Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges Heddwch ac Ewyllys Da Amgen

Beirdd Myrddin


Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cecil Rhodes

Dof atat yn gymodlon
gan estyn cledr lefn;
mae Beibl dan fy nghesail
a dryll tu ôl fy nghefn.

Ann Lewis 8.5

Gwylliaid Cochion

Fe hoffwn ni anfon brys-neges
o 'wyllys de atoch yn llon,
ond anodd iawn newid arferion
run Gwylliad mewn gornest fel hon.

Rhian Bebb 8

Cynigion ychwanegol

Daeth heddwch yn sgil locdown
cans pawb trwy’r byd yn grwn
sydd nawr yn torri’u gwalltiau
‘run fath â Kim Jong-un..AE

Mygydau a brechlyn o rhed dros y byd
a pheidied ein pobl ddod atom ynghyd,

breuddwydiwn am dafarn a pheint gyda’r bois
a bod gyda’n gilydd heb ofid am oes.GR

Cei arbed ein colledion – â brechiad,
rhoi braich am gymdogion,
mygydau’r Armagedon
yw dy arf rhag trydedd don. GR

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘hap’

Beirdd Myrddin

Sêr ar hap rhwng nos a’r haul
ydym cyn awr ymadael.

Aled Evans 9

Gwylliaid Cochion

Nid ar hap y daw yr Ace
i’th law, ond lawr o’th lawes.

Gwion Aeron 9

Cynigion ychwanegol

Duw hap sy’n dy eiriau di,
y duw fydd yn dy dewi.AE

Troediodd ar hap trwy’r adwy,
William Hill a’i hawlia mwy.GR

Nid ar hap y daw y rog
O hyd yn brifweinidog.

Darn o dir, 'rhen wlad dirion,
nid ar hap ar fap fo hon.

Nid ar hap y nodir hyn.
Achlod dweud 'na' wrth frechlyn.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Y mae gen i reswm i amau’

Beirdd Myrddin

Y mae gen i reswm i amau
taw’r Diwc ‘na’th ddarganfod Moel Famau,
fe 'sgwennodd â’m llw
holl sgripts Doctor Who
a’r miwsig i Hen Wlad fy Nhadau.

Ann Lewis 8

Gwylliaid Cochion


Y mae gen i reswm i amau
fod popeth yn ffug neu’n gelwyddau;
nad yw’r Meuryn yn fardd,
nad oedd Groe’n fabi hardd,
nad secsi yw socs a sandalau

Alun Jones 8

Cynigion ychwanegol

Y mae gen i reswm i amau
bod dynion yn mynd ar fy nerfau,
nid ydyw yn iach
gadael sêt y t欧 bach
i fyny ar ôl eu ffrydiadau.AL

Y mae gen i reswm i ame
bod rhywun yn dwgyd fy sane,
a’r hyn sy’n bizâr
‘mond un o bob pâr
sy’n mynd o fy nrâr i i rywle.AE

Heb weld fy nghyd-Wylliaid ers oesau
y mae gen i reswm i amau
y bydd ambell un
'di mynd yn ddi-lun
ers cuddio tu ôl i'w mygydau..

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ymddiheuriad

Beirdd Myrddin

i Greta Thünberg (cynhadledd newid hinsawdd Glasgow, Tachwedd 2021)

I’r blaned awr ei blino
troi o’r wers a wnest un tro,
mentro dweud ‘mae’n t欧 ar dân’
a rhegwyd dy ddarogan.

Ond gwaddol di-egwyddor
yw’r oesau mud a gwres môr;
a geiriau d’arddegau ddaeth
ag adduned gwyddoniaeth.

Yn nyfnder yr aberoedd
â ni’n flin fe glywn y floedd,
dod i weld wnawn hwyr y dydd
y don iau a byd newydd.

Geraint Roberts 9.5

Gwylliaid Cochion

Am a ddaw os maddeuant
i ni a lygrodd y nant
a gwagio'r môr? Am greu maeth
o wenwyn, a'i droi'n lluniaeth,
a'ch magu â chemegion?
Am ôl wast ymyl y lôn?
Am inni ddwyn y mwynau?
Am wario'r oll er mawrhau
duwiau'r olew, a drilio'n
caeau brau gan lygru'n bro?
Nid byd gwell ond bywyd gwaeth
yw'n adlodd i'ch cenhedlaeth.

Tegwyn Pugh Jones 9.5

5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes

Beirdd Myrddin

Mae closio at y Meuryn
pan fydd dy gerdd di’n slwj
trwy gyfeirio ato’n glyfar
yn dwyn yr enw cwj.

Garmon Dyfri 8.5

Gwylliaid Cochion

Hunanlywodraeth, sori mêt,
nid ydyw ond gwiriondeb;
ffederaleiddio bia hi,
i’r gad dros “Anibundeb”.

Alun Jones 9

Cynigion ychwanegol

Gair newydd ddaeth i’n geirfa
o’r Brymbo draw i Blwmp;
os gwyddost ti am gollwr gwael
cei nawr ei alw’n drwmp.

Gormodug gefais ddechrau Ebrill
rownd a rownd yn troi fel ebill
rhygnu mlaen a mlaen yn arw
am ddyn drws nesa wedi marw
Mewn parti bu im weled-Igaeth
a'i briodi mewn tîpî yn Nhudraeth,
ond wedi 'mi sobri, a gweld fy ngham-诺r-i,
ar unwaith mi ges wared-Igaeth.

Roedd hen Fodryb Siw 'nôl y sôn
yn seiclo 'nôl adre'i Sir Fôn,
ar stryd fawr Llangefni
daeth corwynt i'w chwrdd hi
a'i throi hi yn anti-seic-lôn.

6 Cân ysgafn i ddau lais (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Wers

Beirdd Myrddin

Croeso iti gyfaill i dair mil cant a naw;
mae Cymru’n annibynnol ond mae’n dal i fwrw glaw.

Mae Ceri dal yn Feuryn - yr hynaf ers cyn co’,
ond Steddfod Ceredigion sydd heb ei chynnal ‘to.

A lwyddon ni i gyrraedd ein miliwn tros yr iaith?
Paham yr wyt ti’n chwerthin nes bod dy ruddiau’n llaith?

Pwy filiwn o siaradwyr sydd yna yn Gymrâg?
Mae hanner ein dynoliaeth o Gazakhstan i Brâg

yn medru ein treigladau, eu hiaith yn loyw lân
a phlant bach yn Mombasa yn siarad hi â gra’n.

Ond onid iddi ddarfod yn twenti twenti won
er gwerthu pob un copi o’r gyfrol ‘Welsh is Fun’?

Daeth oligarch o Rwsia i’w harbed gyda gras
trwy roi ein haith mewn robots o Fosgo i Faesglas.

Ond beth am ein cyfeillion mynwesol dros y ffin?
Beth ddaeth o iaith Alf Garnett, Ted Heath a Hughie Green?

Gwrthodont rannu’u geiriau ar blatfform byd AI
A’r olaf glywyd wrthynt uwch Dover oedd ‘bye-bye’.

Er bod ein hiaith ar drengi, yn gorff yng nghefn yr hers -
na fynnwn anobeithio, boed hyn i chi yn wers.

Aled Evans a Margaret Evans 9

Gwylliaid Cochion

Derbyniais i neges a honno’n un glir ---, do yn wir do yn wir!
Mae ni ydi’r ddau fardd sala’n y sir, --ie’n wir ie’n wir!
Gan aelod o orsedd hen Bowys dim llai, ---diar mi diar mi!
Y mae yn un parchus yn un sy’n ddi fai, --- gato ni gato ni!

Ha ha, ha ha ha ha ha ha ha!
Bydd rhaid i ni fynd am wersi ar hast

Mi wnaethon ni drio cael gwersi o do—wel a hoi,wel a hoi!
Mewn tafarn sy’n enwog iawn iawn yn y fro—wel a hoi!
Ond barn criw y Llew Coch a dwedud y gwir –ie’n wir ie’n wir
Oedd mai nonsens yw’n cynnyrch, na chi ddwedud go glir—hen griw sur, -hen griw sur!

Ha ha ha ha ha ha ha ha!
Bydd rhaid inni fynd am wersi ar hast.

A dyna chi orchwyl osodwyd da chi---diar mi,diar mi
Dod o hyd i feirdd eraill mor llipa a ni, welwch chi,welwch chi
Ac wedi chwilota y gogledd ar de—lawr i’r de, lawr i’r de
Ysgol Farddol Caerfyrddin gynigiodd i’n le -hip hwre,hip hwre

Ha ha, ha ha ha ha ha ha ha!
Bydd rhaid i ni droi am Gaerfyrddin ar hast
Ha ha, ha ha ha ha ha ha ha!
Er mwyn bod yn feirdd sydd yn gweddu i’ch tast

Ifan Bryn Du a Alun Jones 8.5

7 Llinell ar y pryd

Beirdd Myrddin

‘Ar 糯yl y Banc, rhywle, bydd
un a gilia o’i gelwydd.

Gwylliaid Cochion 0.5

Ar wyl y banc, rhywle, bydd
Lle inni greu’n llawenydd

8 Cerdd rydd (heb fod dros 18 llinell): Oedi

Beirdd Myrddin

(cancr y fron)

Mae mis a mwy ers ei ganfod
yn cilfachu yno’n glyd.
Mis a mwy o wylied
â’i phader unig yn ffrind.

Wrth y drych yn blygeiniol
mae’n bodio, er ’nabod y ffordd,
pob bys yn crwydro’r un tirwedd
yn eu tro’n dod yn driwach i’r drefn.
Ond er aros, mae’n gwybod ...
y dônt ato, eto, drachefn.

Ym min nos i’w thwyllo
weithiau gwel fforch yn y ffordd,
a ffagl wan yn arwyddo
bod mwy na phader yn ffrind.

Ond darfod wna a’i harwain
i’w hunfan mae'r bodio bob tro,
ers mwy na mis, mae’n gwybod ...
bod aros ynghlwm wrth bob mynd.

Lowri Lloyd 9

Gwylliaid Cochion

“Crouch”- syllodd i fyw ei lygaid
cyn plannu ei hun yn y ddaear
yn eiddgar am y cyswllt.

“Bind”- g诺r garw ydoedd,
conglfaen a luniwyd o’r graig,
a’r tirwedd lle’i magwyd.

“Set”- teimlodd wres y gelyn
ac aroglodd ei gomrodyr o’i ôl,
sur-gymysg o linament ac chwys.

Gosodwyd y bêl, daliodd ei dir
nes rhwygodd holl b诺er y pac
a hanes ei bobl drwy ei gyhyrau.

Rhyddhad, dymchwel y mur
a daeth i’w sylw, ar sain y chwiban
orfoledd y dorf mewn cân.

Gwenodd, daliodd lygaid ei wrthwynebydd,
y gelyn, ond eto’n frawd
a rannodd ‘run hen ddefod.

Alun Jones 9

9 Englyn: Ton

Beirdd Myrddin

Cofio Mari Lisa – bu’n aelod o dimau Y Rhelyw, Y Sgwod a’r Fforddolion yn ei chyfnod
yng Nghaerfyrddin ac yna’n aelod o’r Gwylliaid wedi symud yn ôl i Faldwyn.)

Geiriau’r ffôn a’r gorffennol – fu’n un llif
yno’n llên llawn cyfrol,
o’r rhes nawr ddaw’r sgyrsiau’n ôl
yn don lydan weledol.

Geraint Roberts 9

Gwylliaid Cochion

Yn daeog ar don dyhead Windrush
ddaeth draw o'n Cymanwlad;
try'r don yn don dirdyniad
a’r loes yn gywilydd i’r wlad.

Gwion Aeron 8

CYFANSWM MARCIAU
BEIRDD MYRDDIN 70.5
GWYLLIAID COCHION 69.5