Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Neges Hanner Amser

Dros yr Aber

“Mae’n ddau o’r gloch y bora
ar gloc ein neuadd bentra,
a ninnau’n mynd ers un y pnawn.
R诺an, gyfeillion, mae’n braf iawn
yma yn steddfod fach y Llan,
cyhoeddi dechrau yr ail ran.”

Rhys Iorwerth 8

Caernarfon

Drwy ffydd yn ein hunaniaeth
Fe sgoriwyd un llywodraeth:
Amdani! Pawb i chwarae'i ran
Hyd chwiban annibyniaeth.

Emlyn Gomer 8

Cynigion ychwanegol

“Fe wnaethoch chi fwynhau, gobeithio,
hanner cyntaf 'Wrth Aros Godot'.
Mae'r bar ar agor yn y cyntedd.
Dewch nôl i'ch sedd mewn ugain mlynedd.”

“Dyna ddiwedd hanner cynta
'Back to the Future', y fersiwn ddrama.
Yn brydlon iawn ar ôl yr hoe
dewch nôl i'ch seddau fore ddoe.”

Wyt, ti’n slofi. Dros dy blant ti’n slafio.
Ti’n moeli. Bron yn fforti. Ti’n ffartio
mwy na sy’n iach. Mae ’na s诺n hen wichio
yn dy gymalau. Tewhau ti eto.
Newyddion: ti’n heneiddio. Gyda chwib
a lot o wib, daeth canol oed heibio.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘stwff’

Dros yr Aber

Ebe R. Williams Parry,
“Diawl o stwff ’di LSD.”

Iwan Rhys 8.5

Caernarfon

Wn i be sy’n stwff heb werth:
rhes o eiriau Rhys Iorwerth!

Ifan Prys 8.5

Cynigion ychwanegol

Ni wn ’rioed a ddaeth i’n rhan
ffasiwn stwff o San Steffan.

Os nad yw’n stwff gwerth cwffio
i’w arbed, gadawed o.

Cym stwff fel ibwprwffen
i guro pwl o gur pen

O diawcs, am stwff yw baw dêr
i’w rwbio dros yr aber.

’E ges i anrheg – sunroof
’da Stan, sy’n gwbod ei st诺ff.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe chwifiais fy maner yn eiddgar’

Dros yr Aber

Fe chwifiais fy manar yn eiddgar,
un blastig a brynais am ffeifar,
ond wrth ei chyhwfan
y pwythau ddaeth allan,
a r诺an does gen i ddim banar.

Carwyn Eckley 8

Caernarfon

Fe chwifiais fy maner yn eiddgar
Dros ryddid bwystfilod Rhosneigar.
Yr ymgyrch enillwyd:
Fy ffrindiau ryddhawyd,
Ac yna fe’m bwytwyd gan deigar.

Emlyn Gomer 8.5

Cynigion ychwanegol

Wrth glywed y limrig aflafar
fe chwifiais fy maner yn eiddgar.
Offside mewn barddoni
yw methu ag odli
a Løvgreen sydd wrthi, fel arfar.

Yn Ninbych, yn falch a Phrydeingar,
fe chwifiais fy maner yn eiddgar
i ddathlu ein Cwîn.
Mr Urdd oedd yn flin:
rhoes imi ben-glin a right-hwcar.

Ar 诺yl dathlu clip crwn y plymar
fe chwifiais fy maner yn eiddgar
a’r ddelwedd oedd hyn:
jiwbilî clip yn dynn
wedi’i gau am ein draig efo sbanar.

Pan sgoriwyd y gôl dyngedfennol
Gan Mullin, a hynny ’da’i ben-ol
Fe chwifiais fy maner
Yn feiddgar, a hanner
byddaru pawb oedd yn bresennol.

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘draw yn y gwyll, rhaid i rywun golli’

Dros yr Aber

O’i flaen bob awr, roedd rhyfel yn berwi.
A do, fe laniodd un dydd daflenni
yn hy am wybod a âi fy mab-i
a ffeirio rheswm am gyffro’r rhesi.
Mae o’n ei wisg, ond mi wn i’r gwir hyll –
draw yn y gwyll, rhaid i rywun golli.

Carwyn Eckley 10

Caernarfon

Mawr yw gelynion ym môr goleuni
neuaddau’r drychau yn cydymdrochi,
yn cydennill, yn datod cadwyni.
Ond os oes dwyffos pan fo’n cyfnosi
heb i wledydd droi’r bwledi o’r dryll,
draw yn y gwyll, rhaid i rywun golli!

Ifan Prys 10

5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Ffermwyr

Dros yr Aber

Trwy’i oes, mae o’n gweld bod rhaid.
Hen ofid ei hynafiaid
sy’ dros ei dir. Os ei dâl
wedyn sy’n rhy anwadal,
rhoi y mae i’w gaeau gwaith
yn ddi-g诺yn bob dydd ganwaith,
yn deall nad oes dewis.
Rhoi parhad, waeth faint yw’r pris.

Rhys Iorwerth 9.5

Caernarfon

Mi welais dri ffarmwr: roedd un yn gwynfanllyd;
A’r ail yn geidwadol a hynod gybyddlyd;
A’r trydydd yn traethu’n ddi-baid am y tywydd:

Diolchais i’r nefoedd na welais bedwerydd.

Emlyn Gomer 9

Cynigion ychwanegol

A mi’n stiwardio wrth y drws
bûm dyst i gangiau smyglo booze,
DJ Maharen ar y decs,
cneifiwr o Fôn yn fflashio’i becs,
ffrae am odro, chwydfeydd mewn bogs,
deuddeg ffeit a thri chant o snogs...
O ryw ganrif, heneiddiais i
ar noson rali’r C.FF.I.

Mae’u dwylo mawr yn gyrru
eu pic-yps mewn i’r dref
a’r diesel coch yn mygu.
O’r b诺t, daw ambell fref.
Fe wariwyd pres y grantiau;
mae oglau tail o’u hôl.
Merch fferm ’briodais innau.
Os nad dwi’n ddewr, dwi’n ffôl.

Dic a Dai o Geredigion:
Pen amaethwyr; pendefigion;
Blas y mawn yng ngwres eu fflamau;
Cusan haul yn eu caniadau;
Bois yr hwyl; bugeiliaid hiwmor;
Hwsmyn torf na fu eu rhagor;
Cewri gwlad; corlanwyr angau –
Byw fônt byth yn ein calonnau.

Canmolwn ffermwyr Cymru,
y boneddigion mwyn
sydd wrthi yn y caeau
yn chware efo’u h诺yn:
gofalant am ein cefn gwlad
gan dwtio perth a llwyn,
yn arwyr tawel wrth eu gwaith
heb yngan gair o g诺yn.

6 Cân ysgafn: Newid y Fwydlen

Dros yr Aber

Gourmet wyf. Magu’r rhai mân yn llwyr â llwyau arian
oedd fy mwriad. Yn dadol o ddi-fai, rhoi i’r ddau fol
yn amheuthun, â’m lluniaeth, olwyn fwyd orlawn o faeth.
I'w cegau, rhoi blas cegin. Cau eu safnau â’m cwisîn.
Cwscws lond plât; saladau tomato
neu oen mewn hotpot; ffacbys; risotto.
Beunydd câi’r ddau bambino yn eu twrn,
o haul y ffwrn, lasagne al forno.
A mi’n ail Ddudley, caent bori’n beraidd
ar arlwy o sewin perlysieuaidd
a lwynau Michelinaidd; gwsberis,
a seigiau’r delis gorau, Eidalaidd.
Sawl coque au vin, a thomen o bannas,
souffles cennin, a dipyn o dapas;
sushi’r dydd; omlets o’r das; caent fwynhad
o lowcio’r catwad, fel y croquetas.
Eto heno ar ben tennyn, i’r tr诺ps: sbageti h诺ps. Tun
o saws Heinz. Dyn waffles wyf. Yn sydyn, boi crisps ydwyf,
breadsticks a wîtabicsys, y pysgod parod, siâp bys,
a gwychder sbamgig echdoe... Mae chef t欧 ni’n hoffi hoe.

Rhys Iorwerth 9

Caernarfon

Y FWYDLEN NEWYDD / NEWID Y FWYDLEN

Mae Len yn cadw caffi bach i lawr ar lan y môr, af yno am fy mrecwast ambell waith
Cig moch ac wy ’di ffrio, a tost a myg o de, mae’n lle poblogaidd ers blynyddoedd maith.
Bob bore yn blygeiniol gwelir Len ar ben ei stôl yn sgwennu’r fwydlen ar hen lechen efo sialc,
Ac fel hyn fysa hi o hyd, heblaw am broblem fach: roedd Len yn yfwr mawr – deud gwir, yn alc.

Roedd o’n diodde shêcs ofnadwy, ac nid milc shêcs oedd y rhein
O’n i ofn ei weld o’n disgyn o ben y stôl,
Mi driais ei gynghori, “Newid dy fywyd, Len,”
Ond gen i ofn na wnaeth o ’neall i at ôl.

Pan es i’r caffi bore ’ma, oedd y lechen wedi mynd, a bwydlenni newydd plastic dros bob man
Dim cweit mor amgylcheddol â’r hen lechen ar y wal, ’di’w hargraffu gan ryw gwmni ym Mhacistan.
Ma’r hen gaffi wedi newid, a Len di sobri hefyd, mae o bellach yn ymwrthod efo’r booze
Ond ar y fwydlen newydd, diflannodd pys a thatws, be sy ’na bellach ’di pis a tat诺s.

Gen i hiraeth am y lechen a’r fwydlen ar y wal
A di’r brecwast ddim mor flasus ag y bu
Ac ma cwmni Len yn ddiflas, a does na’m sgwrs i gael
O hyn allan dwi’n cael fy mrecwast yn y t欧.
Geraint Lovgreen 8.5


7 Ateb llinell ar y pryd – Mae gen-i gi ac mae’n gas

Dros yr Aber

I ymwelwyr â 'mhalas:
mae gen-i gi, ac mae'n gas.

Carwyn Eckley 0.5

Caernarfon

Haearnaidd yw fy nheyrnas,
mae gen-i gi ac mae’n gas

Ifan Prys

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Sioe

Dros yr Aber

Wrth estyn y cyllyll a’r ffyrc
mae’n holi ‘sut aeth hi heddiw?’,
yn tywallt gwin i mi
wrth fynnu ’mod i’n ddewr
am ddweud fy mhwt yn y cyfarfod ddeg,
ac wrth garfio’r cig yn denau denau
mae’n gofyn â’i lais mewn dillad galar,
‘Sut oedd Cats ar ei diwrnod cynta’n ôl?’
Mae’n cynnau cannwyll,
yn llithro record ’brynais i llynedd
mor llyfn i’r peiriant,
mae’n fy nhywys at y bwrdd,
yn fy ngosod yn dwt yn fy nghadair,
yn bachu fy llygaid wrth glecian gwydrau gwin
ac yn cythru am gynlluniau’r penwythnos.
Eto heno,
mae’n taenu napcyn dros lid ei eiriau.

Marged Tudur 9

Caernarfon

Prynais baned yn y Bermo
gan dalu hefo ‘diolch’ -
a chael ‘thanks’ yn newid;
ceiliogod ein cyfarchion
mewn eiliad o dalwrn,
cwrteisi’n ‘cywiro’ cwrteisi…

Ac mae’r cwestiynau’n aros wedyn,
fel ceiniogau ar fy llaw:
‘pwy ohonom biau’r llwyfan hwn?
A phwy sy’n gaeth yng nghynulleidfa’r llall?’

Ond siawns na wnaiff cytseiniaid ‘diolch’
droi yn esgyrn yn eich llwnc;
ni raid eu carthu, gyda’ch ‘thanks’;
oherwydd
nid neges panto mo hyn,
ond rhan o’n hanfod oesol,
a ‘drama’ ein parhad…

Ifor ap Glyn 9.5

9 Englyn yn cynnwys enw unrhyw fath o feddyginiaeth


Dros yr Aber

Mae’r gair ‘eli’ mor greulon i’r bychan,
ond er beichio cyson
y crwt, fe rof ar y cro’n
gariad â ’mysedd geirwon.

Iwan Rhys 10

Caernarfon

Y Samariaid

Heno’n rhemp a’th werth yn rhad - yn y ffôn
rho dy ffydd a siarad;
dos a dweud düwch dy stad
a daw’r eli drwy’r alwad.

Ifan Prys 10

Cynigion ychwanegol

[I’w ddarllen mewn llais môr-leidr]
“Aarrgh Roj, oes poenladdwyr ar ôl?” holais
â fy hwyliau’n symol.
Daeth ateb ystrydebol
y mêt: “Parrot’s ate ’em all!” IP

CYFANSWM MARCIAU

DROS YR ABER 72.5
CAERNARFON 72