Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges wrth dderbyn gwobr

Ffoaduriaid

Mae'n bleser ennill gwobr
am y pennill gwaetha rioed,
tydi o ddim yn odli
nac efo rhythm na'm byd.

Gethin Davies 8.5

Llanrug

Fel Prif Fustach y Ffair Aeaf,
rhoed y rosette coch amdanaf.
Rhyw orig fer i mi ei blasu,
cyn y daith i lawr i’r lladd-d欧.

Richard Lloyd Jones 8.5

Cynigion ychwanegol

Nid ydwyf yn weithiwr allweddol.
Rwy’n ddiog ac anghymdeithasol.
Ond gwnes i fy rhan
heb symud o’r fan
a dyna i chi pam rwy’n fuddugol!

Naw wfft i’r arlywyddiaeth!
Cei wobr am wasanaeth
waeth ti yw’r gorau un bob tro
i’w wawdio mewn barddoniaeth!

Lloyd yw'r un fu'n gwirfoddoli
i grynhoi ein data'n glir.
Does dim gwobr yn bodoli
all grynhoi ein diolch gwir.
Gyda diolch am y deyrnged yn y Papur Bro.
( Er na fyddaf yma i’w ddarllen o).

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm daearyddol

Ffoaduriaid

Heb yr angerdd lle cerddai
Mirain Llwyd mae Cymru’n llai.

Gruffudd Owen 9.5

Llanrug

Â’n hafau’n hir o fwynhau,
wylofus yw’r rhewlifau.

Dafydd Williams 9

Cynigion ychwanegol

Yn ôl tystiolaeth solat
ffwli-wyrcd, mae'r byd yn fflat.GWD

Aeth rhewlif y canrifoedd
un dydd yn rhewlif nad oedd.GO

Yn ara’ bach dysgir bod
mynyddoedd mewn mân waddod.GO
Daw ohonof, mor dyner,
Chwa o ffa i’r atmosffer.LLGL
Â’i holl wmff, haera twmffat
o’r Fflint , gred am ‘Ddaear fflat’

D诺r rhy wyllt fel d诺r yr Horn
yw’r d诺r dros harbwr Fairbourne.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Dwi’n si诺r fod ‘na rai yn diflasu’

Ffoaduriaid

Dwi’n si诺r bod na rai yn diflasu
ar y gogs yng Nghaerdydd yn teyrnasu.
Dwi’n cytuno fy hun.
Dwisho cartra’ yn Ll欧n,
tasa ond gen i’r modd i’w bwrcasu.

Gruffudd Owen 8

Llanrug

Mae’n siwr fod na rhai yn diflasu
ar weld holl ripîts y teledu.
Oes wir, mae na rai
ar ripîts yn gweld bai,
a rhai yn gweld bai a diflasu.

John Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae’n si诺r fod na rai yn diflasu
ar bocs sets a darllen a chysgu,
a jig-so’s ac ymlacio
heb blant i’w poenydio.
Fe gaiff rhain i gyd fynd i grafu.

Mae’n siwr bod rhai yn diflasu
o glywed fod Trump ‘di diflannu
o lwyfan y byd,
ac yn poeni pa bryd
y cânt cystal clown i’w diddanu.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Galwad

Ffoaduriaid
I Yncyl Bob, brawd fy nhaid redodd i ffwrdd i’r mor yn 13 oed.

Yn dair ar ddeg, fe regodd
fyd y fferm, a’i fwd, a ffodd
i fyd aur San Salvador;
dengid drwy godi angor.

Iddo toc, aeth Bwlchtocyn
yn ddim, ac roedd yntau’n ddyn
aur ei groen a’r ddaear gron
yn fronnog for-forynion...

Er hyn, daeth nôl yn ei dro.
Hwyrach i Bob synhwyro
twrw’r alwad trwy’r heli
o dir Ll欧n all dewi’r lli.

Gruffudd Owen 9.5

Llanrug

Mae gwacter yng nghroth Erin
wadodd blant mewn dyddiau blin.
I warchod ffydd bu cuddio
mam a’i brad rhag siom eu bro;
nid braint ydoedd cnwd y bru,
atelwyd cymorth teulu.
Hurtrwydd, carchar oedd ‘cartref’,
gwrido Duw, a’i gariad Ef.
Bellach does gyfrinachedd,
g诺yr y byd o agor bedd.
Her yn awr i’r Erin hon
yw eto chwilio’i chalon.

Richard Lloyd Jones 9

Cynigion ychwanegol

Galwad (ar ffôn efo Nain)
A’i chlyw hi’n wael, chwilio wnaf,
a deud hanes amdanaf
fy hun; a phan holaf hi,
‘ista, aros’ yw’r stori
o hyd, heb fedru ’madael.
Wrth gwrs, does fawr sgwrs i gael.

Ond ar ben y derbynnydd,
suo’n dew mae s诺n ei dydd:
dyna glec o’r hen dân glo,
lol hwyr y teli’n blerio,
a rywffordd, os dwi’n craffu,
ati af, i mewn i’r t欧.

5 Pennill ymson yn yr adran gwynion

Ffoaduriaid

Oes gen ti g诺yn? Ombwdsiaf hi:
caraf ombwdsio drwy’r flwyddyn gron.
Ond beth petai rhyw g诺yn gen i?
Pwy sy'n ombwdsio’r ombwdsmon?

Llyr Gwyn Lewis 9

Llanrug

Dangos diddordeb, osgoi addewidion,
Rhannu gobaith a gwenu’n rhadlon.
Os gwna’i ddelio â chant o gwynion
Fe gaf fy monws, a byddaf fodlon.

John Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

“Y mae’r ciw o flaen y cownter
yn hirach nag erioed o’r blân.”
Wrth gwrs ei fod y slej cwynfanllyd.

Mae pawb ddwy fetr ar wahân.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Helfa Drysor

Ffoaduriaid

“Pandemic neu beidio,” medd Marged T欧 Cefen
“fe fydd helfa drysor achos dyna yw’r drefen.”

 phenderfynoldeb dyfeiswyr y brechlyn
fe aeth ar ei hunion i drefnu yn sydyn.

Am chwech, ar y dot, daeth pawb i’r maes parcio
fel bod digon o amser cyn iddi fachludo.

Doedd hynny, eleni, ddim cweit mor hanfodol
gan mai ar Google maps y gwnai pawb y daith rithiol.

Cwestiwn rhif un, sawl dafad ac ô’n
a welir yng Nghae Dan y Berth Pen-y-lôn?

Tu ôl i bob sgrîn, fe glywyd sawl rheg-
roedd gan Dai Pen-y-lôn glamp o fantais annheg!

Rhif dau. Pick-up pwy sy’ tu fas bwthyn Gwenno?
Cewch farc ychwanegol am ddweud beth mae’n gwneud ‘no.

Gan bwy y mae’r tanc mwyaf helaeth o slyri?
Pa noson mae’r Drovers yn gweini eu cyri?

A’r cwestiwn ddaeth olaf, rôl saith awr a mwy;
sawl big bêl a welir ar ffermydd y plwy’?

Ag un marc yn unig, Dai enillodd yr helfa.
Bydd rhaid iddo gwato ei bick-up tro nesa.

Gwennan Evans 9

Llanrug

Derbyn her yng nghanol gaea’;
casglu lluniau o bob copa
oedd yn gwisgo cap o eira.
- Prynu camera.
Dringo’r Wyddfa fawr i ddechra’
ond ymwelwyr yno’n dyrfa
- Troi am adra’.
Am y Bannau es i wedyn
Pen y Fan, Corn Du a’r Cribyn,
Dringo rhain yn lincyn-loncyn
- Lluniau penwyn.

‘N ôl i’r Gogledd a’r Carneddau,
croesi’r Ogwan i’r Glyderau
- Gwych o luniau.
Pen yr Helgi Du yn glaerwyn,
ond Gwrach Pen Llithrig yn gwarafun
fod geni’i llun hi yn noethlymun
â rhoes swyn a wnaeth im’ ddisgyn.
- Colli’r camra
- Damia!


John Roberts yn darllen gwaith Dafydd Whiteside Thomas 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Lle chwarae yw lluwch eira’

Y Ffoaduriaid

Lle chwarae yw lluwch eira
i blant mewn cyfnod o bla
Gethin Davies 0.5

Llanrug


Lle chwarae yw lluwch eira
A’n plwy dan orchudd y pla

Dafydd Williams 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Anadl

Ffoaduriaid

Ti’n cofio dysgu fi i nofio
dan y wawr yn Ffrainc,
ar 么l i ti fy arwain o’r garaf谩n
er mwyn i Mam barhau i fenthyg cwsg?

Torrais ias, a chipiodd y pwll fy anadl,
gan ei gadw o dan y d诺r am eiliad fregus,
fy wyneb yn crafu’r awyr.
Prin y gallwn gosi bodiau fy nhraed
ar deils y pen bas,
tagais ar ddiferion pitw,
a mynd i banig.

Nes i mi deimlo bad achub dy fraich am fy nghanol.

Dwn i ddim os wyt ti’n cofio.
Mae dy groen yn melynu fel tasa fo’n machlud,
dy freichiau fel dwy angor ar wely,
ac wrth i’m llygaid nofio,
rwy’n si诺r y gallwn gosi bodiau fy nhraed
ar deils dy anadl fas.

Llio Maddocks 10

Llanrug

‘Fedra’i ddim anadlu
ac ‘rydw i’n tagu
dan bwysau’r fall…’

Ar stryd yn Minneapolis,
mewn lori’n Essex,
ar ward y Covid,
mae pobl
na wyddem gynt pwy oeddynt
yn stemio drych ein cydwybod
â gwres eu neges olaf.

Arswydwn
cydymdeimlwn,
symudwn ymlaen,
wrth i wynt teg ein hoeri
anweddu’r boen,
a throi’r gwydr
eto’n glir.

John Roberts 9.5

9 Englyn: Nodwydd

Ffoaduriaid

Er neisied doliau a thedis di-ri
(rhai drud o John Lewis),
hen un brwnt heb arno bris
di'w weu gan Nain yw'r dewis.

Gethin Davies 9.5

Llanrug

Awchaf i noethi mreichiau, – a dur hon
yn drech na’r holl heintiau
yn ein mysg, rhoi cysur mae
i ni’i gyd â’i phigiadau.

Dafydd Williams 9

Cynigion ychwanegol

Daw einioes fyw pob dawns fu – â’i chwyldro
drwy chwildrins y canu;
dagrau hefyd, i graf
eu hoel dwfn i’r feinyl du.LLGL RHIGOL

Oes yn ôl, diflas y nos – a mi’n naw,
mae nyrs pigo’n aros.
Yn naw deg, heb ffrind agos,
un yw’r ofn yng Nghartref Rhôs.

Un ai aflwydd dieflig – neu arwr
yn herio pandemig;
rhoi i’n ein dôs, rhannu dig –
y ddeubeth wna’r ffon ddwybig.

CYFANSWM MARCIAU

FFOADURIAID 73.5

LLANRUG 71