Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cyngor i Gadw’n Ddiogel

Talybont

I’r sawl sy’n gwrthod mwgwd
Wrth siopa am dorth wen,
Wel tyned ei bans amdano
A gwisged am ei ben.

Gwenallt Llwyd Ifan 9

Dros yr Aber

#ArhoswchAdre
Yn fy un risg leiaf i, yn fy un
rheol fach ’di’i thorri,
fe fydd wedyn dy un di,
a’r un a’r un yn cronni...

Rhys Iorwerth 9.5

Cynigion ychwanegol

Wrth i ti adael dy d欧 gwyn yn fodlon
wedi arhosiad tadol a bodlon,
rhag i ti gael rhyw hen godwm cas,
gad gole mlaen wrth i ti fynd mas. AP

Er y rheolau claear, mae hi’n iawn
mwynhau fesul pedwar,
a iawn i’r bois fynd i’r bar
am win ac i lowcio medd...
os yw hynny mewn senedd.

Os wyt ti'n mynd mas gyda'r wejen
ryw noson am gêm fach o sboncen
bydd di yn ddiogel
â shots dan y bogel,
a gafel yn dynn yn dy handlen.

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm ariannol

Talybont

Pa rai ffôl a etholwyd
all gyfiawnhau banciau bwyd?

Anwen Pierce 9

Dros yr Aber

Gwae ni fod rhaid i’r ifanc
orfod byw ar fwyd y banc.

Carwyn Eckley 9.5

Cynigion ychwanegol

I’r awyren heulwen ha’,
fuaswn angen Visa.GLLI

Er y clwyf yn nhir y clo,
eu cynnen yw’r pres cinio.Ap

Gwario’r ydwyf ar gredyd,
gwario heb wario dim byd!

Da o hyd ydyw hadoc
a gwres y d诺r i greu stoc.

Nid yw mil ond newid mân
i’r g诺r sy’n graig o arian.

Bydd, cyn dolur rhydd, fog rôl
yn yswiriant amserol.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gennyf yr holl gymwysterau’

Talybont

Mae gennyf yr holl gymwysterau,
Dwy radd, a thystysgrif uwch sgiliau.
Ces FAFTA am sgriptio
Ac Oscar am actio,
A deg am sgrifennu limrigau.

Delyth Ifan 8.5

Dros yr Aber

Mae gennyf yr holl gymwysterau
i farnu’r da byw yn y sioeau.
Rwy’n Gofi o’r dre,
a gwn mai “m诺-mê”
ddwed rhai, a “mê-m诺” y rhai gorau.

Rhys Iorwerth 8.5

Cynigion ychwanegol

Mae gennyf yr holl gymwysterau
I arwain yr Unol Daleithiau,
Rwy’n hoffi dweud celwydd,
A thrydar haerllugrwydd,
Ac rwy’n glynu fy ngwallt ’da styffylau.

Mae gennyf yr holl gymwysterau:
BEd a BMath, tystysgrifau
MChem, BSc,
DLit, LLB,
LittD... Ond dwi methu cau ’nghreiau.

Mae gennyf yr holl gymwysterau
a'r gallu i greu'r limrig gorau
ond sa i moyn.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Agoriad

Talybont

Yes Cymru

Yng nghilfachau caeau’r co’,
a’r brwydrau’n haenau yno.
Yn y brwyn, mannau bryniog,
llwyni ynn; pob Llyn-Na-Nog.
Rhwng cloriau’r llyfrau a’u llwch,
hyd y waliau’n dawelwch.

Mae trysor sy’n rhagori;
Croes Naid yn ein henaid ni.
Awn, mentrwn, chwiliwn a chael
rywfodd y dur i’w afael,
ac agor cist yn ddistaw
a hyder llwyr yng nghledr llaw.

Gwenallt Llwyd Ifan 10

Dros yr Aber

Mae’n ‘USA!’ o reiat.
Ac ar gyrch i wasgu’r gât,
Daw’r fyddin daer o fyddar,
Ei rhesi gwyn ar y sgwâr
Eisiau gwaed. Mae fel oes gynt,
A’r hewl dan dymer helynt.
Ond â Ionawr, daeth gwawr gall.
Ymlaen, nawr, mae lôn arall.
Mae’n llain hir, mae’n llawn eira,
Lôn yw hon dan len o iâ,
A’r dasg, er oered yw hi,
Yw i’r haul ei meirioli.

Carwyn Eckley 10

5 Pennill ymson mewn ffatri

Talybont

Ymson siaced
Fe redai’r bysedd bychain
yn chwim wrth fwytho’m defnydd.
A’i dwylo'n gweithio’n gywrain
i bwytho’m hem â nodwydd.
’R ôl gorffen ei llafuriau
daw’r label i ddwblu ‘mhris.
Ac am ei siaced hithau?
Nid yw ond cot o chwys.

Phillip Thomas 9

Dros yr Aber

Rwyf eto’n gweithio. Yn hir y gwthiaf
i ddodwy dau 诺y’n y budredd ’danaf
(a thin, o’u herwydd, yn poethi’n araf).
Mae’n dasg nerthol, a thragwyddol holaf
wrth wyro i gowntio: beth ddaeth gyntaf?
Ai’r wyau hyn ynteu fi yw’r hynaf?
A thrwy ’mhig am blwc, am hyn y clwciaf.
Ond yna i mi daw’r cwestiwn mwyaf:
fi’r iâr browd; y fo’r 诺y braf... af ati
yn ddoeth i holi: pa un ddaeth olaf?

Rhys Iorwerth 9

Cynigion ychwanegol

Mae’r olaf wedi ’madael,
Y bois aeth tua thre’,
A thrwy’r ffenestri bylchog
Daw’r brain i hawlio’r lle,
A throf i gael rhyw olaf gip
Ar oes o lafur, yn y sgip.

O’m blaen, yn ôl y trefniant, dyma’r gwleidydd mewn hi-viz
yn ffug astudio ’mheiriant ac yn smalio’i drin fel whizz.
Mae’n ysgwyd llaw fel io-io, yna’n fflachio gwên fawr gam,
cyn dianc, heb ffarwelio, i roi’r llun ar Instagram.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Clensio’r Ddêl

Talybont

Cychwynnodd fy ngofid wrth agor y post,
A chyn canol bore roedd fy mhen bach i’n dost,
Cans yno’n swyddogol mewn dogfen ffwl-sgap
Roedd cynnig i brynu fy fferm, ac un map.

Archwiliais ei gynnwys â geiriadur wrth law,
Es allan i stydio y map yn y glaw,
A deuthum i’r casgliad fod ffortiwn i’w wneud
Pe gwerthid y cyfan, nid wyf yn gor-ddweud.

Rhyw gwmni o bant oedd am brynu y tir
A throi eto’n gors y ddôl ffrwythlon ir.
Byddai’r t欧’n cael ei ddymchwel gan y diawled bach ewn,
I atal neb lleol rhag symud i mewn.

Byddai warden yn trigo mewn cwt yn yr ardd
Tra llenwid y gelltydd â bleiddiaid di-wardd.
Yn pori y gors fyddai byffalo d诺r
Ac ambell greadur cynhenid mae’n si诺r.

Cawn fy nhalu yn syth pe ildiwn pob hawl,
A bron i mi werthu fy enaid i’r diawl,
Ond pwyllais wrth gofio am gytundeb mwy
A wnes gyda’m hwyrion a’u dyfodol hwy.

Phil Davies 8.5

Dros yr Aber

Rwy wedi prynu cacen, y ddrutaf yn y siop.
Mae cwafers rownd yr ochrau, a cheirios ar ei thop.
Mae dwsin o ffyn coctel yn sdico mas o’r gac
ac ar bob ffon yn dalog mae baner Union Jack.
Rwy wedi penderfynu ei chadw ar y seld
a chaead gwydr drosti er mwyn i bawb ei gweld.
Godidog yw ei gwead, mor berffaith yw ei blas.
(Wel, dyna rwy’n dychmygu o’i gweld hi o’r tu fas).
Wrth drafod dêl y gacen, ro’n innau’n teimlo’n ewn:
Ei golwg sydd bwysicaf, nid sut beth yw tu mewn.
Er hyn, o’r disgrifiadau, mae’n hyfryd drwyddi i gyd,
llawn sbeisys tra egsotig, a llwyth o gognac drud.
Mae’r wyau’n dod o Iwerddon, y marsipán o Sbaen,
y blawd o’r Iseldiroedd, a’r ffrwythau fesul haen
o Ffrainc, Gwlad Belg a’r Eidal, a’r menyn o Wlad Pwyl.
Ac ro’n i’n benderfynol o’i derbyn cyn yr 糯yl.
Er mwyn ei chael yn brydlon, fe wnes beth gwirion bost:
cytunais ar un cymal heb lwyr gyfrifo’r gost.
Os ydw i am ei bwyta, a dyma’r geiriad ffôl,
cyn cael un darn o’r gacen rhaid yw ei rhoi hi’n ôl.

Iwan Rhys 9

7 Ateb llinell ar y pryd ; Ofnwn y d诺r dwfwn, du Neu Ofnwn y d诺r dwfn a du

Talybont

Yn y pwll nad yw'n pallu,
ofnwn y dwr dwfwn du.

Phil Davies

Dros yr Aber

Â’r lan ar fin diflannu,
ofnwn y d诺r dwfwn, du.

Marged Tudur 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Rhith

Talybont

Mae Chwefror yn agor a niwl
y bore’n rhyn, y barrug mor styfnig am y wig
a Mawrth rhywle’n bell ar orwel ein byd.
Simneiau dros doeau o darth
yn anadlu plu dros y plwyf,
a’r garthen wen yn haenau.
Siapiau yn y golau gwan, a chymylau’r lluniau llaith
yn barêd o ysbrydion.

Yn y dail o dawelwch o dan droed y goedwig,
pydredd y llynedd yw’r lluniau.
Cerddwn i’r Gwndwn a’r gât yn wich o’n hôl.
Daliwn oerfel yn ein hanadl nerfus;
chwilotwn, a chael eto’r ddraenen wen yn finiog.
Brath ei nodwyddau’n dechrau magu dail
yn wyrdd rhwng muriau’r murddun.

Gwenallt Llwyd Ifan 9.5

Dros yr Aber

Troi i’r chwith wrth y blwch ffôn sy’n mygu dan ager graffiti
a genod yn byrstio o’r bws pedwar i ddympio ceiniogau,
deialu rhifau a chlymu cord yn fodrwyau am fysedd,

heibio i’r ysgol a’i hoglau tanjarins a chartons llefrith
a sgert a sanau’n cuddio cleisiau ar bengliniau,

ger Highfield cyflymu cyn i Mrs Hughes fy rhwydo
a sodro bys i glust wrth i’r rottweiler fynd i ffeit efo’r ffens,

ymlaen at yr Eglwys lle bu ’nhrwyn yn crychu ar ffenestri lliw
a dwi’n plygu ’mhen, rhag ofn i mi ddal llygaid y cerrig beddi

ac mi welai’r twll yng ngwrych y t欧 haf a’r gastanwydden
a blediwyd â bat criced nes bo’r concyrs yn sbydu hyd y lawnt

gan gyrraedd y pant lle nad oes golau stryd,
dim ond deryn yn sownd mewn drain
a dyn mewn côt hir ddu yn barod i nghipio os na frysia’ i am adra,

ar yr allt, mae ’nwylo’n greddfol gau am frêcs beic
ac ym mhen y lôn mae Twm sy’n gwybod bod o-bach yn s诺n fy sgidiau
a daw â’i gynffon i gosi ’nghoesau wrth i mi gamu drwy’r adwy

am y t欧 lle gallwn unwaith droi bwlyn ei ddrws.

Marged Tudur 9.5

9 Englyn: Llif

Talybont

Washington James
Ei dwylan fu iddo’n deulu – ei rhuthr
a'i rhwysg oedd ei Gymru.
'Leni, a'i Deifi o'i du,
aeth i’w Genarth â’i ganu.

Anwen Pierce 9

Dros yr Aber

Giatiau tai sy’n fagiau tywod; er hyn,
mae’r holl res yn nabod
s诺n dilyw. Er byw a bod
mewn gobaith, maen nhw’n gwybod.

Rhys Iorwerth 9

Cynigion ychwanegol

Y saer mud
Ni thawelwyd morthwylion – nac erfyn;
daeth i gerfio'i straeon
wrth ei waith, a'i afiaith o'n
llafar ymysg y llifion.

Tyddyn. Bwthyn. Airbnb. I gyd
ar gael am bris llogi.
I gyd, o’u gwagio, wedi
creu tir neb o’n cartre ni.

CYFANSWM MARCIAU

TALYBONT 72.5
DROS YR ABER 74.5