond mae’n anodd iawn profi
Fod aelod o dîm Glannau Teifi
Yn cario bob blwyddyn
I gartre y Meuryn
Nid ffowlyn, ond whompyn o ddwrgi.

Eifion Daniels 8.5

Glannau Teifi

Mi wn, ond mae’n anodd iawn profi,
Bod Beca’m* yn gallu barddoni (*‘m = ddim yn)
Heb deimlo’r un glec,
Nac odli, O Hec!
Rhowch siec iddynt wir, jyst i’w tewi.

Nerys Llewelyn 8

Cynigon ychwangol

Mi wn, ond mae’n anodd iawn profi,
Dw’i wastad yn un sy’n arbrofi.
Es lan ar ddwy aden
O Landoch i Lunden:
Wel credwch beth fynnoch, ond co fi!

Mi wn, ond mae’n anodd iawn profi,
Fod ‘alien’ yn nhîm Glannau Teifi,
Fe ddaeth â chwe cymrawd
O ben draw’r bydysawd
I geisio cael llofnod wrth Ceri.

Non mea culpa est ( Boris)
Mi wn, ond mae’n anodd iawn profi –
Erfyniaf yn wir arnoch gredu -
Nad fi oedd ar fai
Os oes yna rai
Rhwng gwaith a phartio yn drysu.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Fandaliaeth

Beca

Dyfalwch! mewn adfeilion
Chwilio fydd i’r chwalfa hon,
Er ei hoed, ymhen y rhawg,
Oriau cou Abercuawg
Heb decil ac heb dician
Y cloc fu’n uno ein clan.

Trist ydyw natur ei hun
I arddel y fath furddun
Erbyn hyn, y mae’n anial
Tir a chwrt a’r t欧 ar chwâl.

I’n dyddiau, pwy biau’r bai’n
Ein hanes, ond ni’n hunain.

Rachel James yn darllen gwaith Wyn Owens 9

Glannau Teifi

Lleisia’r bît a’r graffiti
Heddiw’n iaith ein strydoedd ni,
Slang y gang sy’n lledu’r gair
Â’r ciwiau’n gaeth i’r cywair.

Diawliaid sydd yma’n delio
Eu brad drwy wythiennau bro
Â’u rhwyd yn hudo’r rhai iau
I wyll hyll eu llinellau.

Heddiw’n ewn drwy’n strydoedd ni
Â’r elw i reoli,
Rhai anllad sy’n creu hunllef
O drais i ddifrodi’r dref.

Nia Llewelyn 8.5

5 Pennill ymson mewn labordy

Beca

Gofalwn na ddiflannith hwn - /‘Y dyn wnaed mewn labordy’,
Heb galon ac ymenydd llo/ A’i ben fel tas ‘di dyrnu.
Pan gollwyd ei ragflaenydd ef/ Sut wnaeth y ddauwynebog
Dwyllo pobun yn y wlad/ A dod yn brif Weinidog?

Eifion Daniels 8.5

Glannau Teifi

I’r test tiwb rhof ddiferion/ O’r hylif ar ei union
Sdim ots o gwbwl os gwna’i gawl/ Yr un fydd brawl y gwirion.
Jyst adrodd nôl annelwig/ Yng nghanol y pandemig
Ar El Eff Tî a Pî Sî Âr/ A gwneud ein siâr, sy’n bwysig.
I’r job, nid wyf yn gymwys/ A’m profion sydd yn amwys
Ond wna i’r gwaith os talwch chi/ Mae’n sbri i un sy’n gyfrwys.

Nerys Llewelyn 8.5

Cynigion ychwanegol

Rwyf i yn berson clyfar,
Gwyddonydd mawr o fri,
Yn gweithio ffics i Boris
Er mwyn cael OBE.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cynnen rhwng Cymdogion

Beca

Rhwng drysau Unarddeg a Deg Stryd Downing
Ni chlywir bellach lawer o Gymraeg;
Medd Rish: “Mae gen i lygad ar dy swydd di...”
Medd Bo: “Mae gen i lygad ar dy wraig!”

Nosweithiau hir o glywed s诺n drws nesaf
Anfonodd ein canghellor mas o’i go’;
Mewn ymgyrch daer i rwystro’r st诺r a’r sgrechian
Rhoes gaws a gwin fel abwyd i Bo-Jo.

Fe ddaliwyd Boris druan yn y fagl,
A rhuodd: “Peppa Porcus!” nerth ei ben,
“Ego sum tyrranosaurus rex Brittanniae!
Wnewch chi fyth fy nhynnu mas o nymbyr ten!”

 help y Times a’r Mail, Y Sun a Barddas,
Fe lwyddodd Rishi’n ‘sgubol gyda’r coup.
Symudodd ef yn syth i’r t欧 drws nesaf.
Symudodd Boris druan ‘nol i’r s诺.

Ond wedyn, fe ail-droellodd olwyn hanes,
A chafodd Rishi damaid bach o sioc,
Pan gollodd ef rif deg i’w gyw-ganghellor -
Neb llai na’r tipyn ceiliog Matt Hancock!

Lefi Dafydd 9

Glannau Teifi

Rhyw ffrwtian dan yr wyneb wna cynnen ein stryd ni
Rhwng dau hen elyn oesol – fi’r gath ac ef y ci.
Ei enw ef yw Dilyn, mae’n edrych yn reit rwff
Heb ddawn i siarad fawr o sens, dim ond Wff Wff Wff Wff,
Er hyn mae’n mynnu actio fel ymerawdwr craff,
Fel Cesar gynt yn Rhufain, â’i swydd yn hollol saff.
A minnau’n byw yn barchus drws nesa’n nymbyr lefn,
Y ci sy’n swnio’n bwysig ond FI sy’n cadw’r drefn.
Fe wyliaf y camweddu sy’n digwydd wrth ei ddôr
Gan nodi fy holl gwynion yn slei a chadw’r sgôr :
Y mynd a’r dod yn gyson, â’r wlad i gyd ar stop,
Yr holl bartïon swnllyd a’r gweithwyr ar y pop.
Esgusa fod yn glyfar wrth gwrso’i gwt yn chwil
Heb wrando ar alwadau am Down Boy! Sit! a Heel!
Na becso am y tyllau a dwria yn y llawr
Nes iddynt oll yn raddol ymuno’n un twll mawr.
Ond heddiw mae’n go gyfyng ar Dilyn, druan bach
Yn styc yn ei dwll anferth i’w glustiau yn y cach,
Ac yna daw fy nghyfle (â Dilyn yn y baw)
I sleifio mewn i nymbyr ten i fod yn fos, MIAW!

Nia Llewelyn 9

7. Ateb Llinell ar y pryd.

Beca

Er garwed brwydyr gwerin
Nid yw ffens yn gwarchod ffin.

Eifion Daniels 0.5

Glannau Teifi

Pa ateb sydd i Putin?
Nid yw ffens yn gwarchod ffin.

Geraint Volk 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): O fore gwyn tan nos

Beca

 chlic ,
dihuna’r t欧 i fwmian cyfarwydd y gwres canolog a’i glydwch.
Byrlyma’r tegell ei groeso’n gyson
uwch tiwn gron grwndi’r rhewgell
a suo’r sychwr dillad,
a’u cyfleustra’n gyfeiliant i’m dydd.

Ond heddiw,
o fore gwyn tan nos daeth lleisiau o’r ardd i darfu:
twt twtian cras Titw Tomos
a chrawc nacaol cigfran,
dwrdio di-dor dryw bach ar sil
a rhybudd deryn du fel larwm rhwng yr aeron coch.

Â’r haul yn machlud,
sylla tylluan o’i llys ar frig yr onnen gan bwyso a mesur
ei dedfryd.

Heno,
tician cloc bygythiol sy’n eilio’r cerydd, a gwn
fod llygredd fy myw yn sarnu’r clydwch.

Rhiannon Iwerydd 9

Glannau Teifi

(Taith y ffoaduriaid)

Yn nagrau’r wawr, casglaist dy weddillion swta
fel athro cyn gwyliau’r ha’,
gan wisgo cragen dy hunaniaeth â blinder dy freuddwydion.
Cerddaist heibio griddfan y cynfasau cyfarwydd
cyn gludo dy atgofion i dir y creithiau
oedd i ti yn dir y gemau.
Tir yr hopscotch, y rasys a’r hide ‘n’ seek.
Oedaist cyn cefnu ar dyniad y ddaear
oedd mor 'styfnig â chwsg dy lygaid,
a dilyn ymlaen i lwybr y llu
i droedio ar hen olion yr ofnau.
Yna, yn noethni’r nos a llygaid y lloer
rhaid oedd dal cyrn y creigiau a rhwyfo’n rhad
yn araf, araf i’r tywyllwch
lle mae rhythm y tonnau yn wylo
ac yfory yn mynd o’r co’.

Ffion Morgan 9

9 Englyn: Carreg Filltir


Beca

Oni bai am nod bywyd – ofered
Pob cyfeiriad dryslyd.
Chwiliwn, ond er dychwelyd,
Rydym oll ar goll i gyd.

Rhiannon Iwerydd yn darllen gwaith Wyn Owens 9

Glannau Teifi

Aeth y bachgen, fel gwennol, i’w antur
Gyda’r gwynt hydrefol
Ar asgell, lan i’r ysgol,
O’i nyth, heb edrych yn ôl.

Anne Watts 9

CYFANSWM MARCIAU

BECA 70.5
GLANNAU TEIFI 69.5