Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Ffoaduriaid

.Mae prisiau'n codi, mae'r byd yn cnesu,
ninnau'n poeni dim am fory,
a Rwsia ar fin chwythu'i ffiws;
o leia dyw Trump ddim ar y niws.

Gethin Wynn Davies 8

Caerelli

“Boris Johnson accused of manifesto ‘breach’ over regional funding”
Pennawd o’r Financial Times

Nid oes gwell i wlad sy’ gaeth a heb lais
o blaid ‘annibyniaeth’,
na gw欧r fel Boris a gwaeth
yn lladron mewn llywodraeth.

Eirian Dafydd 8.5

Cynigion ychwanegol

Mor wyntog oedd y pontydd rhaid oedd cau'r ddwy lôn,
a ninnau'n nes - am ddiwrnod - at Weriniaeth Drofannol Môn.GWD

Y pennawd yw ‘Oes gafr eto?’
Yr ateb? ‘Wel oes, yn Llandudno!’
ac ar ddiwrnod bach tawel heb helbul o hyd
gwyn ein byd am gael stori i’w godro! GE
Tra oeddan ninna'r Cymry’n
mochel mewn pwyllgor maith,
mae arwydd bod ’rhen Eunice
’di gwneud safiad dros yr iaith.LLM
Tro 1af ers 100 mlynedd
Mae Cymro yn #10,
I lywio byd y bonnedd
A gwirio llif y geg,
Dim ym na bw na ba na bref,
A’r Daily Brief yn iaith y nef. D

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw dywysog neu dywysoges

Ffoaduriaid

Yn ddi-chwys, a wyddoch chi
ydi’r roials ma’n drewi?

Llyr Gwyn Lewis 9

Caerelli

Rwy’n wyndran a yw Andrew
yn chwysu neu’n nychu’n wyw?

John Manuel 8.5

Cynigion ychwanegol

Edward, be’n union ydwyt?
Jôc lwy de o jocled wyt.

"QUEEN'S SON IS BEATEN BY BARD!"
(Nes i wado Prins Edward.)

Yn y Llys Barn, lleisiais: 'BWWWW
HEN HINDRANS YW PRINS ANDREW'
Heb sawr mawr, mae i fy mh诺
r'un syndrom â phrins Andrew.

Llu o hil ein Llywelyn
a fyn hawl i fyw fan hyn.

Duke of York oedd yn borcyn
ar y llawr, cyn tynnu’r llun.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn i a oeddwn i yno’

Ffoaduriaid

Erbyn clywed y canfed darn piano
ni wn i a oeddwn i yno.
Efallai’n gorfforol
ond nid yn feddyliol.
Gwobrwyais i ferch y Prifathro.

Gwennan Evans 8.5

Caerelli

"Mi wn nad peth doeth oedd cyfuno
mwg drwg a siampên ond, yn gryno,"
ychwanegodd fy nain,
"y chwedegau oedd rhain;
ni wn-i a oeddwn i yno."

Emlyn Williams 8.5

Cynigion ychwanegol

Pan fydd f’annwyl wraig i yn cofio
am noson llawn serch a thylino
ac olew a mefus
a lingerie nwydus
...ni wn-i a oeddwn i yno.

A: "ro't ti'n feddw gaib, ti'm yn cofio?"
B: "ni wn-i...a oeddwn i yno?"
A: "oeddat tad, a drwy'r parti
roeddat ti'n brysur wrthi
yn fflyrtio 'fo nain fi, y lembo"

Mae llun ohonaf yn dawnsio,
I Abba a’m breichiau yn chwifio.
Tei glas am fy mhen,
A chrys number ten.
Ni wn-i a oeddwn i yno.

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Caer

Ffoaduriaid

Unwaith, yn ifanc, mynnwn
nad i mi’r ddesg lwyd, mi wn.

Eto rywsut, i’r tresi
yn fy ôl bob Llun af i.
Fan hyn rhof drefn ar fy nydd
â fideo-gyfarfodydd,
a s诺n dedleins ein dadlau,
a hen ddeddf fy mhaned ddau...

Codaf fur o ’mhapurach,
gwâl ddiddos o’m beiros bach,
nialwch, a sgrin sy’n olau
hynaws, gwan, wrth i’r nos gau.

Llyr Gwyn Lewis 9.5

Caerelli

Daw estron i greu distryw:
dileu a fyn genedl fyw.

Drwy’r cur yn nyfnder y co’
daw hanes i’n dihuno.
Yn y mêr y mae’n muriau
ac arf hil yn ymgryfhau
i greu t诺r â gw欧r y tud
sy’n gwylio dros ein golud.
Annedd wen nid ailenwir
a’r teyrn, ni choedwiga’r tir.

Un gaer ’nawr yw’n gwerin ni
a’i thras aur i’w thrysori.

Eirian Dafydd 9

5 Pennill ymson mewn clwb nos

Ffoaduriaid

Rwy’n cofio ei dowlu fe mas lawer tro
o’dd e wastad yn dechre rhyw ffeits.
Rwy’n ei chofio hi’n hwdu ar lawr y tai bach
dros ei handbag a’i gwallt a’i theits.
Wy’n eu cofio nhw i gyd - a nawr ma’ nhw nôl
yn disgwgwl i’r dryse ma gau
i gael hebrwng eu plant adre’n saff yn y car
bob nos Sadwrn, am gwarter i ddau.

Gwennan Evans 8

Caerelli

Caerdydd Rhagfyr 2021
Fe es i glybio heno,
E-docyn yn fy llaw.
Peint bach slei’n y Boro,’
I’r Blue Bell erbyn naw.
Roedd Ifor Bach ar agor,
I’r Dirty Pop am sbri.
Ond ches’ i’m heibio’r porthor.
‘Sdim Covid Pass gen i.

Dilwyn Owen 8

Cynigion ychwanegol

Y Boi wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
Mae'r boi ma'n rhy feddw i siarad,
mae'n syllu fel taswn i'n drosiad.
A hyd 'noed mewn cerdd amdana i,LLM
nid fi fyddai ei brif gymeriad.
Mi ddylwn i fod ar fy nghefn,
mi ges i lot i'w yfed.
Ond diolch i ryw ddwyfol drefn
mae nhraed i'n sdyc i'r carped.LLGL

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Yr Adolygiad

Ffoaduriaid

Mae Lisi’n dra hirhoedlog, mae Lisi’n haeddu parch,
mae Lisi’n cofio Noa yn adeiladu’r arch.
Ond mae Lisi fach reit fregus yn enwedig dyddiau hyn
ers i Carlo’r mab ddal Covid a phoeri yn ei jin.

Y Sun a’r Mail gyhoeddodd,“We must keep Liz alive!
It would be a shame to lose her, as she’s only ninety five.”
Fe wnaethpwyd adolygiad o’i holl ofalon maith
a cytunodd pawb (‘blaw Andrew) i rannu peth o’r gwaith.

Dim mwy o drips i Ascot, na chynadleddau llwm.
Dim mwy o dorri rubans. (Mae’r siswrn aur na’n drwm.)
Dim mwy o glirio landars na mynd i’r banc ’fo sach
am bres i gyfro costau cyfreithiol Andrew bach.

Dim mwy o gwarfod Biden na'r Pab nag Elin Jones,
dim mwy o ddeud wrth Edward ar ba olch i roi ei drôns.
Dim picio draw i'r Senedd i wrando ar hen lol,
dim mwy o wrthod clapio ar gerddi cain Gruff Sol.*

Nawr mae Lisi’n gneud Sudokus tra’n ista ar ei thin,
mi fydd hi’n claddu pawb a phopeth a byw am byth fel Cwin;
ac ar gyfres cant o’r Talwrn mi fydd hi dal yn fyw ac iach
ac mi fyddaf innau’n dal i’w dychan; hir oes i Lisi bach!

*Yn agoriad swyddogol Senedd Cymru 2021 adroddwyd cerdd
o waith Bardd Plant Cymru…. Nath y Frenhines ddim clapio.

Gruffudd Owen 9.5

Caerelli

Nid wyf i'n un i gwyno, syr, fel arfer am fy mwyd,
Ond deffrais bore heddiw tua phump yn welwlwyd.
Yn eistedd ar fy ngorsedd y bum am bron i awr
Am wneuthur camgymeriad: mi archebais fara lawr
I frecwast yn eich gwesty, y 'full Welsh, straight from the pan',
Sydd, 'bosib, yn esbonio pam dwi'n teimlo’n ddigon gwan.

Efallai, erbyn meddwl, mai eich cocos sydd ar fai?
Peth eitha anghyffredin yw cael cocos o Drelai.
Y wetres a esboniodd bod eich gwesty'n derbyn nawdd
I brynu'n lleol rownd Gaerdydd er mwyn osgoi Penclawdd.
A phan ofynnais iddi os mai wyau buarth da
A nofiai'n hapus yn eu saim, dyweddodd wrthai: "Wha'?"

Mae'r rhai sy'n gweini heddiw mor anghwrtais, ar fy llw,
A mynnais weld y manejyr. "I don' know where 'e's to."
Gofynnais am ei henw, ac fe bwyntiodd ato: Rose.
Dywedais bod hi'n eneth bowld. Atebodd: 'Yer, I knows.'
O leiaf roedd hi'n onest, Rose, gan syrthio ar ei bai,
Sy'n fwy na fedr rhywun ddweud am gocos du Trelai.

Emlyn Williams 9

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Anodd yw i un neu ddau’

Ffoaduriaid

Anodd yw i un neu ddau
O raid, ffurfio triawdau.

Gruffudd Owen 0.5

Caerelli

Anodd yw i un neu ddau
i yngan am eu hangau.

John Manuel

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Tangnefedd

Ffoaduriaid

Ti'n canu yn y gawod, wyddost ti?

Tra dwi tu allan ar y carped
yn smygu dy stêm ail law
ac yn ceisio harmonïo
heb i ti wybod.

Yn y fan hyn,
dwi'n bell o'r hen fro
ble roedd cân yn gartref.
Bum ar goll ers tro.

Fuest ti rioed yn aelod o gôr,
nac ar lwyfan steddfod bentre,
nac yn y capel yn dilyn llais y blaenor.
Doedd dy adra di rioed mewn alaw.

Dilynaf dy lais,
fel trio dilyn codwr canu.
Drwy'r drws, mae'r alaw a'r desgant
yn plethu, a'n cusannu.

Llio Maddocks 9.5

Caerelli

Eira mawr '82

Hawdd iawn dychmygu'r drafferth gaeth
i godi’r ffôn, ond llwyddo wnaeth,
a meddai'n dawel - fel dweud gras -
'Tyd â dy siwt. Mae'n amsar, was.'

Y duwiau lapiodd eira mawr
o amgylch hon cyn toriad gwawr,
â'i chroen fel memrwn a'r un wedd
â gwlad dan gwrlid fynnai hedd.

Dim ceir; dim plant; dim adar, chwaith;
dim byd ond gwich ysgyfaint llaith;
rhwnc angau'n curo ar ei dôr,
a minnau'n diolch i rhyw Iôr.

Hon, a oedd unwaith lond ei chroen,
nawr wedi'i naddu. Fel yr Oen,
hi darodd fargen gyda'i duw:
cael byw i farw, marw'i fyw

Emlyn Williams 9.5

9 Englyn: Gêm

Ffoaduriaid

Yn wridog, cyd-gefnogem, - yn wrol
wladgarwyr cyd safem
yn fyddin, ond fe wyddem
go iawn nad oedd hi ond gêm.

Gruffudd Owen 10

Caerelli

Roedd milwyr bach gan fachgen a gynnau’n
deganau’i awr hamdden:
ond gwaun i gad ei gynnen
ydyw’n byd a’r dyn yn ben.

Eirian Dafydd 9.5

Cynigion ychwanegol

Chwaraeais â’m lwc ddechreuol - ces strîc,
ces dri yn olynol.
Wedyn, mi ddaeth tro pedol
…allwn i ei ennill nôl?GWD
Hen dwrw bach ben draw’r byd i ddechrau,
ond mae’n ddychryn hefyd
nad oes angen ond ennyd,
ac mae hi’n gêm inni i gyd.LLGL

CYFANSWM MARCIAU
FFOADURIAID 72.5
CAERELLI 70.5