Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Neges gan Gastell Aberteifi i Gastell Caernarfon neu Gastell Caernarfon i Gastell Aberteifi

Caernarfon

Hei Teifi!...Iawn mêt?...Sut ma’i’n hongian?
Be di’r hanas?...Sgin ti blania?...
Ew, ’sa walia’n gallu siarad...
O ia, dan ni’n methu. Damia.

Geraint Lovgreen 8

Glannau Teifi

O Aberteifi i Gaernarfon

Dy safle di sydd harddaf
Dy dyrau di sydd dalaf,
Ond er mor gryf dy waliau di
Gen i mae’r sail gadarnaf.

Mary Jones 8.5

Cynigion ychwanegol

Gyfaill- bûm gynt yn gastell stowt
a’r Cymry yn arswydo;
bellach nid wyf ond rowndabowt
i hogia’r Corsa tyrbo,
(a’i beipan egsôst ’di cracio...)
Dewch Gofis draw i Deifi
Bydd ‘steddfod yma ‘leni
Cewch firi rhwng fy muriau sbo
Heb freinio na chynffonni

2 Cwpled caeth yn cynnwys gorchymyn

Caernarfon

Yma mae deg gorchymyn –
dwyt ti’m yn cadw at un!

Geraint Lovgreen 8.5

Glannau Teifi

Gwisg fwgwd, er y ffwdan,
Y mae haint yn dy boer mân!

Geraint Volk 9

Cynigion Ychwanegol

Neidiwch, a dal i neidio
yn eich tai, a ’newch e ’to

Yfais r峄砿 ar orchymyn
rhyw farman syfrdan a syn GL
.
Yn chwim, rhof dy ‘orchymyn’
yn slaf i leins sâl fel hyn! IAG

O’th drigfan draw i’r Bannau
Paid dod â’th god – ni ar gau!

Yn wyneb y dyn annoeth
Bydd ewn, bydd gywir, bydd ddoeth
Sa’n ddiddig yn dy swigen
Er pwyll rhag twyll Nymbar Ten.

Neb i gwtsh a neb i gwrdd!
Awn i gaffi heb gyffwrdd.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n hoff iawn o ddarts erbyn hyn’

Caernarfon

Rwy'n hoff iawn o ddarts erbyn hyn.
O'r herwydd, dwi'n mynnu'r man gwyn:
Beirniadaeth ddi-fai
A deg marc – dim llai,
Neu'r bullseye fydd tin Ceri Wyn.

Emlyn Gomer 8.5

Glannau Teifi

Bu’r meuryn yn pigo fel myn
A marcio fel Cardi o dynn,
Sarhaodd fy nawn
Ces lond bol - un llawn
Rwy’n hoff iawn o ddarts erbyn hyn!

Geraint Volk 8.5

Cynigion ychwanegol

Ar ôl yfed potelaid o jin
dyfeisiais gêm hoci heb ffyn
ond ces drochfa’n Llyn Padarn
doedd y rhew ’m digon cadarn.
Rwy’n hoff iawn o ddarts erbyn hyn

Rhaid cydio’n yr offer yn dynn,
A’i saethu yn lân a di gryn.
Mae tipyn o ddawn
Â’r ffiol yn llawn…
Rwyn hoff iawn o ddarts erbyn hyn.

Rwy’n gwylio’r teledu yn syn
Ar sixpacs a biceps mawr tynn,
‘Da Gerwyn a Jamie
Yn saethu mor secsi
Rwy’n hoff iawn o ddarts erbyn hyn.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffair

Caernarfon

Dyma reid nad yw’n peidio
dod â’i braw i ysgwyd bro;
reid a’i s诺n echrydus hi’n ddyrnod i bawb sydd arni.

Goleuni’n llawn galanas
yw gwawl oer ei fflachio glas
ar wewyr pen yr heol
a’r rhes hir o ddrysau ôl.

Yna daw, hyd rampiau dur cefnau’r cerbydau budur, stretshars y teithiau arswyd
a’u llond o drueiniaid llwyd.

Ifan Prys 9.5

Glannau Teifi

I’n byd â’n bryd ar bryder
Daw nos o swyn dan y sêr,
Yn llawn hwyl i’n llawenhau
Â’i nwyd a’i atyniadau.

Awn i hwylio ar olwyn,
A dawns y waltzers i’n dwyn
I greu sws ar garwsél
Yn iasau oglau diesel.

Drannoeth, a’r byd yn noethach,
Awn ymlaen â’r straen a’r strach,
Ond i diwn alaw dyner
Nos o swyn o dan y sêr.

Nia Llewelyn 9

5 Pennill ymson cymudwr neu gymudwraig

Caernarfon

O ben y lein i ganol dre,
a ’nôl ar derfyn dydd,
yn bererinion beunydd awn
at demlau’r farchnad rydd.
Ac mewn swyddfeydd afrosgo sgwâr
Co’ byr yw’r bennaf ddawn;
cans yn y mynd mae’r weithred ffydd,
nid yn yr hyn a gawn.

Ifor Ap Glyn 9

Glannau Teifi

Yr wyf mewn cyfyng gyngor,
Oes angen tocyn tymor
Am daith foreol toc cyn naw
O’r beudy draw i’r ‘sgubor?

Elfed Evans 9

Cynigion ychwanegol

Cymudwr wyf mewn anial dir
Yn crwydro am fy nghaws;
Ac yn rhyw ddisgwyl cadw ’mhwyll
Drwy ddatrys pump ar draws.EG
Trwy stormydd y ddinas
mi af ar fy union,
i hawlio fy nheyrnas
yn heulwen Portmeirion.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cysylltiadau


Caernarfon

Casglwr oedd Ceri, y mwya brwdfrydig ’n y byd,
roedd o’n hollol obsesif, a’i d欧 fel miwsîym ar sbid;
pob dim wedi’i rifo a’i ôl-gatalogio yn dwt,
pob stafell yn llawn i’r ymylon, a’r garej a’r cwt;
roedd o’n gasglwr a hanner, doedd Bob Owen Croesor ddim yn’i,
ond nid llyfrau roedd Ceri’n eu casglu, ond pethe mwy ffyni:

fel ei gasgliad cynhwysfawr o flew cesail sêr y teledu –
dim ond un oedd ar ôl am y set! Byddai’n rhaid ei dargedu:
Blewyn Ifan Jones Evans oedd testun ei holl ddyheadau,
ond sut allai gael un? Wrth lwc roedd gan Cer gysylltiadau.

Daeth acw un noson, a fi’n gwylio Tipyn o Stad,
a rhyw fwmblan, “Ti’n gwbod dy ferch, sy’n cyflwyno Cefn Gwlad?
ma’ Ifan a hi, si诺r o fod, yn fêts mawr,” ebe Cer,
“ti’n meddwl sa’i’n gallu cael blewyn o’i gesail o, Ger?”

Bu raid imi ateb “Na! Ceri! paid ymddwyn fel âsol!
wyt ti ddim wedi clywed erbyn hyn am bellhau cymdeithasol?
ma be wyt ti’n ofyn gen Mari yn gwbwl ddiurddas!
A so what os wyt-ti yn brifardd cadeiriol yr Urdd, was?
Cysylltiadau neu beidio, dangosa dy fod ti yn ddyn!
os ti wir isio’r blewyn, wel gwna dy waith budur dy hun!”


Geraint Lovgreen 8.5


Glannau Teifi

Mae gen i ffrind sy’n ffrind i ffrind sy’n berchen cwmni bach;
Mae’r cwmni ma’n fyd-enwog am ei gynnyrch – Awyr Iach!
Y gweithwyr ânt yn ddyddiol i’r mynydd sydd fan draw
Gan gario sawl poteli bach i’w llenwi’n llawn o law.
Ac yna, yn y ffatri, distyllu’r d诺r mor bur
I ager gyntaf, wedyn dim – er mwyn creu awyr glir!
Hysbysodd hwn ar wefan, fel Fresh Welsh Mountain Air
Gan dynnu sylw Carlo – y cw葖n’s “ first son and heir”.
Holodd y Prins , “Organic yw yr Air ‘ma? O rywle hollol iach?”
“Wel,garantid! Jyst cymer sniff! Paid becso, Carlo bach!”
Fe wnaethon ddêl a chyn bo hir roedd y product penigamp
Yn ennill gwobrau dros y byd wrth gario’r Cw葖n’s son’s Stamp!
Ac yna clywodd Hancock, neu Boris, 'smoi’n si诺r p’un
Fod awyr iach yn llesol ac yn gwella Cofid dyn!
Addewon ddyrchafiadau ac arian mawr mawr MAWR -
Amodol ar gyfraniad hael i’r Toris ym mhen awr!
Manteisiodd ar y cyfle, a’r cynnig hael dros ben;
Aeth ati i gynhyrchu mwy o awyr iach y nen.
Mae’n Farchog nawr, dyn cefnog iawn a lot o “ffrindiau” da-
Sy’n profi, “ Who, not what you know, will help you to go far.”

Carol Byrne Jones 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd


Caernarfon

Yn angof pob rhagofal,
Pydru’r wyf rhwng pedair wal.

Ifan Prys 0.5

Glannau Teifi

Yn angof a heb ofal
Pydru rwyf rhwng pedair wal.

Elfed Evans 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Olrhain

Caernarfon

Dan awyr amddifad,
mae Ionawr yn wylo pob llwybr yn nant,
a ffrydiau’r mynydd yn berwi’n eu brys
i ddianc o’r llethrau hyn…

Aethost di ar ddechrau’r gaea,
a minnau’n dal i ail-fapio ’myd,
yn ceisio sboncio’n droedsych
drwy’r fignen sugno sodlau,
a’r oerwynt yn chwipio pob synnwyr o ’ngenau,
wrth olrhain ein llwybrau drachefn…

Gwn, pan awn, nad erys ohonom
ond cof, a straeon, a chariad,
a’r mwyaf o’r rhai hyn yw… (ie, wel…)

A gwn y daw’r haf yn ei ôl
i euro’r llymdra hwn,
ac awel bereiddiach i grawcwellt y waun,

ond lle unig yw galar weithiau, cyw;
ni ellir caru’r meirw nôl yn fyw...

Ifor Ap Glyn 10

Glannau Teifi


(Llythyr at fy wyrion)

Fe ddylech fod yma,
yn eistedd wrth y tân fel o’r blaen,
yn trafod y darluniau yn y cols
a gwrando ar eu caneuon.

Fe ddylem fod yn cerdded fy llwybrau i gyda’n gilydd
y llwybrau a gerddodd eich mamau unwaith;
mynd at lannau Teifi,
lle mae olion y dwrgi’n disgwyl amdanoch;
ac i chwarae yn y mwd, i blethu brwyn a hesg.

Dylem ddilyn y defaid i gopa Foel Drygarn,
ac edrych; edrych heibio i’r carneddi
i weld byd tu hwnt i’r grug a’r meini.

Daw dydd
cawn ddisgyn drwy’r dail i fwrllwch llawr y goedwig;
a herio’r c诺n sy’n udo ar waelod Cwm Ffynonne,

cyn troedio wedyn balmentydd tref a dinas,
i’r cysgodion, ac yn ôl,
i flasu alawon newydd ar gyfer eich geiriau chi.

Terwyn Tomos 9.5

9 Englyn: Gwrthrfelwr neu Wrthryfelwraig

Caernarfon

John Barnard Jenkins, 1933-2020

Dyn aeth yn gyndyn i’r gad - a drymio’r
di-rym fesul ffrwydrad,
gan roi’i gur ymhob curiad
er bywhau calonnau’i wlad.

Ifor Ap Glyn 9

Glannau Teifi

(Waldo)

I ryfel roeddet yn elyn, - eiddot
Oedd heddwch y Perthyn;
Drwy’r ffenest daliest yn dynn
At ryddid, ac at wreiddyn.

Terwyn Tomos 8.5

CYFANSWM MARCIAU
CAERNARFON 71.5
GLANNAU TEIFI 71