Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cynnig o Welliant

Y Diwc

Heddiw doedd ond ychydig,
Roedd ddoe yn felltigedig,
Ond efo tipyn bach o lwc
Bydd fory’n dda ddiawledig.

Gwilym Williams 8

Y Gwenoliaid

Sgwrs sobr o druenus,
ceidwadol a llafurus;
i’w gwella hi, gymerwch chi ryw fesur
Mr Davies?

Huw Roberts 8

Cynigion ychwanegol

Sut allai ddweud yn gwrtais
heb swnio yn ddiwardd…
mi fyse’n well ‘se tîm y Diwc
yn dod o hyd i fardd

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘risg’

Y Diwc

Nid rhwydd yw asesiad risg
O eiddo’r Pwyllgor Addysg.

Dewi Rhisiart 8.5

Y Gwenoliaid

Syrthio a glanio’n y glyn
yw’r risg ynghlwm â’r esgyn.

Huw Roberts 8.5

Cynigion ychwanegol

Y risg yw tarw ffrisgi,
Dwy fuwch, un beudy a fi.

’Da risg o fod yn drwsgwl
Stilettos main, cain sy’n c诺l.

Blaengar fydd diosg arfwisg.
I rai, mae’n ormod o risg.

I’r North Pôl yng nghôl fy nghi…
ie, risg oedd reidio’r Hysgi.CHJ

Colli mêt a’ch walet chi
yw risg nos ar y wisgi.JMT

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n dechrau heneiddio, rwy’n credu’

Y Diwc

Rwy’n dechre heneiddio, rwy’n credu.
Ma’ nghoese’n cael trafferth i sythu.
Fe aethwn pe cawn
Am ‘nap’ bob prynhawn
Ond fi yw’r Arlywydd, rwy’n credu.

Dewi Rhisiart 8.5

Y Gwenoliaid

Rwy’n dechrau heneiddio, rwyn credu,
a chorun fy mhen yn ymledu;
ma’r plotyn mor fawr
ma Sais di bod lawr
a nawr ma’ ‘na gais adeiladu.

Huw Chiswell 8.5

Cynigion ychwanegol

Wrth godi un bore o'r gwely,
Meddyliais mai heddiw oedd fory.
Ces swper i ginio
A brecwast cyn clwydo.
Rwy'n dechrau heneiddio, rwy'n credu.

Rwy’n dechrau heneiddio, rwy’n credu,
oherwydd bod geiriau beirniadol
y meuryn yn cael
rhyw effaith go ddrwg
ar bob ymdrech gennyf i odli.

Mae’r drygs yn y dre’ yn fy nhrwblu,
a Click and Collect yn fy nrysu;
dwi eisiau dweud ‘ie’
i blaid adain dde!
Dwi’n dechrau heneiddio, dwi’n credu.

Da’th amser i fi ga’l ‘y ngeni;
digwyddodd pythefnos i heddi.
Jyst cyn dod mas o’r groth,
fe ges bwl o “dd诺r po’th”!
‘Wy i’n dechre heneiddio, rwy’n credu!

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwisg

Y Diwc

Anferth o ‘sgidiau ynfyd,
Dici-bow deca’ y byd,
Trwyn coch a chorn fel mochyn
A gwên ar ei wyneb gwyn,
Het enfys a chot enfawr –
Camp y lob yw cw’mpo lawr.

Ond y meim sy’n fwgwd mud,
Oes o hymian a symud.
Mae’r gwir tu ôl i’r gwirion
A’i friw sy’ tu fewn i’w fron.
Er y masg a’r chwarae mig
Dan y wên mae dyn unig.

Dewi Rhisiart 9

Y Gwenoliaid

Yn nrych y sgrîn ddiflino
gwylia i fy ngwên dan glo.
Un heb wall, ond er ei bod
yn dwt, mae’n dechrau datod.

Rhythaf trwy gefndir rhithwir
o hiwmor i guddio’r gwir.
Rydw i fel rhyngrwyd wan:
fe oedaf yno’n fudan.

Haws, wir, newid siwt sarrug
fy mlinder â ffilter ffug
y webcam. Mewn pyjamas,
wy’n glwm i’r sgwâr o olau glas.

Judith Musker Turner 9.5

Cynigion ychwanegol

Ionawr 6, 2021)

Lliwiau'i wyneb yn llenwi'n
sgrîn a'i lais yn gas ei gri,
ar ei ben cyrn garw'r baedd
y gwir ymhell o'i gyrraedd.

QAnon fu'n cynnau hwn
a'i annog ef i annwn,
celwydd rhwydd a'i waedd yn rhu,
y gwir â neb i'w garu.

Dyn oren fu'n eu denu
yn haid hyll drwy ddrws y T欧;
er y gad a gweiddi'r gau,
y gwir yw'r ateb gorau.

5 Pennill ymson wrth aros am fws

Y Diwc

(Ym Montgomery, Alabama)

‘Sgwn i heddiw fydd ‘na le
I bawb? Ma’ hyn yn boen.
Rhyw ddydd, heb blygu glin i neb,
Eisteddaf lle rwy’ moyn.’

Dewi Rhisiart 9

Y Gwenoliaid

Dwi’n edrych ‘mlaen yn arw
at rowndio’r sir i gyd

wrth deithio ar y bws i’r dre
sydd filltir lawr y stryd.

Steffan Phillips 8.5

Cynigion ychwanegol

Wrth aros bws ma’ ishe ‘mynedd,
ma’i fel be tawn i ‘ma ers llynedd
yn sythu’n stond ers orie mawr;
‘se Beckett ’mond ‘y ngweld i nawr.HC

Cyrrhaeddais Fenis gynneu
a guide book yn fy nwylo;
lot o dd诺r! - canal,canal,
canal, a chanal-eto!

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Torri’r Gwaharddiad

Y Diwc

(Y Gêm)
Un chwib, a dyna gychwyn y gêm bump ochr hon
Ond yn eu mysg mae gwenwyn mewn anweledig fron.
Nid yw yn arddel rheol, na gwybod maint y bêl
Ond yn ei Fod llawn ystryw mae calon lawn o sêl

‘Sdim angen cadw pellter na gwisgo mwgwd clwt
Ond rhedeg am y gorau a phasio’r bêl yn dwt,
Adlamu, gwibio heibio, a ffugio i atal llif
Pas letraws ond pas fyrbwyll, pas lac asgellwr naïf.

Corona sy’n gwrthymosod, o’r dacl mae’n torri’n rhydd,
Mae’n ochr-gamu’n gelfydd, crymanu i ennill dydd.
Am gôl! Mae’n wir athrylith. Rhaid dathlu’i anfarwol gamp
Mewn coflaid o stêm yn un sgarmes; mae’n dipyn o foi, yr hen sgamp!

Sdim iws apelio’r canlyniad, na gweiddi am gerdyn coch
Rhaid derbyn y cyfrifoldeb am drasiad pan gnul y gloch.
Y sgorfwrdd sy’n dyst i’r gyflafan a’r fantais sydd ganddo mewn llaw
Dyrchefir ei ddawn i’r uwch-gynghrair; rhy hwyr yw y siant ‘Cadwch draw’.

Mererid Williams 8

Y Gwenoliaid

Dwi wedi cael fy ngwahardd sawl tro yn fy nydd,
fel o Ysgol Sul Bethania am imi golli’m ffydd.

Daeth stop i wersi nofio hefyd – dyna strach!
Roedd ciw i fynd i’r toiled, so es i i’r pwll plant bach.

A llynedd o’r côr meibion yn greulon ges cic-owt;
am snogio’r gyfeilyddes oedd hynny does dim dowt.

Ond y gwaharddiad gwaethaf i mi ddaeth un prynhawn
pan es am beint bach tawel i f’annwyl Rose and Crown.

Rhyw racsyn heb ddim dannedd ddaeth mewn i chwilio ffeit;
edrychodd tuag ataf; “You got a problem mate?”

Un opsiwn, wir, oedd gennyf, sef codi o fy sedd
ac anfon y dihiryn yn gynnar iddi’w fedd.

Nid oedd yno groeso wedyn i mi na f’arian dôl,
ond ges i syniad campus i allu mynd yn ôl!

Ers hynny dwi’n dychwelyd bob dydd mewn fancy dress,
dyfeisio cymeriadau – sda’r landlord ddim un guess.

Un diwrnod Willy Watkins, un diwrnod Lola Leigh
sydd ar ei ffordd i briodas yn ffrog fy hen fam-gu.

Ac ambell waith dwi’n Brifardd mewn ffêc mwstash a siwt...
mae ffordd o hyd i dorri gwaharddiad - os chi’n ciwt.

Steffan Phillips 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd I’r arian byw rhown y bel

Y Diwc

I’r arian byw rhown y bel
A gornest am y gornel.

Y Gwenoliaid 0.5
‘I’r arian byw, rhown y bêl’
… ac ofer trio gafel.

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Urddas

Y Diwc

Y Maerdy, 1985

Fe blethwn ein breichie
yn gadwyn o ddur.
Goroesem ar friwsion,
ein cegau yn sur.

Y clapio’n atseinio
ar ymyl y ffordd.
Ein siom dan yr wyneb
yn drymach na gordd.

Baneri’n cyhwfan,
ein harwyr yn fyw.
Fe gamwn yn gefnsyth,
encilio nid yw.

Ma’r adar yn trydar
a gwawrio ma’r dydd.
Disgynnwn i’r fagddu,
glo mân yw ein ffydd.

Martin Huws 9.5

Y Gwenoliaid

Jane Leonard, Cei Bach (Siani Pob Man)
1834-1917

Rhyngot ti a’r ieir mae’r gwir, mae’n siwr,
â’ch olion bellach dan y d诺r;
ond ambell dro â’r môr ar drai
rwy’n gweld dy ôl mewn deigryn clai,
y tywod gwag yn blisgyn 诺y
a’r tonnau’n cynnig sylltau’r plwy’
am gael eu ffortiwn, fel o’r bla’n,
a’u rhwydo mewn rhigymau mân.

“Mae Siani Pob Man yn gwneuthur ei rhan
i gadw y Cei mewn poblogrwydd...”

Rhwng Cei a Chei rwy’n chwilio’r cregyn
am adlais dy chwedl anllythrennog,
yn ceisio hanes gwraig grwydrol y môr
o blith hanesion Capteniaid a chychod.

Ond ddoi di ddim,
mae’r llanw mas
a’r deigryn clai yn awyr las.

Catrin Haf Jones 9.5

9 Englyn: Feidr neu Lôn Fach


Y Diwc

Yn y cof af â gofal - i'w gludo
drwy'r hen glwyd yn ddyfal
i'r stand laeth a ddaeth i ddal
y cynnyrch fu'n ein cynnal.

John Lloyd 9

Y Gwenoliaid

Y lôn drwy’r fynwent
Dan gwmwl daw yn ei gwman araf
ac aros yn fudan
uwch un coll, a chynnig cân
i’r ing na fedr yngan.

Huw Roberts 9

Cynigion ychwanegol

Er diolwg yw’r deiliach - ar y llawr,
Er y llacs a’r bawiach,
O’m geni ‘does amgenach
Na milltir y feidir fach.
Draw yno i bendroni – af innau
Yn fynych ac oedi
Ar bob tro o’i heiddo hi;
Oes o siwrnai sy arni Y feidir

Yma sgoriais gais a gôl - ond eto,
heno mae’n wahanol
heb heulwen y gorffennol;
dyna od yw dod yn ôl.

CYFANSWM MARCIAU

Y DIWC – 69.5
Y GWENOLIAID 70.5