Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Awst 2009

Rialtwch

Vaughan Roderick | 12:42, Dydd Sadwrn, 29 Awst 2009

Sylwadau (1)

mtone.jpgDoes 'na ddim thema i sioe ffilmiau'r wythnos hon. Casgliad cymysg o'ch awgrymiadau chi sy'n cael eu cyflwyno y tro hwn.

HuwLl wnaeth ddod ar draws y ffilm gyntaf ynghylch ail agor sinema art-deco y Plaza ym Mhort Talbot yn 1985. Roedd hynny'n gam dewr ond ofer yn y diwedd. Fe wnaeth y Plaza fwynhau rhyw fath o haf bach Mihangel tan 1999 pan agorwyd "multiplex" yn Aberafan.

Nid nepell o'r Plaza ac wrth i'r palas hwnnw bydru fe wariodd y cyngor lleol ffortiwn fach ar godi theatr sy'n bensaernïol gwbl dinod sef y "". Does dim geiriau! Fe symuda i 'mlaen at y ffilm nesaf cyn i mi golli fy nhymer!

Obell wnaeth ddod ar draws hon. Mae'n arwydd efallai o'r gwahaniaeth rhwng sefyllfa'r Gymraeg a Gaeleg yr Alban bod y ffaith bod menter fasnachol yn dewis defnyddio'r Aeleg yn haeddu eitem newyddion!

Mae Obell hefyd yn tynnu sylw at safleoedd archif rhagorol (Canada) a (UDA).
Gan aros yn yr un rhan o'r byd mae'r ymosodiad yma gan Jon Stewart ar y ffasiwn ddiweddara ar sianeli newyddion Americanaidd yn berl.

Mon - Thurs 11p / 10c


"Bendigedig o ryfedd" yw disgrifiad Dewi o'r ffilm olaf. Fedra i ddim anghytuno!

Ailgylchu Hydref 2008

Vaughan Roderick | 15:47, Dydd Gwener, 28 Awst 2009

Sylwadau (0)

Llyfr.JPGFe fyddwch yn falch i glywed ein bod bron wedi cyrraedd diwedd prydiau parod Mis Awst. Fe fydd y gwasanaeth "a la carte" yn ail-gychwyn wythnos nesaf.

Wrth ddewis erthygl o Hydref 2008 fe wnes i ystyried un oedd yn cychwyn gyda'r geiriau hyn "Ydy'r Gweinidog Treftadaeth yn dechrau colli amynedd ynglÅ·n ag arafwch y broses o wireddu'r LCO iaith?". Fe benderfynais y byddai ail-gyhoeddi honna yn rhy boenus!

Dyma bost felly am ffrae fach lenyddol oedd wedi cael fawr o sylw ar y pryd ond wnaeth droi'n dipyn i sgandal.

Llyfr Mawr y Plant

Dydw i ddim yn meddwl bod "Y Dinesydd", papur bro Caerdydd, yn bapur sy'n cael sgŵps yn aml. Am wn i mae'r Dinesydd wedi bod ar y blaen ynghylch rhyw ffrwgwd addysg Gymraeg neu helyntion parcio Capel y Tabernacl o bryd i gilydd ond mae'n debyg bod yr achosion hynny'n ddigon prin.

Ond mae hyd yn oed y gwas bach yn haeddu ei geiniog weithiau a'r Dinesydd oedd y cyhoeddiad cyntaf i dynnu sylw at gynlluniau Cyngor Caerdydd i werthu cyfrolau a dogfennau gwerthfawr o gasgliad llyfrgell y ddinas. Nododd y papur fod Cylch Llyfryddol Caerdydd (corff chwyldroadol a pheryglus os buodd un erioed) wedi mynegi pryder.

Prynwyd y llyfrau yn oes aur Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas pan oedd Caerdydd ac Aberystwyth yn cystadlu a'i gilydd i fod yn gartref i Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn y diwedd rhannwyd y wobr wrth gwrs. I Aber aeth y Llyfrgell a phwdodd bwrdeiswyr Caerdydd. Cadwodd y cyngor ei afael ar ei drysorau printiedig gan adael i egin lyfrgell Aberystwyth gychwyn ei chasgliad o'r cychwyn.

Mae'n ymddangos erbyn hyn y gallai nifer o'r cyfrolau diweddu yn y Llyfrgell Gen. wedi'r cyfan. Dycnwch y criw bach o ymgyrchwyr sydd i ddiolch am hynny. Cytunwyd heddiw y bydd pwyllgor o fawrion y byd llyfryddol yn penderfynu pa gyfrolau sy'n rhaid eu "hachub i'r genedl" a pha rai y gall Caerdydd eu gwerthu.

Mae gen i dipyn o gydymdeimlad a Nigel Howells, y Democrat Rhyddfrydol hawddgar a dymunol sy'n gyfrifol am lyfrgelloedd y Brifddinas. Wedi'r cyfan doedd y cyngor ddim yn bwriadu gwerthu cyfrolau oedd yn berthnasol i Gymru nac ychwaith cyfrolau yr oedd galw mawr amdanynt gan ddefnyddwyr y Llyfrgell Ganolog. Doedd na erioed unrhyw beryg y byddai Canu Aneirin nac unrhyw un o drysorau Cymreig eraill Cyngor Caerdydd yn diweddu ar silff lyfrau rhyw brifysgol yn Texas neu California!

Yn y cyfamser peidied neb a meddwl bod plwyfoldeb mewnblyg y frwydr wreiddiol rhwng Caerdydd ac Aber wedi diflannu o'n tir. Ddydd Llun fe gyflwynodd Leslie Griffiths AC Wrecsam ddatganiad barn wedi ei arwyddo gan hanner dwsin o aelodau cynulliad Llafur a Cheidwadol.

Dyma mae'r datganiad yn ei ddweud;

Mae'r Cynulliad hwn yn mynegi ei bryder difrifol a pharhaus ynghylch cynlluniau gan Gyngor Dinas Caerdydd i werthu mewn arwerthiant rai o destunau hanesyddol gorau Cymru, er mwyn lliniaru effeithiau anallu ariannol yr awdurdod; yn cydnabod y gwrthwynebiad ar hyd a lled y wlad i agwedd ansensitif a diddiwylliant y Cyngor at ofalu am arteffactau pwysig o hanes ein gwlad; ac yn galw ar y Cyngor i roi'r gorau ar unwaith i unrhyw gynlluniau i arwerthu'r llyfrau, nes bod menter Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu eu dyfodol wedi cael ei harchwilio'n llawn.

O fewn dim daeth gwelliant gan Jenny Randerson;

Dileu popeth ar ôl "Mae'r Cynulliad hwn" a rhoi yn ei le:

"Yn credu y dylai gwleidyddion Wrecsam roi'r gorau i geisio atal Cyngor Caerdydd rhag buddsoddi mewn cyfleusterau llyfrgell yn rhai o ardaloedd tlotaf y ddinas, ac yn credu bod ymdrechion o'r fath yn profi'r safbwynt cywilyddus mai dim ond rhai pobl ddylai allu mwynhau treftadaeth Cymru yn hytrach na thrwch y boblogaeth"

Neu mewn geiriau eraill "cadwa dy drwyn mas o'n busnes ni y gog yffarn!". Mae Jenny wrth gwrs yn cynrychioli Canol Caerdydd. Yr unig broblem yw bod Lorraine Barrett yn un o'r aelodau wnaeth arwyddo'r cynnig gwreiddiol- a lle mae ei hetholaeth hi, dywedwch?

Gwasgfa

Vaughan Roderick | 13:40, Dydd Iau, 27 Awst 2009

Sylwadau (2)

paperboy270.jpgMae llawer o sôn wedi bod yn ddiweddar am ddyfodol y wasg Gymreig. Cafwyd dau ddatblygiad yr wythnos hon sy'n sicr o ychwanegu at y pryderon.

Yn gyntaf cadarnhaodd , perchnogion y Western Mail a'r Daily Post ei fod yn ystyried troi'r papur dyddiol y "Birmingham Post" yn wythnosolyn gan ganolbwyntio ei adnoddau ar y papur prynhawn y "Birmingham Mail". Y rheswm am y cynllun yw bod cylchrediad y papur boreol wedi gostwng i ryw 12,000 gyda hanner y rheiny yn cael eu dosbarthu am ddim.

Y bore 'ma cyhoeddwyd y ffigyrau cylchrediad diweddaraf ar gyfer y diwydiant gan gynnwys y newyddion bod cylchrediad fersiwn Lerpwl o'r Daily Post wedi gostwng 17.1% i 11,648. Yn wyneb hynny mae'n anodd credu na fydd Trinity Mirror o leiaf yn ystyried dilyn patrwm Birmingham yn Lerpwl.

Ers rhai blynyddoedd bellach mae Daily Post Cymru a Daily Post Lerpwl wedi cael eu rhedeg fel dau bapur ar wahân, yn wahanol iawn i'w gilydd o safbwynt eu cynnwys a'u diwyg. Serch hynny mae'n anodd credu na fyddai tranc Post Lerpwl yn effeithio ar ei chwaer bapur Cymreig.

Yn eironig ddigon mae Post Cymru ymhlith y perfformwyr gorau yn y ffigyrau diweddaraf gyda'i gylchrediad 'ond' yn gostwng 5.3 % i 33,938. Does 'na ddim bygythiad i ddyfodol y papur yn y tymor byr felly ond pe bai Post Lerpwl yn mynd mae'n anorfod y byddai 'na fwy o rannu deunydd rhwng y Post a'r Western Mail. Wedi'r cyfan mae'r ddau bapur wedi rhannu'r un rheolwyr ers rhai misoedd bellach.

Gyda chylchrediad y Western Mail wedi gostwng 11.4% i 32,926 mae'n bosib y gwnawn ni weld fersiwn y wasg o'r "badge engineering" oedd mor gyffredin yn y diwydiant ceir ers talwm. Mae'n ddigon posib yn y dyfodol y bydd 'na ddau bapur ac enwau gwahanol y de a'r gogledd ond gyda chynnwys hynod o debyg, o leiaf o safbwynt newyddion cenedlaethol Cymreig.

Cofiwch y pethau bychan...

Vaughan Roderick | 07:13, Dydd Mercher, 26 Awst 2009

Sylwadau (0)

daviddove.jpgYmhen ychydig wythnosau fe fydd Canolfan Siopa newydd yn agor yng Nghaerdydd. O'r tu fas mae'n amlwg ei bod yn glamp o le.

Ar gost o £675 miliwn o bunnau a chyda bron i filiwn o droedfeddi sgwâr o siopau a thai bwyta a fuodd 'na deml fasnachol debyg erioed o'r blaen yng Nghymru? Ac a fuodd 'na enw llai addas ar gyfer lle o'r fath?

Beth fyddai barn ein nawddsant wrth grwydo'r cant a rhagor o siopau ac a fyddai Dewi Dyfrwr yn dewis gloddesta yn "Cafe Rouge" neu "Pizza Express"?

Ailgylchu - Ni allaf ddianc rhag hon!

Vaughan Roderick | 06:48, Dydd Mercher, 26 Awst 2009

Sylwadau (0)

thatcherbbc.jpgErthygl o Ionawr 2008 sy'n cael ei ail-gylchu heddiw. Mae'n trafod yr obsesiwn ynghylch llywodraeth Margaret Thatcher ymhlith rhai gwleidyddion asgell chwith.

Cyn i chi ddarllen yr erthygl mae'n werth cofio y bydd nifer o'r rheiny sy'n pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf wedi eu geni yn 1992 ac fe fydd 'na fawr o gof gwleidyddol ganddyn nhw o 'r ganrif ddiwethaf heb sôn am wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Codi Bwganod

Dyw eliffantod yn anghofio dim meddai nhw ac mae'n ymddangos bod yr un peth yn wir am rai aelodau o'r cynulliad yn enwedig aelodau Llafur.

Rydym wedi hen arfer a chlywed enwau John Redwood a Margaret Thatcher yn cael eu poeri allan yn y siambr. Mae'r geiriad bron yn ddigyfnewid. "Beth bynnag mae'r Ceidwadwyr yn dweud NAWR mae pobol Cymru yn cofio beth wnaeth John Redwood a Margaret Thatcher pan oedden nhw mewn grym..."

Nawr, mae'n ddegawd ers i'r Ceidwadwyr golli grym yn San Steffan ond am wn i mae 'na ddigon o etholwyr sydd ag atgofion digon chwerw o'r cyfnod hwnnw i'r honiad ganu ambell i gloch a chodi ambell i grachen.

Dw i'n amheus ar y llaw arall a fydd ymosodiad aelod Islwyn Irene James yn y siambr heddiw wedi llwyddo i daro deuddeg. Wrth son am ail agor y lein rheilffordd i Lyn Ebwy (sydd hefyd yn gwasanaethu ei hetholaeth hi) honnodd nad oedd trigolion yr ardal wedi anghofio mai'r Ceidwadwyr oedd yn llywodraethu pan gaeodd y lein yn lle cyntaf.

Arhoswch eiliad. Digwyddodd bron i hanner canrif yn ôl! Doedd y rhan fwyaf o bobol Islwyn heb gael eu geni yn 1962 pan gaewyd y lein. Ydy Irene yn dweud bod pobol Trecelyn a Rhisga o hyd yn poeri gwaed am Doctor Beeching ac Ernest Marples? Ydy trigolion y Coed Duon a Phontllanfraith yn diawlio Douglas-Hume a Maudling wrth eistedd mewn tagfeydd traffig wrth gymudo i Gaerdydd? Go brin.

Ond os ydy pobol yn dymuno ail-frwydro brwydrau gwleidyddol yr ugeinfed ganrif mae'n werth cofio ambell i ffaith. Yn sgil cyhoeddi adroddiad Beeching yn 1963 ym mlwyddyn olaf y llywodraeth Geidwadol caewyd rhyw dri chan milltir o'r rhwydwaith rheilffyrdd. Yn y tair blynedd ganlynol o dan lywodraeth Lafur Harold Wilson caewyd bron i ddwy fil a hanner o filltiroedd. Fe gaeodd yr un llywodraeth, gyda llaw, mwy o byllau glo Cymru na'r un llywodraeth arall.

Ydy hynny'n berthnasol neu'n bwysig heddiw? Nac ydy. Pam felly codi'r pwnc yn lle cyntaf?

Alun ac Alex

Vaughan Roderick | 11:43, Dydd Llun, 24 Awst 2009

Sylwadau (0)

salmond.jpgYchydig ddyddiau ar ôl etholiadau 2007 fe wnes i gymryd rhan mewn rhaglen ar "Radio Scotland" i drafod y problemau y gallai'r SNP wynebu wrth geisio cynnal llywodraeth leiafrifol yng Nghaeredin.

Alex Salmond ei hun oedd y gwestai arall ar y rhaglen ac roedd y profiad yn un hynod annifyr.

Penderfynodd y Prif Weinidog newydd fy nirmygu am fod mor hy ac awgrymu y byddai'r gwrthbleidiau yn hwyr neu'n hwyrach yn defnyddio eu mwyafrif yn ei erbyn. Mynnodd nad oedd 'na unrhyw gymhariaeth rhwng ei sefyllfa fe a'r problemau yr oedd Alun Michael a Rhodri Morgan wedi wynebu yng Nghymru. Sgwennais bwt am y peth ar y pryd gan ddweud hyn;

"Ddydd Mercher nesaf disgwylir i Alex gael ei enwebu fel Prif Weinidog Senedd yr Alban a dywed ei fod yn gobeithio gallu llywodraethu trwy gonsensws. Dyna oedd gobaith Alun Michael hefyd. Y gwahaniaeth yn ôl Mr Salmond oedd bod Alun wedi dioddef o ddiffyg awdurdod oherwydd y ffordd y cafodd ei ddewis fel arweinydd Llafur Cymru."

A dweud y gwir roeddwn yn meddwl bod pwynt arweinydd yr SNP yn un weddol ddilys ac y byddai'r pleidiau eraill yn parchu ei fandad am gyfnod o leiaf. Serch hynny roeddwn i'n gwbl sicr y byddai'r pleidiau eraill yn hwyr neu'n hwyrach yn canfod rheswm neu esgus i hogi eu cyllyll. Y peth call i wneud a'r hyn yr oeddwn yn disgwyl i Alex wneud oedd defnyddio mis mel ei fandad i geisio ffurfio llywodraeth fwyafrifol. Fe ddylai fe ddilyn esiampl Rhodri yn sgil cwymp Alun mewn geiriau eraill. Fe ddywedais hynny ar y pryd hefyd.

"Roedd gan Alex eiriau caredig iawn hefyd am y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban. Mae'n ymddangos ei fod o hyd yn gobeithio gallu denu'r blaid honno i mewn i glymblaid rhywbryd yn y dyfodol."

Yng nghyd-destun gwleidyddiaeth yr Alban does dim modd yn y byd i'r SNP ffurfio clymblaid gyda Llafur na'r Ceidwadwyr. Mae'n ddigon posib hefyd bod Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban yr un mor benstiff ac amhosib i ddelio a nhw a'u chwaer blaid yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod p'un ai y ceisiodd Alex Salmond ffurfio llywodraeth fwyafrifol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf ai peidio. Rwyf o hyd o'r farn y dylai fe wedi gwneud.

Wrth i mi ddarllen penawdau fel " felly, mae'n anodd peidio teimlo rhywfaint o "schadenfreude"!

Cofio

Vaughan Roderick | 11:14, Dydd Llun, 24 Awst 2009

Sylwadau (2)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r criw bach ohonoch chi sy'n cadw storfa awgrymiadau "Rilatwch" yn gysurus o lawn.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf collwyd dau Gymro a dau Gardi o fri sef Geraint Jenkins a Dic Jones. Mae pobol oedd yn eu nabod yn well ac sy'n meddu ar fwy o ddawn geiriau na fi wedi talu teyrngedau haeddiannol i'r ddau.

Eto i gyd roeddwn i'n teimlo braidd yn anghysurus nad oeddwn wedi dod o hyd i ffordd yn fan hyn i nodi'r clatsied difrifol i'n cenedl fach o golli dau o'n cewri.

Rwy'n ddiolchgar i Dewi felly am dynnu fy sylw at y ffilm yma o Dic ar ei orau yn beirniadu yn .

Ni welir eu tebyg eto.


Trioedd Ynys Echni

Vaughan Roderick | 16:12, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (5)

flatholm01.jpgRwyf wedi bod yn ceisio ffeindio ffordd o gyhoeddi pytiau, manion ac ambell i ddarn o 'drifia' nad ydynt yn haeddu post llawn ers tro byd. Mae'r ateb yn ein llenyddiaeth. Pob yn dri!

Dyma gyfres achlysurol newydd felly "Trioedd Ynys Echni". Dewisais yr ynys honno, gyda llaw, gan ein bod yn ei gweld o ffenest ein swyddfa yn y Bae a chan fod ei hymwelwyr yn cychwyn eu taith o'r cei o flaen y Senedd.

Ar ddiwrnod cyntaf Ramadan dyma dair ffaith ddiddorol ynghylch Islam a Chymru.

1. 1839

Mae'r flwyddyn 1839 yn un bwysig o safbwynt hanes dwy wlad wahanol iawn i'w gilydd. Yma yng Nghymru agorodd Ardalydd Bute ei ddoc cyntaf yng Nghaerdydd ac yn Arabia meddiannwyd porthladd Aden gan Brydain.

Yn ddiweddarach roedd y ddau borthladd yma'n allweddol i'r system ymerodrol gyda llongau'n ail-lwytho glo Cymreig yn Aden cyn hwylio ymlaen i'r India neu'n bellach. Y cysylltiad hwn, mae'n debyg, wnaeth arwain at agor yr addoldy Mwslimaidd cyntaf ym Mhrydain yn Stryd Glynrhondda, Caerdydd yn 1860.

2. Dirgelwch Dirham Offa
offa.jpg

Mae'r darn arian yma yn yr Amgueddfa Brydeinig. Arno mae enw'r Brenin Offa, y dyn wnaeth godi'r clawdd, ac o'i gwmpas mae'r gyffes ffydd Fwslimaidd. Cafodd ei fathu yn 782, canrif a hanner yn unig ar ôl marwolaeth y Proffwyd.

Canfuwyd y darn yn Rhufain. Yr mwyaf tebygol yw ei fod yn gopi o dirham Mwslimaidd ac yn rhan o anrheg yr oedd Offa wedi ei addo i'r pab. Beth bynnag yw'r gwir mae'r darn hwn yn ein hatgoffa nad rhywbeth newydd yw'r cysylltiad rhwng yr ynysoedd hyn a'r byd Islamaidd.

3. Ffeithiau

Yn ôl roedd 'na 21,739 o Fwslimiaid yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn honno. Mae hynny'n cymharu â 2,087,242 o Gristnogion a 537,935 oedd yn ddigrefydd. Mae'r boblogaeth Fwslimaidd yn rhyw 1% o'r boblogaeth Gristnogol felly.Cofiwch hynny y tro nesaf y mae'r rhywun yn codi bwganod.

Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu bod 'na elfen o or-ddweud gan y rheiny sy'n honni "nad yw Cymru bellach yn wlad Gristnogol" neu fod ein cymdeithas yn un "ôl-grefyddol".

Suleiman.jpg Gyda llaw, does gen i ddim clem pam mae'r rhif tri mor bwysig yn y byd Celtaidd ond mae'n amlwg ei fod e. Yn y byd Islamaidd deg yw'r rhif hudolus ac arwyddocaol.

O holl deitlau yr Ymerawdwr Swleman II ( ac roedd ganddo ddwsinau) fy ffefryn yw "Perffeithydd y Rhif Perffaith". Mae'n atgoffa dyn o un o seremonïau'r orsedd. Dychmygwch "yn wyneb yr haul, yn llygaid goleuni, ym mherffeithrwydd y rhif perffaith..."

Dyn a ŵyr beth mae teitl Swleman i fod i olygu ond, iesgob, mae'n swnio'n dda! Bron mor crand a'i dwrban, mewn gwirionedd!

Rialtwch

Vaughan Roderick | 06:11, Dydd Sadwrn, 22 Awst 2009

Sylwadau (0)

morans.jpgYr holl weiddi a sgrechain mewn cyfarfodydd cyhoeddus ynghylch diwygio system iechyd yr Unol Daleithiau sydd wedi ysbrydoli'r dewis yr wythnos hon.

Fe wnawn ni ddechrau yn nhalaith Efrog Newydd lle ofynnwyd i aelod o'r Gyngres, Barney Frank pam ei fod yn cefnogi polisïau "Natsiaidd" Obama. Fel Iddew a dyn hoyw, mae'r gwleidydd yn aelod o ddwy gymuned wnaeth ddioddef yn arw o dan Hitler. Efallai bod hynny wedi lliwio ei ymateb!

Dyma ddigwyddiad tebyg o Las Vegas. Gwr sy'n un o ddinasyddion Israel yn ogystal â'r Unol Daleithiau yw'r siaradwr. Gwrandewch allan am yr ymateb o'r cefndir!

Yn ôl ym Mhrydain efallai eich bod yn cofio achos Walter Wolfgang, yr aelod Llafur gafodd ei hebrwng o'i chynhadledd am weiddi "nonsens" yn ystod araith Jack Straw. Y digwyddiad yna wnaeth ysbrydoli'r brotest yma gan y newyddiadurwr Sam Delaney a'i gyfeillion cerddorol.

A dyma un o'r protestiadau dewraf erioed. Y flwyddyn? 1989. Y lle? Sgwâr Tiananmen, Beijing.

Ailgylchu- Gorffenaf 2008

Vaughan Roderick | 11:33, Dydd Gwener, 21 Awst 2009

Sylwadau (0)

Mae'r sefyllfa posib y soniais amdano flwyddyn yn ôl hyd yn oed yn fwy tebygol nawr. Meddyliwch am fyd lle mae'r gwleidydd Llafur mwyaf grymus ym Mhrydain yw Carwyn Jones, Huw Lewis neu... Jane Hutt ! Cyfeiriad at glymblaid yr 'enfys' yw'r paragraff olaf.

Arglwydd Faer BrisbaneBrisbane.jpg

Does dim byd arbennig iawn am Brisbane, prifddinas talaith Queensland yn Awstralia ond mae ei Harglwydd Faer yn ddyn o bwys!

Os ydych chi'n chwilio ar y we gallwch ddarganfod fod gan Campbell Newman ddau
lysenw "can-do Campbell" (ei slogan etholiadol) a "Noddy"- ei lysenw yn y fyddin. Mae'n briod a chafodd ei hyfforddi fel peiriannydd sifil.

Beth sy'n arbennig am Mr Newman felly? Wel, dim ond hyn. Ar ôl i'r Rhyddfrydwr John Howard golli grym yn Canberra llynedd, a chyda Llafur yn llywodraethu ym mhob un dalaith a dinas fawr arall Mr Newman oedd y Rhyddfrydwyr pwysicaf i barhau mewn grym.

Dw'n i ddim p'un ai oedd Mr Newman yn mwynhau ei statws ai peidio ond mae'n anodd credu nad oedd e'n cael rhiw faint o gic o glywed ei hun yn cael ei ddisgrifio fel " the most senior elected Liberal in Australia".

Ta beth am hynny. Fe wnaeth hyn fy nharo'r dydd o'r blaen. Gallai Rhodri Morgan nei ei olynydd fod yn yr un sefyllfa a Campbell Newman pe bai Llafur yn colli grym yn San Steffan. Gyda'r SNP yn rheoli yn Holyrood a Boris yn teyrnasu yn Llundain, Prif Weinidog Cymru, mae'n debyg, fyddai'r gwleidydd Llafur etholedig mwyaf grymus ym Mhrydain!

Fyddai na ddim mwy o'r busnes "gwthio i'r cyrion" yna mewn cynadleddau Llafur, dim mwy o orfod goddef y cryts ffroenuchel o rif deg yn ei siwtiau siarp a dim angen gwrando bellach ar frefi aelodau meinciau cefn Llafur yn San Steffan.

Mae'n anodd credu na fyddai na wen fach slei ar wyneb Prif Weinidog Cymru wrth glywed y disgrifiad "the most senior elected Labour politician in Britain"!

Cofiwch pe bai pethau wedi digwydd ychydig bach yn wahanol flwyddyn yn ôl fe fyddai rhywbeth hyd yn oed yn fwy rhyfedd wedi digwydd. Am gyfnod o leiaf fe fyddai Nick Bourne wedi gallu brolio mai ef oedd Y Ceidwadwr etholedig pwysicaf!

Bydded eich ie yn ie...

Vaughan Roderick | 12:59, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

Sylwadau (6)

gemaugeiriau.jpg Mae 'na rym mewn geiriau. Mae newid ambell i air yn gallu newid y ffordd y mae dyn yn meddwl am bethau neu'r ffordd y mae pethau'n cael eu gweld. Dyma i chi ddwy enghraifft o'm myd bach i.

Rhyw bymtheg mlynedd yn ôl penderfynodd Ö÷²¥´óÐã Cymru roi'r gorau i ddefnyddio'r term "principality" wrth gyfeirio at Gymru. "Gwlad" oedd Cymru yn y Gymraeg ac fe benderfynwyd mai "country" ddylai hi fod yn Saesneg.

Roedd 'na sawl rheswm dros y newid. Roedd y term yn hen-ffasiwn braidd ac yn un oedd yn amhoblogaidd ymhlith carfan o wylwyr a gwrandawyr. Yn ogystal roedd ambell i bedant, fel fi, yn mynnu bod galw Cymru yn "principality" yn ffeithiol anghywir gan mai dim ond hanner hen siroedd Cymru oedd yn rhan o'r dywysogaeth yn y lle cyntaf. Ta beth, erbyn hyn mae'r term "principality" mwy neu lai wedi diflannu ar lafar gwlad hefyd.

Roedd 'na adeg pan oedd carfan o'r di-gymraeg yn gwadu bod Cymru'n wlad o gwbl. Dyw'r ddadl honno ddim yn cael ei chlywed bellach. Wedi'r cyfan, os nad yw Cymru yn "principality" a chan fod neb yn honni ei bod hi'n "region" nac yn "province" beth arall ond "country" sydd ar ôl?

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach penderfynwyd hepgor y term "England and Wales" hefyd. Roedd ein rhesymeg yn ddigon syml. Gan ein bod yn darlledu i Gymru, Cymru ddylai ddod yn gyntaf. Roedd y term "Wales and England" yn swnio'n rhyfedd ar y naw i ddechrau ond mae wedi ennill ei blwyf erbyn hyn. Mae'r newid wedi cael effaith, yn fy marn i, ar y ffordd y mae pobol yn gweld y berthynas rhwng y ddwy wlad gan awgrymu ei bod hi'n un gyfartal, nad rhyw ôl-nodyn eilradd i Loegr yw Cymru.

Mae rhai o'n gwleidyddion yn deall cymaint yw grym geiriau. Meddyliwch am effaith arddel yr enw "New Labour" neu'r triciau mae Plaid Cymru wedi cyflawni gyda'u "Party of Wales" a "Plaid". Mae hyd yn oed y dasg fach syml o ychwanegu'r gair "Welsh" o flaen "Conservatives" wedi hela neges pur effeithiol at yr etholwyr.

Yn y cyfamser mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru/Welsh Liberal Democrats wedi glynu at eu Llanfairpwllgwyngyll o enw a'u alphabetty spaghetty o logo. Leighton Andrews sydd ar fai. Pan unodd y Rhyddfrydwyr a'r SDP y "Democratiaid" oedd yr enw i fod. Araith danbaid gan Leighton oedd gyfrifol am ychwanegu'r ansoddair. Ydw Leighton, rwy'n cofio.

Ta beth fe wnes i awgrymu wrth Kirsty Williams beth amser yn ôl y dylai'r blaid Gymreig ystyried newid ei henw. Mae'r un presennol yn glogyrnaidd a gweddol ddiystyr ac fe fyddai cael enw gwahanol i'r blaid ffederal yn tanlinellu fod gan y blaid Gymreig ei hawliau, hanes a chymeriad unigryw ei hun.

Pa enw dylai'r blaid ei harddel? Wel byswn i'n argymell dilyn cyngor Iago (5.12) "Bydded eich ie chwi yn ie, a'ch nage yn nage" hynny yw galwch eich hun yr hyn ydych chi. Yn yr achos yma mae hynny'n golygu "Rhyddfrydwyr Cymru/ Welsh Liberals".

Ailgylchu Mehefin 2008

Vaughan Roderick | 08:15, Dydd Mercher, 19 Awst 2009

Sylwadau (1)

O ystyried y penderfyniad i gwtogi ar gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yng nghofnod y Cynulliad mae ail-gyhoeddi'r erthygl yma o 2008 yn amserol. Er fy mod ar wyliau mae'r sylwadau ar agor.
arwydd.jpg
Ebill Deudwll

Doedd gen i ddim clem beth oedd ystyr "ebill deudwll". Os oeddwn yn gorfod mentro byswn wedi tybio ei fod naill ai'n gymeriad o'r Mabinogi neu'n ddisgrifiad o weithred aflednais yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym. Yn anffodus mae'r ystyr yn llai diddorol na hynny. Mae'n debyg mai "ebill deudwll" yw enw'r teclyn bach hwnnw sy'n gwneud dau dwll ar ochor tudalen. Wrth gwrs taw e ...ebill ...deudwll. Mae'n amlwg wrth feddwl am y peth!

Ebillion deudwllaidd y byd yma sy'n rhannol gyfrifol am ffenomena y mae bron pob un ohonom yn gyfarwydd â hi. O bryd i gilydd mae'r rhan fwyaf ohonom yn gweld yr angen i fwrw golwg ar fersiwn Saesneg rhyw ffurflen neu daflen i ddarganfod beth ar y ddaear yw ystyr rhyw air neu derm yn y fersiwn Gymraeg. Dyna yw'r rheswm mae'n debyg bod cymaint ohonom yn dewis darllen a defnyddio dogfennau Saesneg hyd yn oed os ydy'r Gymraeg yn iaith gyntaf i ni.

Mae'r arfer hynny wedi darbwyllo ambell i wleidydd bod yr holl gyfieithu yma'n wastraff arian. Oni fyddai'n well gwario'r arian ar fesurau eraill i gryfhau'r Gymraeg- papur dyddiol, dyweder, neu grantiau i ysgolion meithrin a dosbarthiadau dysgwyr?

Mae awgrymiadau o'r fath ychydig yn naïf gan awgrymu bod ariannu'r iaith yn rhyw fath o "zero sum game" hynny yw bod 'na swm penodol digyfnewid i wario ar yr iaith. Yr hyn sy'n bwysig meddir yw gwario'r arian hwnnw yn y modd mwyaf effeithlon posib.

Mewn un ystyr mae'n debyg i'r ddadl yn erbyn datganoli yn ôl yn y saithdegau. Dro ar ôl tro roedd arweinwyr yr ymgyrch "Na" yn taranu am faint o beiriannau arennau y byddai'n bosib eu prynu am gost y cynulliad arfaethedig. Wel, fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979 a hyd y gwn derbyniodd yr un ysbyty beiriant arennau o ganlyniad i'r bleidlais honno. Yn yr un modd dw i'n ei chael hi'n anodd credu y byddai caniatáu i'r adran drwyddedi ceir neu'r adran drethi gynhyrchu ffurflen uniaith Saesneg yn golygu y byddai aur yn llifo i gyfeiriad Cylch Meithrin Cwmsgwt.

Efallai fy mod yn benstiff ynghylch y pwnc yma ond pa hawl sy gan unrhyw gorff cyhoeddus i benderfynu ym mha un o ieithoedd cynhenid Prydain y dylwn i, fel trethdalwr, ddelio â nhw?

O fy mlaen, yr eiliad hon, mae copi o gytundeb Lisbon yn yr Iaith Wyddeleg. Oes 'na unrhyw un, naill yn Nulyn neu ym Mrwsel, a fyddai'n awgrymu am eiliad bod cynhyrchu'r ddogfen honno yn anghywir neu'n wastraffus? Go brin.

Y gwir amdani yw hyn. Gellir trin y Gymraeg fel iaith swyddogol neu fel rhyw fath o achos da i dderbyn cardod ar fympwy cyrff cyhoeddus. Ydy, mae'r llwybr cyntaf yn golygu cyhoeddi llawer o ddogfennau a thaflenni does bron neb yn eu darllen. Gydag unrhyw lwc, wrth i ni arfer ac ystyr termau fel "ebill deudwll", fe fydd hynny'n newid. Mae'r llwybr hwnnw yn un costus ond fe fyddai cymryd y llwybr arall yn gam peryglus yn ôl.

Felly, S.O

Vaughan Roderick | 09:40, Dydd Mawrth, 18 Awst 2009

Sylwadau (0)

sodavies203.jpgUn o gymeriadau mawr gwleidyddiaeth Cymru oedd S.O Davies aelod seneddol Merthyr o 1934 tan 1972. Roedd yn sosialydd rhonc ac yn un o'r ychydig aelodau Llafur oedd yn credu mewn, ac yn ymgyrchu dros, ymreolaeth i Gymru.

S.O hefyd oedd yr unig berson go iawn i mi glywed oedd yn siarad amdano fe'i hun yn y trydydd person, jyst fel mam Wali yn C'mon Midffild! "Mae S.O yn credu...", "Bwriad S.O yw...", "S.O will not retire..." oedd hi bob tro. Dydw i ddim yn meddwl bod y geiriau "fi" neu "me" wedi pasio'i wefusau unwaith!

Roeddwn i'n meddwl am S.O ar ôl darllen ymateb Huw Lewis i araith Carwyn Jones yn yr Eisteddfod, y bwledi cyntaf yn y ras i olynu Rhodri Morgan. Dyw'r naill ymgeisydd na'r llall yn sefyll fel ymgeisydd "Llafur Newydd" ond mae'n deg i ddweud, dwi'n meddwl, bod Huw yn portreadu ei hun fel yr ymgeisydd traddodiadol neu geidwad y ffydd os mynnwch chi. Sut arall mae darllen dyfyniad fel hwn?

"Our core vote alone may not be enough to win the election for Labour- we certainly won't win it without them!"
so.jpg
Ond pa mor bur yw ffydd sosialaidd Huw, mewn gwirionedd? Ar y dde mae un o daflenni S.O o 1934. Ynddi mae'n galw am wladoli'r diwydiannau trymion, gwasanaethau trafnidiaeth, tir a'r banciau. Go brin y byddai Huw'n cytuno â hynny!

Ar y llaw arall mae'n bosib darganfod llinyn arian yn cysylltu'r ddau wleidydd. Nid yn yr atebion sy'n cael eu cynnig ond yn y cwestiynau sy'n cael eu gofyn a'r bobol y maen nhw'n poeni yn eu cylch. Dyma sydd gan Huw i ddweud;

"We need bold ideas on how to get families onto the housing ladder, further improve outcomes in health, truly transform the lives of those children living in poverty and fight the deprivation that still blights far too many of our communities."

Dyna yn union beth oedd S.O yn ceisio gwneud trwy alw am godi'r oedran gadael ysgol, diddymu profion gallu ar fudd-daliadau a chynyddu cyflogau gweithwyr. Yn yr ystyr hynny mae'n amlwg bod Huw yn perthyn i draddodiad S.O. Dyw pethau ddim mor amlwg yn achos Carwyn.

Os oedd Huw'n dymuno gwneud y pwynt yn fwy eglur, hwyrach y dylai fe ystyried defnyddio'r trydydd person wrth gyfeirio at ei hun!

Myn Yffarn!

Vaughan Roderick | 17:44, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (7)

Newydd weld

Total Politics Top 40 Media blogs.
home-alone1243399120.png
1 (1) Spectator Coffee House
2 Paul Waugh
3 (2) Ben Brogan
4 (5) Nick Robinson
5 (6) Comment Central
6 James Delingpole
7 (9) Peter Hitchens
8 FT Westminster Blog
9 (13) Vaughan Roderick
10 (4) Boulton & Co

Beth fedra i ddweud? Mae'n rhaid bod mwy o bobol yn deall Cymraeg nac oeddwn i'n meddwl! Diolch i bawb wnaeth bleidleisio!

Ailgylchu - Tachwedd 2007

Vaughan Roderick | 10:04, Dydd Llun, 17 Awst 2009

Sylwadau (3)

Rwyf ar wyliau ar hyn o bryd ond fe fydd ambell i beth yn ymddangos ar y blog ac mae'r sylwadau ar agor. Dyma bost gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn Nhachwedd 2007.

david_blunkett400.jpgTyngu Llw

Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i fi ac nid dim ond oherwydd bod hi'n ddiwrnod CF99! Y bore 'ma derbyniodd fy mhartner ddinasyddiaeth Brydeinig mewn seremoni yn y TÅ· Mansiwn yng Nghaerdydd.

Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o sinig pan gyhoeddodd David Blunkett y bwriad i gynnal y seremonïau yma. Roedd hi'n ymddangos yn un o'r gimics hynny yr oedd y cyn Ysgrifennydd Cartref mor hoff ohonyn nhw. Dyma oedd ei esboniad ef ar y pryd.

"We should value, promote and give real content to the acquisition to British nationality and the process of integration... becoming a British passport holder will not just be a piece of paper arriving in a brown envelope alongside the gas bill"

Dw i dal yn amheus o'r rhesymeg. Cyn gwneud cais am ddinasyddiaeth mae'n rhaid i unrhyw ymgeisydd fod a'r hawl i breswylio'n barhaol ym Mhrydain. Dyw cymryd y cam olaf yn ychwanegu fawr ddim at hawliau'r unigolyn ac eithrio pasbort porffor a'r hawl i fwrw pleidlais. Mae 'na ddadl gref felly bod eu parodrwydd i dalu chwe chan punt a llenwi llwyth o ffurflenni ychwanegol i sicrhau dinasyddiaeth lawn yn brawf ynddi ei hun o ymroddiad yr ymgeiswyr i'w gwlad newydd.

Serch hynny, ar ôl mynychu'r seremoni'r bore 'ma dw i'n meddwl bod y defodau yma yn bethau rhagorol- ond nid am y rhesymau a gynigiwyd gan David Blunkett. Yr hyn sydd wedi newid fy meddwl yw gweld cymaint y mae'r seremonïau'n golygu i'r bodol sy'n cymryd rhan.

Rhyw hanner cant o ddinasyddion newydd oedd yn cael eu croesawi gan Arglwydd Raglaw ac Arglwydd Faer Caerdydd heddiw, y mwyafrif llethol ohonynt o wledydd y Gymanwlad yn Affrica a De Asia yn ogystal â llond dwrn o Awstralia a Seland Newydd. Ar ôl canu (neu wrando ar) "Hen Wlad fyn Nhadau" a thyngu llw i'r Frenhines galwyd pawb i fyny fesul un neu fesul teulu i dderbyn tystysgrif swyddogol y Swyddfa Gartref a thystysgrif o groeso gan Gyngor Caerdydd.

Roedd 'na ddigonedd o wenu o glust i glust, ambell i ddeigryn a theimlad anhygoel o falchder. Wedi'r cyfan nid newydd-ddyfodiaid i Brydain oedd y bobol yma ond pobol sydd wedi treulio rhwng saith a deng mlynedd ar gyfartaledd yn llenwi ffurflenni, yn gwneud ceisiadau di-ri am visas ac estyniadau ac yn cadw biliau trydan a llythyrau gan y banc yn unswydd er mwyn profi eu hachos.

Dwi'n meddwl bod ymateb y dinasyddion newydd yn ddigon o gyfiawnhad dros y seremonïau newydd. Ydyn nhw'n debyg o fagu teimlad o berthyn a dinasyddiaeth ymhlith plant ac wyrion y mewnfudwyr? Wedi'r cyfan yn a'r ail a'r drydedd genhedlaeth y mae'r broblem mewn rhai cymunedau. Dyn a ŵyr.

Wrth ein gwendid, trugarha...

Vaughan Roderick | 10:13, Dydd Sul, 16 Awst 2009

Sylwadau (3)

crwys.jpgDydw i ddim, gan amlaf, yn sgwennu rhyw lawer am grefydd. Blog gwleidyddol yw hwn i fod, wedi'r cyfan. Ond gan fod hi'n ddydd Sul a chan fod Ramadan yn cychwyn ymhen ychydig ddyddiau mae heddiw yn eithriad.

Mewn gwirionedd dwy stori papur newydd sydd wedi ysbrydoli'r post bach yma. Mae un yn esiampl o grefydd ar ei gwaetha a'r llall yn esiampl o newyddiadura sâl ac anghyfrifol.

O'r "New York Times" y daw'r ynghylch pregethwyr yn yr Unol Daleithiau sy'n pregethu "efengyl llewyrch". Yn y bôn gellir crynhoi'r "diwinyddiaeth" yma fel " rhowch eich arian i ni ac fe fydd Duw yn eich gwobrwyo". Mae'r erthygl yn werth ei darllen yn ei chyfanrwydd ond mae stori un teulu yn sefyll mas;

"Stephen Biellier... said he and his wife, Millie, came to the convention praying that this would be "the overcoming year." They are $102,000 in debt, and the bank has cut off their credit line... The Bielliers were at the convention a few years ago when a supporter made a pitch for people to join an "Elite CX Team" to raise money to buy the ministry a Citation X airplane... At that moment, Mrs. Biellier said she heard the voice of the Holy Spirit telling her, "You were born to support this man." She gave $2,000 for the plane, and recently sent $1,800 for the team's latest project: buying high-definition television equipment..."

Does dim angen ychwanegu llawer. Dim ond gofyn p'un ai crafu pen ai codi cyfog yw'r ymateb priodol.

Daw'r ail stori o'r " am fe ddylid ei ffeilio o dan "bwganod, codi". "Stori" yw hon am byllau nofio cyhoeddus yn gosod rheolau gweddustra ynghylch gwisgoedd nofio mewn sesiynau wedi eu hanelu at Fwslimiaid. Fel arfer mae ambell i wleidydd yn ddigon parod i gamu mewn a dweud ei dweud. Dyma'r aelod seneddol Llafur, Ian Cawsey;

"I don't think that in a local authority pool I should have to wear a particular type of clothes for the benefit of someone else. That's not integration or cohesion."

A dyma aelod Llafur arall Anne Cryer;

"Unfortunately this kind of thing has a negative impact on community relations. It's seen as yet another demand for special treatment"

Nawr, mae Anne Cryer wedi gwneud safiadau dewr ynghylch nifer o bynciau anodd yn ymwneud ac Islam ym Mhrydain ond dwi'n amheus a oedd hi wedi darllen stori'r Telegraph cyn gwneud ei sylw.

Y rheswm am hynny yw hyn. Os ydych chi'n darllen y stori yn ofalus mae bron pob un o'r sesiynau y mae'r papur yn cyfeirio atyn nhw wedi eu trefnu gan unigolion neu gymdeithasau sydd wedi llogi 'r pwll am gyfnod penodol. Hynny yw dydyn nhw'n ddim byd gwahanol i sesiynau gan y sgowtiaid, yr Urdd neu, am wn i, noethlymunwyr lle mae'r rheiny sydd wedi llogi'r pwll yn gosod eu rheolau eu hun.

Ar gyfnod lle mae mudiadau fel yr "English and Welsh Defense League" a "Casuals United" (mudiadau sydd â yn anffodus) yn ceisio tanio protestiadau yn erbyn Mwslimiaid mae'r fath yma o newyddiadura yn anffodus a dweud y lleiaf.

Credwch neu beidio mae gan newyddiadurwyr . Mae cymal dau yn dweud y dylai cynnwys bob erthygl fod yn gywir ac yn deg. Mae cymal deg yn ychwanegu na ddylid cyhoeddi deunydd sydd yn debyg o arwain at gasineb at unigolion a grwpiau. Ydy golygydd y Telegraph wedi ei ddarllen, tybed?

Hen adeilad Eglwys y Crwys, Caerdydd, sydd bellach yn fosg sydd yn y llun.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:34, Dydd Sadwrn, 15 Awst 2009

Sylwadau (0)

80094.jpg

Wrth i mi sgwennu'r post "byw mewn bocs" rhai dyddiau yn ôl roedd 'na gân yn mynd trwy'n meddwl i. Dyma hi, Pete Seegar yn canu "little boxes".

Mae'r gân a'r canwr wedi profi'n fytholwyrdd. Dyma fersiwn Elvis Costello o'r gân a ddefnyddiwyd fel thema'r gyfres deledu "Weeds".

A dyma Pete Seegar, ac yntau ar fin troi ei ben-blwydd yn 90, yn canu gyda Bruce Springstein yn ystod cyngerdd dathlu Arlywyddiaeth Obama.

Mae'n amlwg nad yw radicaliaeth Pete Seegar wedi pylu dim gan iddo ddewis canu fersiwn sosialaidd gwreiddiol "This Land is Your Land" yn hytrach na'r un "swyddogol".

Oes 'na gantorion a chaneuon cyfatebol yng Nghymru? Oes, gleu!


Rhwd yw ei anrhydedd

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Gwener, 14 Awst 2009

Sylwadau (0)

BritishEmpire.jpgFe ges i fy herio yn y sylwadau i sgwennu post difrifol am y sefyllfa yn Afghanistan. Mae hynny'n anodd i mi wneud. Dydw i erioed wedi bod i'r wlad a dydw i ddim yn arbenigwr ar dactegau milwrol. Maddeuwch i mi felly am ddod at y pwnc o gyfeiriad gwahanol.

Mae gan Gaerdydd frenin. Dyw e ddim yn frenin ar Gaerdydd nac ar Gymru ond mae e'n frenin ac mae'n byw yng Nghaerdydd.

Brenin Kalat yw ei Uchelder Brenhinol . Dydw i ddim yn beio chi os nad oeddech yn gwybod bod Kalat yn rhan o Baluchistan, talaith o Bacistan sydd wedi bod yn brwydro am ei hannibyniaeth ers i'r wladwriaeth honno ddod i fodolaeth yn 1948.

Am drigain mlynedd felly mae'r brwydro wedi parhau. Fe barodd wrth i ddwyrain Pacistan droi yn Fangladesh. Fe barodd wrth i lywodraethau milwrol a democrataidd mynd a dod yn Islamabad ac fe barodd wrth i 'r llywodraethau hynny fethu delio a'r tlodi, ddiffyg addysg a'r llygredd cyhoeddus sy'n endemig i'r wlad.

Ffrwyth ymdrech ddiwethaf Prydain i greu gwladwriaeth effeithlon yn y rhan yna o'r byd yw Pacistan. Efallai ei bod yn decach dweud mai ffrwyth penderfyniad Prydain i droi ei chefn ar ei chyfrifoldeb i adeiladu gwladwriaeth effeithlon yw hi.

Y naill ffordd neu'r llall mae'n brawf o ba mor gythreulig o anodd yw hi i adeiladu gwladwriaeth mewn lle lle mai ymlyniadau crefyddol, llwythol a theuluol llawer iawn yn gryfach nac unrhyw ymdeimlad o genedl neu wlad.

Nid 1948 oedd y tro cyntaf i Brydain gael y wers fach yna. Fe ddylid wedi ei dysgu yn y cyrchoedd yn erbyn Afghanistan yn oes Fictoria. Dyma y mae un hanesydd yn dweud am ;

"At the end of the day, the British had spent an enormous amount of effort to achieve a situation that seemed virtually identical to that at the beginning of the war."

Ofn gwrthwynebwyr y rhyfel yw bod yr un peth yn digwydd eto.

Yn sicr mae'n deg i ddweud bod proffwydoliaethau'r rheiny wnaeth wrthwynebu'r rhyfel yn y lle cyntaf wedi profi'n fwy cywir na'r rhai wnaeth ei chefnogi. Mae p'un ai ydy gosod amserlen i adael yn syniad da ai peidio yn gwestiwn arall. Dyw e ddim yn gwestiwn i mi ei ateb. Hwyrach y byddai'n syniad gofyn i'r brenin.

Em, Clem a Lem

Vaughan Roderick | 09:47, Dydd Gwener, 14 Awst 2009

Sylwadau (0)

LiberalParty.gifUn o'r ffigyrau hanesyddol hynny y mae dyn yn teimlo y dylai fe wybod mwy yn ei gylch yw Clement Davies, arweinydd y blaid Ryddfrydol rhwng 1945 a 1956. Wedi'r cyfan mae'n un o'r ychydig Gymry i arwain plaid wleidyddol Brydeinig a'i wrthodiad penstiff o ymdrechion Churchill i draflyncu'r Rhyddfrydwyr yn 1951 sy'n bennaf gyfrifol am barhad y blaid a bodolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw.

Nid ar chwarae bach chwaith y mae rhywun yn cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel.

Arweinydd plaid trwy hap a damwain oedd Clem mewn gwirionedd. Doedd gan y blaid neb arall. Yn ystod ei arweinyddiaeth aeth pethau o ddrwg i waith i'r blaid gyda'i phleidlais yn gostwng i 2.5% a dim ond chwe Rhyddfrydwr ar ôl yn y senedd. Mae'n rhaid i Clem ysgwyddo o leiaf peth o'r bai am hynny. "Erratic and ineffectual" oedd disgrifiad damniol K.O. Morgan ohono
PRdavisCD.jpg
Efallai'n wir, ond roedd gan etholwyr Maldwyn resymau da dros aros yn deyrngar iddo er gwaethaf problem yfed ddifrifol a'r ensyniadau cyson nad oedd e rhywsut yn wleidydd "seriws".

Yn ddiweddar des i ar draws () ynghylch Clem gan ei olynydd ym Maldwyn Emlyn Hooson. Esboniad Emlyn o boblogrwydd Clem ym Maldwyn oedd bod yr etholwyr yn fodlon maddau llawer am iddo frwydro'n galed dros bethau yr oeddynt yn teimlo'n gryf yn eu gylch.

Roedd ei adroddiad damniol ynghylch y cysylltiad rhwng safon tai a system garthffosiaeth Cymru a'r diciâu, er enghraifft, yn garreg filltir o bwys yn ein hanes cymdeithasol.

Mae maddeuant a goddefgarwch yn werthoedd rhyddfrydol ac mae'n ymddangos bod etholwyr Maldwyn yn fodlon maddau a goddef llawer ynghylch eu cynrychiolwyr os ydyn nhw'n gwneud tro da o waith. Dyw bod yn "erratic" ddim, o reidrwydd, yn anfantais ym Maldwyn. Gallai hynny fod yn newyddion da i rhywun.

Gyda llaw roedd Lembit yn westai ar "The funny side of..." ar Ö÷²¥´óÐã2 neithiwr. Mae'n werth gwylio!

Adda, pa le yr wyt ti?

Vaughan Roderick | 13:09, Dydd Iau, 13 Awst 2009

Sylwadau (3)

adam.jpgOnid yw'r datganiad yma gan Adam Price yn mynd dros ben llestri braidd?

"Five years ago this Summer Adam Price MP launched his impeachment campaign. Now the Plaid MP is launching an equally audacious move to try and shift the party political consensus that has so far supported the UK's continuing involvement in Afghanistan."

Audacious!!! Wow!!! Tybed beth yw'r symudiad beiddgar a dewr y mae Adam wedi ei gymryd. Arhoswch eiliad fe wna i ddarllen y datganiad i ganfod y cynllun clyfar. Dyma fe.

1. Cyhoeddi cynnig bore cynnar (un o'r cynnigion hynny sydd byth yn cael ei drafod) yn galw am newid polsi.

2. Ysgrifennu at aelodau seneddol eraill yn gofyn iddyn nhw gefnogi'r cynnig.

Oce. Yr unig gwestiwn sy gen i yw pam y mae Adam wedi hela datganiad yn y lle cyntaf? Ydy Martin Shipton ar ei wyliau?

Diweddariad

Ymddiheuriadau fy mod wedi torri embargo ar y stori yma trwy gamgymeriad. Doedd y datganiad ddim i fod i gael ei gyhoeddi tan hanner nos. Mae parchu pethau fel 'na yn bwysig yn y job yma.

Gyda llaw gwneud yn ysgafn o'r gair "audacious" oeddwn i. Rwy'n llwyr ymwybodol bod gwleidyddion fel Adam ( a Paul Flynn) yn teimlo'n rhwystredig iawn bod cyn lleied o drafod ynghylch y sefyllfa yn Afghanistan. Er tegwch felly gallwch ddarllen yr hyn oedd gan Adam i ddweud ar ei ei hun ddeuddydd yn ôl.

Cofiwch, gan fod na fawr ddim yn y datganiad nad oedd ar ei flog yn barod (ac eithrio'r gair "audacious") dydw i ddim cweit yn deall y rheswm dros yr embargo yn y lle cyntaf.

E.M.Y.N

Vaughan Roderick | 12:29, Dydd Iau, 13 Awst 2009

Sylwadau (3)

yup.jpg
Fe wnes i grybwyll gwefan Cymraeg rhagorol y dydd o'r blaen. Nawr dyma i chi wers ynghylch y ffordd na ddylai cwmnïau ddefnyddio'r Gymraeg i ddenu busnes.

Mae datganiad i'w wasg wedi cyrraedd gan gwmni Rightmobilephone.co.uk yn cynnig talfyriadau Cymraeg i'w defnyddio wrth ddanfon negeseuon bawd. Dyma rai ohonyn nhw.

LoL (Laugh out Loud) = CiMnF (chwardd i maes 'n fan)

BrB (Be right Back) = GLL (Gyda Llaw)

M8 (Mate) = C (chychwior)

OMG (Oh My God) = OMDD (o 'm dduw)

TVM (Thanks Very Much) = DDIL (ddiolch iawn lawer)

BFF (Best Friends for Ever) = ECF (Enilla Ceraint Forever)

BYOB (Bring Your Own Beer) = CCHAB (Chyrch 'ch addef Bir)

Y cyfan ddweda i yw EMYN! (Er mwyn y nefoedd!)

DIWEDDARIADMae tipyn o waith ditectif gan Alun Thomas yn awgrymu mai o'r safle cyfieithu awtomatig y mae'r erchyll bethau wedi dod. Mae 'na oriau o hwyl i gael yn fan hyn!

Er enghraifft mae'r safle yn argyhoeddedig mae'r cyfieithiad cywir o "God Save Our Gracious Queen" yw "Dduw achub 'n 'n dirion banon" ac mai "He is being old country me fathers dearly I" yw ystyr "Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi".

Yr "hun gwrymiau chydfod" yw'r "One Wales Agreement" gyda llaw.

Does 'na ddim llawer o waith yn mynd i ddigwydd 'ma heddiw!

Monbiot, Mon Dieu!

Vaughan Roderick | 11:03, Dydd Iau, 13 Awst 2009

Sylwadau (2)

Asterix.jpgFe dynnodd y newyddiadurwr ac ymgyrchydd amgylcheddol George Monbiot dipyn o nyth cacwn ar ei ben ddoe trwy ymosod ar gynlluniau Tesco i agor archfarchnad ym Machynlleth. Mewn erthygl yn y Guardian a hefyd ar ei fe ddywedodd George hyn.

"I live in the last small corner of Gaul still holding out against the Romans. In other words, a small market town which has yet to be conquered by the superstores. No one expects us to hold out for much longer"

Mae'r Asterix yma yn mynnu bod y rhan fwyaf o bobol Mach yn cefnogi ei safiad e a'r Oblexiaid sy'n chwifio'u dyrnau at y concwerwyr. Yn anffodus nid pawb sy'n cytuno. Dyma sydd gan faer y dref Sylvia Rowlands i ddweud yn y .

"Mae 99% o blaid y cynllun. Rwyf wedi byw yma gydol fy oes"

Yr ail frawddeg sy'n ddiddorol. Mae'n ymddangos mai un o'r brwydrau hynny rhwng "pobol ddŵad" a "phobol leol" yw hon. Mae'n sicr bod 'na eithriadau ond rwy'n fodlon mentro nad yw cefnogwyr Tesco ar y cyfan yn byw ar reis brown a thofu ac nad oes llawer o arbenigwyr ar gerdd dafod ymhlith y gwrthwynebwyr!

Fe fyddai'n gamgymeriad meddwl bod y ffenomen hon yn unigryw i Gymru na Phrydain. Bob rhyw ddwy flynedd rwy'n dathlu Eid ul-Fitr gydag ochor Fwslimaidd fy nheulu mewn pentref bach o'r enw Batu Laut ym Malaysia. Mae'r pentref hwnnw rhyw hanner ffordd rhwng dwy dref bur sylweddol Banting a .

Tan ryw bymtheg mlynedd yn ôl roedd y ddwy yn ddigon tebyg i'w gilydd ond dros nos bron fe ddaeth trawsnewidiad i Banting. Mae'n bosib cyfleu natur y trawsnewidiad hwnnw mewn un gair. Tesco. Ar gyrion Banting cafwyd datblygiad sydd i, bob pwrpas yn ganol tref newydd sbon.

Yn ogystal â siop Tesco anferthol codwyd dwsinau o siopai llai a gweithdai i'w gosod i bobol leol a miloedd o dai a fflatiau. Roedd hyd yn oed llyn a chaeau chwarae yn rhan o'r datblygiad.

Nawr pe bai chi ar wyliau yn yr ardal fe fyddai Tanjung Sapat yn eich hudo gyda'i strydoedd culion, marchnadoedd a thai bwyta traddodiadol. Fe fyddai tramorwr yn dewis gyrru heibio Banting a'i heglu hi am Port Dixon neu Malacca.

Ond gofynnwch i fy nheulu ar y llaw arall lle y maen nhw'n dewis siopa a lle y bysen nhw'n dewis byw a Banting fyddai'r ateb bob tro.

Nid dweud hynny er mwyn amddiffyn na beirniadu cwmni Tesco ydw i. Dim ond nodi'r ffaith bod y pethau y mae twristiaid neu fewnfudwyr yn trysori yn aml yn cael eu hystyried yn anghyfleusterau gan bobol gynhenid sy'n chwennych cyfleustra'r byd modern trefol.

Roeddwn wedi gobeithio dod ar draws un o hysbysebion Tesco Malaysia ar y we. Maen nhw'n bla ar orsafoedd teledu'r wlad. Rwyf wedi methu hyd yma - ond mae'r un yma o Thailand yn gwneud y pwynt!

Dos allan i chwarae, Nigel

Vaughan Roderick | 16:10, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Sylwadau (0)

nigel.jpgNid Alan Duncan yw'r unig geidwadwr i gael ei ddal allan ar fideo heddiw. Mae'r tâp wnaeth achosi cymaint o embaras i'r aelod mainc flaen hefyd yn cynnwys ambell i sylwad gan y Ceidwadwr hoffus Nigel Evans.

Cafodd aelod Ribble Valley, sy'n berchen siop bapurau newydd yn Abertawe, ei ddal gyda phlât o frechdanau yn ei law. Mae'n sicr mai cellwair oedd e wrth ddweud hyn;

"I made these myself, it's my second job. Got to have a second income, mate, couldn't survive on 64."

O diar. Mynd o ddrwg i waeth wnaeth pethau wrth i Nigel brynu rownd o ddiodydd.

"This is what it's come to now. Actually, I'm paying, that's what it's come to." meddai.

Wrth feddwl am y peth pan oedd Nigel yn gwneud ei wleidydda yng Nghymru doedd e ddim yn barod iawn i estyn i'w boced. Roedd hi'n ffodus bod y bythol hael Bill Hughes wastad wrth ei ysgwydd!

Mae Nigel ar y dde yn y llun gyda llaw!

Pwy rydd i lawr wÅ·r mawr Mon ?

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Sylwadau (1)

_44584363_wyn_jones.jpgFe fydd 'na ochenaid o ryddhad ar bumed llawr TÅ· Hywel wrth weld y ffigyrau diweithdra diweddaraf. Tra bod nifer y di-waith ar draws Prydain yn dal i gynyddu dal i ostwng mae'r nifer yng Nghymru.

Mae'n bosib mai cynlluniau Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hynny neu efallai ein bod ychydig o fisoedd ar y blaen i rannau eraill o Brydain. Roedd Cymru yn un o'r llefydd cyntaf i deimlo gwyntoedd oer y dirwasgiad, hwyrach ein bod yn cael gwanwyn cynnar hefyd.

Does neb o'r llywodraeth yn clochdar gormod ynghylch y ffigyrau. Fe allai pethau o hyd newid. Serch hynny mae'r ffigyrau yn bluen yng nghap Ieuan Wyn Jones a hynny wythnosau'n unig ar ôl iddo ennill y frwydr hir dros drydaneiddio prif lein reilffordd y de.

Un o elfennau rhyfedd bywyd yn y cynulliad ar hyn o bryd bod 'na gorws o aelodau yn ochneidio gwae ynghylch perfformiad y dirprwy brif weinidog tra y byddai unrhyw sylwebydd niwtral yn barnu ei fod yn llwyddo wrth ei waith. Dyna o leiaf, mae'n ymddangos yw barn y dynion busnes ac undebwyr sy'n delio a'r gweinidog.

Does dim dwywaith bod gan y rheiny sy'n ymosod ar Ieuan gymhellion gwleidyddol ond mae 'na rywbeth mwy na hynny hefyd mewn ambell i achos. Dirmyg efallai, eiddigedd o bosib, casineb hyd yn oed. Yn sicr mae 'na ambell i aelod sy'n ei chael hi'n anodd cuddio eu malais wrth drafod arweinydd Plaid Cymru.

Roeddwn i'n trafod y peth gydag un o'r aelodau Ceidwadol y dydd o'r blaen, un o'r lleiafrif yn ei blaid sydd o'r farn bod Ieuan yn gwneud jobyn da. Problem Ieuan yn ôl yr aelod hwnnw yw ei fod yn ymddwyn fe pe bai'n ddi-hid ynghylch y cynulliad ac yn ystyried yr aelodau etholedig fel tipyn o niwsans. Pam arall y byddai''r gweinidog yn dewis mynychu cynhadledd yn hytrach na dadl yn y siambr neu'n dewis gwneud dim i dawelu eu beirniaid ar y pwyllgor cyllid?

Fe fydd y darlun yna'n gyfarwydd i'r aelodau hynny o Blaid Cymru sy'n edmygu gallu trefniadol eu harweinydd ond yn gresynu weithiau nad yw'n un sy'n gallu swyno'r adar o'r coed.

Yr unig beth ddweda i yw hyn. Gall unrhyw weinidog sy'n gallu brolio am gyflawniadau concrit fforddio anwybyddu rhegfeydd aelodau Llafur a cheisiadau FOI'r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd.

Byw mewn bocs

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Sylwadau (1)

tycon.jpgMae'n brofiad y mae bron pob un ohonom wedi ei gael- ymweld â thŷ neu fflat wedi ei adeiladu'n ddiweddar a rhyfeddu bod y lle mor gythreulig o fach. Mae sawl fflat yn ddim byd mwy nag un ystafell a bathrwm gyda rhyw fath o "gegin micro" wedi ei chynnwys yn rhywle. I'r rheiny ohonom sy'n byw ynghanol llanast o lyfrau ac annibendod cyffredinol mae ceisio dychmygu'r ddisgyblaeth, filwrol bron, y byddai angen i fyw yn y fath le yn dipyn o dasg.

Mae yn rhoi dipyn o gnawd gwrthrychol ar esgyrn goddrychol profiadau o'r fath. Ar gyfartaledd mae cartrefi Prydain yn mesur 76 medr sgwâr y maint lleiaf yn Ewrop. Yn y rhan fwyaf o wledydd mae'r cyfartaledd dros 100 medr sgwâr.

Am wn i yng Nghymru ym Mae Caerdydd y mae'r nifer fwyaf o'r cytiau cwningod sy'n cael eu galw yn gartrefi'r dyddiau hyn. Mae 'na gannoedd os nad miloedd ohonyn nhw yn wag a bron yn amhosib eu gwerthu yn sgil y wasgfa ariannol. Flwyddyn yn ôl roedd y llefydd yma'n gwerthu am £120,000 a mwy.

Fe fyddai synnwyr cyffredin yn awgrymu y gallai cymdeithasau tai brynu rhai o'r fflatiau yma i ddatrys y broblem tai fforddiadwy. Yr hyn sy'n rhwystro hynny rhag digwydd yw eu bod yn rhy fach i i gwrdd â throthwy ""- y safonau y mae darparwyr tai cymdeithasol yn gorfod ufuddhau iddyn nhw.

Hynny yw dyw'r llefydd yma ddim yn ddigon mawr i bobol allu byw bywyd normal ynddyn nhw. Nid fi sy'n dweud hynny. Cyfraith gwlad sy'n dweud hynny. Efallai eu bod nhw'n newydd ac yn sgleiniog ond mae 'na hen, hen air am y llefydd 'ma. Slymiau.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 15:54, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Sylwadau (3)

capt_pugwash.jpgRoedd cyndadau ochor mam o fy nheulu bron i gyd yn gweithio fel llongwyr yn mynd a llechi Gwynedd i bob cornel o'r byd. Mae'n sicr eu bod yn hen gyfarwydd â'r doldrymau, y rhan hynny o Fôr Iwerydd lle mae'r gwyntoedd yn brin ac anwadal.

Yr wythnosau ar ôl yr Eisteddfod yw doldrymau newyddiaduraeth Cymru. Sut ar y ddaear dw i fod i ddal fyny a nifer erthyglau Glyn draw ar flog Cylchgrawn gyda chyn lleied yn digwydd?*

Yn yr hen ddyddiau penblwydd dyn hyna'r byd oedd yn cynnig achubiaeth i ddarlledwyr. Hebddo fe mae newyddiadurwyr yn gorfod bod yn greadigol gan greu straeon allan o ddim!

Rwy'n dwli ar yr ymdrech yma gan Nick Horton ar wefan Saesneg Ö÷²¥´óÐã Cymru. Gallai'r frawddeg "He's Only in Mwnt, after all" fod yn deitl da i hunangofiant Rhodri!

Ö÷²¥´óÐã

Mae'r stori nesaf hefyd yn cynnwys brawddeg i gofio sef "I suspect if you were a Welsh Reconstructionist Pagan Mabon--as part of an overall mythic cycle--makes perfect sense". Ai cyfeiriad at Mabon ap Gwynfor yw hwnna? Dydw i ddim yn deall gair o'r peth!

Ashveille Citizen-Times

Ai 2009 yw "annus horribilis" Caeredin?

Scotsman

Mae gyrwyr bysus yn gallu bod yn lletchwith ym mhobman ond mae hwn yn haeddu rhyw fath o wobr!

SMH.com

Fe fydd cwmni John Lewis yn agor ei siop gyntaf yng Nghymru cyn bo hir. Mae nawdd eisteddfodol y cwmni a'i yn arwyddion y bydd yr ymgartrefi'n ddigon pleserus! Mae'n biti nad yw rhai o gwmnïau cynhenid Cymru'r un mor frwdfrydig dros y Gymraeg!

* I'r rheiny sy'n cadw cownt dyma'r sgôr ar hyn o bryd yn rhyfel blogs y Ö÷²¥´óÐã i weld pwy sy'n gallu postio'r nifer fwyaf o eitemau ym Mis Awst. Cylchgrawn 46 (!!!) Gwynfryn 13 Vaughan 13. Fe fydd yn rhaid i mi siapio hi!



Na ddidolir rhagor

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Sylwadau (4)

Ysgol.jpgMae hi wastad yn siom pam nad oes neb yn deilwng o'r gadair. I'r rheiny ohonom sy'n ei chael hi'n haws saethu chwannen o ganllath na sgwennu llinell o gynghanedd mae'n rhyfeddod nad yw'n digwydd yn fwy aml.

Y tro diwethaf i'r gadair cael ei hatal cyn eleni oedd yn Eisteddfod Pen-y-bont yn 1998. Beth ddigwyddodd i'r gadair honno, tybed?

Rhodd John Elfed Jones oedd y gadair ac fe benderfynodd ei chyflwyno i'r cynulliad gan awgrymu'n gellweirus y byddai'n gadair addas i rywun "bron cyn bwysiced a phrifardd". Fe ddylai John wedi gwybod yn iawn na fyddai Dafydd El, wnaeth ei olynu fel cadeirydd y bwrdd Iaith, yn fodlon parcio ei ben ôl yn y fath le!

Serch hynny fe gafodd y gadair le digon anrhydeddus y tu allan i ddrysau'r hen siambr nes i adeilad newydd y senedd cael ei agor. Ers hynny mae hi wedi eistedd (neu sefyll) mewn cornel stafell ddigon di-nod yng nghrombil TÅ· Hywel.

Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n sen ar John Elfed na'r Eisteddfod ond mae'r peth yn biti. Mae gan ardal Pen-y-bont ysgol gyfun Gymraeg erbyn hyn. Os nad oes 'na le addas iddi yn y cynulliad oni fyddai'r ysgol honno yn well cartref i gadair 1998?

*Gyda llaw, rwy'n credu bod bathodyn Ysgol Llangynwyd yn hynod o glyfar. Fe fyddai'n gwis da i ofyn i chi sbotio pob elfen! Rwy'n cymryd mai afonydd Ogwr, Garw a Llynfi sydd ar ben y groes. Cynrychioli Maesteg mae'r 7777, wrth gwrs ac arwydd Llan ei hun yw'r gwenith gwyn. Rwyf hefyd yn gallu gweld siâp hen bont Pen-y-bont ond dim byd (hyd yma) i gynrychioli Porthcawl.

Sabulon a thir Nafftali

Vaughan Roderick | 12:56, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Sylwadau (2)

allnat.jpgOs ydych chi'n gyfarwydd â Chaerdydd mae'n bosib eich bod wedi sylwi ar yr adeilad modern gyferbyn ac Ysbyty'r Brifysgol, adeilad sydd wedi ei amgylchynu gan faneri lliwgar gwahanol wledydd.

"Canolfan yr Holl Genhedloedd" yw'r adeilad, canolfan gynhadledda sydd ymhlith y mwyaf prysur a llwyddiannus yn y brifddinas. Fel y gwelwch o mae'n cynnig y cyfleusterau mwyaf modern mewn lleoliad digon hwylus.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cryn ddefnydd o'r ganolfan. O ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth gan Ö÷²¥´óÐã Cymru rydym yn gwybod faint yn union y mae'r ganolfan wedi derbyn gan y llywodraeth dros y pum mlynedd diwethaf.

2004/05 £6,596.45
2005/06 £3,278.27
2006/07 £29,276.32
2007/08 £91,605.44
2008/09 £33,614.74

Nawr pe bai'r ganolfan yn fenter fasnachol fe fyddai modd codi cwestiynau ynghylch maint y defnydd ohoni. Wedi'r cyfan dyw'r cyfleusterau ddim mor wahanol a hynny i'r rheiny sydd ar gael am ddim yn NhÅ· Hywel neu mewn colegau a gwesteiau'r brifddinas.

Ond mae 'na gwestiynau pwysicach na hynny i ofyn yn fan hyn oherwydd mae eglwys yw "Canolfan yr Holl Genhedloedd" mewn gwirionedd. Mae fersiwn grefyddol gwefan y ganolfan yn

Nid Eglwys "paned y sgwrs" yw hon chwaith ond eglwys tân a brwmstan sy'n arddel daliadau cadarn a digyfaddawd. Dyma flas o gynnwys ei gwefan.

"The Bible is infallible: it does not mislead or deceive. It is completely trustworthy. It contains no errors or contradictions."

Teg yw cymryd bod yr anffaeledigrwydd hynny yn cynnwys yr hyn sydd gan Lefiticus a'r Apostol Paul i ddweud am ymddygiad hoyw.

Mae hon hefyd yn eglwys hefyd sy'n credu mewn siarad mewn tafodau. Gadewch i ni edrych ar y gwefan eto; "speaking in tongues is the ability to speak to God in a language you have never learned. It is the doorway to the supernatural"

Mae'r eglwys yn ddigon llewyrchus i allu cynhyrchu cylchgrawn sgleiniog "Tell" i dosbarthu o gwmpas cartrefi'r brifddinas. Ar dudalennau'r rhifyn presennol cawn ddysgu am achos rhyfeddol o iachâd trwy ffydd yn un o'i gwasanaethau;

"Three young boys were sent to me to place their hands upon my head... I was amazed to find that the pain had now diminished considerably...and in a few moments it was gone completely."

Beth mae'r eglwys y meddwl o'n gwleidyddion, tybed? Dyma sydd gan un o weinidogion yr eglwys, ,i ddweud.

"When a nation decides to turn its back on God it will inevitably forsake God's ways. Here in the UK, successive governments have introduced anti-biblical legislation. Our political leaders by and large are avowed atheists or agnostics".

Wrth gwrs dyw hynny ddim yn rheswm dros beidio derbyn eu harian!

Dyw'r eglwys ddim yn celu ei chysylltiad â'r ganolfan na'i daliadau. Mae'r cyfan uchod i'w gweld ar wefannau cyhoeddus yr eglwys. Oes unrhyw un yn y llywodraeth wedi trafferthu eu darllen?


Rialtwch

Vaughan Roderick | 15:48, Dydd Sadwrn, 8 Awst 2009

Sylwadau (0)

Fe drodd y Rialtwch diwethaf yn dipyn o bregeth! Llond bagied o'ch awgrymiadau chi sydd yma'r tro hwn.

Methais i gyrraedd yr Eisteddfod yn y diwedd. Blaenau Gwent amdani felly! Fe ddylwn i geisio cynnwys rhywbeth eisteddfodol ar y blog. Diolch i Sherman Cymru am y ffilm fach yma yn rhoi blas o "Ceisio'i Bywyd Hi". Mae manylion y daith yn .

Dydw i erioed wedi deall pwynt dawnsio disgo ar lwyfan eisteddfod ond pawb at y peth y bo! Mae'r peth wedi cyrraedd rhyw fath o benllanw yn Eisteddfod Gorllewin Awstralia.

Ffilm ysgafn a difyr i groesawi myfyrwyr Islamaidd i Gaerdydd yw "Fresh". Rwy'n dwli ar jôc "15th Century Fox"!

Ac ychydig o Stivell i orffen.

Dilyn ei drwyn

Vaughan Roderick | 13:32, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

trish_law_203.jpgDydw i ddim yn gwbwl sicr beth i wneud o'r stori yma.

Rwyf wedi cyfeirio o'r blaen at y ar wefan y llywodraeth lle mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth a'r ymatebion iddyn nhw yn ymddangos. Ddoe ymddangosodd ar y cofnod. Fe wrthodwyd y cais ar sail cost ond nid yr ateb sy'n ddiddorol ond y cwestiwn. Dyma gynnwys cais Alun.

* Rhestr o gyfarfodydd rhwng Gweinidogion (neu swyddogion) a Trish Law AC ers Mai 2007.

* Copïau o bob llythyr rhwng Gweinidogion a Trish Law AC er Mai 2007.

Alun, wrth gwrs yw darpar ymgeisydd y blaid Lafur ym Mlaenau Gwent. Mae'n amlwg bod y cais yn ymdrech i gasglu gwybodaeth ac adeiladu achos yn erbyn Trish i osod gerbron yr etholwyr. Yn hynny o beth does dim byd o le mewn gofyn am restr o gyfarfodydd neu o ran hynny gohebiaeth.

Mae gofyn am weld copïau o lythyrau ar y llaw arall yn gwneud i fi deimlo'n hynod anghysurus. Rwy'n meddwl y byddai Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol mewn sefyllfa amhosib pe bai ymgeiswyr pleidiau eraill yn gwneud ceisiadau cyson i weld eu gohebiaeth. A fyddai Alun yn hapus pe bai Trish yn gwneud cais tebyg ynghylch ei ohebiaeth e?

Fel dywedais i, fe wrthodwyd y cais ar sail cost ond mae'n codi cwestiwn difrifol ynghylch breintiau Aelodau Cynulliad, cwestiwn y dylai Llywydd a chomisiwn y cynulliad ei ystyried yn ofalus.

Rhwydweithio

Vaughan Roderick | 10:54, Dydd Gwener, 7 Awst 2009

Sylwadau (0)

selangor_flag.pngDiolch i Harri yn y sylwadau am adael i mi wybod bod darnau o'r blog yma wedi cael eu darllen mewn cystadleuaeth ym mhabell y dysgwyr. Rwy'n rhyfeddu! Cofiwch, mae 'na lot o "stwff" yma erbyn hyn- mwy nac ar unrhyw flog Cymraeg arall. Mae'n rhaid bod 'na ambell i berl yn rhywle!

Gan fy mod wedi sôn am faint y cynnwys yn fan hyn gwell i mi gyfaddef fy mod yn dechrau becso bod Glyn a chyfranwyr eraill blog Cylchgrawn a hefyd Hywel yn ceisio cipio fy nghoron!

Hyd yma'r sgôr ar gyfer y nifer o erthyglau ym Mis Awst yw Cylchgrawn 30 Gwynfryn 11 Vaughan 7! Mae gan flogs diwylliannol fantais dros un gwleidyddol yn ystod wythnos 'steddfod wrth gwrs! Serch hynny ni fedrai ganiatáu i'r fath sefyllfa barhau. Rwy'n benderfynol o fod ar y blaen erbyn diwedd y mis!

Gan fy mod wedi crybwyll pabell y dysgwyr mae'n werth i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn technegau dysgu iaith gael cipolwg ar "" cwrs iaith ar-lein ragorol .

Dyma gasgliad o ddolenni diddorol eraill i'ch diddanu.

Ö÷²¥´óÐã Alban

Irish Times

New York Times

Mae 'na ddadl ddifyr iawn ar flogs Plaid Cymru ynghylch targedu budd-daliadau a breintiau yn sgil ein stori ynghylch hawl yr henoed i deithio am ddim ar fysus. Mae'n werth darllen sylwadau , a .

Ac yn olaf efallai bod hi'n bryd i mi ymweld â'r "in-laws"!

Malaysia Star

Baner Selangor sydd yn y llun, gyda llaw. Y dewis oedd llun o'r faner neu un o Glyn Evans a doeddwn i ddim am roi'r boddhad iddo fe!




Ailgylchu

Vaughan Roderick | 18:03, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (1)

Doeddwn i ddim yn nabod yr athrawes y bu farw mewn damwain bws yng Nghaerdydd. Mae'r cannoedd o deyrngedau iddi ar yn ddirdynnol. Maent hefyd yn adlewyrchu'r cymdeithasau cynnes a chlos y mae hi ac eraill wedi eu hadeiladu wrth gynnu tân ar hen aelwyd y Gymraeg yn ysgolion y de-ddwyrain.

Rhai blynyddoedd yn ôl pan oedd y blog yma o hyd yn golofn fe gollais gyfaill agos mewn damwain car. Roedd yntau hefyd yn athro ac roeddwn yn meddwl amdano ar ôl darllen negeseuon trist disgyblion "Miss Bedwyr".

Colli Ffrind Mawrth 2007

Bu farw fy nghyfaill, David Knight. Cafodd ei ladd mewn damwain car ger Pont Abraham.
Doeddwn i ddim wedi ei weld ers peth amser

Roeddwn i mewn siop pan gefais alwad gan blismon wnaeth esbonio bod David wedi bod mewn damwain ac yn gofyn a oeddwn yn gwybod am rhif i gysylltu a'i frawd. Doedd gen i ddim rhif ond cynigiais gyfeiriad mam David i'r swyddog. Roedd ei ymateb yn adrodd cyfrolau am agwedd ymroddedig ein gweision cyhoeddus.

Esboniodd fod yr heddlu eisoes yn gwybod cyfeiriad ei fam ond oherwydd ei bod hi'n oedrannus roeddynt yn mynd allan o'i ffordd i dorri'r newydd i aelod arall o'r teulu yn gyntaf. Hynny yw, er gwaetha'r holl bwysau arnynt, roedd plismyn Dyfed-Powys nid yn unig am wneud eu dyletswydd ond roedden nhw am wneud hynny yn y modd mwyaf sensitif posib. Hyd yn oed os oedd hynny'n golygu llwyth o waith ychwanegol.

Dyn fel yna oedd David hefyd. Cafodd ei fagu mewn tÅ· cyngor yng Nghefn Cribwr ger Pen-y-bont a'i genhedlaeth ef oedd y cyntaf o'i deulu i aros 'mlaen yn yr ysgol. Hanes oedd diddordeb mawr David ond roedd caniatau iddo astudio'r celfyddydau yn y chweched yn ormod o naid i'w dad. Rhaid oedd astudio rhywbeth defnyddiol, rhywbeth oedd yn arwain at swydd.

Felly astudio gwyddoniaeth gwnaeth David gan sicrhau swydd fel technegydd labordy mewn ysgol gyfun ym Mhen-y-bont. Yn y swydd honno sylweddolodd bod ganddo fwy o ddawn dysgu na llawer o'r athrawon yr oedd yn eu cynorthwyo. Ac yntau yn ei dridegau penderfynodd hyfforddi i fod yn athro i ddysgu nid gwyddoniaeth, ond ei wir ddileit.

Cafodd swydd fel athro hanes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman. Roedd hynny yn ddigon iddo. Doedd gan y dyn addfwyn hwn fawr o uchelgais. Roedd rhannu ei frwdfrydedd dros hanes a chenedlaethau o blant Ddwyrain Sir Gaerfyrddin yn ddigon iddo.

A dyna ar y cyfan yw'n gweision cyhoeddus ni, boed yn athrawon, yn blismyn neu'n ddoctoriaid; pobol sy'n ceisio gwneud eu gorau dros eraill. Maen nhw'n grwgnach weithiau, yn rhwystredig yn aml ond ar ddiwedd y dydd y bobol yma yw sylfaen ein cymdeithas.

Mae'n hawdd i ni ym Mae Caerdydd anghofio hynny weithiau gyda'r holl gemau gwleidyddol, y pwyllgorau, yr is-bwyllgorau a'r adolygiadau. Sylfaen y gwasanaethau cyhoeddus yw eu gweithwyr; y bobol sy'n gweithio dros bobol. Ac roedd David Knight yn un o'r goreuon.

Sbort a Sbri

Vaughan Roderick | 14:40, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (0)

lembit-opik-daily-sport.jpg
Mae'n beth amser ers i ni fwrw golwg ar y Daily Sport! Mae'n rhaid tanysgrifio er mwyn gwneud ond pwy all wrthsefyll y temtasiwn i ymweld â phlaned Lembit?

Mae'r Senedd wedi cau wrth gwrs ond dyw hynny ddim yn golygu nad yw'r aelodau'n brysur. Fel dywedodd Lembit ei hun fe fyddai awgrymu hynny yn "ludicrous".

Beth mae Lembit wedi bod yn gwneud felly? Wel, yn ôl ei golofn, mae aelod Maldwyn wedi bod yn aros mewn carafan yn ffair cymdeithas y tirfeddianwyr gyda'i gyfeillion "Jimbo" a "Baz". Mae'n siŵr mae hanner gwaith/hanner gwyliau oedd trip triawd y buarth. Mae'n bwysig, wrth gwrs, bod aelodau seneddol yn deall pryderon pobol cefn gwlad. Fel mae Lembit ei hun yn dweud...

"Sitting in London making laws about the countryside without actually listening to country people, is like giving Daily Sport babe Gemma Massey advice on bras to wear without ever having seen her boobs -- it just doesn't work!"

Pwy yw fi i anghytuno?

Mae gan Lembit newyddion hefyd am "my very good friend, Katie Green" - y model gafodd y sac am fod yn rhy dew. Mae'n ein cymell i ymweld â gwefan y model... "go on! It'll only take you a minute, and anyway, the pics on it are definitely worth a butchers."

Google yw eich ffrind.

Wylit Waed

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Iau, 6 Awst 2009

Sylwadau (3)

175px-Royal_Badge_of_Wales_new_svg.png

Mae gallu anhygoel gan Dafydd Elis Thomas i wylltio rhai o'i gyd-genedlaetholwyr. Yn wir mae'n anodd osgoi'r casgliad ei fod yn mwynhau gwneud hynny ar adegau!

Un peth sy'n tynnu blew o drwyn rhai yw ei hoffter o'r hyn y maen nhw'n gweld fel ffol-di rol brenhinol. I'r rheiny fe fydd geiriau'r llywydd mewn araith yn yr Eisteddfod heddiw yn ychwanegu halen at y briw.

"Gyda chydweithrediad y Coleg Arfau, a chefnogaeth frwd deilad presennol teitl Tywysog Cymru sicrhawyd cydsyniad Ei Mawrhydi i Fesurau'r Cynulliad, a Deddfau'r Cynulliad pan ddaw Rhan 4 o Ddeddf 2006 i rym, gario bathodyn brenhinol newydd. Mae hwnnw'n seiliedig ar arfau Tywysogion Gwynedd neu, yn unol â'r statws a freiniwyd arnynt gan Gytundeb Trefaldwyn 1267, Tywysogion Cymru. Rhoddodd hyn foddhad arbennig i mi, fel deiliad presennol 'Arglwyddiaeth Nant Conwy'"

Sut mae cysoni'r geiriau yna a daliadau sosialaidd a chwyldroadol y Dafydd El ifanc?

Yn ddigon hawdd, fel mae'n digwydd. Mae meddiannu symbolau a grym y wladwriaeth i'w thanseilio a'i thrawsnewid o'r tu fewn yn hen hen syniad. Dyna oedd y garfan Militant yn ceisio gwneud o fewn y blaid Lafur a dyna wnaeth y Bolsieficiaid yn Rwsia yn 1917.

Yn wir yn ei araith mae'r llywydd yn hanner cyfaddef ei fod am ddefnyddio strwythurau'r wladwriaeth Brydeinig i adfer symbolau a sofraniaeth y Cymry.

"Mae i deitlau a symbolau bwysigrwydd arbennig. Gallant gyfleu neges yn fwy cryno ac effeithiol na geiriau. Dyna pam yr oedd hi mor bwysig i sicrhau bod Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cario symbol a oedd yn dynodi eu statws unigryw fel y deddfau cynhenid Cymreig cyntaf ers siartrau Tywysogion Gwynedd. Ni fyddai wedi bod yn briodol i ddeddfwriaeth Gymreig gael ei chyhoeddi o dan yr un arfbais ag sydd ar Ddeddfau Seneddol, sef arfau brenhinol y Deyrnas Unedig."

Mae'r pwynt yn un pwysig. Mae portreadu'r cynulliad fel parhad ac etifedd y wladwriaeth ganol oesol yn gyfystyr a datgan nad byw ar gardod y goron y mae Cymru. Efallai mai Elisabeth II wnaeth ganiatáu ddefnyddio'r arfau ond ar ddiwedd y dydd arfau Llywelyn ac nid ei rhai hi yw nhw.

Yr un oedd rhesymeg David Steel Winnie Ewing* yn 1999 pan ddewisodd agor Senedd newydd yr Alban gyda'r geiriau 'This parliament, adjourned on 25th March 1707, is hereby reconvened' ".

Fe fyddai Lenin a Trotsky yn deall y peth yn iawn!

* Diolch i Dafydd trwy e-bost a Rhobat ar y sylwadau am y cywirio fel dywed Dafydd "... nid David Steel oedd y Leninydd amlwg wnaeth ail-agor Senedd yr Alban ond Winnie Ewing ... dwn i ddim ai mam y ty yw'r term addas, neu Mam Gu y Ty hyd yn oed ... ond efallai fod hi'n llai o syndod mai Madame Ecosse ei hun agorodd y Senedd yn y fath fodd!". "My bad" fel maen nhw'n dweud"!

Ailgylchu

Vaughan Roderick | 17:20, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (1)

HTE.jpgMae newyddion yn teithio'n araf ym Mhowys! Dydw i ddim yn cofio union eiriau pennill fy (hen x ?) dad-cu William Williams wrth iddo ofyn i aderyn gario neges i Bantycelyn ond rwy'n amau mai colomennod sy'n cael eu defnyddio i gario'r post yn rhannau o Sir Faesyfed hyd heddiw.

Mae newyddion newydd fy nghyrraedd ynghylch canlyniad isetholiad hollbwysig i Gyngor Tref Llandrindod wythnos ddiwethaf. Dyma fe.

Millington, Ceidwadwr - 155
Green, Plaid Gristnogol Cymru - 142
Grieves (A) - 108
Lathbury (A) - 85
Phillips (A) - 52
Houghton (A) - 33

Plaid Gristnogol Cymru! Beth yffarn? Rwy'n cymryd mai cynrychioli'r Sgweier a'r Llan oedd y Tori a bod Undeb yr Annibynwyr wedi dryllio ei siawns trwy enwebu pedwar (A) i'r pulpud!

Mae'n well i mi beidio dirmygu gwleidyddiaeth Llandrindod. Fe es i i drwbl un tro am wneud hynny fel y mae'r erthygl yma o 2007 yn esbonio. Fe'i ysgrifennwyd ar ôl cyfarfod o Bwyllgor Gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn y dref yn ystod y trafodaethau clymblaid.

Llanast Llandrindod (20/5/2007)

Mae'n anodd i unrhyw un o dan ei hanner cant (sy'n cynnwys fi!) ddeall dyn cweit mor bwysig ym mywyd Cymru'r ganrif ddiwethaf oedd Huw T. Edwards.

Ef oedd prif Undebwr Llafur Cymru, roedd yn berchen ar "Y Faner" ac yn gadeirydd yr egin gynulliad a sefydlwyd gan lywodraeth Attlee "Cyngor Cymru a Mynwy". Roedd e'n cadeirio'r Bwrdd Croeso hefyd, yn aelod o'r Bwrdd Nwy ac yn fawr yn yr Eisteddfod. Does dim syndod felly ei fod yn cael ei adnabod fel "Prif Weinidog answyddogol Cymru" a phan roedd Huw T, yn siarad roedd y genedl yn gwrando!

Rhys Evans awdur cofiant Gwynfor ac un o fy mosys wnaeth fy atgoffa am Huw T drannoeth cyfarfod y Democratiaid Rhyddfrydol. Roeddwn i'n cellwair mai'r cyfarfod hwnnw oedd yr unig beth diddorol i ddigwydd yn Llandrindod erioed ond roedd Rhys yn barod i'm cywiro.

Yn Llandrindod ar ddechrau'r pumdegau y cynhaliwyd y cyfarfod i lansio'r " Ymgyrch Senedd i Gymru" oedd yn tynnu ynghyd Plaid Cymru, carfan gref o Ryddfrydwyr ac un Aelod Seneddol Llafur y bythgofiadwy S.O Davies. Roedd y cyfarfod hwnnw yn siambols pur a chymaint oedd dirmyg Huw T. am y syniad nes iddo sgwennu llyfr "They Went to Llandrindod" yn dilorni'r ymgyrch, ei haelodau a'i nod.

Fe newidiodd Huw T ei feddwl rhai blynyddoedd yn ddiweddarach gan ymddiswyddo o'r Blaid Lafur ac ymuno, am gyfnod, â Phlaid Cymru. Trodd yn ymgyrchwr brwd dros ddatganoli ac er iddo farw yn 1970 roedd yn rhan allweddol o'r broses a arweiniodd at refferendwm aflwyddiannus 1979.

Dw i'n ceisio dychmygu beth fyddai Huw T. yn gwneud pe bai'n ymweld â Bae Caerdydd heddiw. Mae'n sicr y byddai wrth ei fodd i weld adeilad Senedd Cymru. Ond o glywed bod Plaid Cymru a'r Torïaid ar fin ffurfio llywodraeth yno dw i'n meddwl y byddai fe'n cael harten. Wedi'r cyfan y rheswm yr oedd Huw T. yn cefnogi datganoli oedd er mwyn amddiffyn Cymru rhag llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan. Efallai y byddai fe'n penderfynu mae ei safbwynt gwreiddiol oedd yn gywir a bod "dim byd da yn dod allan o Landrindod"

Fe gyhoedwyd Gwyn Jenkins o Huw T Edwards rhai misoedd ar ôl y post yma... ac fe wnes i ddathlu fy hanner cant hefyd!

Ffeithiau

Vaughan Roderick | 11:34, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Sylwadau (1)

cardiffbus2032.jpgDyma ddwy ffaith i chi.

1. Mae grŵp swyddogol sy'n rhoi cyngor arbenigol i lywodraeth y cynulliad ar drafnidiaeth wedi arghymell cael gwared ar y polisi o roi pasys bysiau am ddim i bob bensiynwr. Mae hynny'n ffaith.

2. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymateb trwy ddweud hyn "Rydyn ni wedi nodi'n glir nad ydyn ni'n mynd i gael gwared ar gynllun llwyddiannus a phoblogaidd ... Does dim cynllun i newid y rheolau sy'n pennu pwy yw'r bobl sy'n elwa ar y cynllun". Mae hynny hefyd yn ffaith.

Mae Ö÷²¥´óÐã wedi cyhoeddi ar sail y ffeithiau uchod.

Argwefan y Llywodraeth ceir ymateb swyddogol i'r stori. Mae'r datganiad ond wedi ei gyhoeddi yn Saesneg. Mae'n ymddangos ar y wefan Gymraeg yn yr iaith fain sy'n arwydd o frys, efallai. Ta beth, dyma fe.

Putting the record straight

Ö÷²¥´óÐã Wales has been running a story this morning [Wednesday] about plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme. We also informed the Ö÷²¥´óÐã that there were no plans to change the entitlement

Iawn. Gadewch i ni drafod y ffeithiau er mwyn sicrhau bod y record yn gwbwl gywir.

Efallai y gall rhywun o Lywodraeth y Cynulliad esbonio lle yn union y mae'r Ö÷²¥´óÐã wedi honnu bod yna "plans to review the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme" ?

Oes 'na unrhyw beth sy'n ffeithiol anghywir neu sy'n rhoi cam-argraff yn stori'r Ö÷²¥´óÐã? Hyd y gwela i, nac oes.

Ydy datganiad y Llywodraeth ar y llaw arall yn ffeithiol gywir ynghylch stori'r Ö÷²¥´óÐã? Nac ydy, yn fy marn bersonol i.

Diweddariad;

Mae'r datganiad wedi ei newid. Dyma mae'n ei ddweud erbyn hyn.

Ö÷²¥´óÐã Wales has been running a story this morning [Wednesday] which may have raised concerns about the future of the Welsh Assembly Government's concessionary travel scheme - despite being told that we have no plans whatsoever to scrap the highly successful and popular scheme.

Dydw i ddim yn un i glochdar ond...

Dyma'r Dyn i Arwain Cenedl

Vaughan Roderick | 17:07, Dydd Sul, 2 Awst 2009

Sylwadau (8)

_1358097_gwilymprysdavies_300.jpg
Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi clywed pob un hanesyn a theori ynghylch is-etholiad hanesyddol Caerfyrddin yn 1966. Siawns bod 'na unrhyw beth newydd i ddysgu ynghylch yr ymgyrch na'r canlyniad.

Roeddwn i'n anghywir. Fe ddysgais rywbeth sydd yn cynnig esboniad o un agwedd o'r is-etholiad sydd wedi fy mhoeni ers tro byd.

Mae'r ddamcaniaeth bod Gwilym Prys Davies yn ymgeisydd sâl i Lafur wedi ei hail-adrodd hyd syrffed. Erbyn hyn mae bron pawb yn ei derbyn. Dyma mae Rhys Evans yn dweud yn ei fywgraffiad o Gwynfor.

"Efallai mai personoliaeth Gwilym Prys Davies oedd y diffyg mwyaf... roedd ei anallu i gysylltu â'r dyn cyffredin... yn golygu fod pobol yn camddehongli ei swildod am ffroenuchelder"

gwynfor.gif

Y broblem i fi'n bersonol yw fy mod yn nabod Gwilym Prys a dyw e erioed wedi fy nharo i fel dyn swil na ffroenuchel. Tan i mi glywed hanesyn ychydig ddyddiau yn ôl roeddwn i'n cymryd bod Gwilym wedi aeddfedu neu newid fel personoliaeth yn y degawdau ers yr is-etholiad.

Mae gen i le i gredu nawr nad yw hynny'n wir. Erbyn hyn rwy'n weddol sicr nad oedd Gwilym Prys yn berson swil na ffroenuchel yn 1966 ond bod gan bobol Sir Gâr reswm da dros gredu ei fod e!

Peth amser cyn yr is-etholiad fe ddarlledodd Ö÷²¥´óÐã Cymru gyfres deledu o'r enw "Prysur Bwyso"- cyfres lle'r oedd pynciau mawr y dydd yn cael eu trafod mewn fformat oedd yn seiliedig ar achos llys. Ar ddiwedd y rhaglen fe fyddai rheithgor o leygwyr yn dyfarnu ar yr achos.

Alun Talfan Davies oedd y "barnwr". Roedd yr achosion yn cael eu dadlau gan ddau "fargyfreithiwr" sef Elystan Morgan a Gwilym Prys Davies. Fe fyddai'r rhaglen yn gyfle perffaith, byddai dyn yn meddwl, i godi proffil dau ddarpar-wleidydd ifanc yn y dyddiau pan oedd bron pob wan jac o'r Cymry Cymraeg yn gwylio popeth Cymraeg ar y bocs. Fe weithiodd y peth yn berffaith i Elystan ond nid i Gwilym Prys.

Fel mae'n digwydd fy nhad wnaeth gynhyrchu "Prysur Bwyso" a rhai dyddiau yn ôl rhannodd gyfrinach y mae wedi cadw o dan ei het ers blynyddoedd. Yn ôl Dad roedd Elystan wedi gosod amod ynghylch ei ymddangosiad ar y rhaglen, amod nad oedd Gwilym Prys yn ymwybodol ohoni. Yr amod oedd mai Elystan oedd yn cael dewis pa ochor yr oedd e'n dadlau drosti ym mhob rhaglen!

Yn ddieithriad, wrth i'r gyfres fynd yn ei blaen, fe fyddai Elystan yn dewis dadlau'r safbwynt oedd yn boblogaidd ymhlith y Cymry Cymraeg. Roedd Gwilym felly yn gorfod dadlau o blaid achosion amhoblogaidd gan groesholi rhai o'r ffigyrau mwyaf poblogaidd yn y Gymru Gymraeg. Roedd e'n gwneud y gwaith yn dda, hefyd. Yn rhy dda efallai, gan ddod drosodd ar adegau fel cymeriad anghynnes ac ie, ffroenuchel. Mae'n ddigon posib mae'r ddelwedd honno o Gwilym oedd yn andwyol yn 1966 yn hytrach nac unrhyw beth ynghylch y dyn ei hun.

Mae 'na ddau gwestiwn yn codi. Yn gyntaf, ai achos o "video killed the politics star" oedd is-etholiad Caerfyrddin? Yn ail, ac yn fwy difyr, ai Elystan Morgan, yr "Athelstan Organ" yr oedd cenedlaetholwyr y chwedegau yn ei ddirmygu gymaint, oedd yn gyfrifol, trwy hap a damwain, am fuddugoliaeth Gwynfor?

Rialtwch

Vaughan Roderick | 23:05, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Sylwadau (0)

GoldenCross.jpg Tafarn nid sinema sydd wedi ysbrydoli'r ddwy ffilm gynta'r wythnos hon.

Rhai blynyddoedd yn ôl daeth y "Golden Cross" yng nghanol Caerdydd o fewn y dim i gael ei dymchwel. Cafodd ei hachub o ganlyniad i ymgyrch i ddiogelu un o'r ychydig dafarnau yng Nghymru i'w hadeiladu yn arddull y "Gin Palace".

Heddiw mae hi wedi ei hamgylchynu gan adeiladau llawer mwy fel y Marriot a'r Radisson ynghyd a'r John Lewis a'r Llyfrgell Ganolog newydd. Serch hynny mae'n haeddu ymweliad ac mae 'na sawl stori ddiddorol yn ei chylch.

Yn ôl yn y tridegau ceisiodd Syr Oswald Mosely a'r "British Union of Facists" gynnal cyfarfod yn y Golden Cross. Ymgasglodd torf sylweddol o brotestwyr y tu fas ac fe gafodd car yr arweinydd ffasgaidd ei droi drosodd. Dychwelodd Syr Oswald i Lundain heb allu traddodi gair o'i araith. Mae'r ffilm yma o'r BUF o hyd yn gallu codi cyfog er cymaint treigl amser.

Wrth fynd heibio, mae'n werth nodi mai'r BUF wnaeth arwain at y gyfraith yn gwahardd mudiadau gwleidyddol rhag ymddwyn mewn modd ffug-filwrol. Defnyddiwyd y gyfraith honno i erlyn arweinwyr yr FWA yn 1969. Doedd fawr ddim byd arall yn bosib profi yn eu herbyn. Mae un o'r arweinwyr hynny yn cael ei goffau ar arwydd un arall o dafarnau Caerdydd, y "Cayo Arms", un o glwstwr o dafarnau Cymraeg yn ardal Gerddi Soffia. Yn ychwanegol at y "Cayo", y "Mochyn Du" a'r "Fuwch Goch" agorodd ei drysau bythefnos yn ôl. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai "Cadno" oedd enw cod Julian Cayo Evans ac mai cyn-berchennog y "Cayo" yw perchennog y "Cadno"!

Ond yn ôl a ni at ben arall y dre! Mae'r ffaith bod y "Golden Cross" bellach yn dafarn hoyw yn brawf efallai o fuddugoliaeth rhyddfrydiaeth ac eangfrydedd dros ragfarn a chulni. Dydw i ddim yn meddwl y byddai Syr Oswald Mosley yn mwynhau'r perfformiad yma rhywsut!

Mae'r stori yn ein hatgoffa nad yw buddugoliaeth rheswm dros ragfarn yn gyflawn eto.

A lone gunman killed three people and wounded at least 10 at a gay support centre in the Israeli city of Tel Aviv before escaping. Most of the victims were gay teenagers, who were meeting at the centre .

Sut ar y ddaear y gall rhywun feddwl bod pobol ifanc yn cael amser da yn haeddu cael eu saethu? Hyd yn oed yn waith oedd darllen bod rhieni rhai o'r cryts a chrotesau gafodd eu saethu yn gwrthod gweld eu plant yn yr ysbyty oherwydd eu bod yn y ganolfan hoyw "heb ganiatâd". Mae rhai pethau y tu hwnt i mi! Beth uffern sy'n bod ar bobol yma?

Ar nodyn ysgafnach, efallai y bydd y rheiny sydd ar ochor arall y ffens, o safbwynt eu rhywioldeb, yn mwynhau'r awgrym yma gan "Obell"! Y dynion, hynny yw!

Mae'n rhyfedd bod pethau oedd yn cael eu cyfri fel adloniant yn 1980 yn ymylu ar fod yn annerbyniol heddiw ond dwi'n meddwl bod "sgrech" Jake Thackray yn erbyn menywod yn ddigon clyfar a digon hunan-ymwybodol i haeddu ail-wrandawiad!

Diolch i bawb sydd wedi llenwi'r storfa awgrymiadau'n diweddar! Mae Rialtwch yn saff am fis arall!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.