Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn mewn llyfr ymwelwyr

Tegeingl

Nodyn yn llyfr yr ymwelwyr, Pegwn y De, 1911.

Wel! Am eiriau bach hael:
"Mae tudalen dau ar gael..."
Gwir ddiolch: yr eiddot
yn ffyddlon (er amhrydlon)
Robert Falcon Scott.

Les Barker 8.5

Gwenoliaid

“Wnaiff rhywun ddod i sgwennu
ynof yn ystod pla?
Just gwedwch rhywbeth wrthoi
os mae dim ond “Bore da”!

Hannah Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Dim trydan, d诺r iasoer, un gwely,
a chorff yn y cwpwrdd, a’r gwely,
c诺n gorffwyll, daeargryn, a phla chwilod du,
a’r ffaith mai yn Nercwys mae’r llety.

Derbyniwch fy niolch, g诺r Tiveyside Lodge,
am wychder haelioni eich croeso,
croeso bron cystal â chroeso eich gwraig –
efallai y gwelwch ni eto.

Huw Roberts (o bentref cyffiniol Treuddyn).

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘hawdd’

Tegeingl

Hawdd i glawdd rhoi gwlad dan glo;
astrus yw’r gwaith dadrwystro.

Dafydd Morris 9

Gwenoliaid

Daw rhagfarnau lleisiau’r llu
yn rhy hawdd â’u ceryddu.

Huw Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Hawdd y tawdd pob pwdin twym;
ildio ni wna’r rhai eildwym.

Hawdd y tawdd dyhead dau
yn storom anawsterau.

Hawdd rhoi gair, rhoi gair ar go’ -
a hefyd hawdd anghofio.

Hawdd i ddyn na welodd hedd
Anghofio gwerth tangnefedd.

Er caethder ein hamser ni
y mae’n hawdd mwynhau heddi.JMT

Â’n doniau yn adenydd,
o mor hawdd fydd Cymru rydd?SP
.
Mae hi’n hawdd mewn neuaddau
i ddwyn sosej rôl neu ddau.SP

Mae’n hawdd i minnau o hyd
ollwng fy rhechfeydd drewllyd.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y mae gen i reswm i gredu’

Tegeingl

Y mae gen i reswm i gredu
Fod pobl y dre’n f’anwybyddu
Pan af lawr y stryd
Yn hapus fy mryd
Mae nhw yn un fflyd yn diflannu

Harri Bryn Jones 8

Gwenoliaid

Y mae gen i reswm i gredu
bod wyau fy ieir yn melysu
mae eu plisg yn batrymog
erbyn hyn maen nhw’n enwog
a Cadburys yn ceisio eu prynu.

Judith Musker Turner 8

Cynigion ychwanegol

Y mae gen i reswm i gredu
bod radio yn well na theledu
cans ni fedrwn yrru
â sgr葖n i’n difyrru,
ond rwy’n saff ar y ffordd ‘da llais Ceri.

Y mae gen i reswm i gredu
bod pob Talwrn sy’n cael ei ddarlledu
yn well os cawn ni –
Marc, Les, Bryn a fi –
farciau llawn am ein chutzpah ymdrechu.

Y mae gen i reswm i gredu
bod credu ac odli yn odlu;
cyfnewid yr u am i bedol wna i
a wedyn sdim eisiau neb boenu.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Sbwriel

Tegeingl

Mae o hyd hen redddf am hel
i’n herwau di-ysbwriel.

C诺n a brain yn cannu bro
yn esgyrn hyll, afrosgo –
eu chwalu, nes i’r chwilod
yn ddu, fel at gladdu, ddod,
i eillio o’r gweddillion
ryw faeth, o ddyfnder rhyw fôn.

Ein daear biau’r chwarae:
y pridd yw diwedd pob prae.
Is y sêr, dim gwastraff sy’
i weilch yr hen ailgylchu

Dafydd Morris 8.5

Gwenoliaid

Yn y glaw safai’n dawel
wedi’r bas wnaeth ildio’r bêl;
un lac i lorio ei wlad.
Ym merw’r camgymeriad,
y trydar sy’n fyddarol;
yn un haid maent eto’n ôl.

Yn blentyn roedd hyn yn hwyl,
ond o’i asgell mae’n disgwyl
y trais o lu’r terasau,
yr herio hallt i barhau,
a’r sbwriel i hel o hyd
yn ei inbox yn enbyd.

Steffan Phillips 9.5

5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes

Tegeingl

Mewn ardaloedd o'r Affrig anhysbys,
siaredir ein heniaith ysblennydd;
os soniant am "fynd dros ben estrys",
dyna'u mesur o ddyfnder afonydd.

Les Barker 8.5

Gwenoliaid

Dwi’n gwisgo’n broffesiynol
i bob pyjarfod sydd,
Fy nghrys ‘di smwddio, tei yn dwt,
a siaced ambell ddydd.
Ond dan y bwrdd dwi’n cwato
fy mhi-jeis Lerpwl i,
a chroesi popeth na fydd rhaid
‘mi godi am bi-pi.

Steffan Phillips 8.5


Cynigion ychwanegol

Mae Prydain wedi dioddef
cyfnod hir, rhwystredig
o emboris mawr ers cyn Gof
am ei gwleidyddion siomedig.

Wsti Ber

Ma’ GOG yn beth annifyr,
dwi bron a mynd o ‘ngho’,
ma’r gegin fach yn shambls
a bil y gas drwy’r to.
Ond does na’m dewis arall,
rhaid byw ‘da GOG am nawr
a thaclo pob un diwrnod
yn wrol, fesul awr.*GOG – Gweithio o Getre

6 Cân ysgafn i ddau lais (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Dorf

Tegeingl

Tawelwch terasau ond sol-ffa o’r soffa,
ein pyncio o’r palmant, ein lleisiau o’r lolfa;
er bod pawb yn ynysig, mae’r wal goch mor bwysig;
ein torf delynegol, ein dyn ychwanegol,
yr unfed ar bymtheg, deuddegfed, faint bynnag,
gyda’n gilydd ar wahân, dros ein gwlad, Calon Lân;
canmol Adams a Sheedy, North a Navidi,
Willis Halaholo, ein Dan James a'i gôl o,
clywed Nic Parry’n sôn am Gareth a Harry;
mae’n rhaid gosod barrier rhwng emyn ac aria;
ein beirdd, ein cantorion, dau dîm llawn enwogion;
er bod ni’n eu caru, rhaid iddynt wasgaru;
lle mae hynt a helynt, bydd dwy lathen rhyngddynt
trwy’r pyncio o’r palmant a’r lleisiau o’r lolfa,
tawelwch terasau a sol-ffa o’r soffa.

Les Barker 8.5

Gwenoliaid


Deuawd y glymblaid

Y fi yw Preisi / a fi yw Drêc
y cyfuniad gore rioed ers chips a sdêc.
Nid annibyniaeth yw fy sîn
ond ma hanner dy gefnogwyr yn gytun.
Ni’n ddau sosialydd, nawr dere mla’n,
mi withodd clymblaid rhyngom dro o’r bla’n –
cei fod yn Rhodri / ti, Ieuan Wyn?/
Gad fi feddwl bach am hynny, falle ddim.
Ma RT Davies yn codi’i lais -
falle clymblaid ‘da Abolish / Plaid y Sais /
mae’n ddigon gwirion / ma’ hynny’n ffaith
‘dy e’n sylweddoli gallen oll fod ma’s o waith?
Un achos pryder sydd gen i
a allai chwalu unrhyw fargen rhyngom ni –
pan ddaw hi’n fater o selio’r ddêl /
pu’n ohonom fydd â gofal Dafydd Êl?

Annibynieth / ffederaliaeth, gwir sosialaeth / gwir hunaniaeth /
pa wahaniaeth pa ddamcaniaeth? Dêl yw dêl.

Huw Chiswell 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd - Peri loes mae’r Siwpyr Lîg neu Peri loes wna’r Siwpyr Lîg

Tegeingl

Peri loes mae’r siwpr lig
I dimau mewn pandemig

Gwenoliaid 0.5

Y barus sydd yn berig -
peri loes mae'r Super League.

8 Cerdd rydd (heb fod dros 18 llinell) yn seiliedig ar unrhyw rif

Tegeingl

Un;
un ac un ac un...
Mab, merch, dynes, dyn,
mae pob un yn unigolyn;
cawn ein geni, byddwn farw
fesul un.

Er gwaetha’ Covid, rhyfel, newyn,
nebun nid yw’n ystadegyn,
neb yn rhif ond pawb yn rhywun;
annifyr, ofer, hyfryd, hallt,
hawddgar, styfnig, anodd dallt;
ciaidd, cynnes, oer neu arw;
cawn ein geni, byddwn farw
fesul un.

Les Barker 8

Gwenoliaid

Saith deg

I fy nhad ar ein benblwydd 70 oed, 16 Mai 2021

Mewn stafell llawn broc dy fywyd,
rhannwn atgofion trwy niwl paneidiau a’r cof,
yn byseddu eu corneli
a’u shifflo fel hen luniau graeanog
yn eu cyfnewid nhw fel cerdiau chwarae.

Rwyt ti’n cynnig geranium coch
am arogl tost llosg a murmur radio’r gegin ar fore Sadwrn.

Cymeraf sedd lychlyd mewn rhyw steddfod fach
ac yn rhoi blas cân yr eurbinc yn fy nhro.

Rwy’n creu mosäig, yn casglu pob tamaid bach lliwgar
a cheisio eu gosod mewn patrwm,
i greu trefn a synnwyr a darlun mwy;
ond rwyt ti’n sgwennu symffoni,
a phob nodyn ein gorffennol yn toddi a thrawsffurfio
ac yn seinio o’r newydd, mor daer â chôr capel
ar ddydd Llun y Pasg.

Cynigiaf wenau dy ferched i ddenu dy dôn i gywair llon;
cynigi di dy gariad, sydd yn holl deilchion y gerdd hon.

Judith Musker Turner 9

9 Englyn: Priodas


Tegeingl

(I’m nith, sy’n priodi eleni.)

Un ac un… un deuddyn… dau – wyt bellach
mewn llinach; mae’n lluniau’n
goffâd o’n dymuniadau
i chdi… sy’n awr yn “Chi’ch dau”!

Dafydd Morris 8

Gwenoliaid

‘Rôl i’r haul rolio i’r heli – uno
wna’r don â’r goleuni;
ond nid agos at nosi
yw nerth ein hymrwymiad ni.

Judith Musker Turner 9

CYFANSWM MARCIAU
TEGEINGL 67
GWENOLIAID 70