Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges wrth ddychwelyd eitem neu eitemau

Manion o’r Mynydd

Byr ar y papur yw’r ‘Pwy?’ – i’w holi
Am eiliad o fympwy,
Ond yn gledd sydyn i glwy’
O’i adrodd gyda’r fodrwy.

Cynon Gwilym 8.5

Tanau Tawe

Nodyn wrth ddychwel llawlif .....
Da’th hon o’r pacyn
Yn dwt, heb farcyn,
Ond wir, yn blaen a dilith,
Mae’n llawlif handi
Heb un bai arni,
Ond bo’ fi’n moyn un llaw ‘wîth.?

Keri Morgan 8

Cynigion Ychwanegol

Nodyn wrth ddychwelyd y ddyfais ffôn Teleofal i ‘Galw Gofal’
Am ddyfais! Larwm ddihafal roddodd
Ryddid, llais i’w chynnal
trwy niwl ei chof, a gofal
mewn galwad, wastad i’w dal.

Dychwelyd modrwy ddyweddio
Dyw’r fodrw’ ddim yn shîno,
Dyw’r bandyn ddim yn ffit’o
Dyw’r garreg, yn ôl Sian Casgwent,
Ddim cyment ag un Gwenno!

[Ulw Ela’n dychwelyd pethau at y Fam Fedydd Hudol]
Nid wy’ eisiau rhyw d’wysog - annheilwng:
Wele’i esgid wydrog
Mewn ffrâm, ei emau, un ffrog.
Diolch – ond nid wy’n daeog.

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw ffrwyth

Manion o’r Mynydd

Afal sur o flasau ha’
Yw’r loes am Fari Lisa.

Nia Powell 9.5

Tanau Tawe

Hen ddiawl ydy’r hwn a ddug
Rawnwin surion yn sarrug.

Elin Meek 9

Cynigion Ychwanegol

Ennyn nwyd, ai hyn a wna
Afal Adda ac Efa?

(Mynd i’r Bala mewn cwch banana)
Hynod yw gweld banana
Uwch y dwr fel cwch de Wa!

Efa ai blooming afal
diffiniad o syniad sâl.

Prynhawn ar faeth y grawnwin
a ma’ Thelma ar ei thin!

Cawn gwstard poeth drannoeth dros
y ffrwchnedd o’r ffair echnos.

Wedi trio ‘r sego sâl
Nefoedd yw’r pwdin afal.

Beunydd caiff baban Nina
Ofal sy’n ddihafal dda.

[Tybed pwy?]
Oer yw’r g诺r â gwg oren
Sy’n ddiffaith di-waith, di-wên.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd’

Manion o’r Mynydd

Daeth terfyn ar yrfa’r cynghorydd
Wrth gyfarch y darpar gadeirydd
Fe groesodd y ffin
Trwy ddangos ei din
Mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd.

Alwyn Evans 8.5

Tanau Tawe

Mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd,
Darluniau sy’n hynod o gelfydd,
Ond ’welais erioed
Gan feistri’r un oed
Ddim gwell nag a roed yng nghorff Morfudd.

Keri Morgan 8

Cynigion eraill

Wrth ddringo i gopa y mynydd
Mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd,
Pen Ll欧n a’r holl draethau,
Sir Fôn, y Glyderau
A heidiau o ffyliaid digwilydd.

Mae’r bildar yn hollol ddig’wylidd
Wrth wyro i drwsio’r palmentydd
Ei drowsus yn llac
A gwelwn ei grac
Mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd.

Wele Llanddwyn, Bro G诺yr ac Uwchmynydd,
Mawredd Penfro a’r Bannau ysblennydd,
Dyffryn Gwy, Wysg a Sawdde...
Dyma dîm Tanau Tawe,
(mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd).

Mae rhai golygfeydd gwell na’i gilydd
A rhai sy’n fy ngwneud yn aflonydd,
Ond does gwaeth, rwy’n si诺r
Na phlentyn heb dd诺r,
Na chysgod, na philyn, na thrywydd.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cydymffurfio

Manion o’r Mynydd

Mae'n hwyr ond mynnu aros
wnai ein haul i herio'r nos,
herio wnaem a'r wawr yn hel
i’n gyrru hwnt i’r gorwel,
a gwawl ein horig olaf
‘fory aiff yn friwiau haf.
Hwyl un awst fu'n heulwen ni,
daw haul 'madael liw medi'n
anochel â thro'r tymhorau,
cread dyn yw cariad dau;
yn neffro'r wawr, a'n ffarwél
mae ing ein haf Mihangel.

Tudur Puw 8.5

Tanau Tawe

Un ‘Heil’ yn hollti’r waliau,
Un arwydd hagr yn rhyddhau
Eryr unllais yr hunllef,
Ac un tramp yw cytgan tref ;
I’r drin trodd gwerin un gwaed,
Yn rhannu gwefr yr henwaed ..

Yn y gell mor unig wyf,
Bradwr i’r hil bur ydwyf ;
Minnau’r genau gwahanol,
A g诺r ffals y geiriau ffôl,
Anwylaf fy ngwawr ola’
Yn was i neb – dwedais ‘Na.’

Robat Powell 9.5

5 Pennill ymson cath

Manion o’r Mynydd


Lazy Larry, Prif-lygodwr, Swyddfa’r Cabinet, 10 Stryd Downing.
(sydd bellach ar ei 3ydd Brif Weinidog)

Ni chefais i fy ethol i’r anrhydeddus rôl,
ac nid â chymwysterau y llwyddais i sicrhau
fy swydd fel Prif-lygodwr, a bywyd braf di-st诺r.
Drwy fraint fy ngenedigaeth dwi’n byw yn fras ar laeth,
gan lyfu fy mhawennau. Mae’r drws mawr du ar gau,
a phlismon yn ei warchod gan sicrhau fy mod
yn ddiogel rhag y llygod, rhai mawr sy’n mynd a dod.

Alwyn Evans 8.5

Tanau Tawe

Wi’n llechu wrth y cabinet yn esgus canu grwndi
tra’n cadw golwg ar bob ci ac ast, ac ambell ‘fogi’.
Ma’r saser la’th yn llawn bob dydd, ‘sdim eisie st诺r na rhegi,
a phob dydd Llun, caf ‘Eton Mess’ ac weithie caf ‘John Dory’.
Ma’ pawb yn meddwl bo fi’n ‘ciwt’ a ‘ngalw i yn ‘priti’
ond Bo sy’n gw’bod pwy yw’r ‘bos’ ‘da ‘ngwinedd main a handi.

‘Sdim byd yn well na dwyn i gof Fod tro yng nghwt bob pwsi.

Keri Morgan 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cadw St诺r

Manion o’r Mynydd

Mae pawb yn cofio’r superbrat
yn colli’i ben a chwifio’i fat,
Llwch sialc! Llwch sialc! Oedd ei gri,
Ti o ddifri?! Fi yn colli!
Ti yw’r pits! Ti’n rhywbeth arall
beth yw pwrpas umpire cibddall?
Wneith peth fel hyn byth mo’r tro
oedd cwyn y swnyn McEnroe.
Ond erbyn hyn daeth Don i’r brig
gan drympio John â’i drydar dig,
â’i gamsyniadau honco bost
mae’n beio twyllo trwy y post.
Ei s诺n sy’n waeth na’r rygar欧g
wrth glochdar am bleidleisiau ffug,
ail-gyfri’r cyfan fyddai’n deg
i weld os caiff ddau gant saithdeg.
Wneith peth fel hyn byth mo’r tro
fi yn colli i Sleepy Joe!
Yng ngwlad y Yanks un peth sy’n si诺r
bydd collwr gwael yn cadw st诺r.

Alwyn Evans 8

Tanau Tawe

Roedd Covid yn cadw Cwm Tawe yn gaeth,
Pob ci yn ei genel â’i ‘dwrci a llaeth’,
Ond nychu am gwmni roedd Carlo a Mot,
Am wynto penolau a mynd mas am drot.

A sylwodd un milgi fod pobol o hyd
Yn clebran ar Zoom gyda gweddill y byd.
‘Wff, wff, dyna’r ateb, cawn gorws bach braf
O sbaniels Treforys a Pekes Aber-craf.’

Ac felly nos Sadwrn cysylltwyd y c诺n -
Bu’r Glais a Threbannws yn synnu o’r s诺n!
Roedd sgrîn ymhob cenel a llun mewn cwtsh glo
A siglodd pob cwt nes dirgrynai pob to!

Caed ‘Il trovaterrier’ fel na fu erioed,
Caneuon y ‘Beagles’ wefreiddiodd y coed,
‘Nabarco’ ysgydwodd y cwm hyd ei sail,
A siriol oedd sain G诺yl Cerdd Dannedd ddi-ail.

Ond cymaint oedd hwyl y côr-gwn pedair-coes
Difethwyd ein cwsg, trodd y gwrando yn loes ;
Bu’n rhaid rhoddi taw ar y pwdl a’r pug,
Fe alwyd BT, ac fe dynnwyd y plýg!

Robat Powell 9

7 Ateb llinell ar y pryd

Manion o’r Mynydd

Â’n G诺yl dan warchae gelyn
Mae’n faich ar fy mhen fy hun
Cynon Gwilym 0.5

Tanau Tawe

Mae'n faich ar fy mhen fy hun,
Ond o'r awel daw rhywun.
Robat Powell

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Perchnogi


Manion o’r Mynydd

Y nhw biau’n tir
Heb gerdded
Yr erwau.

Y nhw biau’n tai
Heb glywed
Y muriau.

Y nhw biau’n gair
Heb weled
Y geiriau.

A ni biau dincial
Ein gwarged
Mân sylltau.


Nia Powell 9


Tanau Tawe

Fe’i denwyd hi wrth hedfan,
A hithau’n iâr fach rydd
Gan flodyn a’i betalau -
Aeth ato’n llon un dydd.

Ond buan sylweddolodd
Nad blodyn hardd oedd e,
Ond corryn oedd â’r bwriad
O’i dal hi yn ei we.

Fe gurodd ei hadenydd
I geisio ymryddhau,
Tra nyddai’r corryn linyn
Oedd am ei chorff yn cau.

Er bod gloÿnnod eraill
Yn gweld ei bod hi’n gaeth,
Ni allent ond ei gwylio
Yn mynd o ddrwg i waeth.

O’r diwedd, ymlonyddodd
Pan ddaeth y corryn mawr ;
Os harddwch biau’r nefoedd
Ein trachwant biau’r llawr.

Elin Meek 9

9 Englyn: Teyrnas


Manion o’r Mynydd


Adfywiad y wiwer goch ar ein fferm
Angau fu’n llwydo’i changen hi gyhyd,
A gwag oedd ei chneuen,
Leni, mewn gelli gollen,
Hi yw’r un ar frig y pren.

Gwilym Rhys Jones 9

Tanau Tawe

Hwy, o wyll eu ’stafelloedd – yn nadu
Am nodwydd yr ingoedd,
Ac yn yr haul gynnau’r oedd
Pawennau’n cyfri’r punnoedd.

Robat Powell 9.5

Cynigion ychwanegol

[Boris]
b) Mynnodd, drwy ffug gymwynas – a’i allu
i ddenu y ddinas
â grym yn hytrach na gras,
roi dwrn am wddw’r deyrnas.

[Covid- 19]
c) A llid dros y byd yn lledu, - poendod
Ei gysgod yn gwasgu,
Does solas na chas na chu:
Teyrn nos sydd yn teyrnasu

CYFANSWM MARCIAU

MANION O’R MYNYDD 70

TANAU TAWE 70.5