Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn rhoi sglein gadarnhaol ar un o benawdau’r newyddion

Crannog

(‘Backbench Tories are revolting’)
Adeg y gwrthryfel yn erbyn rheolau Cofid 15 12 21
Er inni i gyd ddioddef
eu sawr dros amser hir,
braf oedd gweld fod Stryd y Fflyd
fan yma’n dweud y gwir.

Endaf Griffiths 8.5

Y Gler

/cymrufyw/saf/59583493

Os yw holl rym y weilgi
Yn curo ar fy nôr,
O leia’ fod Croesoswallt
Yn nes at lan y môr.

Hywel Griffiths 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae gosod cyfyngiadau
ar bawb yn jobyn haws
pan fo ’na yn y ’stafell
lond bwrdd o win a chaws.

Mi fum drwy fy mywyd yn gweithio
A methu yn lân a chynilo.
Mae’r ‘furlough’ ges i
Ac ewyllys mam-gu
Yn ddigon i allu riteiro.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw degan

Crannog

Tedi â’i ofal tadol
fu’n gofalu ar fy ôl.

Endaf Griffiths 9

Y Gler

Daw yr awr y cwyd, ryw dro,
Ei olygon o’i Lego.

Hywel Griffiths 9

Cynigion ychwanegol

O’n dwylo aeth adeilad
Lego-land yn degan dad.

Mynnaf i nad Barbie yw,
Fi fy hunan yw’r fenyw.

Â’i salíwt, ein recriwtio
i’r fintai wna G. I. Joe.

Mae yn ein hoes anfoesol
Dedi nawr sy’n siarad nôl

Ni rodda’r un Santa, si诺r,
Lyfr rhyw fardd i sglefrfyrddiwr.ES

“Dei bach, hoffet dedi bêr?”
Gwae ei ateb. “Na! Sgwter!” ORhJ

I ba reswm rwy’n brysio?
Oes o waith yw gwneud jig-so.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gofyn eich bod chi’n ofalus’

Crannog

Mae gofyn eich bod chi’n ofalus
fod dêt eich Pass Covid yn ddilys,
fe gymer ganrifoedd
ar sgrîn yr amseroedd
i’w estyn tra’n teithio ar Tardis.

Gillian Jones 8

Y Gler

‘Mae gofyn eich bod chi’n ofalus,’
Meddai’r meddyg. ‘Osgowch fwydydd melys
A braster a halen,
Caffeine a chacs hufen …’
Bu farw wrth dagu ar letys.

Hywel Griffiths 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae gofyn eich bod chi’n ofalus
Ofnadw wrth dynnu eich trowsus
‘Roedd nyrs yma ddo’
Yn chware pi-po
Ond welodd hi ddim dyna lwcus.

Mae gofyn eich bod chi’n ofalus
Wrth siarad â’r Meuryn yn barchus,
Dim mymblo, dim garblo,
Dim meiddio cam-dreiglo
Na geiriau sy’n effin anweddus.

Yn Glasgow, Kyoto a Pharis
Mae iaith yr argyfwng yn fedrus.
Medd Merkel a Johnson
A Biden a Macron:
“Mae gofyn eich bod yn ofalus.”

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sant neu Santes

Crannog

Santes Non

Edliw’r trais wna llais y lli
yn Llydaw a Charn Llidi,
nid yw gwarth yn mynd o go’
na hafan yn anghofio
a deil ar dirwedd heddiw
hyd lawr gwlad barhad o’r briw.

Hi oedd lleian ein glannau,
y wyry bur ger y bae,
ac fe gofiwn enw Non
a’i phoen yn tarddu’n ffynnon
o risial sy’n goroesi
gerllaw môr ei hesgor hi.

Idris Reynolds 10

Y Gler

["Mae Wali yn dy warchod di": perthynas arbennig Dylan a'i arwr /newyddion/59766491 ]

Y mae iaith yn dywod mân
o dawelwch i Dylan.
Traeth amrywiaeth lle mae’r ha’n
or-synhwyrus, yn eira.

A saif ar yr ystlys hon
un g诺r, un Wali gwirion,
a’i luman sgwâr o gariad
o’r ffin yn chwerthin iachâd.

Yn “Co’ ffild” mae caeau’i ffydd
yn llawnach eu llawenydd,
a’i arwr drwy’r rhith eira
am ryw hyd yn dadmer ha’.

Osian Rhys Jones 10

5 Pennill ymson peiriannydd teledu

Crannog

Nid oes beiriant all drosglwyddo
I chi’r llun sydd ar y radio.

John Rhys Evans 9

Y Gler

Mae ’nhrwyn i wedi rhewi,
a phibonwy yw fy mhoer,
ond yma’r wyf yn dala’r meic
i Elin o dan y lloer.

Megan Lewis 9

Cynigion ychwanegol

Er cof am Arwel
Bu’n trwsio rhediad trydan
Free-views a Sonys Mwldan
A minnau’n sbarc, a llygad llawn,
Am gofio’i ddawn - mewn triban.

Fy nod yw hollti’r eiliad
sy’n bod rhwng ‘oedd’ ac ‘yw’
i weld a ydyw’n bosib
darlledu llun yn ‘fyw’

Er yr holl offer sy’n y fan,
pan fydd f’amynedd i yn wan
yn colli’r llun wrth droi y sgriws
‘sdim eisau lot i chwythu’r ffiws.

Dargyfeiriais i gannoedd o aerials
I gyfeiriad Pobol y Cwm,
Ond yn nydd Prime a Netflix a Disney,
Mae’r baich i un lot rhy drwm.


6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cadw Sgôr

Crannog

Roedd hi ar Radio Cymru yn Ddiwrnod Chwarae Teg
a threfnwyd Talwrn Grande i ddeunaw tîm ar ddeg.
Fe ddaethpwyd hyd i sgoriwr i eistedd wrth y ddesg
i gynnal y traddodiad yn Ddafydd Islwyn-esque.
Fe gafwyd dau i feuryna, nad oedd yn fawr o bals,
cans marciai un mewn fractions a’r llall mewn decimals.
a byddai cryn agendor rhwng dyfyrniadau’r ddau
a gwaith y sgoriwr druan oedd ceisio’u gwastadau.
Ac yna aeth un meuryn,a oedd yn golffiwr mawr,
i gymryd ‘par’ fel safon a marcio am i lawr
tra mynnai’r meuryn arall gael mynd ei ffordd ei hun
gan ddal fod wyth a chwarter yn drech na minus un,
ac i gymhlethu pethau fe glywid ymhen chwap
fod rhaid addasu ‘mhellach i system handicap.
Mae’n wir i’r Glêr a’i tebyg fydryddu ambell reg,
ond roedd hi, fel y cofiwch, yn Ddiwrnod Chwarae Teg
ac yn yr ysbryd hwnnw, a’r timau oll yng nghyd,
fe gafwyd talwrn hyfryd heb broblem yn y byd.
Rwy’n dal i gofio’r noson o’m bwthyn ger y môr
cans Crannog a enillodd. Fi oedd yn cadw’r sgôr.

Idris Reynolds 9

Y Gler

Gêm dennis dragwyddol yw priodas dda,
heb umpire ar ddiwrnod crasboeth o ha’.

Pob serve a phob rali, pob foli, pob lob,
mae cadw sgôr ohonynt yn dipyn o job.

‘Fi lenwodd y peiriant golchi llestri ddoe.’
Love-fifteen. ‘Am hynny dwi’n haeddu hoe!’

‘Fi newydd wagio’r peiriant golchi llestri nawr.’
Fifteen-all. ‘A dwsto’r silffoedd a mopio’r llawr.’

‘Ok, dwi’n gwerthfawrogi.’ Thirty-fifteen.
‘Ond gest ti lie-in bore ’ma ar dy ben dy hun!’

Thirty-all. ‘Fi gasglodd gynnwys y bins o’r stryd,
wedi i’r gwylanod gynnal gwledd ar ei hyd.’

Forty-thirty. Ond dyma foli epig …
‘Fi sy ’di cwcan ers cyn y pandemig!’

‘Wel, does dim o dy DIY di o iws.’
Mae hynny’n gywir a theg ac, felly: deuce.

Mantais, deuce, mantais, deuce, mantais, deuce ’to,
a’r blynyddoedd yn ymestyn fel rali o’i cho’.

Rhaid cofio, er mwyn i’r gêm ’ma barhau,
mai ar love-love, un tro, y dechreuon ni’n dau!

Hywel Griffiths 9

7 Ateb llinell ar y pryd - Ni wn i a yw’n annoeth

Crannog

Ni wn i a yw’n annoeth
I rannu breuddwyd trannoeth

Idris Reynolds 0.5

Y Gler

Ni wn i a yw'n an-noeth
Greu llên â'r gair hyll 'annoeth'.


Eurig Salisbury

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Troi’r Gornel

Crannog

Yng Nghymru fach cyn dyddiau llys a llan,
a chadfridogion Rhufain wrth y llyw
agorwyd ffyrdd i gyrraedd pedwar ban
i gludo negeseuon dyn a Duw.
Mae’u llwybrau’n dal i groesi pant a bryn
cans trostynt hwy fe welwyd ymhen chwap
y priffyrdd union, coch a glas a gwyn,
o Lundain draw yn lledu dros y map.
Mae’n cynefinoedd ninnau yn culhau
o’r Cei i Port, o Nefyn i Dre-saith,
y ddinas bell yn dal i agosau
a’r farchnad dai’n unioni mwy o’r daith.
Ac ar y lôn o Loeger tua’r heli
y mae’n hen bryd cael rhagor o gorneli.

Philippa Gibson 9.5

Y Gler

Prin y gallwn ei gweld
ar y dechrau,
a hithau’n ddim mwy
na chysgod gwan ar y teclyn gwyn.
Ond fe dyfodd gyda’r dyddiau’n
geulad tew, yn bwysau trwm.

Hen linell bell?
Go brin.

Y cadw draw oedd waetha’ wedyn,
a’r platiau gwag ar ben y landin,
y colli blas a’r colli mas
a’r cyfan oll yn codi ias

heb weld terfyn.

Ond yna, wrth i’r chwys ddechrau oeri
gwelais ei bod hithau’n araf bylu,
a chamais innau yn fy hyd
i brofi eto holl swyn y byd.

Megan Lewis 9.5

9 Englyn: Parti

Crannog

Neithiwr roedd blas amheuthun i’r gwinoedd
a’r gân, bob diferyn,
ond daw’r wawr a’i chwerw’i hun
i wydyr bore wedyn.

Philippa Gibson 9.5

Y Gler

Nid y gân ond y gwahanu, nid cwis
Ond cusan galaru,
Nid gwin rhad ond dillad du,
Nid uchelwydd ond chwalu.

Hywel Griffiths 10

Cynigion ychwanegol

A'r côr yn asio'r lleisiau yn raenus,
Pob rhan ar ei gorau,
Ynom oll yn canu mae
Un llais na phall ei eisiau.

Wedi curo’r Glêr, Ceri, – yn llawn hwyl
Llawenhawn. Cawn barti.
Daw dêt y loddest iti
Yn y post. RSVP.

CYFANSWM MARCIAU

CRANNOG 73
Y GLER 73.5