Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Hybu Bwyta’n Iach

Tanau Tawe

Am iach goluddion - tonig, dim coffi,
Dim caffin gwenwynig,
Salsa, dim sôs na selsig,
Dim bara gwyn, dim briw gig.

Keri Morgan 8

Tir Mawr

Mae pridd mewn letys gardd, efallai,
Mwd a chlai ar datws rhydd,
Ond prynu’n lleol, tyfu gartref:
A ddaw o faw, mor dda a fydd.

Gareth Jos 8

Cynigion ychwanegol

Nid oes dim wna lês i ddyn,
Fel bwyd o’r môr,a Chwrw Ll欧n.

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bric’ neu ‘bricsen’ neu ‘brics’ neu ‘briciau’

Tanau Tawe

Cau yw briciau heb yr un
A’u doda yn sad wedyn.

Robat Powell 8.5

Tir Mawr

Hanes brics mewn sbri ocsiwn
Yw T欧 Nain i’r hurtyn hwn.

Carys Parry 8.5

Cynigion ychwanegol

[Y llinellau wythsill yn fwriadol]
Fesul bricen wrth fricen frau
Y tyf nerth a gwerth a gwyrthiau.
Ym mhob bricsen eu sen sydd
Yn y wal o gywilydd.

Daw trydan i dân rhwng dau
O brocio dan ei briciau.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi glywais ryw sôn yn ddiweddar’

Tanau Tawe

Mi glywais ryw sôn yn ddiweddar
Am gath sy’n cynhyrchu tom liwgar,
A bod llif ei d诺r
Sy’n wynnach na ffl诺r
Yn troi’n binc wrth gyffwrdd â’r ddaear.

Keri Morgan 8

Tir Mawr

Mi glywais ryw sôn yn ddiweddar
Fod c’loman ar golofn Trafalgar
Yn gwasgu bob dydd
Heb ollwng yn rhydd
Nes bydd mwy o dorf ar y ddaear.

Carys Parry 8.5

Cynigion ychwanegol

Mi glywais ryw sôn yn ddiweddar
Fod Marshians ‘di glanio’n Llanilar
Ac wedyn, at rheiny
Daeth mwy, yn gwmpeini
A neb wedi sylwi rhyw lawar

Mi glywais ryw sôn yn ddiweddar
Fod James ’di cael trip helicoptar

Er mwyn dojo’r stops
A drefnwyd gan gops
I’w gadw o’i fwthyn yn Rabar.

Mi glywais ryw sôn yn ddiweddar
Fod Jac Doctor Cwac yn y carchar
Am roddi llawdriniaeth
Tra’n adrodd barddoniaeth
A hynny heb unrhyw gymhwystar

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cam neu Camau

Tanau Tawe

Yn mynnu gwneud ei smonach,
fe ddaw i’n byd feddwyn bach
â swyn yn ei simsanu ;
onid hwn yw clown y t欧?

Dros fryniau mae’i wadnau o
 hyder yn ei gludo ;
Twmpathau yw llethrau’r llus,
A’r foel yn filltir felys.

A heno fe simsana
Ger ei wal fel g诺r ar iâ ;
Mur castell yw’r stâr bellach,
A hyd ei fyd ei r诺m fach.

Robat Powell 10

Tir Mawr

Gorymdeithiau glowyr de Cymru i Lundain
adeg dirwasgiad mawr y 1920au a’r 1930au

Aethant, mewn capiau brethyn,
at gynteddau’r siwtiau syn
a hen gân newyn a gwae’u
cymoedd yn brysio’u camau.

Am newid mân y canent,
am geiniogau i gapiau Gwent –
y beirdd oer o’u bro ddi-waith
ar ddibyn bro ddi-obaith.

Ddoe oedd hynny: y ddinas
yn rhostio’i glo yn fwg glas;
hwythau’n mynd mewn brethyn main
i nôl iawndal gan Lundain.

Myrddin ap Dafydd 10

5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes

Tanau Tawe

Pan ddaw’r hen gyfnod hwn i ben,
Daw cwmni eto i’n llonni,
A’r pleser mwyaf dan y nen
Fydd gallu dadz诺moli.

Elin Meek 8.5

Tir Mawr

Mae’n gyfnod pla a’r gweithlu sy’n
Hunanynysu rhagddo,
Ond clic i’r cam’ra a’r meic yn iawn
Ac yna cawn S诺mgomio.

Huw Erith 8.5

Cynigion ychwanegol

‘Wepryd’ (Face time)
Peth braf yw ffôn gan gariad
Peth braf yw gallu siarad,
Ond brafiach byth yw gweld dy bryd
Ar wepryd pan ddaw galwad.

(ymwroli = caffael g诺r)
Bu Nia’n sengl am amser maith
Heb awydd dyn i’w briodi,
Ond cyn i’r deugain ddod yn ffaith,
Bu iddi ymwroli“

Rhaid i ti greu gair am y “furlough”
Un slic wnaiff y Wasg ei ddefnyddio”
Fe wnaf yn ddi-os,
Atebais y bòs
Ond aros nes dof nol i weithio.

Beth, wir, ydy “huan-ynysu”
Beth goblyn mae’r gair yn olygu?
Fe allet ‘n y bôn
Droi’n Enlli, mae sôn
Neu waeth, yn Sir Fôn, tae ti’n medru..

6 Cân ysgafn i ddau lais (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Taro Bargen

Tanau Tawe

Rwy’n falch o allu prynu crys
O fewn ‘run siop â’r ham a’r p欧s,
A’n blês y caf fi dorri chwys
Wrth glatsio pêl heb fod ar frys.
Ond, plîs, ga’ ’i fynd ar wylie haf?
Mae lle yn Ffrainc sy’ i weld yn braf.

Rwy’n fodlon iti fynd am dro
O fewn pum milltir yn dy fro,
A chlatsio pêl o dro i dro,
A mynd i siopa dan un to.
Fe gei di fynd ar wylie’n si诺r -
Ond paid â mentro dros y d诺r!

Ocê, mae hwnna’n ddigon teg,
Rhaid llyncu’m llid a’m mynych reg,
Yn wir, ni chlywi air o ‘ngheg,
Er gwaetha’r gri am “riwls” annheg ...
Ond cei di’r fraint o ddweud wrth Gwen
Fod cynllun San Tropê ar ben!

Keri Morgan 8.5

Tir Mawr

“Rydwi ffansi prynu parot, un sy’n siarad lot, fel rhodd”
“Wel mae gen i bechod drosot canys nid oes gen ti’r modd”
“Rydwi’n siwr o gael yr arian i gael presant iawn i Taid
Ac mi dalai fesul adain, wrth y bluen os oes rhaid”
“Mae fy adar yn areithwyr, heb eu tebyg yn y wlad…”
“Paid a dechrae malu awyr ! Dyro imi Barot rhad ! “
“Daw y rhain o fil i fyny, hyd at filiwn. Arian mawr
Ambell un yn fwy na hyny ! Wyt ti angen eistedd ‘lawr ? “
Fe adawai di am sbel fach. Fe gei weled dros dy hun
Fod yr adar yma’n glyfrach o beth ddiawl nag ambell ddyn”
“Rwyt yn greadur hardd a pheniog, Boli Parot, rhaid ‘mi ddweud
Tyrd yn nes fy nghyfaill pluog, dyma be’ fydd rhaid ei wneud……….
Sgiwsiwch fi, r’ôl sad gysidro, hoffwn brynnu’r deryn gwyn.
Mi ro i ugain punt amdano. arian parod, rwan hyn !
“Faint o ffwl ti’n meddwl ydw i ? Mae o werth o leia’ mil “
“Naw deg punt ?” “Hy, naw can gini! “. “Cant a hanner ?” “Degpunt” “Dîl ! “.
“Pam gynigiais bris mor isel ? …Poli’r Parot ! Fo wnaeth ddweud !
Ac yn awr mae’r ddau ‘di gadael. Rydwi wedi cael fy ngwneud !”
“Da chdi’r hogyn ! Hwda Poli, dyma’r cnau addewais i
A bydd llawer mwy o’r rheiny – dyna’r fargen daro’ ni

Gareth Jos 9

7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Nid yw’n dda fod un neu ddau’.

Tanau Tawe

Nid yw'n dda fod un neu ddau
yn rhywle draw ar wyliau!

Keri Morgan 0.5

Tir Mawr

Nid yw’n dda fod un neu ddau
Heb achos dan ein beichiau

Huw Erith

8 Soned: Taith

Tanau Tawe

O dewch, y di-Gymraeg, ar fws yr iaith!
Mae lle i filiwn, ac mae’n fore o haf.
Er na chewch eich rhyddhau un dydd o’r gwaith,
Bydd teithio ar y draffordd hon yn braf.
Ar ôl ynganu enwau lleoedd hardd,
Dilyn heolydd ymadroddion rhwydd
A chroesi cyffordd sgwrs dros glawdd yr ardd,
Daw gweithio yn Gymraeg yn rhan o’ch swydd.
Ond pan dry’r cystrawennau’n niwloedd chwil,
Geirfa yn lluwchau dros y lôn i gyd,
Tarmac yr holl dreigladau’n dyllau fil,
Prin fydd y tanwydd allai’ch cludo o hyd.
Tybed a ddeil holl seddau’r bws yn llawn
A hithau erbyn hynny’n hwyr brynhawn?

Elin Meek 9.5

Tir Mawr

(wrth gofio John Meirion Morris)

Mae niwl aflonydd at y clawdd dan t欧;
Mae’r ffordd i’r hendre’n stomp o byllau glaw;
Mi droth y gwynt – mae cyllyll yn ei blu;
Trodd pen yr alarch dan ei adain draw;
Mae crawc y frân yn crafu croen y clyw;
Mae dail y berllan wedi pydru’n bridd;
Dim sbarc o liw; dim sbonc yng nghoesau’r dryw;
Dim gwres wrth groesi bochau gwlyb y ffridd.
Ond Mawrth sy’n dilyn Medi. Gwelaist hyn
a’i roi mewn clai. Rhaid mynd drwy’r Annwn du
ar lwyfan, cyn cyrraedd sbotyn gwyn;
rhaid dal, ar grib y gwynt, wrth ddyfnder cry’r
gors fawn. Yng ngwib y ddaear, dyma’r both
di-syfl; yn nos yr ogof: dyma’r groth.

Myrddin ap Dafydd 10

9 Englyn: Ambiwlans Awyr


Tanau Tawe

Wedi anaf, amdanoch – daw rhyw niwl
a dry’n oer, a gwyddoch
fod rhwyd glòs hirnos arnoch,
ond toc, wir, daw’r barcut coch.

Elin Meek 8.5

Tir Mawr

Calon uwch y cwm culaf yn cyrraedd,
yn curo i’r eithaf,
a ras goch ei gwres a gaf
yn dwll drwy’r nos dywyllaf.

Myrddin ap Dafydd 9

CYFANSWM MARCIAU

TANAU TAWE 70
TIR MAWR 71.5