主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Yr oes oer

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Eisteddfod Radio

Unwaith eto daeth rhyfel i ddrysu cynlluniau'r Eisteddfod. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal Eisteddfod 1940, ond ofnai'r Llywodraeth y gallai'r dref fod yn darged i gyrchoedd o'r awyr. 'Roedd yn ardal ddiwydiannol a chanddi'r ffatri arfau fwyaf yn y byd a oedd yn cyflogi 37,000 o bobl erbyn 1941. Ystyriwyd symud yr Eisteddfod i Aberpennar, ond barnai'r Llywodraeth y gallai'r ardal honno hefyd fod yn darged milwrol.

Cysylltodd pwyllgor brys 芒'r 主播大秀. Ar yr awyr y clywodd eisteddfodwyr 1940 am y bwriad i ddefnyddio'r dechnoleg newydd i greu Eisteddfod unigryw, un na allai mintai'r Luftwaffe ei bygwth. Meddai Cynan mewn darllediad: ' Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion Cymreig y 主播大秀 ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr. T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol. Y cynnig mewn gair oedd hyn: bod cyd-bwyllgor bychan o gynrychiolwyr y Cyngor a'r 主播大秀 i gydweithredu ar gynllun i geisio achub hynny a ellid o raglen Eisteddfod 1940 drwy gyfrwng y radio'.

ymlaen...

 

Radio a Teledu

 
 

Yn wahanol iawn i 1914, pan aeth Eisteddfod Bangor i'r gwellt oherwydd y Rhyfel, 'roedd technoleg wedi achub y dydd, a bu hyd yn oed y corau yn cystadlu ar yr awyr. Nid achub yr Eisteddfod ym 1940 oedd unig gyfraniad T. Rowland Hughes y flwyddyn honno. Ef a enillodd y Gadair am gerdd gofiadwy, 'Pererinion', a oedd mewn rhai rhannau yn cyfleu'r ofn a'r arswys a achosid gan y lladd o'r awyr.

Un araith yn unig a draddodwyd ar y 'Steddfod radio, araith Llywydd y Cyngor. Rhwystrodd y Rhyfel weithredu'r Rheol Uniaith a ddaeth i rym ym 1937 ac yn Saesneg y penderfynodd Lloyd George siarad: 'This is not the first time that Britons have been called upon to repel a German invasion. As a small nation which has ever fought tenaciously for its national recognition and rights Wales has a special interest in the result of this tremendous struggle for international right and freedom. This is the day of the agony of the little nations'.

ymlaen...



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy