Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Epigram Dychanol

Aberhafren

Y tywydd gwlyb sy’n gwybod
yn ddi-ail pa bryd i ddod.

Mari George 8.5

Beca

Os am ennill y gader
Neu lwyddo fel Tsieff,
Pwyswch yn drwm
Ar y llythyren EFF

Eifion Daniels yn darllen gwaith Wyn Owens 9

Cynigion ychwanegol

Rhyw dwrw’n bell i’r dwyrain
yw cri holl bobl Wcráin.

Yn y pendraw, rhai tawel

fwy neu lai yw’r rhai a wêl.

Ym myd y Selebs neu’r di-sôn, waeth p’un,
Mae pawb yn y bon am ddangos ei hun.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw fath o ddeunydd adeiladu

Aberhafren

Y g诺r doeth ac ara deg
yw’r g诺r a dyrr y garreg.

Mari George 8.5

Beca

Hynod gromlechi godent,
Oes y maen heb un siment.

Eifion Daniels 8.5

Cynigion ychwanegol

Dwli, er gwaetha’i dalent,
yw rhoi Smot i ficsio’r sment.

O neud trics gyda bricsen,
mae Reg â bandej i’w ben!
,
Erioed ni safodd coeden
Tra’r pry yn dinistrio’r pren.

Dihafal yw fy nhalent
Os am un i rofio sment.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mewn siopau amheus, fe gewch brynu’

Aberhafren

Mewn siopau amheus fe gewch brynu
cofroddion unigryw i Gymru;
pais aur yr Archdderwydd
a’i welingtons efydd
a llwyth o gyrn hirlas sy’n crynu.

Mari George 8.5

Beca

Mewn siopau amheus fe gewch brynu
Barddoniaeth i feirdd sydd yn ffaelu.
Er yr arian anfoesol,
Mae’n ddiwydiant proffidiol.
Faint mae Ceri’n ei gael? Sai’n datgelu...

Lefi Dafydd 8

Cynigion ychwanegol

Mewn siopau amheus, fe gewch brynu
ffyddlondeb rhai fu’n eich beirniadu,
colofnwyr tra ffrom
Director of Comm
a ffrindiau non-dom i’ch ariannu.

Mewn siopau amheus fe gewch brynu
Pob peth, ond yn siop Aberteifi
Dwy’n mynd eitha ewn

I’r stafell fach gewn,
Fan hynny mae’r dosbarth barddoni!

Mewn siopau amheus fe gewch brynu
Pob sothach, ond cefais sioc heddi
Mewn stafell fach gefen,
Gweld stwff Aberhafren,
Y pethe does neb am gyhoeddi!

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cefnogaeth

Aberhafren

Yn y coch, mae'r nos yn cau,
nos â'i balans a'i biliau,
dyled â'i dyled ei hun
a gydia, gwasgu wedyn
hyd wyll ei awr dywyllaf
wna'i ofnau fel cleisiau claf.

Mewn pader o bryderon
du yw'r ffordd; rhaid codi'r ffôn,
mynd o'i fwrn am ennyd fach
at alwad cwr tawelach
a daw llais heb godi llog,
daw'r geiriau sy'n drugarog.

Aron Pritchard 10

Beca

Weithau try anesmwythyd
Yn boen i ‘sigo ein byd, -
Pan fydd grym bwystfil milain
Ar y cyd yn chwalu’r cain.

Mae miloedd blodau melyn,
Draw ymhlith y gwenith gwyn,
Hyd y ffos yn gwarchod ffin
Ac euro balchder gwerin.

Bydd blodau’r haul dan heulwen
Wrth fy nh欧 yn harddu’r nen,
A’u gwên, yn wyneb pob gwae,
Yn gaer pan ballo geiriau.

Rachel James 9.5

5 Triban beddargraff ymgynghorydd ariannol

Aberhafren

Er ’madael â’r byd dynol
mae’n brysur wrthi’n eiriol
dros Dimeshare tlws, rôl tal rhag blaen,
yn Sbaen, i siwtio’r diafol.

Llion Pryderi Roberts 9

Beca

Er treulio f’oes yn ceisio
Amrywio fy mhortfolio
Trwy brynu eiddo, aur a siâr:
Y ddaear wnaeth eu cipio.

Rachel James 9

Cynigion ychwanegol

Buddsoddaist am yfory,
Rhoist d’arian yn y FTSE,
Ond heddiw yr wyt ti’n ddi-lôg
Heb geiniog goch, na difi.

Er dyfal ymgynghori
am farchnad stoc, ac ati,
pan ddaeth ei lot ei hun i ben,
pa ddiben oedd buddsoddi?

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Seddi Gweigion

Aberhafren

Yn neuadd Talystolion, am wyth yr hwyr bob Llun,
fe gwrddai triawd dyfal i drafod nes bo’n un,
sef pwyllgor ymgynghorol, rhanbarthol (de y sir)
Academi Tomatos (tomatos coch, coes hir).
Henadur awdurdodol mewn gwth o oed oedd Sw,
ddyrchafwyd yn gadeirydd tua chanol World War Two,
a’r glaslanciau, Wil a Ned, oedd yn eu sixties hwyr,
ond roedd ’na broblem gyson, sef cynnal cworwm llwyr.
Un noson Sw a ddwedodd: “I ddathlu’r Jiwbilî
hoffwn lenwi’r ddwy sedd hyn sy’n wag er ’73.”
Etholwyd dau yn fuan, sef Dei ap Daf a Dawn
(dau debyg eu hedrychiad i Sw, yn ôl y sôn).
Ond wrth i’r ddeuddyn eistedd fe gododd ton o lwch
i’r nen fel cwmwl madarch cyn llenwi’r lle yn drwch.
Bu’n rhaid i’r pump ffoi ymaith rhag gwae y mwrllwch maith
(doedd neb ’di llnau y cwshins er mil naw saith deg saith),
ac wedi i’r criw gael benthyg holl hwfars cryfa’r fro
ffiwmigetio’r lle’r oedd rhaid am fisoedd ar y tro.
A heddiw mae’r ddihareb yn rhybudd drwy y sir:
“mwya’ dwst seddi gweigion” sy’n dwedyd craidd y gwir.

Llion Pryderi Roberts 8.5

Beca

Buchedd Boris, Pennod 2

Chi’n gwybod bod y wlad mewn bach o bicil
Pan fod arian y PM ‘di rhedeg mas.
Eiff hanner ei holl incwm ar ddirwyon
A’r gweddill ar ddisgyblu’r melyn dâs.

Mewn ymgyrch daer i gadw’r prês i redeg,
Mynnodd swydd yn Peppa-land fel gyrrwr trên,
A chystadlodd mewn amrywiaeth fawr o sioeau:
Fel Pointless, Celwydd Noeth a’r Babell Lên.

Er ennill bach o brês, roedd dal mewn trwbwl:
Roedd angen help i blesio’r bailiffs blîn.
Gwerthodd Mogg ei dop-hats a’i fonoclau,
A chynnig gwerthu’i henaid wnaeth Nadine.

O’r diwedd, gyda’r ddyled wedi’i thalu,
Roedd cydwybod ein harweinydd nawr yn glir.
I’r T欧 Cyffredin aeth, ond cafodd syndod:
Roedd Ian, Ed a Keir yn mynnu’r gwir!

“Wrthymosodwn Dories!”, bloeddiodd Boris,
“Dangoswch eich ymroddiad cryf, di-nâg!”
Bu’n rhaid i Rishi sibrwd yn ei glust e:
“Mae’r seddi i gyd tu ôl i ti’n wag.”

Lefi Dafydd 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd : ‘Rhy hir yw’r rhestr aros’

Aberhafren

Rhy hir yw’r rhestr aros,
rhy hir i bawb heblaw’r bòs.

Aron Pritchard

Beca

Er y ffin er croesi'r ffos,
Rhy hir yw'r rhestr aros.

Eifion Daniels 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Osgoi

Aberhafren

Digwydd ei gweld.

A dw i nôl mewn gwisg ysgol,
ewinedd yn gafael mewn garddwrn a gwallt,
ewinedd yn sgrechian fy enw ar fwrdd du,
ac yna fy anwybyddu.

Crafais innau fy nicter yn dawel
â chwmpawd di-awch.

Af ati,
bron â siarad,
bron â gafael yn ei gwallt
ond ni allaf...
ac aiff hi heibio heb wgu, heb wingo,
fy sychu o’i bwrdd du,
a’i hewinedd yn llawn ohonof.

Mari George 10

Beca

(‘Rhued eigion aflonydd heb lesgau, Ac ar y dorau cured y Werydd’
Araith Seithenyn R. Williams Parry)

Rhyfeddwn at ei gof:
y llinellau a lifai’n gyfeiliant
i’n prydau boreol;
ac yn ei lais
clywn gyffro’r gerdd.

Carai rym y geiriau. Carai’r her
o gamu’n dalog hyd y llwybrau garw
dan gawod o ewyn,
a chadernid ei law’n fy ngwarchod
rhag anterth y storm.

Yna’r erydu:
Llanw a thrai ei eiriau
Cyn i’r tonnau eu cipio
a rhu’r gwynt yn llesteirio’r gân
yn ogofäu’r cof. Oedd,
‘roedd yr arwyddion yno.
A minnau’n eu gwadu.

Distawodd y llais, ac o’i ddôr
gwelais lonyddwch yr hin
a’r môr fel llyn.

Rhiannon Iwerydd 9.5

9 Englyn: Fisa

Aberhafren

Wrth ffoi o’r creithiau ffiaidd i ofyn,
mewn rhyfel anwaraidd,
am seintwar tra bloeddia'r blaidd,
ceir ateb biwrocrataidd.

Aron Pritchard 9.5

Beca

Hon a rydd gip o ryddid – i deulu’n
Cydwylo’n eu gofid;
Yn llusern o gadernid
Yn eu llaw rhag nosau’r llid.

Rachel James 9

Cynigion ychwanegol

Arwr ynte dihiryn- yn ein byd
Dwêd beth ydyw cyd-ddyn?
Yn ein gardd ni chei fan gwyn
Nac ardal heb dy gerdyn.

CYFANSWM MARCIAU

ABERHAFREN 72.5
BECA 71.5