Main content

Talwrn 'Dolig 2022

1 Tydragerdd: Cyfarchiad ar gerdyn Nadolig

Doethion (G0)

I Lizz Truss, Nadolig llawen!
Biti iti fynd a dod
yn y bwlch pan nad oedd Talwrn,
cyn i’r beirdd gael canu’th glod.

Gruffudd Owen 9

Bugeiliaid (SP)

Gwell peidio disgwyl ’leni
y cit pêl-droed na’r beic,
Ma’ cyflog Santa’n isel iawn,
mae’n meddwl mynd ar streic.

Steffan Phillips 9

Cyfarchion o San Steffan
I bawb drwy’r Deyrnas gyfan
Fe wnawn yn siwr fod peth o hwyl
Yr 糯yl ar werth i gyfran. ORh

#Dwi’n addo gei di bopeth
oedd ar dy restr faith,
os ei di’r gwely heb wneud ffws
a chysgu’n drwm tan saith

Jyst cofia pan ddaw cyffro’r bore bach, SP
waeth pa mor llawn, bydd cariad lond dy sach.

Roedd ffeindio rhyw gerdyn mor rhad a hwn
yn dipyn bach o gamp;
a dyma pam gweli di’r sticer - ‘To pay’:
ro’n i methu fforddio’r stamp

2. Parodi ar unrhyw garol Nadolig adnabyddus

Doethion (LlGL)

Ganol gaeaf noethlwm
Sgynai bron ddim pres
Felly does na’m ffiars
Mod am danio’r gwres
Eira’n drwm o fryn i dref?
Rhew dan drwyn y wraig?
Tyff! Mi stedda i yma’n
Damio na di’n ddraig.

Metha deuddeg leiar
Nghnesu fi i’r byw
Cilia’r nwy a darfod
A dwi’n newid lliw
Ganol gaeaf noethlwm
Gwell sa beudy trist
O leia fanno gawn i
Gwtsho’r fuwch, myn Crist

Beth a roddaf iddo,
Ddyn y cwmni nwy?
Tae o yma r诺an
Mi gâi slap neu ddwy.
Tra bo mhlant yn fferru,
Bodiau’u traed ar goll,
Beth a wisgaf innau?
Eu hosanau oll.

Ll欧r Gwyn Lewis 9.5

Bugeiliaid (TDJ)

Wele, cawsom weled Messi,
driblwr gwerthfawroca’ ‘rio’d;
darfu i Mbappe a Ronaldo
boeni amdano cyn ei ddod:
Messi yw, arian byw,
a pheldroediwr gorau’n fyw.

Hwn a aeth ag Argentina
i’r rownd nesa yn ein lle,
swm y peli mawr a beniodd
ac fe groesodd, chwith a dde’;
gwyn ei fyd mewn Cwpan Byd
bythol ennill wna o hyd.

Dyma sgoriwr haedda’i garu,
a’i glodfori’n fwy nag un:
prynu mansiwn, talu ffortiwn,
a’n cyffroi â’i sgiliau’i hun:
gefnogwyr, dewch, llawenhewch,
diolchwch iddo, byth na thewch!

Tudur Dylan Jones 9.5

3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar noson y parti gwisg ffansi’

Doethion (MG)

Ar noson y parti gwisg ffansi
fe es fel Liz Truss yn fy siwt i,
fe es i’r t欧 bach
ac ar ôl bach o strach
fe ddes i nôl allan fel Rishi.

Mari George 8

Bugeiliaid (SP)

Ar noson y parti gwisg ffansi,
ro’dd rhaid mynd am x-ray reit handi.
Ma’r doctor ’di dweud
bod dim all e ’neud.
Mistêc ydoedd gwisgo fel twrci.

Steffan Phillips 8.5

Ar noson y parti gwisg ffansi,
Bu’n fethiant yn Abertyleri:
Mi ddaeth yno domen
O bobl fel Blodwen,
Ond doedd neb wedi gwisgo fel Meri.

Ar noson y parti gwisg ffansi
fe es fel pêl tennis fach fflyffi,
roedd y barman dan straen
ond bownsiais i’r blaen
a chefais fy syrfio’n reit handi.
Ar noson y parti gwisg ffansi
Fe syrthiais mewn cariad a mwnci
Ynghanol Parc Biwt
Yr oedd hi mor ciwt
Nes deall nad siwt oedd o rili.

Ar noson y parti gwisg ffansi
Roedd mecanic y dre ar fy ôl i.
Fe ges eiliad wan
Wedi gwisgo fel van
Ac fe lenwodd fi lan yn o harti.

4. Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Newyddion Da

Doethion (GO)

Nid oedd na newyddion da
eleni. Y mileinia’
o flynyddoedd ydoedd hi:
Y loes o gladdu Lizzy;
y boen o weld Gareth Bale
yn nychu mor anochel;
Lis Truss ofalus trosom
yn ben…cyn syrthio fel bom;
a’m gwallt, fy ngwallt dan fy nghap
yn brinach (sy’n bur anap.)

Trwy ras, ni fydd dau ddeg tri
yn olyniaeth eleni.
Deled yr awr pan wawriai
â Bale mwy fel ebol Mai.
Eil-dro a rown i’r Hael- Druss!
Liz yr ail fel Lazarus!
a Gruff yn cael rhagor o wallt,
(mawr wigwam o Eurigwallt!)

Gruffudd Owen 9.5

Bugeiliaid (ES)

O dan fy mhared innau,
O bob man, fel bagbib, mae
Un dyrfa rhy lafar lon
O garolwyr. Mae’n greulon,
A ’styried y gost, oeri
Fy nh欧 mawr, gofyn i mi
Greu drafft ac agor y drws
I garol. Gwnâi’r hen gorws
Yn well o ddal yr alaw,
A gwylio Newyddion 9
I weld be’ ’di be’n y byd,
A be’ ’di be’ mewn bywyd
Go iawn. Ystyriwch gyni
Ein hoes argyfyngus ni’n
Lle dilyn holl hudoliaeth
Heddwch o hyd. Mae’n ddi-chwaeth.
Dathlu a moliannu? Am lol.
Criw naïf yw’r côr nefol.

Eurig Salisbury 10

5. Pennill ymson unrhyw gymeriad o stori’r geni

Doethion (LLM)

Ymson Mair
Mae thys a myrr yn wirion
i faban fel anrhegion.
Sa dymi, cot neu dedi bach
yn ddoethach...(blydi ‘doethion’).

Llio Maddocks 9

Bugeiliaid (CW)

Dim ond oen o’n i ‘nrama y llynedd
Yn fach dan yr engyl a’r clych
Ond leni mi ges i ddyrchafiad -
Y fi ’di’r rhan flaen yn yr ych.
Mi gofiais fy lein yn iawn llynedd
Ond leni bu’n strach, ar fy llw,
A’r cwbwl a glywodd holl Gapel Pendre
Oedd fi’n deud me me’n lle mw mw.

Tudur Dylan Jones 9

Ymson Joseff
Ni wyddwn sut i’w haeddu; ni allwn
i, ella, mo’i garu…
nes iddo ddod, ar nos ddu,
i’n crud - ac ro’n i’n credu.LlGL

Ymson Mair
Does neb yn cofio’r gweiddi,
y rhwygo na’r budreddi
na’r poenau gwyllt na’r gwaedu hir
ond dyna stori’r geni.MG

Lletywr
Mae’r Cyfrifiad yn dal ei anterth -
am gyfle i ddyn busnes fel fi!
A dyna paham y mae’r beudy
Wedi’i restru ar Air BnB..


6. Cân (heb fod dros funud a hanner o berfformiad): Llythyr at Sion Corn

Doethion (ORh)

Annwyl Santa, Rob Page yma, sut wyt ti ers amser maith?
Feri sori, gwn im golli i’r hen elyn, hynny’n ffaith.
Rwyf yn gofyn felly Sionyn, am dîm newydd o dy sach,
Tîm wnaiff guro unwaith eto heb fod hynny i’w weld yn strach.

Rhaid cael goli, un reit handi, un sydd ddim yn ffan Kung Fu
Dwylo cadarn, enaid haearn, nad yw’n chwarae yn Lîg Tw.
Amddifynwyr, ac anafwyr, thygs sydd ddim yn ildio gôl
Rhai all daclo, penio, clirio, heb fod angen pasio nôl.

Yn y canol, cnwd rhyngwladol, bois nad 欧nt yn colli’r bêl
Ar yr esgyll, rhai fel cyllyll, gyda doniau, triciau cêl
Rhai all groesi, yn lle rhewi, at ryw gawr yn y rhes flaen
Hwnnw’n sgorio yn ddidaro cyn i’r gêm fynd lawr y draen.

Hoffwn hefyd, Santa hyfryd, er mwyn peidio cael r’un st诺r
Lyfr tactegau ennill gemau, ac i fod yn hollol siwr
Beiriant amser i ail hanner gêm Gwlad Belg neu i Bordeaux
Pan oedd Gareth, pawb a phopeth, werth y byd a’r byd o’i go.

Ac yn bennaf, anhreg olaf, i amheuwyr y Wal Goch
Sydd fel siswrn ar y Talwrn, gwybodusion barddol croch –
I’w hatgoffa, am tro cynta’ ers Brasil ym mhum deg wyth
Er yr wylo, roeddem yno – cadw’r ffydd a wnaiff ddwyn ffrwyth.

Owain Rhys 9

Bugeiliaid (HG)

Annwyl Mr Corn,
Am hanner awr wedi dau, ar fore dydd Nadolig, daliodd camerâu
yr heddlu sled – cofrestriad SANTA 1 – yn gwneud dau gan milltir yr awr uwch Pen Ll欧n.

Oherwydd difrifoldeb hyn, rhoddir pwyntie
ar eich trwydded chi, a’r ceirw hwythe.

Bydd dirwy i’w thalu ’mhen mis - wyth deg punt,
neu bedwar deg punt os dalwch chi’n gynt.

Neu, efallai bod dealltwriaeth fach
yn bosib, er mwyn osgoi y fath strach.

Pe byddai, dyweder, wrth droed fy ngwely
ar fore’r 诺yl, y ceir rasio hynny

o Ddolig ’87, neu feic ’88,
neu Super Nintendo ’93, neu lwyth

o lyfrau’r blynyddoedd, crys pêl-droed, a pheli,
arogl y cinio, clasuron y teli,

a theulu i ymweld â nhw yn y p’nawn,
a gwydrau wedi’u gwagu, a chalonnau llawn,

wel, mi ellid claddu’r llythyr yn anghofiedig
ymysg papur lapio a chardie Nadolig,

oherwydd, fel y gwyddoch, bûm yn fachgen da
eleni.

Diolch Sion Corn, a ta ta.

Hywel Griffiths 9

7. Ateb llinell ar y pryd – Herod fawr o hyd wyf i

Doethion

Er y gwn stori’r geni
Herod fawr o hyd wyf i

Ll欧r Gwyn Lewis 0.5

Bugeiliaid

Herod fawr o hyd wyf i
Dacw Herod yw Ceri

Tudur Dylan Jones

8. Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Noswyl Nadolig

Doethion (LlGL)

Noswyl Nadolig 2020

Llond llaw ohonom
mewn Teml Heddwch oeraidd, eang
wedi’n gwasgaru’n rhesi cyson
ac yn canu i’n mygydau,
y ddinas yn ddistaw;
a hyd yn oed y ceir tu allan yn cadw
pellter cymdeithasol.

Rhwng y garol fud a’r bregeth fer
dydi’m ots gen i addef
imi grio am eiliad, oherwydd
bod babis yn dal i gael eu geni
bod mynd ar yr un hen garolau o hyd
a geiriau’n gallu magu mwy o ystyr;
bod ’na galan i’w gael
ar ben draw hyn i gyd

A dyma fi’n loetran tu allan cyn troi am adra
fel y plentyn driodd aros yn effro i’r eiliad
rhwng pan oedd Santa heb alw, a’i fod eisoes wedi bod.

Ll欧r Gwyn Lewis 9.5

Bugeiliaid (LL)

Ust! Un cwsg, dim ond un bach arall …
a falle, jyst falle …
bydd e’n dod!

Mae’n cau ei llygaid
gan geisio cynnau’r gobaith
sy’n gwibio ’leni eto’n olau tylwyth teg …
Gwel gatalog teganau
a’i dudalennau’n llawn ticiau taer,
crofenni grefi’n graith
ar lestri priodas
a moelni tinsel welodd
mwy o goed na’r fechan sy’n ei chôl.
A gwel yr un un hosan yn hepian
heb ei hagor amser te.

Un cwsg, dim ond un cwsg bach arall.
Mae’n dal i gredu,
falle, jyst falle …
y daw e nôl.

Lowri Lloyd 9


9. Englyn ar y pryd

Doethion

Rhywsut, di ddim cweit drosodd – a hawliwn
nad yw’r golau’n diffodd
ar fy iaith. Ffeindiwn rhyw fodd
o wenu... ond mae’n anodd.

Gruffudd Owen 10

Bugeiliaid

O greu’r un gair dechreuol – yn yr iaith
mewn rhyw oes foreol,
hwyr brynhawn a awn yn ôl
i’r rhif un yn derfynol?

Tudur Dylan Jones 10