Main content

Cerddi Rownd 3

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Ôl-nodyn

Y Gler

Annwyl wlad,
Wedi’r holl ffradach, haeddais ddiswyddiad cynharach; telais bris.
Eich Boris bach.
PS, dwi lot hapusach.

Hywel Griffiths 9

Aberhafren

Ar ddalen o rybuddion
am hinsawdd lond pryderon,
a yw ein hateb, fel erioed,
wrth droed ein copi carbon?

Aron Pritchard 9

Cynigion ychwanegol

Rhybudd, bobol! Yn y man,
Bydd y gerdd yn chwythu lan.ES

Mewn byd sy’n rhad ei ffeithia’
tro at y marginalia,
cans yno ’mysg y stwff di-nod
cei ganfod y ddysg ora’.LLPR

Get Surexit done, rôl ffraeo mynych:
rhoi i Elgu a’r teulu erwau Telych,
y tir oll; i Dudfwlch, lot o ryw ych!

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘lwmp’

Y Gler

Anodd gorffen, ebe nhw,
Gywyddau lwmp-i’r-gwddwg.

Eurig Salisbury 8.5

Aberhafren

Daeth y lwmp dan fy siwmper
o hen flys rhyw noson fler.

Mari George 8.5

Cynigion ychwanegol

Anodd, i 诺r sy’n groeniach,
Roi ei fyd mewn lwmp mor fach.

O hastu, trodd y cwstard
o hewl lefn i lwmp o lard.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n well gen i griced na thennis’

Y Gler

Mae’n well gen i griced na thennis,
A beicio’n lle nofio, o ddewis,
Sgorio ceisiau di-ri
Ac ennill Grand Prix,
A hynny o’m soffa gysurus.

Megan Lewis 8

Aberhafren

Yn hytrach na gwylio, hyd syrffed,
rhyw nonsens am belawd a wiced,
fe af fi o’m dewis
i weld fy ffrind, Dennis,
mae’n well gen i Dennis na chriced.

Aron Pritchard 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae’n well gen i denis na chriced!’
griddfanais o’r llain ger y wiced
y bûm yn ei gwarchod,
cans nid oeddwn barod
am belawd heb focs bychan, caled.

‘Mae’n well gen i denis na chriced’,
medd Boris, ‘wrth gasglu fy nodded
gan Mrs Chernukhin,
sy’n fêts efo Putin;
rwy’n giamstar ar bob math o raced’.

4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Cawn air neu ddau cyn ei roi’n y ddaear’
(neu ‘ei rhoi’ neu ‘eu rhoi’)

Y Gler

Taid

Pan fu farw, nid wylwn. Dialar
Fu'r chwe oed erioed. Ond af â'r adar
I'w ardd yn ôl, wedi ei rhuddo’n âr
Gan y dyn, a'i anrhegu’n chwaraegar
 llond llwy o hadau mwyar bach brau.
Cawn air neu ddau, cyn eu rhoi'n y ddaear.

Eurig Salisbury 9

Aberhafren

I gae o heulwen y down â’n galar
a gogrwn traed hyd y gro yn trydar,
cawn air neu ddau cyn ei roi’n y ddaear,
yna tawelwch; ond clywn uwch talar
s诺n mud yr haf mor llafar amhendant,
yn rhodd o siant ar ddistawrwydd seintwar.

Llion Pryderi Roberts 9

5 Pennill mawl neu ddychan (rhwng pedair ac wyth llinell): Wardeniaid Traffig

Y Gler

Fe welais i o ben draw’r stryd
Y pleser gefaist wrth blygu’r bil
Rhwng y weipars a’r windscreen.
A dyna’r eiliad y rhown y byd
I’w blygu unwaith mwy â sgil
A’i wthio rhwng dau foch dy din.

Osian Rhys Jones 8.5

Aberhafren

Mewn lifrai du a melyn
rhai prysur 欧nt, fel gwenyn,
yn swnian uwch dy gar am fêl
cyn gadel brath eu colyn.

Llion Pryderi Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

I ti, nid crwn na sgwâr yw’r byd,
ond un llinell i ben draw’r stryd,
a honno’n un wen, yn un felen,
yn un ddwbwl, gwbwl ddiangen,
a’r llinell orau ohonynt i gyd
yw’r llinell goch ar dy docynnau drud.

6 Cân ysgafn: Y Chwiban Olaf

Y Gler

Mae’r gêm wedi para mor hir nes ei bod
y gêm bêl-droed hwyaf a fu erio’d,

mor hir nes bod Stadiwm y Principalit-y
’di troi’n Barc yr Arfau unwaith eto i ni,

mor hir nes bod y sylwebwyr i gyd
wedi hen droi am adre, tawelwch ar hyd

tonfeddi S4C a Radio Cymru,
Radio Wales, BT Sport a Sky, o ran hynny,

mor hir hyd nes bod y dyfarnwr druan
yn cysgu’n y cylch canol ar ei ben ei hunan,

mor hir hyd nes aeth yr aer o bob pêl,
a'r cwrw’n fwy fflat, a’r c诺n poeth yn stêl,

ond heno draw yn Stadiwm Dinas Caerdydd,
mae Joe Allen yn dal i redeg yn rhydd,

ac un ar ddeg arwr yn chwarae ers ddoe,
heb gic rydd, cic o’r gornel, tafliad na hoe;

ac os collwyd y chwiban ola’n y byd,
mae’r wal goch yn dal i fod yma o hyd.

Hywel Griffiths 8.5


Aberhafren

Roedd Wil a Dai yn rhannu’r un ffag ers amser maith, wrth eistedd ar sgaffaldiau yn cymryd brêc o’u gwaith.
Roedd Dai yn brentis bildar yn dysgu’r rôps gan Wil, pob tric i fod yn macho a sut i fagu’r sgil
o wisgo’i bants a’i drowsus dan fochau ei ben ôl a’r dalent o chwibanu dros de a bacon rôl.
Medd Wil wrth Dai, ‘mae merched yn syrthio wrth fy nhraed fel cawod law taranau, mae fflyrtio yn fy ngwaed.
Dw i’n rhoi fy nannedd gosod yn ddestlus yn fy nghêg a wistlan ar y merched sy’n bert fel tylwyth teg.’

Daeth menyw ifanc heibio, chwibanodd Wil fel gwalch a throdd y fenyw ato a chwythu cusan falch.

Ar hap, daeth haid o wragedd, pob un ‘di gwisgo’n smart, chwibanodd Wil a gweiddi, ‘mae talent yn y mart!’
Chwibanodd eto deirgwaith ac udo fel hen gi, heb ddeall bod y gwragedd hyn ’di bod i wers Thai Chi.
Fe grynodd Dai’n ei ’sgidiau wrth wylio’r ddringfa fawr, roedd rhain fel merched Beca nid merched o Glwb Gwawr.
Fe ddaethant lan y sgaffald, yn gandryll fesul gris a throwsus Wil yn crynu gan fynd yn is ac is.
Dw i’n siwr eich bod am wybod yr hanes ar y top ond nid yw’n ddarlun prydferth, rhaid dod â’r stori i stop.

Mae Dai ’di dysgu bellach nad yw pob merch ’run fath, mae Dai ’di dysgu hefyd fod Wil yn wan fel cath,
mae Wil ’di colli’r gallu i wistlan ar eu hôl, a’i ddannedd gosod melyn yn styc yn ei ben ôl.

Mae’r ddau yn anwybyddu’r holl ferched erbyn hyn ’rôl cofio cael eu bwrw gan wragedd a’u hen ffyn.

Mari George 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Mae mwy a mwy ymhob man

Y Gler

Mae mwy a mwy ym mhob man
O iro llwybrau arian.

Eurig Salisbury 0.5

Aberhafren

Mae mwy a mwy ym mhob man
Yn oer, yn brin o arian

Mari George 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Anadl

Y Gler

Daliaf eiliad weithiau fel ochenaid:
a honno’n chwyddo, chwyddo a’i phen yn chwil
gan herio’r llengig i oedi’i ollyngdod.

Dau wanwyn yn ôl roeddem ninnau
mewn swigen felly a’i hamser yn stond -
a ffurfiau cyfarwydd ein mynd a dod yn stumio’n amryliw;

roedd hyder Mai’n eisteddfod o adar mân
a thrac bâs ein byd wedi’i ddiffodd, yr isleisiau’n fud
gan adael trebl cliriach trwy siffrwd y dail.

Mae chwithdod wrth hiraethu am y dyddiau
yr ofnem i’r clwy wneud twll pin yn ein rhith.
Ond chwalu wnaeth; a’r sebon swigod yn llosgi’n llygaid.

Dychwelsom at ein tagfeydd cynddeiriog,
a huddyg ein gwib feunyddiol.
Mae llygredd lluddedig yn treiddio’r gwaed.

Tewodd yr adar. Mae’r islais yn ei ôl.
Rydyn ninnau elwach o’n haf-iechyd,
heb gofio y bu’r coed yn ochneidio hefyd.

Osian Rhys Jones 9.5

Aberhafren

Rwyt ti’n cyffwrdd eto
yn y llythrennau ac yn y bylchau.

Un ddalen yn ddwl gan storis
ond ni ddealli’r ysgrifen yn awr,
a’r enw ar y gwaelod yn araf fynd,
wedi gadael ei ôl drwy dy fys
fel darn o roc.

Waeth iti fod wedi codi potel ar draeth
a’r gwydr yn gwmwl rhyngot
a hanner hanes cynnes cwpwl arall...

..ond mae arogleuon yn glynu
a heb rybudd
mae hi yno.

Ac yn ei lafant
fe gofi di
sut i lefain.

Mari George 9.5

9 Englyn: Ailwylltio


Y Gler

Na, nid fforest ond ffeirio syniadau,
s诺n hedyn yn gwreiddio
mewn tirlun sydd yn uno
coed a bref er cadw bro.

Hywel Griffiths 10

Aberhafren

 haenen ddiwydiannol yn gwywo
ar gaeau’r gorffennol,
tyfwn flagur naturiol
fel ffatri’n egin yn ôl.

Aron Pritchard 9.5

Cynigion ychwanegol

Penallta
Er mai gwisgo’r gwyrdd gorau – a wna’r gwair
ar gorun y tipiau
yn wên ir, ni fyn lanhau
yr huddugl sy’n ei wreiddiauLLPR.

Rhowch hawl i ysblander chwyn, i ysgall
gael gwasgu drwy’r rhedyn,
llenwi gwair â meillion gwyn
ac yna fe ddaw’r gwenyn.MG

CYFANSWM MARCIAU

Y GLER 71.5
ABERHAFREN 72