Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Rhybudd y Tu Allan i Fwyty

Beirdd Myrddin

Os wyt ti’n wleidydd parchus
â syched ar dy fin,
na fyn yn ystod locdown
cael gweld ein rhestr win.

Garmon Dyfri 8

Y Arglwydd de Grey

Rhaid rhoi eich manylion i ni,
Fel bod modd eich olrhain chi,
Pe digwydd i chi têc awe
Mwy na bwyd wrth fynd o’n lle.

Eleri Jones 8

Cynigion ychwanegol

Mae’r Strogan-off a’r Carbo’n-ara’
a’r Tikka yma’r sala’,
chef Eto’n Mess mewn stiw Anglaise,
mae’r Bola’n-nês drws nesa’.

Rhy hwyr, does dim cass-ar-ôl;
ein ffagots sy’n ddiffygiol
a hen eidion anwadal
efo’n saws au Prov-yn-sâl;
ac o raid, wel, byrger off . . .

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘hallt’

Beirdd Myrddin

Er mor hallt yw’r môr o hyd,
yn ei heli mae’i olud.

Geraint Roberts 9

Y Arglwydd de Grey

Hallt yw’r mor, hallt yw’r meuryn
Yn ei farc yr halltaf un

Huw Dylan 9

Cynigion ychwanegol

Dagrau hallt a’i geiriau hi’n
anfoesgar sy’n fy whisgi.

Un ffallt llydd ar hallt o hyd
a llamu wna wrth llymud. Daffy Duck

Y cysur a’r dolurio
yw d诺r hallt i mi’n ei dro.
Er mor hallt yw grym yr haint
Daw cymorth i ward cymaint.

Mor hallt a'r marw ei hun
Yw marw o flaen meuryn

Er yn hallt mae dagrau’n hoes
Yn rhannu ystyr einioes

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Agorais y garej ac yno’

Beirdd Myrddin


Agorais y garej ac yno
Mi welais mai ofer oedd chwilio
Dan focsys o sgriws
A phlygiau heb ffiws
Am ble imi adael fy Nghlio.

Ann Lewis 8

Y Arglwydd de Grey


Agorais y garej ac yno,
Roedd Donald r’hen gradur yn cuddio
Yn eistedd ar fat
Yn gafael mewn bat
Rhag i ryw ddemocrat ei impeachio

Steffan Tudor 8

Cynigion ychwanegol

Agorais y garej ac yno
roedd ‘Steddfod Tregaron yn cwato,
dim glaw a dim mwd
ond sai’n deall shwd,
‘Na gwd’ medd rhyw wag o Langeitho.GR

Agorais y garej ac yno
Roedd cerrig Stônhenj wedi'u cwato,
Cans Dai a’th â’i bicup
Gan fynd heibio Sidcup
A’u mofyn nhw nôl i Sir Benfro.AE

Agorais y garej ac yno
Roedd cleren fawr boldew yn wincio
Gan lyfu ei gwefus
A chrafu’i phroboscis
Fe’i sgwoshais hi’n fflat am bryfocio.

Agorais y garej ac yno,
Er gwaetha'r gwaharddiad trafaelio,
Rhwng y sleid a'r swings
A pharrot heb wings
Roedd Dominic Cummings yn cuddio.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Eira

Beirdd Myrddin
Plant mewn gwers

Â’u Cemeg heddiw’n cymell
awr â’i sbort yw’r wers o bell,
ac i gof iau’r orig fer
y plu oesol yw’u pleser;
a daw’r iaith â’r peli’n drên
y rhewi a’r gystrawen,
a dont drwy holl firi’r dydd
i grynhoi geiriau newydd.
Dala’u byd wna’r dwylo bach
â’u dyn eira’n dynerach.

Un Ionawr a’i wyddoniaeth
yw plentyndod cyfnod caeth.

Geraint Roberts 9.5

Y Arglwydd de Grey
Eddie the Eagle

Penigamp yn ei gwympo
Ydyw naid ei enaid o,
Esgyn a disgyn, myn Duw,
Ehediad eryr ydyw.

Er ei ddewrder fel eryr
Eddie yw boi'r neidio byr,
Eddie'r eryr di'r arwr
Ond eryr gwael ydi'r g诺r.

Er hyn, drwy ddyfalbarhau
Hwn laniodd yng nghalonnau
Y dorf fel Olympian da,
Eddie'r eryr, duw'r eira.

Arwel Jones 9.5

5 Pennill ymson wrth archebu dros y we

Beirdd Myrddin


Mae eiliadau hir mewn bywyd
a phrofiad felly ges
mewn galwad ffôn ag aelod
o’r timau ‘Track and Trace’.
Fy siopa sy’n obsesiwn,
daeth hynny’n glir i mi:
pan enwyd fi yn ‘swigen’
y gyrrwr DPD!

Garmon Dyfri 8.5

Yr Arglwydd De Grey


Mae gen I wir sawl cyfri
I siopa ar y we,
Pob un wedi’I amddiffyn
 chyfrinair yn ei le.
Ond heddiw allai’m prynu
Dim oll i mi fy hun,
Oherwydd allai’m cofio
O gwbl p’run yw p’run.
Tomos Gwyn 8.5

Cynigion ychwanegol

Un crochan o grocbrisiau
yw’r we o’m mhrofiad i.
Ond cyfrol wych y Meuryn
a ges am ffiffti pi! GD

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Cwis

Beirdd Myrddin

To put it simply, Y Talwrn is one of the oddest quiz shows around yet it's still one of the mainstays of Radio Cymru. Over the course of ten rounds, two teams of poets have to come up with poems, lines and limericks about a given subject. The host then gives out points but not before a long (and we do mean long) summary of what he made of their material. (http://www.ukgameshows.com/ukgs/Y_Talwrn)

Daeth amser moderneiddio ein talwrn tila, od
Yn llawn rhyw ganu sychlyd gan feirdd fel Jôs a Pod.

Rhown fêcowfyr i’r Meuryn; i’r bin â’i gryse check
A’i wisgo mewn tuxedo fel un Anton De Beke.

Fe geith e ddod i’r llwyfan yn dawnsio’r cha cha cha
A chyflwyno’i hun i’r dyrfa fel “Ceri Wyn - A! Ha!”

Mae’n rhaid cael thîmdiwn newydd - ag ychydig mwy o fynd
A phan ddaw’r llinell ar y pryd, fe gei di ffonio ffrind.

Mae eishe mwy o glamour - ail lais, mae gen i’r deal
Cans gwn fod Kim Kardashian yn gwrando bob nos Sul.

Dyfeisiwn dasge newydd fel bwyta cynffon lloi
neu geillie un o deirw arobryn Arwyn Groe.

Mae angen fformat edji fel Love Island yn y bôn -
Dau dîm o feirdd yn copo off yn rhywle yn Sir Fôn.

Ond wedi imi feddwl nid gweddus chwys a chwant
Ac onid rhywbeth felly, ta beth, yw’r 糯yl Gerdd Dant?

Neu beth am roi’r prydyddion mewn gwisgoedd retro hen,
‘Run fath â’r rhai sydd ‘da nhw i feirdd y Babell Lên.

Ond Ceri anwybydda eu gwatwar, sen a rheg,
Ac wedi stopo siarad jyst dyro imi ddeg.

Aled Evans 9.5

Y Argwlydd de Grey

Oedd roedd cynnal cwis mysg y teulu
Ar y dechrau yn syniad reit dda
Ond erbyn yr ail dro a thriugain
Roedd yr holl beth yn dipyn o bla.
Er cychwyn yn griw digon gwaraidd
Pawb efo’I gw葒n I’w gweld ar y sgrin.
I rai cymryd rhan oedd yn bwysig
Ond eraill yn ddiawledig o cin.
Yn mynnu cael set o reolau,
Pawb I osod cwestiynau’n eu tro,
A neb I ddefnyddio technoleg
I adfywio cilfachau eu co.
A dyna fu sail y gyflafan
A chwalwyd yn yfflon y cwrdd,
Pan gyhuddwyd aelod o’r teulu
O ‘gwglio’ ar ei ffôn dan y bwrdd.
Bu sgrechian a chrio a rhegi
A phawb ar eu gilydd yn gweld bai,
Ond mae na un fendith I’r helynt
Mae y siawns o gwis arall lot llai!

Huw Dylan 9

7 Ateb llinell ar y pryd - Ers oes yr un ydyw’r sôn,

Beirdd Myrddin

Ers oes yr un ydyw’r sôn,
ein hoes o fyw 'da’r Saeson.
Ann Lewis 0.5

Arglwydd de Grey

Ers oes yr un ydyw'r sôn
Am y dig rhwng cymdogion

Arwel Jones 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ciw

Beirdd Myrddin
Anghredinwyr COVID 19

Dychmyga …
mai fi ydy’r ola
i ddala dy law fel hyn.
Dychmyga …
’mond fi all fod yma’n
clywed dy anadl prin.

Dychmyga …
nad ti ydy’r cynta
ond un wyt ti yn fy rhes.
Dychmyga …
- ond tybed a elli? –
weld dy dro di
yn dyfod yn nes.

Dychmyga ...
fod man yn y canol,
un cyfle i anelu 'sha thre;
tithau â’r gras i ddewis
rhwng aros
neu ildio dy le?

Lowri Lloyd 9.5

Y Arglwydd de Grey

Codi’r ffôn yn anfoddog
a fforio trwy’r opsiynau.
‘Mae’n llinellau’n brysurach nag arfer.’
Daw’r gerddoriaeth i grafu nghlustiau,

‘Chi ydy rhif 26 yn y ciw.’
Y ciw rhithiol di wyneb, di sgwrs.
A’r munudau di gwmni
yn llithro o’n gafael
fel tywod drwy’n bysedd.

Mae eich galwad yn bwysig i ni.’
Amynedd yn breuo
A’r edau’n torri
A phan ddaw’r llais
Llach fy nhafod yn chwipio
Caethferch y ganolfan alw
Cyn tewi,
Y fi nad wy’n ei hoffi.

Eleri Jones 9

9 Englyn: Twnnel

Beirdd Myrddin
Underground Railroad


Awn at ddyfnder ein herwau i ddianc
o ddüwch ein dyddiau,
o’n corlan i’r man lle mae
yr heulwen ar y rheiliau.

Aled Evans 9

Y Arglwydd de Grey


Mae capel bach ger y twnel yn y Nou Camp wedi ei fendithio gan Pab John Paul yr ail yn 1982. Gall chwaraeuwyr roi un weddi fach olaf yno cyn mynd i'r cae.


Nou Camp y gweddio cudd - Capilla'r
Cicio pêl dragywydd,
Chwiban a chael achubydd
Yn siarad iaith Messi'r dydd.

Arwel Jones 9.5

Cynigion ychwanegol

Colli Hywel Francis
Fflam ei orwel ni welwn, er achub
y gwreichion, ond sathrwn
ar dawch oer y düwch hwn,
a’i olau eto hawliwn.

Yn drech daw fy afiechyd – heibio’n daer
â’i boen du yn ddedfryd,
rhyw gam wrth gam, dyna i gyd,
a dim mwy ydyw mywyd.

Cyfanswm Marciau
BEIRDD MYRDDIN 71.5
YR ARGLWYDD DE GREY 71